Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Y system gyfreithiol    Pwerau'r heddlu  

Y system gyfreithiol - Yng Nghymru

 

 


Pwerau'r heddlu

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Pwerau cyffredinol yr heddlu

Mae llawer o'r rheolau sy’n delio gydag ymddygiad yr heddlu wedi eu hamlinellu mewn codau ymarfer, ac mae yna gyfreithiau hefyd ynghylch rhai o'r pethau y gall yr heddlu eu gwneud a phethau na allant eu gwneud. Os bydd yr heddlu’n ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn cydymffurfio gyda'r gyfraith neu'r codau ymarfer, yna fe allai olygu eich bod chi'n gallu dwyn achos yn eu herbyn ac y gallent gael eu herlyn am droseddu neu eu disgyblu.

Nôl i’r Brig



Stopio ac archwilio

Pryd mae'r heddlu'n medru eich stopio a’ch archwilio

Mae'r heddlu'n medru stopio a archwilio unrhyw berson, cerbyd, ac unrhyw beth yn neu ar y cerbyd, am eitemau penodol. Fodd bynnag, cyn iddyn nhw eich stopio mae'n rhaid iddynt roi rhesymau dilys dros amau y byddant yn dod o hyd i un a’i:

  • nwyddau wedi eu dwyn, neu
  • gyffuriau, neu
  • arf ymosodol, neu
  • unrhyw eitem a wnaed neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn trosedd benodol, er enghraifft lladrad, neu
  • cyllyll, neu
  • eitemau a allai ddifrodi neu ddinistrio eiddo, er enghraifft caniau chwistrellu paent.

Mae yna eithriad i'r rheol hon. Os oes digwyddiad treisgar difrifol wedi cymryd lle, mae'r heddlu'n medru eich stopio chi a'ch chwilio chi heb sail rhesymol dros amau y byddant yn dod o hyd i'r eitemau.

Hefyd gall yr heddlu chwilio bws pêl droed sy'n mynd i neu o gêm os oes ganddynt reswm da dros amau bod yna alcohol ar y bws neu fod rhywun yn feddw ar y bws.

Pan fydd yr heddlu'n eich stopio i'ch archwilio, mae'n rhaid iddynt roi'r wybodaeth ganlynol i chi neu ni fyddan nhw'n medru dechrau chwilio:

  • prawf o'u cerdyn warant
  • gwybodaeth ar bwerau'r heddlu i stopio ac archwilio
  • eich hawliau
  • enw a gorsaf heddlu'r heddwas
  • y rheswm dros eich archwilio
  • yr hyn y mae'n nhw'n credu y byddant yn ei ddarganfod wrth eich archwilio
  • copi o gofnod yr archwiliad.

Ym mhob un o’r sefyllfaoedd yma lle mae gan yr heddlu hawl i stopio ac archwilio, ni ddylent ofyn i chi dynnu eich dillad oni bai am got, siaced neu fenig. Mae'r heddlu'n medru eich archwilio'n fwy trwyadl yn breifat, er enghraifft, yn fan yr heddlu. Rhaid i heddwas o'r un rhyw â chi wneud yr archwiliad.

Os cewch eich arestio, gall yr heddlu eich chwilio am unrhyw beth fedrech chi ei ddefnyddio i’ch helpu i ddianc neu am dystiolaeth sy’n ymwneud â’r drosedd a arweiniodd at eich arestiad.

Mewn rhai amgylchiadau gall swyddog yr heddlu o radd arolygydd neu uwch roi caniatâd yr heddlu i stopio ac archwilio mewn ardal am gyfnod penodol o amser - cyhyd a'i fod am gyfnod llai na 24 awr. Pan fo’r caniatâd hwn mewn grym gall yr heddlu chwilio am arfau ymosodol neu offer peryglus p'un ai fod ganddynt achos dros amau fod pobl yn cario’r eitemau yma a’i peidio. Mae swyddog sydd o radd prif gwnstabl cynorthwyol neu uwch hefyd yn medru rhoi caniatâd i gynnal archwiliadau mewn ardal er mwyn atal gweithredoedd terfysgol.

Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am eich hawliau pan fydd yr heddlu'n eich stopio chi ac yn eich archwilio, ewch at wefan y Swyddfa Gartref yn: (New window) www.homeoffice.gov.uk.

Ble allan nhw eich archwilio chi

Gall yr heddlu wneud archwiliad mewn lle sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gallant chwilio yn unrhyw le yn ogystal â’ch cartref neu eich gardd, neu gartref neu ardd rhywun sydd wedi rhoi caniatâd i chi fod yno. Os oes gan yr heddlu reswm da dros gredu nad ydych, mewn gwirionedd, yn eich cartref eich hun neu eich bod yn rhywle heb ganiatâd y perchennog, yna gallant eich archwilio. Mae yna reolau gwahanol ar gyfer pwerau'r heddlu i fynd i mewn i'ch cartref chi eich hun – gweler y pennawd Pwerau mynediad.

Ydy’r heddlu’n medru defnyddio grym

Gall yr heddlu ddefnyddio grym rhesymol wrth stopio ac archwilio, ond rhaid iddynt wneud pob ymdrech i’ch perswadio i gydweithredu. Dylent ddefnyddio grym fel opsiwn olaf yn unig.

Pa wybodaeth ddylai swyddog yr heddlu ei roi i chi cyn gwneud archwiliad

Cyn chwilio, dylai swyddog yr heddlu ddweud wrthoch eich bod yn cael eich dal at ddiben gwneud archwiliad. Dylai swyddog yr heddlu hefyd rhoi ei enw i chi, enw ei (g)orsaf, nod yr archwiliad a’i rheswm neu awdurdodiad dros gynnal yr archwiliad. Os yw’r archwiliad yn gysylltiedig â therfysgaeth, fe all y swyddog roi ei rhif heddlu yn hytrach na’i enw. Dylech gael gwybod hefyd fod gennych hawl i gael copi o’r cofnod o’r archwiliad. Os nad ydyw'n ymarferol gwneud cofnod o'r archwiliad yna y fan a'r lle, fe fydd swyddog yr heddlu yn dweud wrthych fod hawl gennych i ofyn am gopi, tra eich bod chi'n gwneud hynny o fewn 12 mis.

Oni bai, fod y swyddog yn credu y byddai’n anymarferol cadw cofnod, dylid dweud wrthych bod gennych hawl wrth gopi o’r cofnod o’r archwiliad cyhyd a’ch bod yn gwneud cais o fewn blwyddyn.

Nôl i’r Brig



Pryd mae'r heddlu'n medru eich holi chi

Ni ddylai’r heddlu eich holi gyda golwg ar gael tystiolaeth nes eu bod wedi eich rhybuddio chi.  Os ydych wedi cael eich arestio, ni ddylid eich cyfweld cyn mynd â chi i orsaf yr heddlu ac eithrio mewn sefyllfaoedd lle:

  • Fyddai oedi yn arwain at ymyrraeth gyda thystiolaeth sy’n gysylltiedig â throsedd neu niwed iddo
  • Byddai oedi yn arwain at niwed corfforol i eraill
  • Byddai oedi yn rhybuddio rhywun yr amheuir eu bod wedi troseddu ond sydd heb gael eu harestio eto
  • Byddai oedi yn rhwystro rhag adfer yr eiddo sy’n gysylltiedig â’r drosedd.

Os cewch eich rhybuddio heb i chi gael eich arestio, mae'n rhaid i chi gael gwybod eich bod yn rhydd i adael pan fyddwch chi'n dymuno gadael.

Nôl i’r Brig



Pwerau mynediad

Pryd mae’r heddlu’n medru cael mynediad ac archwilio

Mae’r heddlu’n medru mynd i mewn i adeilad heb warant mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol.  Dyma rai enghreifftiau:

  • ddelio gyda thorcyfraith neu ei atal
  • defnyddio warant arestio
  • arestio person mewn cysylltiad â throseddau penodol
  • ail-ddal rhywun sydd wedi dianc o’r ddalfa
  • achub bywyd neu atal difrod difrifol i eiddo.

Ar wahân i  adegau pan eu bod yn atal niwed difrifol i fywyd neu eiddo, mae’n rhaid i'r heddlu gael rheswm da dros gredu fod y person y maent yn chwilio amdano yn yr adeilad.

Os bydd yr heddlu yn eich arestio, gallant gael mynediad ac archwilio unrhyw adeilad lle roeddech chi yn ystod neu yn union cyn i chi gael eich arestio. Fe allant eich archwilio am dystiolaeth yn ymwneud â'r drosedd y cawsoch eich arestio yn ei chylch yn unig, ac maen rhaid bod ganddyn nhw rheswm da dros gredu bod yna dystiolaeth. Yn ogystal maent yn medru archwilio unrhyw adeilad lle mae person a arestiwyd am droseddau difrifol penodol yn byw. Eto, mae’n rhaid bod gan y swyddog sy’n cynnal yr archwiliad reswm da dros amau bod yna dystiolaeth yn yr adeilad sy’n ymwneud â’r drosedd neu â throsedd debyg arall.

Mewn amgylchiadau eraill, mae'n rhaid fod gan yr heddlu warant archwilio cyn y gallant gael mynediad i’r adeilad. Dylent fynd i mewn i’r adeilad ar adeg resymol o’r dydd oni bai y byddai hyn yn rhwystro eu harchwiliad. Pan fo’r preswylydd yn bresennol, mae’n rhaid i’r heddlu ofyn am ganiatâd i archwilio’r adeilad – unwaith eto, oni bai y byddai hyn yn rhwystro’r archwiliad.

Pan yn cynnal archwiliad mae’n rhaid i swyddogion yr heddlu:

  • gyflwyno eu hunain ac – os nad ydynt mewn lifrai – ddangos eu cerdyn warant, a
  • egluro pam eu bod eisiau cynnal archwiliad, hawliau'r preswyliwr ac a ydyn nhw'n cynnal yr archwiliad gyda warant archwilio ai peidio.

Os oes gan yr heddlu warant gallant orfodi mynediad os:

  • yw’r preswylydd wedi gwrthod mynediad iddynt, neu
  • mae'n amhosib cyfathrebu gyda’r preswylydd, neu
  • mae'r preswylydd yn absennol, neu
  • nid yw’r adeilad yn cael ei breswylio, neu
  • mae ganddynt resymau da dros gredu os na wnant orfodi mynediad y byddai’n rhwystro’r archwiliad, neu y byddai’n cael ei gosod mewn perygl.

Pryd mae’r heddlu’n medru meddiannu eiddo

Dylai’r heddlu feddiannu eiddo dim ond os oes ganddynt reswm da dros gredu:

  • eu bod wedi eu meddiannu yn anghyfreithlon; neu
  • eu bod yn dystiolaeth mewn perthynas â throsedd.

Yn y naill achos neu'r llall, mae'n rhaid bod ganddynt hefyd reswm da dros gredu ei bod hi’n angenrheidiol meddiannu'r nwyddau i’w hatal rhag mynd ar goll, cael eu dwyn neu eu difetha.

Nôl i’r Brig



Eich hawliau wedi'ch arestio

Pryd mae’r heddlu’n medru eich arestio

Gall yr heddlu eich arestio os oes ganddynt warant arestio dilys. Hefyd mae yna rai amgylchiadau lle gallant eich arestio heb warant, sef:

  • eich bod yn y weithred o gyflawni troseddau penodol
  • os oes ganddynt reswm da dros amau eich bod yn cyflawni troseddau penodol
  • os oes ganddynt reswm da dros amau eich bod wedi cyflawni troseddau penodol
  • eich bod ar fin cyflawni troseddau penodol
  • os oes ganddynt reswm da i amau eich bod ar fin cyflawni troseddau penodol.

Hefyd gall yr heddlu eich arestio os oes ganddynt reswm da dros amau eich bod wedi cyflawni neu wedi ceisio cyflawni unrhyw drosedd, neu os ydych yn cyflawni neu’n ceisio cyflawni trosedd ond ymddengys iddynt ei bod yn anymarferol neu’n amhriodol cyflwyno gwys. Fodd bynnag, gallant ond wneud hyn os yw un o’r amodau canlynol yn berthnasol:

  • nid ydynt yn gwybod eich enw, ac ni allant ddod o hyd iddo
  • mae ganddynt reswm da dros amau eich bod wedi rhoi eich enw anghywir
  • nid ydych wedi rhoi cyfeiriad boddhaol. Mae hyn yn golygu cyfeiriad lle gall yr heddlu gysylltu â chi
  • mae ganddynt reswm i gredu eich bod wedi rhoi cyfeiriad ffug
  • mae'r arestiad yn angenrheidiol er mwyn eich atal rhag peri anaf corfforol i chi eich hunain neu i eraill i ddioddef anaf corfforol, achosi colled neu ddifrod i eiddo, cyflawni trosedd yn erbyn gwedduster cyhoeddus, neu achosi rhwystr anghyfreithlon ar y briffordd
  • mae ganddynt reswm da i gredu bod arestiad yn ofynnol er mwyn amddiffyn plentyn neu berson bregus arall.

Os ydynt yn eich arestio oherwydd eich bod wedi methu â rhoi cyfeiriad boddhaol iddynt, mae'n rhaid iddynt yn gyntaf egluro y gellir eich arestio a rhoi’r cyfle i chi i roi’r cyfeiriad cywir iddynt.

Beth ddylai ddigwydd mewn arestiad

Dylai’r heddlu ddefnyddio grym rhesymol yn unig wrth gyflawni arestiad a dylent eich hysbysu eich bod wedi cael eich arestio cyn gynted ag y bo modd. Wedi’r arestiad, dylent egluro pam eu bod wedi eich arestio. Mae’n rhaid i’r heddlu eich rhybuddio oni bai ei bod hi’n anymarferol gwneud hynny neu os gwnaethant eich rhybuddio yn union cyn i chi gael eich arestio.

Os bydd yr heddlu’n eich arestio yn rhywle arall heblaw gorsaf heddlu, dylent fynd â chi i orsaf yr heddlu cyn gynted â phosib. Os ydynt yn eich arestio am ddwyn a chawsoch eich gweld yn mynd ag eiddo ond nid yw’r eiddo gennych wedi eich dilyn, gall swyddog yr heddlu olrhain eich camau. Mae’n bosib y bydd hyn yn eu galluogi i adfer yr eiddo. Dylent fynd â chi i orsaf yr heddlu unwaith iddynt adfer yr eiddo.

Yng ngorsaf yr heddlu

Yng ngorsaf yr heddlu, dylai'r heddlu eich hysbysu o’r canlynol:

  • eich hawl i hysbysu rhywun eich bod wedi cael eich arestio
  • eich hawl i gyngor cyfreithiol (gweler y pennawd Cyngor cyfreithiol)
  • eich hawl i edrych ar godau ymarfer yr heddlu.

Gellir oedi'r hawl i gyngor cyfreithiol mewn rhai achosion penodol sy'n ddifrifol iawn. Hefyd, dylai’r heddlu hefyd eich hysbysu nad oes yn rhaid i chi ddefnyddio’r hawliau yma ar unwaith. Gallwch eu defnyddio ar unrhyw adeg tra eich bod yn y ddalfa. Dylid rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi o’r hawliau tra eich bod chi yng ngorsaf yr heddlu, a'ch hawl i gael copi ysgrifenedig o’ch cofnod yn y ddalfa pan gewch eich rhyddhau. Fe fydd yr heddlu’n gofyn i chi nodi ar y cofnod dalfa p'un ai eich bod yn dymuno cael cyngor cyfreithiol a byddant hefyd yn gofyn i chi arwyddo’r cofnod.

Os ydych yn gofyn am gael hysbysu person eich bod wedi cael eich arestio, dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib, oni bai eich bod wedi cael eich arestio am droseddau penodol a bod swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) yn caniatáu oedi. Er mwyn caniatáu oedi, dylai’r swyddog fod yn fodlon fod yna resymau da dros gredu y byddai hysbysu rhywun eich bod wedi cael eich arestio yn:

  • arwain at ymyrraeth gyda thystiolaeth
  • effeithio ar allu’r heddlu i adfer eiddo
  • arwain at rybuddio eraill a ddrwgdybir
  • atal adfer enillion yn deillio o droseddau cyffuriau.

Os caiff oedi ei awdurdodi, dylai’r heddlu ddweud wrthych ac ysgrifennu’r rheswm yn eich cofnod yn y ddalfa. Y cyfnod hiraf y gellir oedi yw 36 awr oni bai eich bod yn cael eich dal mewn perthynas a throsedd derfysgol, ac yn yr achos yma 48 awr yw'r cyfnod hiraf. Os oes rhywun yn gofyn am eich lleoliad bryd hynny, cyhyd a’ch bod chi’n cytuno, dylid eu hysbysu, oni bai fod swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) yn penderfynu na ddylid gwneud hyn.

Am ba hyd mae’r heddlu’n medru eich cadw

Ni ddylai’r heddlu eich cadw yn y ddalfa am fwy na 24 awr heb eich cyhuddo, oni bai fod swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) neu ynad yn rhoi caniatâd.

Gall swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) awdurdodi carchariad am 12 awr pellach. Gall ynadon awdurdodi carchariadau pellach hyd at uchafswm o 96 awr. Unwaith y cewch eich cyhuddo, os ydych yn dal i fod yn y ddalfa, dylid eich dwyn gerbron yr ynadon ar y diwrnod canlynol (ond nid ar Ddydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac unrhyw ddydd Sul).

Os cawsoch eich arestio dan amheuaeth o derfysgaeth, mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Mae barnwr yn medru rhoi caniatâd i'ch cadw yn y ddalfa, mewn camau, am hyd at 28 diwrnod.

Hawl i ymdawelu

Er bod gennych hawl i ymdawelu, gall y llysoedd ddwyn eich tawelwch i ystyriaeth pan yn penderfynu p'un ai eich bod yn euog ai peidio.

Cyngor cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i gael cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd. Nid yw hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Fe fydd eich cais yn cael ei drosglwyddo at Ganolfan Alwadau Cyfreithwyr Amddiffyn. Os yw'r drosedd yn un llai difrifol, fe fydd y Ganolfan Alwadau yn eich cyfeirio chi at wasanaeth o'r enw Criminal Defence Service Direct. Mae'r gwasanaeth hwn yn delio gyda throseddau fel yfed a gyrru, ymddygiad afreolus a thorri mechnïaeth. Mae Criminal Defence Service Direct yn cyflogi cyfreithwyr a fydd yn rhoi cyngor cyfreithiol i chi dros y ffôn. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i gael cyngor cyfreithiwr wyneb yn wyneb o hyd os:

  • rydych wedi eich cyhuddo o drosedd mwy difrifol, neu
  • mae'r heddlu'n bwriadu eich cyfweld o dan rybudd, neu
  • os ydych yn cael eich gweld fel person sy'n agored i niwed.

Rydych yn medru dewis eich cyfreithiwr eich hun ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor os oes ganddynt gytundeb gyda'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (y CDS). Fe fydd y Ganolfan Alwadau yn cysylltu â'ch cyfreithiwr ar eich rhan.

Mae'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn cynhyrchu taflen sy'n rhoi mwy o wybodaeth i chi ynghylch Gwasanaethau Amddiffyn Troseddol yng ngorsaf yr heddlu. Rydych yn medru llwytho'r daflen oddi ar eu gwefan yn: (New window) www.legalservices.gov.uk.

Unwaith y byddwch chi wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, fel arfer ni ddylai'r heddlu eich cwestiynu. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau hyd nes i chi siarad â chyfreithiwr.

Pobl ifanc

Os ydych yn iau na 17 mlwydd oed a’ch bod yn cael eich cadw gan yr heddlu, dylid hysbysu oedolyn addas – fel arfer eich rhiant neu warcheidwad, cyn gynted â phosib. Ni ddylai’r heddlu eich cyfweld nes bod eich rhiant yn bresennol, oni bai y byddai oedi yn golygu perygl uniongyrchol o niwed i rywun neu ddifrod difrifol i eiddo.

Pobl gydag anawsterau dysgu

Os oes gennych anawsterau dysgu, dylai’r heddlu eich cyfweld dim ond pan fo person cyfrifol yn bresennol, oni bai y byddai oedi yn golygu perygl o anaf neu niwed i eiddo neu bobl. Dylai un o’r canlynol fod gyda chi yn ystod cyfweliad:

  • Perthynas neu berson arall sy’n gyfrifol am eich gofal; neu
  • Person sydd ddim yn cael ei g/chyflogi gan yr heddlu, ac sy’n brofiadol wrth ddelio gyda phobl sydd ag anawsterau dysgu; neu
  • Oedolyn cyfrifol arall sydd ddim yn cael ei g/chyflogi gan yr heddlu.

Pobl o dramor

Os ydych yn dod o wlad tramor, mae gennych hawl i ddweud wrth eich Uchel Gomisiwn, llysgenhadaeth neu gonsyliaeth ble ydych chi. Os ydych chi o wledydd penodol lle mae gan y Deyrnas Unedig gytundeb arbennig, fe fydd yr Uchel Gomisiwn, llysgenhadaeth neu gonsyliaeth yn cael gwybod am eich arestiad yn awtomatig.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf

Os ydych yn ei gweld hi’n anodd deall Saesneg ac nid yw’r swyddog sy’n eich cyfweld yn medru siarad eich iaith, dylid darparu cyfieithydd ar eich cyfer. Ni ddylai'r heddlu eich cyfweld nes bod y cyfieithydd yn bresennol oni bai y byddai oedi yn golygu perygl uniongyrchol o niwed i rywun neu golled neu ddifrod difrifol i eiddo.

Pobl ddall a phobl gydag anawsterau clywed/llefaru

Os oes gennych anawsterau clywed neu lefaru, dylai’r heddlu gynnig cyfieithydd i chi. Ni ddylid eich holi nes bod y cyfieithydd yn bresennol oni bai y byddai oedi yn golygu perygl uniongyrchol o niwed i berson neu golled neu ddifrod difrifol i eiddo, neu onid ydych chi'n cytuno'n ysgrifenedig i gael cyfweliad heb un.

Nôl i’r Brig



Pwerau'r heddlu i ddelio gyda chi heb fynd i'r llys

Os yw'r heddlu wedi casglu digon o dystiolaeth i ddwyn achos troseddol yn eich erbyn, efallai y cewch eich cyhuddo a'ch erlyn. Fe fydd hyn yn golygu mynd i'r llys. Fodd bynnag, nid yw'r llys yn gorfod delio gyda phob trosedd. Efallai y bydd y r heddlu'n medru delio gyda chi gan ddefnyddio opsiwn arall yn lle eich erlyn. Gelwir yr opsiynau eraill hyn yn ddatrysiadau tu allan i'r llys neu, yn Saenseg, out-of-court disposals.

Er enghraifft, mae'n bosib rhoi rhybudd canabis i chi os cewch eich dal gydag ychydig bach o ganabis at eich defnydd personol chi eich hun. Enghraifft arall yw bod yr heddlu'n medru rhoi rhybudd ffurfiol i chi neu rybudd o gosb (math o ddirwy) am anrhefn. Mae'n rhaid i chi gytuno i ddatrysiad tu allan i'r llys.

Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn cytuno, oherwydd mae datrysiad tu allan i'r llys yn medru effeithio ar eich dyfodol. Er enghraifft, efallai y byddai'n cael ei ddatgelu i'ch cyflogwr ac fe fydd yn cyfrif fel cofnod troseddol. Mae yna daflen sy'n esbonio mwy am ddatrysiadau tu allan i'r llys. Dylech dderbyn copi yng ngorsaf yr heddlu wedi i chi gael eich arestio. Neu mae copi ar gael i'w lawrlwytho oddi ar wefan y Swyddfa Diwygio Cyfiawnder Troseddol yn (New window) www.cjsonline.gov.uk.

Nôl i’r Brig



Cwynion

Os ydych yn teimlo bod yr heddlu wedi eich trin yn annheg, mae'r camau gorau i'w cymryd yn dibynnu ar natur eich cwyn. Er enghraifft, os yw’r heddlu wedi dod i feddiant tystiolaeth trwy dorri rheolau’r cod ymarfer, mae’n bosib y bydd llys yn gwrthod derbyn tystiolaeth yr heddlu mewn unrhyw achos yn eich erbyn ac mae'n bosib y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich cyfreithiwr os ydych yn credu bod yr heddlu wedi torri'r cod ymarfer. Fel arall, efallai y byddwch yn dymuno defnyddio gweithdrefn gwyno'r heddlu i gwyno am ymddygiad swyddog unigol, neu gymryd camau yn y llys (gweler y pennawd Erlyn yr heddlu).

Os ydych am gwyno, dylech gael cyngor pellach gan gyfreithiwr. Hefyd, fedrwch chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gwneud cwyn

Rydych yn medru cwyno trwy:

  • gysylltu â Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (yr IPCC). Rydych yn medru gwneud hyn dros y ffôn, drwy'r e-bost, post, ffacs neu finicom.
  • cysylltu ag unrhyw orsaf heddlu'n bersonol, dros y ffôn, drwy'r e-bost, post neu ffacs. Os ydych yn mynd yn bersonol, dylech ofyn am siarad â'r swyddog sydd ar ddyletswydd. Rydych yn medru chwilio am fanylion gorsaf heddlu yn: (New window) www.neighbourhoodpolicing.co.uk.
  • cysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am help. Mae cyfreithiwr neu Aelod Seneddol hefyd yn medru cwyno ar eich rhan.

Gellir cael mwy o wybodaeth ar sut i gwyno am yr heddlu ar wefan yr IPCC yn: (New window) www.ipcc.gov.uk. Mae yna wybodaeth hefyd ynghylch y ffordd y cynhelir yr ymchwiliad i mewn i'ch cwyn a'r canlyniadau posib. Rydych yn medru lawrlwytho ffurflen gwyno neu ei llenwi ar-lein.

Mae yna wybodaeth hefyd ynghylch sur i gwyno, mewn sawl iaith wahanol, yn: (New window) www.ipcc.gov.uk/index/complaints.

Dyma fanylion cyswllt yr IPCC:

Independent Police Complaints Commission
5th floor
90 High Holborn
London
WC1V 6BH
Ffôn: 0845 300 2002
Minicom: 020 7404 0431
Ffacs: 020 7404 0430
E-bost: enquiries@ipcc.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.ipcc.gov.uk

Erlyn yr heddlu

Os yw eich cwyn yn ddifrifol, efallai eich bod yn dymuno erlyn yr heddlu. Gallwch erlyn yr heddlu yn yr un modd ag y medrwch erlyn aelod o’r cyhoedd. Os ydych eisiau erlyn yr heddlu, dylech siarad â chyfreithiwr arbenigol.

Nôl i’r Brig



Ffynonellau help

Liberty

Mae Liberty yn ymgyrchu ar faterion o ryddid sifil gan gynnwys cwynion yn erbyn yr heddlu a gallant gynghori pobl sydd â phroblemau gyda’r heddlu. Fodd bynnag, dim ond ychydig o achosion y maent yn medru ymdopi â nhw bob blwyddyn. Hefyd gallant argymell cyfreithwyr sydd â phrofiad gyda chwynion am yr heddlu. Cyfeiriad Liberty yw:

21 Tabard Street
London SE1 4LA
Llinell gymorth: 08451 232307
Ebost: info@liberty-human-rights.org.uk
Gwefan: (New window) www.liberty-human-rights.org.uk

Grwpiau Monitro’r Heddlu

Cymdeithasau ymgyrchu yw Grwpiau Monitro’r Heddlu sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o waith yr heddlu a gwella polisïau’r heddlu. Mae mwyafrif Grwpiau Monitro’r Heddlu wedi eu lleoli yn Llundain. Mae’r grwpiau’n cynnig cyngor rhad ac am ddim, ac mae’n bosib y byddant yn ymgymryd â chwyn ac y byddant yn cyfeirio at gyfreithwyr. I ddarganfod os oes gennych grŵp lleol, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Canolfannau Cyfraith

Mae Canolfannau Cyfraith yn cynnig cyngor rhad ac am ddim a chynrychiolaeth. Mae Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith yn medru darparu manylion am eich Canolfan Gyfraith leol.

Law Centres Federation
Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
Ebost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ