|
Mae'r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Beth yw Anaf Personol
Mae anaf bersonol yn medru cynnwys, er enghraifft, anaf yn y gweithle neu ddamwain ffordd, anaf a dderbyniwyd o ganlyniad i nwyddau neu wasanaethau diffygiol, anaf a gafwyd trwy faglu dros gerrig palmant, anaf a achoswyd gan gamgymeriadau mewn triniaeth ysbyty neu anaf a ddioddefwyd yn ystod trosedd. Mae anaf yn medru bod yn gorfforol a/neu’n seicolegol. Mae anaf personol yn medru arwain at farwolaeth.
Os ydych wedi dioddef anaf personol, neu os ydych yn gweithredu ar ran rhywun sydd wedi marw oherwydd anaf personol, mae’n bosib y byddwch am ystyried y canlynol:-
- ydych chi’n dymuno gwneud cwyn at y person neu’r gymdeithas y credwch sy’n gyfrifol am eich anafiadau (gweler y pennawd Gwneud cwyn)
- ydych chi’n dymuno gwneud cais am iawndal i ddigolledu unrhyw golledion a ddioddefwyd o ganlyniad i’r anaf (gweler y pennawd Iawndal)
- a oes unrhyw broblemau ariannol uniongyrchol yn codi oherwydd yr anaf, er enghraifft eich bod yn methu gweithio (gweler y pennawd Problemau Ariannol)
- ydych chi’n dymuno cysylltu â chymdeithas a fyddai’n medru cynnig cefnogaeth neu gyngor (gweler y pennawd Cefnogaeth a chyngor).
Camau gweithredu
Bethbynnag yr ydych yn bwriadu gwneud ynglŷn â’ch anaf personol, gall y camau gweithredu gynnwys:-
- Hysbysu’r heddlu os, er enghraifft, yw’r anaf yn ganlyniad i ddamwain ar y ffordd
Os cafodd y ddamwain ei hachosi gan yr heddlu, bydd angen i chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
- Os yw’r anaf yn ganlyniad i ddamwain ffordd, reportiwch y ddamwain i’ch Cwmni Yswiriant. Mae’n bosib na fydd y polisi yswiriant yn ddilys os na chaiff y ddamwain ei reportio
- Os yw’r anaf yn ganlyniad i ddamwain yn y gweithle, dylech hysbysu eich cyflogwr a rhaid cofnodi’r ddamwain yn y llyfr damweiniau. Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd cyfreithiol i reportio’r ddamwain i’r swyddog Iechyd a Diogelwch neu Adran Amgylcheddol eich Awdurdod Lleol a gellir ei erlyn os ydyw'n methu a gwneud hyn
- Reportiwch yr anaf i’r meddyg oherwydd gall yr anaf fynd yn fwy difrifol. Dylech wneud hyn hyd yn oed os yw eich anaf yn ymddangos yn ddibwys. Os byddwch chi, o ganlyniad, yn mynd i’r llys i hawlio iawndal am yr anaf, bydd gofyn i’r meddyg ddarparu adroddiad meddygol
- Casglwch dystiolaeth am y ddamwain a’r anafiadau. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn ddefnyddiol tynnu ffotograffau o leoliad y ddamwain ac o beth a achosodd yr anaf. Dylech hefyd, os yn bosib, ysgrifennu adroddiad am y ddamwain tra bo’r manylion yn fyw yn eich cof. Os oedd yna lygad dystion yn bresennol, dylech wneud nodyn o’u henwau a’u cyfeiriadau.
Nôl i’r Brig
Gwneud cwyn
Os ydych wedi cael damwain neu wedi dioddef anaf mae’n bosib y byddwch yn medru cael eglurhad o beth aeth o’i le a derbyn ymddiheuriad o bosib. Mewn rhai achosion, mae’n bosib fod yna weithdrefn gwyno swyddogol y gallwch ei ddefnyddio.
Un anfantais o ddefnyddio gweithdrefnau cwyno yw eu bod yn cymryd llawer o amser ac ni fydd y canlyniad yn fwy nag ymddiheuriad. Os ydych wedi dioddef anaf personol a’ch bod yn dymuno gwneud cais am iawndal, dylech fod yn ymwybodol fod yna gyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol (gweler y pennawd Dwyn achos cyfreithiol) a gall gweithredu drwy weithdrefn gwyno oedi’r mater.
Os penderfynwch y bydd gwneud cwyn yn rhoi canlyniad digonol, gallwch wneud cwyn at, er enghraifft;-
- Adran o’r Llywodraeth
- Awdurdod lleol
- Eich cyflogwr
- Yr heddlu
- Eich ysgol neu sefydliad addysgol arall
- Eich ysbyty neu sefydliad arall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Os ydych yn dymuno cael mwy o wybodaeth am sut mae gwneud cwyn at y math yma o gyrff dylech gael cyngor arbenigol gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Iawndal
Mae yna sawl ffordd o gael iawndal am anaf personol:-
Cyfanswm yr Iawndal
Os ydych wedi dioddef anaf personol mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio dau fath o iawndal, Iawndal cyffredinol a iawndal arbennig.
Mae iawndal cyffredinol yn cael ei dalu fel iawndal am anaf, er enghraifft, taliad am boen a dioddefaint neu golled enillion yn y dyfodol. Y llys fydd yn penderfynu ar y swm a delir.
Telir iawndal arbennig fel iawndal am golled ariannol gwirioneddol a achoswyd gan y ddamwain hyd at ddyddiad y gwrandawiad. Gallant gynnwys difrod i ddillad neu eiddo arall, costau gofal, costau teithio i’r ysbyty, treuliau meddygol (yn cynnwys cost triniaeth breifat) a chost llogi a/neu atgyweirio car a gafodd ei ddifrodi yn y ddamwain.
Os bydd y llys yn penderfynu eich bod yn rhannol gyfrifol am y ddamwain, mae’n bosib y bydd yn gostwng cyfanswm yr iawndal y byddwch yn ei dderbyn. Enghraifft o hyn fyddai pe na byddech yn gwisgo gwregus pan ddigwyddodd y ddamwain car.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio iawndal am anaf personol, gweler Hawlio iawndal am anaf personol – trefniadau dim buddugoliaeth, dim ffi yn y Taflenni ffeithiau cyfreithiol.
Tynnu budd-daliadau nawdd Cymdeithasol o’r iawndal
Os ydych wedi bod yn derbyn budd-daliadau nawdd cymdeithasol o ganlyniad i’r ddamwain lle cafwyd eich anaf personol, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu’r rhain yn ôl allan o unrhyw iawndal y byddwch yn ei dderbyn.
Mae’r rheolau ynglŷn â didyniadau o fudd-daliadau yn gymhleth ac os credwch efallai y bydd hyn yn effeithio arnoch, dylech geisio cyngor gan gyghorydd profiadol, er enghriafft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Aseswyr Ceisiadau
Os ydych wedi dioddef anaf personol mae’n bosib eich bod yn ystyried defnyddio gwasanaeth aseswr ceisiadau(a elwir weithiau yn Reolwr Ceisiadau). Yn aml mae aseswyr ceisiadau yn ymgymryd ag achosion ar sail ‘dim ennill, dim tâl’ ond mae yna rai anfanteision, yn cynnwys:-
- Fel arfer nid yw’r cwmni asesu ceisiadau yn gyfreithwyr ac mae’n bosib na fydd ganddynt gyfreithiwr i gymryd cyfreifoldeb dros yr achos. Os felly, ni fydd yr aseswr ceisiadau yn medru hawlio iawndal drwy’r llysoedd ac os ydych wedi dioddef anaf mae’n bosib y byddwch yn derbyn llai o iawndal
- Mae’n bosib y bydd yr Aseswr ceisiadau yn gofyn i chi dalu cyfran o gyfanswm yr iawndal i’r Aseswr. Dylech fod yn ymwybodol, tra bod talu 50% o £1,000 o iawndal efallai yn dderbyniol i chi, o bosib ni fyddai talu 50% o £10,000 yn dderbyniol.
Rhaid i Aseswyr ceisiadau gael eu hawdurdodi gan y llywodraeth cyn eu bod yn gallu sefydlu busnes. Mae’n rhaid iddyn nhw lynu at reolau caeth sy’n gosod amodau hysbysebu, derbyn busnes a sut i ddelio â, ac i gynrychioli clientod.
Os nad ydych yn hapus gyda gwasanaeth Aseswr ceisiadau, gallwch wneud cwyn. Mae’n ofynnol bod ganddynt system fewnol i ddelio â chwynion, ac eu bod yn eich hysbysebu o hyn.
Cyn defnyddio gwasanaeth Aseswyr ceisiadau, dylech wneud yn siwr eu bod wedi’u hawdurdodi. Galwch riportio aseswr ceisiadau sydd heb ei awdurdodi i’r Uned Claims Management Regulation Monitoring and Compliance drwy ffonio 0845 450 6858 neu e-bostio info@claimsregulation.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth am y reolau y mae’n rhaid i Aseswyr ceisiadau eu dilyn, ac i wirio os ydy Aseswr ceisiadau wedi’i awdurdodi, ewch i www.claimsregulation.gov.uk/consumer.
Os ydych yn ystyried defnyddio aseswr ceisiadau, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol yn gyntaf, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Dwyn achos cyfreithiol
Os ydych yn dymuno dwyn achos cyfreithiol er mwyn hawlio iawndal am anaf personol bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo yn y math yma o achosion. Rhaid gwneud hyn cyn gynted ag y bo modd gan fod yna derfynau amser llym ar ddwyn achosion cyfreithiol – gweler isod.
Terfynau amser
Mae yna derfynau amser gwahanol ar gyfer dwyn achos cyfreithiol wrth wneud cais am anaf personol. Y cais mwyaf cyffredin mewn achos o anaf personol yw esgeulustod a'r terfyn amser ar gyfer cais o’r fath yw tair blynedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cyhoeddi gweithrediadau llys o fewn tair blynedd i chi fod yn ymwybodol eich bod wedi dioddef anaf. Mewn rhai achosion, efallai y bydd llys yn penderfynu ymestyn y terfyn amser hwn, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r achos.
Os ydych yn ystyried dwyn achos cyfreithiol ac nad ydych wedi ymweld â chyfreithiwr eto, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Talu am achos cyfreithiol
Mae achosion cyfreithiol am iawndal ar gyfer anaf personol yn medru bod yn gostus. Mae’n bosib y byddwch yn medru derbyn cymorth gyda chostau cyfreithiol oddi wrth, er enghraifft:-
- Cyfreithiwr neu gymdeithas sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol a ariannir yn gyhoeddus
Am fwy o wybodaeth am wasanaethau cyfreithiol a ariannir yn gyhoeddus, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.
- Cytundeb ffi amodol – gweler isod
- Undeb llafur neu gymdeithas aelodaeth arall megis yr AA neu’r RAC
- Polisi yswiriant. Mae llawer o bolisïau cynnwys tŷ, yswiriant car neu bolisïau yswiriant teithio yn cynnwys yswiriant ar gyfer costau cyfreithiol.
Cytundeb ffi amodol
Mae cytundeb ffi amodol yn golygu na fydd eich cyfreithiwr yn cael unrhyw ffioedd os ydych yn colli eich achos. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd cyfreithiol a chostau'r ochr arall. Fel arfer, fe fydd eich cyfreithiwr yn gofyn i chi gymryd yswiriant i dalu am hyn. Os ydych yn ennill eich achos, yna fel arfer yr ochr arall sy'n talu ffioedd a chostau eich cyfreithiwr.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chytundebau ffioedd amodol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Os ydych yn ystyried dwyn achos cyfreithiol ac nad ydych wedi bod yn ymweld â chyfreithiwr eto mae’n bosib y byddwch yn dymuno ceisio cyngor am ffynonellau cymorth gyda chostau cyfreithiol posib gan gynghorydd profiadol, er enghaifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dewis cyfreithiwr
Os ydych yn dymuno dwyn achos cyfreithiol am anaf personol dylech gysylltu â chyfreithiwr sy’n aelod o banel anafiadau personol neu banel esgeulustod clinigol Cymdeithas y Gyfraith, gan ddibynnu ar natur eich anaf. Mae Cymdeithas y Gyfraith yn medru cynnig manylion am gyfreithwyr ar y paneli yma a gellir cysylltu â’r gymdeithas yn:-
113-114 Chancery Lane London WC2A 1PL Rhif ffôn: 020 7242 1222 Ffacs: 020 7831 0344 Ebost: info.services@lawsociety.org.uk Gwefan: www.lawsociety.org.uk
Mae gan ‘The Law Society of Northern Ireland’ restr o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn meysydd penodol. Gellir cael y rhestr yma oddi wrth:-
The Law Society of Northern Ireland Law Society House 98 Victoria Street Belfast BT1 3JZ Rhif ffôn: 028 9023 1614 Ffacs: 028 9023 2606 Ebost: info@lawsoc-ni.org Gwefan: www.lawsoc-ni.org
The Association of Personal Injury Lawyers (APIL)
Cymdeithas o gyfreithwyr yw The Association of Personal Injury Lawyers (APIL) sy’n brofiadol mewn gwaith sy’n ymwneud ag anafiadau personol. Gellir cysylltu â APIL yn:
11 Castle Quay Nottingham NG7 1FW Llinell gymorth: 0870 609 1958 Rhif ffôn: 0115 958 0585 Ffacs: 0115 958 0885 Gwefan: www.apil.org.uk
Motor Accident Solicitors Society (MASS)
Cymdeithas o gyfreithwyr yw The Motor Accident Solicitors Society (MASS) sy’n brofiadol mewn anafiadau personol o ganlyniad i ddamweiniau modur. Mae cyfreithwyr cyfrannog yn darparu ymgynghoriad cychwynnol am ddim. Gellir cysylltu â MASS yn:-
54 Baldwin Street Bristol BS1 1QW Rhif ffôn: 0117 929 2560 Ffacs: 0117 904 7220 Ebost: office@mass.org.uk Gwefan: www.mass.org.uk
Aelodau Cymdeithasau Moduro
Os ydych wedi dioddef anaf o ganlyniad i ddamwain ffordd a’ch bod yn aelod o gymdeithas foduro, er enghraifft, yr AA neu’r RAC, mae’n bosib y byddwch yn medru derbyn cyngor cyfreithiol arbenigol drwy’r gymdeithas.
Aelodau Undebau Llafur
Os yw eich anaf yn ganlyniad i ddamwain yn y gweithle, dylech, os ydych yn aelod, gysylltu â’ch Undeb Llafur. Mae’n bosib i’r Undeb gyfarwyddo cyfreithwyr i ddilyn cais ar eich rhan ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am hyn.
Nôl i’r Brig
Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol
Os ydych wedi cael eich anafu o ganlyniad i weithred droseddol mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio iawndal drwy’r Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol (Criminal Injuries Compensation Agency yng Ngogledd Iwerddon). Mae’n bosib eich bod yn ddioddefwr uniongyrchol, er enghraifft, mewn ymosodiad neu mae’n bosib i chi ddioddef eich anaf pan yn ceisio cynorthwyo’r heddlu wedi i drosedd gael ei chyflawni. Gall perthynas agos i rywun a fu farw oherwydd ei hanafiadau wneud cais hefyd.
Rhaid i chi reportio’r digwyddiad i’r heddlu ar y cyfle cyntaf a fel arfer rhaid gwneud cais o fewn dwy flynedd i’r digwyddiad. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae’n bosib y bydd yr Awdurdod yn fodlon ymestyn y dyddiad yma. Enghraifft o hyn fyddai petai chi’n gwneud cais am gamdriniaeth y gwnaethoch ei ddioddef pan yn blentyn.
Rhaid cyflwyno cais am iawndal ar ffurflen gais, a gellir cael ffurflen gan:-
Criminal Injuries Compensation Authority Tay House 300 Bath Street Glasgow G2 4LN Rhif ffôn: 0141 331 2726/0800 358 3601 Ffacs: 0141 331 2287 Gwefan: www.cica.gov.uk
The Criminal Injuries Compensation Agency yng Ngogledd Iwerddon Royston House 34 Upper Queen Street Belfast BT1 6FD Rhif ffôn: 028 9024 9944 Ffacs: 028 9024 6956
Mae’r manylion am y drosedd a’r anafiadau a nodwyd ar y ffurflen gais yn bwysig ac os ydych yn cwblhau’r ffurflen mae’n bosib y byddwch yn dymuno cysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Gorchmynion Iawndal Troseddol
Mae’n bosib y gorchmynir i berson a ddyfarnwyd yn euog o drosedd gan y llys i dalu iawndal am anaf, colled neu ddifrod a achoswyd ganddynt i rywun arall drwy gyflawni trosedd. Os mai chi yw’r person sydd wedi dioddef anafiadau neu golled ni fedrwch wneud cais ar eich cyfer eich hun, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybodaeth lawn a chywir i’r Erlyniaeth am yr anafiadau a’r colledion i’w rhoi o flaen y llys.
Bydd cyfanswm yr iawndal yn dibynnu ar faint mae’r troseddwr yn medru fforddio talu, ond yr uchafswm yw £5,000.
Os ceir Gorchymyn Iawndal Troseddol, bydd y llys yn gyfrifol am sichrau bod y troseddwr yn talu.
Nôl i’r Brig
Cynlluniau iawndal arbennig
Mae yna nifer o gynlluniau iawndal arbennig ar gyfer rhai anafiadau a cholledion.
Er enghraifft, mae pobl sydd wedi cael HIV wrth gael triniaeth ar gyfer hemoffilia yn medru hawlio taliadau gan Ymddiriedolaeth MacFarlane a iawndal gan y Llywodraeth.
Mae pobl sydd wedi dioddef niwed o ganlyniad i frechlynnau hefyd yn medru cyflwyno cais i Uned o'r enw Vaccine Damage Payment Unit. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar: www.direct.gov.uk
Mae yna gynlluniau arbennig i bobl sy'n dioddef o afiechydon sy'n gysylltiedig ag asbestos. Er enghraifft, os cawsoch eich anafu wrth weithio gydag asbestos, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ac yn medru cyflwyno cais sifil yn erbyn eich cyflogwyr. Efallai eich bod wedi dal afiechyd sy'n gysylltiedig ag asbestos mewn ffordd arall - er enghraifft, trwy olchi dillad aelod o'r teulu. Yn yr achos hwn, rydych yn medru cyflwyno cais am daliad unwaith-yn-unig gan y Llywodraeth. Mae yna gyfyngiadau amser ar gyfer hawlio yn y ffyrdd hyn. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar: www.direct.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.
Fe fydd cyfreithiwr arbenigol [link to heading Choosing a solicitor Dewis cyfreithiwr] yn medru dweud wrthych os oes cynllun iawndal ar gael ar gyfer eich anaf chi ac fe fydd yn medru eich cynghori p'un ai y byddai'n well ceisio am iawndal o dan y cynllun neu wneud hawliad sifil.
Nôl i’r Brig
Problemau Ariannol
Os oes gennych broblemau ariannol o ganlyniad i anaf personol a ddioddefwyd, er enghraifft, mewn damwain neu drosedd dreisgar, mae’n bosib y bydd angen i chi gysylltu â chynghorydd ariannol arbenigol am gymorth gyda dyledion a budd-daliadau.
Mae’n bosib fod arnoch angen cyngor ariannol oherwydd bod aelod o’ch teulu wedi cael ei anafu neu ladd mewn damwain neu o ganlyniad i drosedd. Mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio iawndal am y golled o ategiad ariannol.
Os ydych yn dioddef o broblemau ariannol oherwydd anaf personol yr ydych chi neu aelod o’ch teulu yn ei ddioddef dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Cefnogaeth a Chyngor
Mae yna nifer o gymdeithasau gwirfoddol a chynlluniau a fydd o bosib yn medru cynnig cefnogaeth i chi os ydych wedi cael eich anafu, neu fod eich partner, cyfaill neu berthynas wedi cael ei anafu neu ei (l)ladd.
Action against Medical Accidents (AvMA)
Mae’r AvMA yn medru darparu gwybodaeth a chefnogaeth a’ch cyfeirio at gyfreithwyr os ydych wedi dioddef damwain feddygol. Mae gan yr AvMA banel o arbenigwyr meddygol sy’n barod i roi barn annibynnol.
44 High Street Croydon CRO 1YB Llinell gymorth: 08451 23 23 52 Ffacs: 020 8667 9065 Ebost: admin@avma.org.uk Gwefan: www.avma.org.uk
Centre for Corporate Accountability and the Work-related Death Advice Service
Dyma wasanaeth cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, ar gyfer teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i farwolaeth sy'n gysylltiedig â gwaith. Fe fyddan nhw'n eich helpu i sicrhau bod yna ymchwiliad iawn i'r farwolaeth a bod y cyrff sy'n erlyn yn archwilio'r mater yn iawn. Maen nhw'n rhoi cyngor mewn perthynas â marwolaethau sy'n ganlyniad i weithgarwch cwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol ac ysbytai.
Fourth Floor 197/199 City Road London EC1V 1JN Rhif ffôn: 020 7490 4494 Ffacs: 020 7490 7191 Ebost: advice@corporateaccountability.org Gwefan: www.corporateaccountability.org
Disabled Living Foundation
Mae’r Disabled Living Foundation yn rhoi cyngor a gwybodaeth am gyfarpar sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n dioddef o anableddau.
380-384 Harrow Road London W9 2HU Rhif ffôn: 020 7289 6111 Llinell gymorth: 0845 603 9177 (Llun-Gwe 10y.b.-4y.h. cyfradd lleol) Ffacs: 020 7266 2922 Ebost: info@dlf.org.uk Gwefan: www.dlf.org.uk
Yng Ngogledd Iwerddon
Musgrave Park Hospital Green Park Hospital Trust Stockman's Lane Belfast BT9 7JB Rhif ffôn: 028 9066 9501 Ffacs: 028 9038 2008
Disaster Action
Sefydlwyd Disaster Action gan grwp o bobl sydd wedi goroesi trychinebau difrifol neu wedi colli rhywun mewn trychineb difrïol, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Eu nod yw
- cynnig cefnogaeth i bobl y mae trawma mawr wedi effeithio arnynt
- codi ymwybyddiaeth o anghenion goroeswyr a phobl sydd wedi cael profedigaeth
- helpu creu hinsawdd o ddiogelwch y mae trychinebau'n llai tebygol o ddigwydd ynddi.
Maen nhw'n cyhoeddi cyfres o daflenni o'r enw 'When disaster strikes', sydd ar gael oddi ar eu gwefan, Dyma'u manylion cyswllt nhw:
No 4 71 Upper Berkeley Street London W1H 7DB Ffôn: 01483 799066 E-bost: pameladix@disasteraction.org.uk Gwefan: www.disasteraction.org.uk
Grwpiau Hunan-gymorth
Sefydlwyd nifer o grwpiau hunan-gymorth ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hanafu gan, er enghraifft, meddyginiaeth beryglus.
Gellir dod o hyd i restr o grwpiau o’r math yma yng ‘Nghyfeirlyfr yr Asiantaethau Gwirfoddol’ a bydd copi ar gael yn y llyfrgell gyfeirio cyhoeddus lleol neu gan Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Headway – cymdeithas anaf i'r ymennydd
Mae Headway yn cefnogi pobl sydd ag anafiadau i’r ymennydd a’u cynhalwyr. Mae nhw hefyd yn ymgyrchu am welliannau i’r gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Maent yn rhedeg llinell gymorth, a gallant ddarparu rhestr o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn achosion o anafiadau i’r ymennydd.
4 King Edward Court King Edward Street Nottingham NG1 1EW Llinell gymorth: 0808 8002244 Rhif ffôn: 0115 924 0800 Ffacs: 0115 958 4446 Ebost: helpline@headway.org.uk Gwefan: www.headway.org.uk
Medical Foundation for the Care of Victims of Torture
Mae’r gymdeithas yn darparu gofal meddygol, cyngor a therapi ar gyfer pobl sydd wedi dioddef anaf o ganlyniad i artaith. Mae’n sefydlu grwpiau hunan-gymorth ac maent yn medru archwilio cleifion, er enghraifft, i ddarparu tystiolaeth fforensig o anafiadau artaith. Gall y gymdeithas fod o ddefnydd i bobl sy’n gwneud cais am noddfa.
111 Isledon Road London N7 7JW Rhif ffôn: 020 7697 7777 Ffacs: 020 7697 7799 E-bost: info@torturecare.org.uk Gwefan: www.torturecare.org.uk
MIND (National Association for Mental Health)
Mae MIND yn hyrwyddo diddordebau pobl sy’n dioddef o salwch meddwl neu drallod ac maent yn darparu gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth.
Granta House 15-19 Broadway London E15 EBQ Rhif ffôn: 020 8519 2122 Llinell Gymorth: 0845 766 0163 (Llun-Gwener. 9.15yb-5.15yp) E-bost: contact@mind.org.uk Gwefan: www.mind.org.uk
NIAMH (Northern Ireland Association for Mental Health)
Mae NIAMH yn hrwyddo diddordebau pobl sy’n dioddef o salwch meddwl neu drallod ac maent yn darparu gwasanaethau cyghori ac eiriolaeth.
Beacon House 80 University Street Belfast BT7 1HE Rhif ffôn : 028 9032 8474 Ffacs: 028 9023 4940
Cymdeithasau trais
Mae yna nifer o gymdeithasau sy’n cynnig cymorth a chyngor i bobl sydd wedi dioddef trais.
Gellir dod o hyd i restr o grwpiau o’r math yma yng ‘Nghyfeirlyfr yr Asiantaethau Gwirfoddol’ a bydd copi ar gael yn y llyfrgell gyfeirio cyhoeddus lleol neu Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Roadpeace
Mae Roadpeace yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael anaf, neu wedi colli rhywun, oherwydd damwain ar y ffordd. Mae hefyd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon ar y ffordd, ac yn ymgyrchu tros gyfiawnder i ddioddefwyr.
PO Box 2579 London NW10 3PW Rhif ffôn: 020 8838 5102 Llinell gymorth: 0845 4500 355 Ffacs: 020 8838 5103 E-bost: helpline@roadpeace.org Gwefan: www.roadpeace.org
Cymorth i ddioddefwyr
Mae Cefnogaeth i Ddioddefwyr yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer holl ddioddefwyr troseddau, ac eithrio dwyn, neu ddwyn o geir a cham-drin plant yn y teulu. Mae yna gynlluniau lleol.
Cymorth i Ddioddefwyr (Cymru a Lloegr)
Hallam House 50-60 Hallam Street London W1W 6JL Ffôn: 020 7268 0200 Llinell Gymorth i Ddioddefwyr: 0845 303 0900 (Llun-Gwe 9yb-9yh; Sad-Sul 9yb-7yh; gwyl y banc 9yb-5yp) Ffacs: 020 7268 0210 E-bost: supportline@victimsupport.org.uk Gwefan: www.victimsupport.org.uk
Cymorth i Ddioddefwyr (Gogledd Iwerddon)
3rd Floor, Annsgate House 70-74 Ann Street Belfast BT1 4EH Ffôn: 028 9024 4039 Llinell Gymorth i Ddioddefwyr: 0845 303 0900 (Llun-Gwe 9yb-9yh; Sad-Sul 9yb-7yh; gwyl y banc 9yb-5yp) Ffacs: 028 9031 3838 E-bost: info@victimsupportni.org.uk Gwefan: www.victimsupport.org.uk
Cymorth i Fenywod
Mae Cymoth i Fenywod yn darparu cyngor, gwybodaeth a lloches dros dro weithiau ar gyfer menywod a’u plant sy’n cael eu bygwth gan drais meddwl, emosiynol neu gorfforol, gormes neu gam-drin rhywiol.
Lloegr
PO Box 391 Bristol BS99 7WS Llinell gymorth: 0808 200 0247 (24 awr) Gwefan: www.womensaid.org.uk
Cymru
4 Pound Place Aberystwyth SY23 1LX Llinell Gymorth: 0808 80 10 800 (8.00yb-2.00yp, 8.00yh-2.00yb) Gwefan: www.welshwomensaid.org
Gogledd Iwerddon
129 University Street Belfast BT7 1HP Llinell Gymorth: 0800 917 1414 (24 awr) Gwefan: www.niwaf.org
Nôl i’r Brig
|