Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 22 af 2010

Y system gyfreithiol - Yng Nghymru

Help gyda chostau cyfreithiol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Cymorth cyfreithiol

Os ydych chi angen help gyda chostau cyfreithiol, efallai y cewch chi Gymorth cyfreithiol. Trefnir Cymorth cyfreithiol gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (CGC). Caiff ei ddarparu yn y ffyrdd canlynol:-

Nôl i’r brig



Help cyfreithiol

Mae Help Cyfreithiol yn galluogi pobl sydd ar incwm, isel i gael help a chyngor cyfreithiol rhad ac am ddim gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol profiadol. Mae'n rhaid bod gan y cyfreithiwr neu gynghorydd gytundeb gyda'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (CGC) cyn y bydd yn medru rhoi Help Cyfreithiol.

Beth mae Help Cyfreithiol yn ei gynnwys

Mae Help Cyfreithiol yn cynnwys yr holl help sydd ei angen arnoch gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol wrth baratoi achos i fynd i'r llys. Mae hyn yn medru cynnwys cael cyngor cyffredinol ar unrhyw broblemau cyfreithiol, ac mae hefyd yn medru cynnwys cael eich cyfreithiwr neu gynghorydd i ysgrifennu llythyron, trafod gyda'r ochr arall, cael barn bargyfreithiwr a pharatoi achos ysgrifenedig ar gyfer tribiwnlys. Hefyd, mae help cyfreithiol yn medru cynnwys costau cyfryngu mewn achosion sydd ddim yn achosion teuluol. Mae cyfryngu yn ffordd o drafod, ble mae'r ddwy ochr yn cael help cyfryngwr niwtral i ddod o hyd i ateb sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.

Ni fydd help cyfreithiol yn talu am gostau dechrau achos llys neu gymryd achos llys. Hefyd, ni fydd yn talu am gyfreithiwr i'ch cynrychioli chi yn y llys nac mewn tribiwnlys. Ond, efallai y byddwch yn medru cael helpu gyda hyn o dan Help yn y Llys (gweler y pennawd Help yn y Llys), Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli (gweler y pennawd Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli) neu Gynrychiolaeth Gyfreithiol (gweler y pennawd Cynrychiolaeth Gyfreithiol).

Problemau cyfreithiol sy'n dod o dan Help Cyfreithiol

Mae Help Cyfreithiol yn cynnwys cyngor ar broblemau cyfreithiol cyffredinol gan gynnwys cyngor am:

  • gyfraith tai, er enghraifft, os ydych mewn dyled ac mae eich landlord am eich troi chi allan o'ch cartref
  • cyfraith defnyddwyr, er enghraifft, os ydych wedi prynu nwyddau diffygiol
  • trefniadau'r llys, er enghraifft, os yw rhywun yn mynd â chi i'r llys am fod arnoch chi arian iddynt
  • cyfraith y teulu, fel cymorth ariannol ar ôl priodas neu ddadleuon yn ymwneud â phlant. Mae'n bosib hefyd y byddwch yn medru cael cyngor ynghylch ysgariad heb ei amddiffyn neu ddiddymu partneriaeth sifil
  • prynu a gwerthu eich cartref, ond dim ond os oes angen hyn er mwyn bodloni gorchymyn llys neu os yw'n ganlyniad i ysgariad, gwahanu cyfreithiol neu ddiddymu partneriaeth sifil
  • achos o wahaniaethu, ble rydych yn cael eich trin yn annheg oherwydd eich rhyw, hil, crefydd, anabledd neu rywioldeb. Mae gwahaniaethu ar sail oed hefyd yn erbyn y gyfraith mewn achosion yn ymwneud â chyflogaeth
  • mabwysiadu, ond dim ond os oes dadl ynghylch mabwysiadu
  • sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad mewn tribiwnlys, er enghraifft, tribiwnlys cyflogaeth mewn achos o ddiswyddiad annheg neu achos Tribiwnlys Haen Gyntaf. Nid yw Help Cyfreithiol yn cynnwys cynrychiolaeth yn y tribiwnlys ei hun
  • achosion o esgeulustod meddygol
  • achosion o anaf personol, ond dim ond pan fydd yr anaf yn ganlyniad i ymosodiad neu gamdriniaeth fwriadol.

Efallai y byddwch yn medru cael cyngor ynghylch gwneud ewyllys, ond dim ond mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn 70 neu'n hyn, os ydych yn anabl, neu os ydych yn rhiant sy'n darparu ar gyfer plentyn anabl.

Er mwyn bod yn gymwys i gael Help Cyfreithiol, mae yna amodau ariannol - gweler y pennawd Beth yw'r amodau ariannol ar gyfer Help Cyfreithiol, isod. Os ydych yn bodloni'r amodau ariannol, yna fel arfer, fe fyddwch yn cael Help Cyfreithiol cyhyd ag y bydd y cyfreithiwr neu'r cynghorydd yn cytuno bod yna 'fantais ddigonol' i barhau gyda'r achos. Mae 'mantais ddigonol' yn golygu bod yn rhaid i'r achos fod yn achos sydd â siawns o lwyddo. Hefyd, os yw'n achos sy'n ymwneud ag arian, mae'n rhaid bod yna fantais glir i chi o ran cost. Cynlluniwyd y drefn hon i gael gwared ar faterion nad oes gobaith iddynt a materion sydd ddim yn faterion cyfreithiol. Unwaith y byddwch wedi cael clywed eich bod yn cael Help Cyfreithiol, fe fydd eich achos yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau eich bod yn dal i fodloni'r amodau hyn.

Efallai y bydd yr Help Cyfreithiol yn dod i ben os fyddwch yn gymwys i gael gwahanol fath o gymorth cyfreithiol. Er enghraifft, os oes angen i'r achos fynd i'r llys, efallai y byddwch yn gymwys i gael Help yn y Llys yn lle Help Cyfreithiol (gweler y pennawd Help yn y Llys).

Beth yw'r amodau ariannol ar gyfer Help Cyfreithiol

Help Cyfreithiol os ydych yn cael budd-daliadau

Fe fyddwch yn cael Help Cyfreithiol os ydych chi neu’ch partner yn cael:

  • cymhorthdal incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • cydran credyd gwarant Credyd Pensiwn.

Fe fyddwch yn cael Help Cyfreithiol ar gyfer problem lloches os ydych yn cael cymorth gyda lloches gan y llywodraeth.

Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, fe fyddan nhw’n edrych ar eich incwm a’ch cyfalaf i weld os ydych yn medru cael Help Cyfreithiol.

Help Cyfreithiol os oes incwm gennych

Os yw eich incwm misol gros dros £2,657 ni fyddwch yn medru cael Help Cyfreithiol. Mae ‘incwm gros’ yn golygu eich incwm cyn tynnu treth ac yswiriant gwladol ac nid yw'n cynnwys rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Os oes mwy na phedwar o blant gennych, mae'r terfyn hwn yn codi £222 ar gyfer y pumed plentyn a phob plentyn ychwanegol. Mae'n rhaid i chi gynnwys incwm eich partner ond nid os mai'ch partner yw'r person yr ydych yn dadlau ag ef/hi.

Os yw eich incwm misol gros yn £2,657 neu'n llai, fe fydd eich cyfreithiwr neu'ch cynghorydd yn edrych i weld beth yw eich incwm defnyddiadwy. Eich ‘incwm defnyddiadwy' yw'r swm o'ch incwm sydd ar ôl wedi i chi dynnu yswiriant gwladol, cynhaliaeth plant a threth. Hefyd, os oes partner gennych sydd ddim yn ennill arian, neu os oes plant gennych, ni fydd rhan o'ch incwm yn cael ei ystyried. Os yw'ch partner yn ennill arian, fe fydd incwm eich partner yn cael ei ystyried, ond nid os mai'ch partner yw'r person yr ydych yn dadlau ag ef/hi.

Er mwyn bod yn gymwys i gael Help Cyfreithiol, nid yw'ch incwm misol defnyddiadwy yn gallu bod yn fwy na £733. Os ydych o fewn y terfyn hwn, nid oes rhaid i chi dalu unrhyw beth tuag at Help Cyfreithiol.

Help Cyfreithiol os oes cyfalaf gennych

Os oes gennych gyfalaf defnyddiadwy (cynilion) o dros £8,000, ni fyddwch yn cael Help Cyfreithiol. Mae cyfalaf defnyddiadwy yn cynnwys:

  • arian yn y banc
  • eitemau gwerthfawr
  • gwerth eich cartref (os ydyw'n eiddo i chi). Mae hyn yn dibynnu faint yw gwerth yr eiddo a faint yw eich morgais.

Mae'n rhaid i chi gynnwys cyfalaf eich partner ond nid os mai'ch partner yw'r person yr ydych yn dadlau ag ef/hi.

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn, fe fyddwch yn cael Help Cyfreithiol yn awtomatig, waeth faint yw gwerth eich cartref neu unrhyw gyfalaf arall sydd gennych.

Mwy o wybodaeth am fod yn gymwys yn ariannol am Help Cyfreithiol

Am fwy o wybodaeth ynghylch p’un ai eich bod yn gymwys i gael Help Cyfreithiol ai peidio, ewch at wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn: (New window) www.communitylegaladvice.org.uk.

Yr hyn y medrech orfod ei dalu tuag at Help Cyfreithiol

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at help cyfreithiol os ydych yn ennill neu'n cadw'r arian neu'r eiddo mewn:

  • achos teuluol
  • achos o esgeulustod meddygol
  • achos o anaf personol.

Mae'n rhaid i'ch cyfreithiwr neu gynghorydd ddefnyddio'r arian yma i dalu eu bil nhw. Chi fydd yn cael yr hyn sydd ar ôl. Er enghraifft, os ydych yn ennill £750 o ganlyniad i'r achos, ac mae bil y cyfreithiwr yn £100, fe fyddwch chi'n cael £650. Gelwir y didyniad hwn yn dâl statudol.

Ond, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r tâl statudol os yw'ch cyfreithiwr yn credu:

  • y byddai hyn yn achosi caledi neu ofid difrifol i chi; neu
  • byddai'n rhy anodd eich cael chi i dalu.

Os oes rhaid i chi dalu'r tâl statudol hwn, fe allwch ohirio'r taliad:-

  • os yw'r eiddo a enilloch neu a gadwoch yn gartref i chi neu yn gartref i'ch dibynyddion; neu
  • mae'r arian a enilloch neu a gadwoch yn mynd i gael ei ddefnyddio i brynu cartref i chi neu eich dibynyddion.

Fe fydd eich cyfreithiwr neu gynghorydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y tâl statudol cyn i chi benderfynu mynd yn eich blaen gyda'ch achos.

Sut i geisio am Help Cyfreithiol

Os ydych yn gymwys i gael Help Cyfreithiol, fe fydd angen i chi weld cyfreithiwr, neu gynghorydd sydd â chytundeb i ddarparu'r math yma o gymorth cyfreithiol. Fe fydd y cyfreithiwr neu'r cynghorydd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ar ddechrau'r cyfweliad. Fe fydd yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ar y ffurflen i benderfynu os ydych yn gymwys.

Nôl i’r brig



Help yn y Llys

Mewn rhai achosion, fe fyddwch yn medru cael help gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (CGC) i dalu am gyfreithiwr neu gynghorydd i siarad ar eich rhan yn y llys. Dyma enghreifftiau o achosion ble mae'n bosib y cewch chi Help yn y Llys:

  • ble yr ydych wedi cytuno bod arnoch arian i rywun ond mae angen i chi sortio pryd a sut y mae'n rhaid talu'r ddyled
  • ble yr ydych yn anghytuno ynghylch swm dyledion morgais neu rent sy'n ddyledus ac mae eich benthyciwr neu eich landlord wedi cymryd camau cyfreithiol i ailfeddiannu'r eiddo.

Mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau ariannol penodol cyn cael Help yn y Llys. Mae'r amodau hyn yr un peth â'r amodau ar gyfer y cynllun Help Cyfreithiol - gweler y pennawd Help Cyfreithiol. Mae yna amodau eraill hefyd sy'n rhaid eu bodloni. Fe fyddwch yn medru cael Help yn y Llys yn yr achosion canlynol yn unig:

  • ble gellir dangos bod cael rhywun i siarad ar eich rhan yn addas ac o wir fantais i chi
  • os yw'n rhesymol darparu Help yn y Llys
  • os teimlir y byddai mynychu gwrandawiad yn hytrach nag ysgrifennu llythyr ar eich rhan yn gost-effeithiol.

Nôl i’r brig



Help i'r Teulu

Os oes dadl deuluol ddifrifol gennych, efallai y bydd hawl gennych i Help i'r Teulu. Mae Help i'r Teulu yn eich helpu i ddatrys eich dadl. Mae hyn yn medru bod trwy drafod neu unrhyw ddull arall. Mae Help i'r Teulu hefyd yn cynnwys pob math o gymorth cyfreithiol neu gynrychiolaeth heblaw am gynrychiolaeth mewn apêl neu wrandawiad llys terfynol sydd wedi'i amddiffyn.

Mae Help i'r Teulu hefyd yn medru cynnwys help gyda chyfryngu mewn dadl deuluol, er enghraifft mae'n medru eich helpu i lunio'r cytundeb y daethoch iddo gyda'r person arall yn y ddadl.

Yn y mwyafrif o achosion, mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau ariannol penodol i fod yn gymwys ar gyfer Help i'r Teulu. Mae'r rhain yr un peth â'r rhai ar gyfer Help Cyfreithiol- - gweler y pennawd Help Cyfreithiol. Ond, os ydych yn rhiant, yn ddarpar-riant neu'n berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, ni fydd yn rhaid i chi gwrdd â'r amodau ariannol hyn er mwyn bod yn gymwys i gael cyngor, ble mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau trefniadau gofal neu oruchwyliaeth.

Nôl i’r brig



Cyfryngu Teuluol

Os ydych yn gysylltiedig â dadl deuluol, er enghraifft, ynghylch cysylltiad â'ch plant ar ôl i'ch perthynas chwalu, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi fynd i gael sesiynau cyfryngu. Mewn Cyfryngu Teuluol, mae cyfryngwr annibynnol yn eich helpu i ddod i gytundeb heb i chi orfod mynd i'r llys. Nid yw'r cyfryngwr yn gwneud unrhyw benderfyniadau ar eich rhan, ond mae'n eich helpu chi a'r ochr arall i ddod i'ch penderfyniadau eich hunain. Os ydych yn penderfynu mynd i gael sesiynau cyfryngu, efallai y byddwch yn medru cael help o dan Cyfryngu Teuluol i dalu am y cyfryngwr. Mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau ariannol penodol. Mae'r rhain yr un peth â'r amodau ariannol ar gyfer Help Cyfreithiol - gweler Beth yw'r amodau ariannol ar gyfer Help Cyfreithiol, o dan y pennawd Help Cyfreithiol.

Nôl i’r brig



Cynrychiolaeth Gyfreithiol

Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn helpu gyda chostau mynd â mathau penodol o achosion sydd ddim yn achosion troseddol (h.y. achosion sifil) i'r llys. Mae'n cynnwys cynrychiolaeth gan gyfreithiwr neu fargyfreithiwr. I gael Cynrychiolaeth Gyfreithiol, mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau ariannol penodol - gweler Beth yw'r amodau ariannol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol, isod. Mae'n rhaid i'ch achos hefyd gwrdd ag amodau penodol eraill, er enghraifft, a yw'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (CGC) yn teimlo ei fod yn rhesymol ariannu eich achos.

Hefyd, efallai y byddwch ond yn cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol cyhyd ag y mae'n ei gymryd i gyfreithiwr edrych i mewn i'ch achos. Os nad yw'r cyfreithiwr yn credu bod eich achos yn ddigon cryf, efallai y bydd yn atal y Cynrychiolaeth Gyfreithiol.

Mae'r mathau o achosion y mae'n bosib y byddwch yn medru cael help ar eu cyfer o dan Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn cynnwys:

  • achos yn ymwneud â thai, gan gynnwys troi allan, atgyweiriadau a dyledion rhent
  • achos o ddyled
  • problemau defnyddwyr, er enghraifft, os oeddech yn hawlio iawndal am nwyddau neu wasanaethau diffygiol
  • apêl i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth (ond nid ar gyfer cynrychiolaeth mewn Tribiwnlys Cyflogaeth)
  • achos o adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys
  • achos adolygu iechyd meddwl
  • achos yn ymwneud â mewnfudo neu geisio lloches gerbron y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac mewn rhai achosion yn yr Uchel Lys.
  • costau cyfryngu mewn achosion sydd ddim yn achosion teuluol. Am fwy o wybodaeth ynghylch Cyfryngu Teuluol, gweler y pennawd Cyfryngu Teuluol.

Fel arfer, ni fydd Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn talu am gostau mynd ag achos o anaf personol i'r llys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch mynd ag achos o anaf personol i'r llys, gweler Anafiadau personol. Gweler hefyd, Hawlio iawndal am anaf personol - cytundebau dim canlyniad, dim cost, yn y Taflenni ffeithiau cyfreithiol.

Beth yw'r amodau ariannol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol

Cynrychiolaeth Gyfreithiol os ydych yn cael budd-daliadau

Fe fyddwch yn cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol os ydych chi neu’ch partner yn cael:

  • cymhorthdal incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • cydran credyd gwarant Credyd Pensiwn.
  • Rydych hefyd yn medru cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol ar gyfer achos lloches a mewnfudo os ydych yn cael cymorth gyda lloches gan y llywodraeth.

Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, fe fyddan nhw’n edrych ar eich incwm a’ch cyfalaf i weld os ydych yn medru cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol.

Cynrychiolaeth Gyfreithiol os oes incwm gennych

Os yw eich incwm misol gros yn fwy na £2,657, ni fyddwch yn cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol. Mae 'incwm gros' yn golygu eich incwm cyn tynnu treth ac yswiriant gwladol. Os oes partner gennych, fe fydd incwm eich partner hefyd yn cael ei ystyried, ond nid os mai'ch partner yw'r person yr ydych yn dadlau ag ef/hi.

Os yw eich incwm misol gros yn £2,657 neu'n llai, fe fydd eich incwm defnyddiadwy yn cael ei asesu. Eich 'incwm defnyddiadwy' yw'r swm sydd gennych ar ôl tynnu yswiriant gwladol, treth, costau tai a rhai treuliau angenrheidiol eraill. Os oes partner gennych sydd ddim yn ennill arian, neu os oes plant gennych, yna ni fydd swm penodol o'ch incwm yn cael ei ystyried. Os yw eich partner yn ennill, fe fydd incwm eich partner yn cael ei ystyried ond nid os mai'ch partner yw'r person yr ydych yn dadlau ag ef/hi.

Os oes incwm misol defnyddiadwy gennych o £733 neu lai, fe fyddwch yn gymwys i gael Cynrychiolaeth Gyfreithiol. Ond, os yw eich incwm defnyddiadwy misol dros £315, fe fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniad misol. Rhaid talu am hyn cyhyd ag y byddwch chi'n derbyn Cynrychiolaeth Gyfreithiol. Mae swm y cyfraniad yn dibynnu ar eich incwm.

Cynrychiolaeth Gyfreithiol os oes cyfalaf gennych

Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fyddwch yn gymwys i gael Cynrychiolaeth Gyfreithiol os oes cyfalaf defnyddiadwy (cynilion) gennych o lai nag £8,000 (ac os ydych hefyd yn cwrdd â'r amodau incwm - gweler uchod).

Os oes partner gennych, fe fydd cyfalaf eich partner hefyd yn cael ei ystyried wrth gyfrifo eich cyfalaf (ond nid os mai'ch partner yw'r person yr ydych yn dadlau ag ef/hi).

Mae cyfalaf defnyddiadwy yn cynnwys:

  • arian yn y banc
  • eitemau gwerthfawr
  • gwerth eich cartref (os ydych yn berchen arno). Mae hyn yn dibynnu ar werth eich cartref a faint yw eich morgais.

Os yw eich cyfalaf defnyddiadwy yn llai na £3,000 neu os ydych yn cael un o'r budd-daliadau y soniwyd amdanynt ynghynt, ni fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniad tuag at gostau eich achos. Os oes gennych fwy na £3,000 o gyfalaf defnyddiadwy, fe fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniad tuag at gostau eich achos. Mae'n rhaid talu'r cyfraniad hwn ar unwaith ac fe fydd yn golygu'r cyfan o'r cyfalaf sydd gennych dros £3,000.

Am fwy o wybodaeth am yr amodau ariannol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol, ewch at wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn: (New window) www.communitylegaladvice.org.uk. Mae yna gyfrifiannell ar-lein ar y wefan hefyd, sy’n medru eich helpu i gyfrifo os oes hawl gennych i Gynrychiolaeth Gyfreithiol.

Costau ychwanegol y mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi eu talu tuag at Gynrychiolaeth Gyfreithiol

Os ydych yn ennill eich achos

Os ydych yn cael arian neu eiddo o ganlyniad i waith a wnaed trwy Gynrychiolaeth Gyfreithiol, fe fydd eich cyfreithiwr yn defnyddio'r arian yma i dalu eu bil. Chi fydd yn cael yr hyn sydd ar ôl. Gelwir y didyniad hwn yn dâl statudol.

Mewn rhai achosion, gellir gohirio talu'r tâl statudol os:

  • mae'r eiddo a enillwyd yr yr achos yn gartref i chi neu eich dibynyddion
  • mae'r arian a enillwyd yn yr achos yn mynd i gael ei ddefnyddio i brynu cartref i chi neu eich dibynyddion.

Gwnewch yn siwr fod eich cyfreithiwr neu gynghorydd yn rhoi manylion llawn am y tâl statudol i chi cyn i chi benderfynu mynd yn eich blaen gyda'ch achos.

Os ydych yn colli eich achos

Os ydych yn colli eich achos, efallai y cewch eich gorchymyn i dalu costau cyfreithiol yr ochr arall os yw'r llys yn teimlo y byddai hyn yn rhesymol.

Sut i geisio am Gynrychiolaeth Gyfreithiol

Dylech geisio am Gynrychiolaeth Gyfreithiol trwy gyfreithiwr neu gynghorydd sydd â chytundeb gyda'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (CGC) i ddarparu'r math yma o gymorth cyfreithiol. Fe fydd y cyfreithiwr neu'r cynghorydd yn eich helpu i lenwi ffurflen gais a ffurflen asesiad ariannol ac fe fydd angen i chi roi manylion eich incwm a'ch cyfalaf arnynt. Fe fydd y CGC yn defnyddio'r ffurflenni hyn i benderfynu a ydych yn gymwys i gael Cynrychiolaeth Gyfreithiol.

I ddod o hyd i gyfreithiwr sy'n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol, ewch at wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn: (New window) www.communityleagaladvice.org.uk.

Nôl i’r brig



Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir

Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol ar Reolir yn rhoi cynrychiolaeth rad ac am ddim i chi os ydych yn ymddangos gerbron:

  • y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn Lloegr
  • Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  • Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn achosion yn ymwneud â lloches neu fewnfudo.
  • Rhaid i chi gwrdd ag amodau penodol cyn i chi fod yn gymwys ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir ond fe fydd yn dibynnu pa fath o achos ydyw.

Os ydych yn ymddangos gerbron y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl neu’r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl, rydych yn medru cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir os yw’n rhesymol iddynt ariannu eich achos. Nid oes rhaid i chi gwrdd ag unrhyw amodau ariannol er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir.

Mewn achosion o apêl yn ymwneud â lloches, rydych yn medru cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir os yw’n rhesymol iddynt ariannu eich achos ac rydych yn cwrdd â’r un amodau ariannol sydd eu hangen ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol (gweler y pennawd Cynrychiolaeth Gyfreithiol).

Mewn achosion yn ymwneud â mewnfudo, rhaid i chi gwrdd â’r amodau ariannol sy’n berthnasol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol, ond bod yn rhaid bod gennych gyfalaf defnyddiadwy o lai na £3,000 cyn i chi fod yn gymwys.

Nôl i’r brig



Llinell Gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Os ydych chi'n byw ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau, efallai y byddwch yn medru cael help gan linell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Mae llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn medru rhoi cyngor annibynnol, cyfrinachol rhad ac am ddim i chi ynghylch:

  • addysg
  • budd-daliadau a chredydau treth
  • cyflogaeth
  • tai
  • dyled
  • y teulu.

Rhif ffôn y llinell gymorth yw: 0845 345 4 345. Mae ar agor o 9yb hyd nes 8.00yh, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 9yb hyd 12.30yp ar Ddydd Sadwrn. Nid yw'r galwadau'n costio mwy na 4c y funud o linell ddaearol BT. Fel arfer, mae galwadau o ffonau symudol yn costio mwy.

Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gofynnwch i gynghorydd eich ffonio chi nôl. Rydych hefyd yn medru anfon neges testun o'ch ffôn symudol gyda'r geiriau 'legalaid' a'ch enw, at 80010, ac fe fydd cynghorydd yn eich ffonio chi nôl o fewn 24 awr.

Mae gan y llinell gymorth wasanaeth cyfieithu os hoffech chi gael cyngor mewn iaith heblaw am y Gymraeg neu'r Saesneg.

Mae yna wasanaeth minicom hefyd i bobl sy'n fyddar, yn drwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd, a gwasanaeth 'type-talk' i bobl sy'n cael trafferth clywed.

Am fwy o wybodaeth am y llinell gymorth, rhowch glic ar (New window) www.communitylegaladvice.org.uk.

Nôl i’r brig



Gwasanaethau cyfreithiol i bobl fyddar

Mae RAD Legal Services yn wasanaeth cyfreithiol sy’n rhoi cyngor cyfreithiol arbenigol ac annibynnol mewn Iaith Arwyddion Prydain, i bobl fyddar. Rhaid bod gennych fynediad at we-gamera a gwasanaeth band eang a rhaid eich bod yn gymwys i gael nawdd gan yr LSC. Maen nhw’n rhoi cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth ar y testunau canlynol:

  • budd-daliadau lles
  • cyflogaeth
  • tai
  • dyled.

Dyma’u manylion cyswllt:

RAD Legal Services
96a Curtain Road
London
EC2A 3AA
Ffôn: 020 7613 3841
Ffacs: 0709 209 8568
Gwefan: (New window) www.radlegalservices.org.uk

Nôl i’r brig



Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli

Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli yn rhoi cynrychiolaeth rhad ac am ddim i chi os ydych yn ymddangos gerbron:

  • Tribiwnlys Iechyd Meddwl Lloegr Haenen Un
  • Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  • Tribiwnlys Ceisio Lloches a Mewnfudo.

Mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau penodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli. Fe fydd y rhain yn dibynnu ar ba fath o achos ydyw.

Os ydych yn ymddangos gerbron Tribiwnlys Iechyd Meddwl Haenen Un neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl, rydych yn medru cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli os fyddai'n rhesymol iddynt ariannu eich achos. Nid oes rhaid i chi gwrdd ag unrhyw amodau ariannol i fod yn gymwys ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli.

Mewn achosion apêl yn ymwneud â cheisio lloches, rydych yn medru cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol wedi'i Reoli os fyddai'n rhesymol iddynt ariannu eich achos ac rydych yn cwrdd â'r un amodau ariannol â'r rhai ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol (gweler y pennawd Cynrychiolaeth Gyfreithiol).

Mewn achosion yn ymwneud â mewnfudwyr, mae'n rhaid i chi gwrdd â'r un amodau ariannol â'r rhai ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol, heblaw bod angen i chi gael cyfalaf defnyddiadwy o lai na £3,000 i fod yn gymwys.

Nôl i’r brig



Cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion troseddol

Mewn achosion troseddol, trefnir Cymorth Cyfreithiol gan y Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (y CDS). Mae yna wahanol fathau o help sy'n medru bod ar gael i chi, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim yng ngorsaf yr heddlu

Os ydych yng ngorsaf yr heddlu, mae gennych yr hawl i gael cyngor cyfreithiol annibynnol rhad ac am ddim gan gyfreithiwr â dyletswydd. Nid yw hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Fe fydd eich cais yn cael ei drosglwyddo at Ganolfan Alwadau Cyfreithwyr Amddiffyn. Neu, fe fyddwch yn medru dewis eich cyfreithiwr eich hun ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor os oes gan eich cyfreithiwr gytundeb gyda'r CDS. Fe fydd y Ganolfan Alwadau yn cysylltu â’ch cyfreithiwr ar eich rhan.

Os ydych wedi cael eich arestio, mae gennych yr hawl i siarad â chyfreithiwr ar unrhyw adeg, ac eithrio mewn achosion difrifol ble gellir gohirio'r hawl hwn. Mae'n rhaid i chi dderbyn taflen wybodaeth yn esbonio sut i gael help cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau i gael cyngor cyfreithiol yng ngorsaf yr heddlu, gweler Eich hawliau wedi i chi gael eich arestio yn Pwerau'r Heddlu.

Help cyn eich cyhuddo o drosedd

Mae'n bosib y byddwch yn medru cael help gydag achos troseddol hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd. Er enghraifft, efallai y byddai cyfreithiwr yn medru rhoi cyngor cyffredinol, ysgrifennu llythyron neu gael barn bargyfreithiwr. Gelwir y math hwn o help yn Gyngor a Chymorth.

Fe fyddwch yn cael Cyngor a Chymorth os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, efallai y byddwch yn medru cael Cyngor a Chymorth gan ddibynnu ar faint o incwm sydd gennych a’ch amgylchiadau personol.

Os nad ydych yn cael un o'r budd-daliadau hyn neu Gredyd Treth Gwaith, fe fyddwch ond yn cael Cyngor a Chymorth os yw eich incwm a'ch cynilion yn is na swm penodol.

Help gyda chynrychiolaeth yn y llys

Mae yna dair ffordd bosib y byddwch yn medru cael cymorth os oes angen i chi gael eich cynrychioli yn y llys ar gyfer trosedd.

Gorchymyn Cynrychiolaeth

Mae Gorchymyn Cynrychiolaeth yn cynnwys cynrychiolaeth gan gyfreithiwr ac, os oes angen, gan fargyfreithiwr mewn achos troseddol.

Er mwyn i chi fedru bod yn gymwys i gael Gorchymyn Cynrychiolaeth mewn llys ynadon, mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau ariannol penodol. Byddwch yn cwrdd â'r amodau hyn yn awtomatig os ydych yn iau nag 18 (neu'n iau na 18 ac mewn addysg llawn amser). Hefyd, fe fyddwch yn cwrdd â'r amodau hyn yn awtomatig os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn. Fel arall, mae'r amodau ariannol yn dibynnu ar eich incwm gros a faint o blant dibynnol sydd gennych. Os nad oes gennych unrhyw blant, ni fyddwch yn cael cymorth cyfreithiol troseddol yn y llys ynadon os oes incwm gros o fwy na £21,487 gennych.

Os ydych yn cwrdd â'r amodau ariannol, fel arfer, byddwch yn cael help gyda chynrychiolaeth mewn achos troseddol yn y llys ynadon, ar yr amod ei fod er budd cyfiawnder eich bod yn cael cynrychiolaeth gyfreithiol. Mae hyn golygu, er enghraifft, os ydych yn debygol o fynd i'r carchar neu golli eich swydd os yw'r llys yn eich cael yn euog.

Nid oes unrhyw amodau ariannol ar gyfer cael Gorchymyn Cynrychiolaeth yn Llys y Goron. Rhaid ei fod er budd cyfiawnder eich bod yn cael cynrychiolaeth gyfreithiol yn Llys y Goron. Os yw’r Llys yn eich cael yn euog, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at eich costau, gan ddibynnu ar eich incwm a’ch cyfalaf.

Ers Ionawr 2010, mae yna brawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol troseddol yn rhai o lysoedd y Goron ac fe fydd yn cael ei gyflwyno yn llysoedd eraill y Goron rhwng Ebrill a Mehefin 2010. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrannu tuag at gost eich amddiffyniad, o’ch incwm a/neu’ch cyfalaf.

Os oes incwm o dros £283 y mis gennych sydd ar gael i’w wario, fe fydd yn rhaid i chi roi pum cyfraniad o’ch incwm. Os ydych yn hwyr yn talu, fe fydd yn rhaid i chi wneud un taliad ychwanegol.

Os bydd y llys yn eich cael yn euog ac mae gennych gyfalaf dros £30,000, efallai y gofynnir i chi dalu cyfraniad o’ch cyfalaf.

Os yw’r llys yn penderfynu nad ydych yn euog, fe fyddwch yn cael eich taliadau yn ôl.

Mae gwybodaeth bellach ar gymorth cyfreithiol troseddol ar wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn taflen o’r enw “Your Defence in the Courts: An essential guide”. Mae’r daflen ar gael yn (New window) www.legalservices.gov.uk ac mae fersiwn Cymraeg “Eich Amddiffyniad yn y Llysoedd: Canllaw hanfodol” ar gael yn (New window) www.legalservices.gov.uk.

I ofyn am Orchymyn Cynrychiolaeth, gofynnwch am ffurflen gais yn y llys sy'n delio gyda'ch achos.

Cymorth Eiriolaeth

Mae Cymorth Eiriolaeth yn cynnwys costau cael cyfreithiwr i baratoi eich achos a chynrychiolaeth gychwynnol mewn rhai achosion penodol fel::

  • carcharorion sy'n wynebu siarsiau disgyblu
  • carcharorion â dedfryd o garchar am oes sy'n cael eu hatgyfeirio at y Bwrdd Parôl
  • warantau ar gyfer daliad pellach.

Nid oes rhaid i chi gwrdd ag unrhyw amodau ariannol i fod yn gymwys ar gyfer Cymorth Eiriolaeth os mai gwrandawiad carchar ydyw.

Cyngor a chynrychiolaeth rhad ac am ddim yn y llys ynadon

Os na chawsoch chi gyngor cyfreithiol cyn i'r achos ddod gerbron y llys ynadon, mae'n bosib i chi gael cyngor a chynrychiolaeth rhad ac am ddim gan 'gyfreithiwr â dyletswydd' y llys. Nid yw hyn yn berthnasol i achosion llai difrifol, fel troseddau gyrru llai ond efallai y bydd yn medru cynnwys achosion ble na thalwyd treth gyngor.

Nid oes rhaid i chi gwrdd ag unrhyw amodau ariannol i gael cyngor a chynrychiolaeth rhad ac am ddim yn y llys ynadon.

Fe fydd staff y llys yn dweud wrthych sut i ddod o hyd i gyfreithiwr â dyletswydd.

Mwy o wybodaeth am gymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol

Am fwy o wybodaeth am gymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol, ewch at wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a darllenwch y daflen o'r enw (New window) A practical guide to Criminal Defence Services.

Nôl i’r brig



Ffioedd Llys

Os ydych chi’n dymuno dechrau achos llys, fe fydd angen i chi dalu ffi i’r llys. Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd y ffi yn cael ei ildio neu ei ostwng, er enghraifft:

  • am eich bod yn derbyn rhai budd-daliadau fel Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • am fod eich incwm yn isel
  • oherwydd caledi ariannol.

Rydych yn medru gofyn i’r llys ddweud wrthych sut i ofyn am ostwng neu ildio ffioedd, neu mae gwybodaeth bellach a ffurflen EX 160, yr ydych yn medru ei defnyddio i ofyn am ostwng neu ildio ffi, ar gael ar wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn (New window) www.hmcourts-service.gov.uk.

Nôl i’r brig



Mathau eraill o help cyfreithiol

Gan ddibynnu ar natur eich problem, efallai y byddwch yn medru cael help cyfreithiol o ffynonellau eraill. Mae rhai o'r rhain wedi eu rhestru isod.

Cyfweliad ffi sefydlog

Efallai y bydd rhai cyfreithwyr yn rhoi hyd at hanner awr o gyngor cyfreithiol am ffi sefydlog a gytunwyd ymlaen llaw. Efallai y bydd rhai cynlluniau'n cynnwys rhywfaint o gyngor rhad ac am ddim. Mae hyn yn medru bod yn ddefnyddiol os ydych am gael syniad a yw'n werth amddiffyn eich achos neu barhau gyda'r achos.

Nid yw'r cynllun cyfweliad ffi sefydlog yn dibynnu ar eich incwm na'ch cynilion - fe fydd y tâl yr un faint i bawb.

Fe fydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol yn medru eich cyfeirio chi at gyfreithwyr sy'n medru cynnig y gwasanaeth hwn. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Undebau llafur

Efallai y bydd undebau llafur yn rhoi Cynrychiolaeth Gyfreithiol rhad ac am ddim ar gyfer amrywiaeth o broblemau, nid dim ond materion yn ymwneud â gwaith. Efallai y bydd cynrychiolaeth rhad ac am ddim gan undebau llafur yn fwy addas i chi na Chynrychiolaeth Gyfreithiol oherwydd ni fydd yn rhaid i chi roi cyfraniad ariannol tuag at help cyfreithiol gan eich undeb.

Mudiadau moduro

Efallai y bydd mudiadau moduro'n cynnig gwasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim, neu ratach, os ydych yn aelod.

Yswiriant treuliau cyfreithiol

Mae rhai cwmnïau yswiriant yn cynnig polisïau sy'n cynnwys costau rhai materion cyfreithiol penodol, er enghraifft, dadleuon defnyddwyr, anafiadau personol, problemau cyflogaeth a throseddau moduro. Mae'n bwysig i chi ystyried yr hyn y mae'r polisi'n ei gynnig yn ofalus. Fe fydd llawer o bolisïau ddim yn cynnwys rhai mathau o gostau cyfreithiol neu ddim yn talu am gost lawn yr achos.

Mae mudiadau eraill fel Which? Yn cynnig gwasanaeth cyngor cyfreithiol os ydych yn talu tâl tanysgrifiad.

Efallai y bydd gennych bolisi yswiriant neu gerdyn credyd sy'n cynnig cyngor cyfreithiol i chi fel rhywbeth ychwanegol. Mae'n werth darllen eich polisïau yswiriant a'ch cytundebau cerdyn credyd os ydych yn cael problemau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Which? Gweler Help pellach yn Prynu gwasanaethau - eich hawliau.

Canolfannau cyfraith

Mewn rhai ardaloedd, mae yna ganolfannau cyfraith sy'n rhoi cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim. Maen nhw'n dueddol o arbenigo mewn achosion yn ymwneud â thai, cyflogaeth, mewnfudo, troseddau ieuenctid a budd-daliadau lles. Efallai y bydd canolfan gyfraith yn cymryd achos ble nad oes cymorth cyfreithiol ar gael, ond efallai hefyd y bydd ganddi gytundeb i ddarparu cymorth cyfreithiol.

Gellir cael cyfeiriad eich canolfan gyfraith leol gan Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith. Dyma'r cyfeiriad:-

Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401

E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

LawWorks

Mae LawWorks yn fudiad sy’n dod â phobl i gysylltiad gyda chyfreithiwr sy’n medru rhoi cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim. Mae ond yn helpu pobl sydd ddim yn medru fforddio talu ac sydd ddim yn medru cael cymorth cyfreithiol.

Mae ffurflen gais ar gael gan eich canolfan CAB neu asiantaeth gyngor leol, a fydd yn medru cyfeirio eich achos.

Dyma gyfeiriad Lawworks:-

LawWorks
10-13 Lovat Lane
London
EC3R 8DN
Rhif Ffôn: 020 7929 5601

E-bost: enquiries@lawworks.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawworks.org.uk

Uned Pro Bono y Bar

Mae Uned Pro Bono y Bar yn helpu pobl gyda chyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth rhad ac am ddim gan fargyfreithwyr gwirfoddol. Mae ond yn helpu pobl sydd ddim yn medru fforddio talu ac sydd ddim yn medru cael cymorth cyfreithiol.

Mae ffurflen gais ar gael gan eich canolfan CAB neu ganolfan gyfraith leol, a fydd yn medru cyfeirio eich achos.

Dyma gyfeiriad Uned Pro Bono y Bar:-

289-293 High Holborn
London
WC1V 7HZ

Rhif Ffôn: 020 7611 9500
Ffacs: 020 7611 9505
E-bost: enquiries@barprobono.org.uk
Gwefan: (New window) www.barprobono.org.uk

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cytundebau ffi amodol

Gyda phob achos sifil sydd ddim yn ymwneud â'r teulu, efallai y byddwch yn medru dod i gytundeb ffi amodol gyda chyfreithiwr. Mae hyn yn golygu, os ydych yn colli'r achos, fe fyddwch ond yn gorfod talu costau'r ochr arall a, gan ddibynnu ar y cytundeb, y costau y mae'n rhaid i'r cyfreithiwr eu talu allan, gan gynnwys ffioedd unrhyw fargyfreithiwr. Os ydych yn ennill yr achos, fe fyddwch chi'n talu ffi uwch i'ch cyfreithiwr. Mewn rhai achosion penodol, fe fyddwch yn medru cymryd polisi yswiriant arbennig sy'n medru talu eich costau os ydych yn colli'r achos.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am gytundebau ffi amodol, gweler Hawlio iawndal am anafiadau personol - cytundebau dim canlyniad, dim costau, yn y Taflenni ffeithiau cyfreithiol.

Os ydych yn ystyried dod i gytundeb ffi amodol, dylech ddarllen amodau'r cytundeb yn ofalus iawn. Efallai y byddwch am gael cyngor gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig