Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dw i wedi cael fy ngalw i wasanaethu ar reithgor ond dw i eisoes wedi trefnu i fynd ar fy ngwyliau ar yr adeg yna. Beth fedrai wneud?

Mae'r  wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Gallwch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os oes gennych ddigwyddiad teuluol pwysig, fel gwyliau, yr ydych eisoes wedi'i drefnu ac wedi talu amdano. Mae apwyntiad ysbyty sydd wedi ei drefnu ers tipyn, gwella ar ôl llawdriniaeth neu briodas teuluol hefyd yn medru bod yn resymau tros ohirio. Cyfeirir at y broses o ohirio am y rhesymau hyn fel gohirio gwasanaeth rheithgor (deferral of jury service).

Efallai y bydd eich gwyliau yn eich hatal rhag gwasanaethu ar rheithgor ar yr adeg y cawsoch eich galw i wasanaethu ond ni fydd yn eich hatal rhag gwasanaethu ar ddyddiad arall. Os caiff eich gwasanaeth ei ohirio, yna gofynnir i chi gadarnhau dyddiadau yn y flwyddyn pan na fyddwch yn medru gwasanaethu, fel y cewch ddyddiad newydd sy'n gyfleus. Gellir gohirio gwasanaeth rheithgor unwaith yn unig.

Fe fyddwch yn gwneud cais am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor trwy gwblhau'r adran yn y ffurflen wys o dan y pennawd ‘Gohirio ac Esgusodi ‘ (Deferral and Excusal). Wedi derbyn eich cais, fe fyddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau'r gohiriad ac yn nodi dyddiad newydd ar gyfer eich gwasanaeth rheithgor. Ni fedrwch ohirio ddwywaith ac mae'n rhaid i chi fod yn bresennol ar yr ail achlysur.

Mae mwy o wybodaeth ynglyn â gwasanaeth rheithgor yn:(New window) www.direct.gov.uk.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion cyfreithiol: