Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dw i'n brysur iawn yn y gwaith – a oes rhaid i mi wasanaethu ar reithgor?

Mae'r  wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Mae ymrwymiadau gwaith yn medru bod yn bwysig ac yn anodd eu torri. Nid yw bod yn brysur yn y gwaith yn ddigon i'ch hesgusodi rhag gwneud gwasanaeth rheithgor yn gyfan gwbl, ond fe allwch ofyn am ohirio eich gwasanaeth hyd nes dyddiad yn hwyrach. Cyfeirir at ohirio am y math yma o reswm personol fel gohirio gwasanaeth rheithgor (deferral of jury service).

Efallai y bydd eich hymrwymiadau gwaith yn eich hatal rhag gwasanaethu ar reithgor ar yr adeg y cawsoch eich galw i wasanaethu ond ni fydd yn eich hatal rhag gwasanaethu ar ddyddiad arall. Os caiff eich gwasanaeth ei ohirio, yna gofynnir i chi gadarnhau dyddiadau yn y flwyddyn pan na fyddwch yn medru gwasanaethu, fel y cewch ddyddiad newydd sy'n gyfleus. Gellir gohirio gwasanaeth rheithgor unwaith yn unig.

Fe fyddwch yn medru gwneud cais am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor trwy gwblhau'r adran yn y ffurflen wys o dan y pennawd ‘Gohirio ac Esgusodi‘ (Deferral and Excusal). Wedi derbyn eich cais, fe fyddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau'r gohiriad ac yn nodi dyddiad newydd ar gyfer eich gwasanaeth rheithgor. Ni fedrwch ohirio ddwywaith ac mae'n rhaid i chi fod yn bresennol ar yr ail achlysur.

Mae mwy o wybodaeth ynglyn â gwasanaeth rheithgor yn: (New window) www.direct.gov.uk.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion cyfreithiol: