Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy mhartner wedi'i anfon i'r carchar – o ble fedrai gael cyngor a gwybodaeth ar fy nghyfer i a fy mhartner?

Mae'r  wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Os ydyw'ch partner am apelio yn erbyn ei dedfryd, neu angen cymorth cyfreithiol o fath arall, dylid cysylltu â'r cyfreithiwr a fu'n gweithredu ar ei rhan cyn mynd i'r carchar. Os nad oes gan eich partner gyfreithiwr, yna dylai gysylltu ag un o'r mudiadau a restrir yn nes ymlaen ar y dudalen hon, sy'n medru helpu.

Mae yna reolau ynglyn â phwy sy'n medru ymweld a pha mor aml. Os ydyw'ch partner yn aros ei phrawf yn y ddalfa, yna nid yw'r rheolau ymweld mor llym ond mae angen i chi ffonio i drefnu amser ar gyfer eich ymweliad. Os yw eich partner wedi'i barnu'n euog, bydd angen i chi wneud cais am orchymyn ymweld.

Os ydyw'ch partner yn dymuno cwyno ynglyn â'r amodau yn y carchar, mae yna weithdrefnau safonol ar gyfer gwneud hynny. Efallai y byddwch yn medru helpu.

Efallai fod angen i chi neu'ch partner roi trefn ar fudd-daliadau a phroblemau thai, materion yn ymwneud â phlant neu broblemau gyda dyledion. Mae yna fudiadau sy'n medru helpu gyda'r materion yma a materion eraill.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â charcharorion, gweler Carcharorion.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag amrywiaeth o broblemau sy'n effeithio ar garcharorion a'u ffrindiau a'u teuluoedd, gweler y Taflenni ffeithiau i Garcharorion.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion cyfreithiol: