Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Nid cyfreithwyr yw'r unig bobl sy'n gallu darparu cyngor cyfreithiol. Efallai bod cymorth cyfreithiol ar gael gan bobl broffesiynol eraill, er enghraifft cyfrifydd sy'n medru rhoi cyngor ar gyfraith y cwmni a threth. Gellir cael cymorth cyfreithiol o ganolfannau cyngor fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, canolfannau cyngor ar dai, canolfannau cyngor ariannol, canolfannau cyfraith a mudiadau eraill fel undebau llafur a mudiadau moduro. Gallwch hefyd gynrychioli'ch hun mewn trefniadau llys ac efallai y bydd gennych ffrind neu gynrychiolydd nad yw'n gyfreithiwr i'ch helpu yn y llys. Os ydych yn credu bod arnoch angen cyfreithiwr, dylech ddewis un sydd â phrofiad ym maes perthnasol y gyfraith. Er enghraifft, os ydych yn ceisio gwarchodaeth plant dylech fynd at arbenigwr yng nghyfraith y teulu.
Os oes angen help arnoch gyda chostau cyfreithiol, mae'n bosib bod help ar gael i chi drwy'r cynllun cymorth cyfreithiol. Mae'r cynllun yma'n helpu pobl sydd ar incwm isel i gael cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim ar unrhyw broblemau cyfreithiol, ysgrifennu llythyron, trafod, cael barn bargyfreithiwr a pharatoi achos ysgrifenedig ar gyfer tribiwnlys. Ni fydd y cynllun yn talu i chi gael eich cynrychioli gan gyfreithiwr yn y llys er bod yna gynlluniau eraill a allai helpu mewn amgylchiadau cyfyngedig.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth cyfreithiol, bydd angen i chi weld cyfreithiwr, neu fudiad sydd â chytundeb i ddarparu cymorth cyfreithiol o dan y cynllun cymorth cyfreithiol, er enghraifft Canolfan Cyngor ar Bopeth neu Ganolfan Cyfraith. Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais ar gychwyn y cyfweliad i weld a ydych yn gymwys.
Mae yna ffyrdd eraill o gael cymorth cyfreithiol am gostau llai. Mae'r rhain yn cynnwys cyfweliadau ffi sefydlog gyda chyfreithiwr. Gall Undebau Llafur helpu gyda phroblemau yn ymwneud â chyflogaeth a gall mudiadau moduro helpu gydag unrhyw faterion o brynu car i yswiriant.
Os ydych mewn gorsaf heddlu, neu wedi cael eich cyhuddo o drosedd lle mae'n bosib y cewch eich dedfrydu i garchar, gallwch gael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim o dan gynllun cyfreithiwr dyletswydd.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â help gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â dewis cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau i gyngor cyfreithiol wedi i chi gael eich arestio, gweler Pwerau'r heddlu.