Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydych wedi eich cael yn euog o drosedd, fe allai hyn olygu nad oes hawl gennych i wasanaethu ar reithgor. Nid yw pob euogfarn yn cyfrif, ond mae cyfnodau yn y carchar, dedfryd ohiriedig o garchariad neu orchymyn cymunedol yn medru eich heithrio.
Pan cewch eich galw i wasanaethu ar reithgor, gofynnir i chi gwblhau ffurflen wys ac mae'r ffurflen yn rhestru'r mathau o euogfarnau y mae'n rhaid eu datgan cyn i chi fedru gwasanaethu ar reithgor.
Mae mwy o wybodaeth ynglyn â gwasanaeth rheithgor yn: www.direct.gov.uk.