Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon hefyd ar gael mewn ieithoedd heblam am Saesneg.
I ddarllen yr wybodaeth hon mewn ieithoedd eraill, ewch at wefan Multikulti yn: www.multikulti.org.uk.
Mae rheoli mewnfudiad yn ymwneud â'r ffordd y mae pobl o wledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn cael dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, pam maen nhw'n cael gwneud hynny ac am ba hyd y maen nhw'n cael aros. Mae hefyd yn cynnwys yr hyn y maen nhw'n cael gwneud tra'u bod nhw yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft a ydyn nhw'n gallu gweithio, a fydd perthnasau'n cael dod i'r Deyrnas Unedig i ymuno â nhw wedi hynny, ac a ydyn nhw'n gallu defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu hawlio budd-daliadau.
Mae'r rheolau ynglyn â rheoli mewnfudiad (sydd yn gyfraith) yn gymhleth oherwydd maen nhw'n gorgyffwrdd â chyfraith cenedligrwydd – hynny yw, y gyfraith sy'n ymwneud â phwy sy'n ddinesydd Prydeinig, a hawliau gwahanol fathau o ddinasyddion Prydeinig.
Mae'r system mewnfudo yn y Deyrnas Unedig yn rhannu pobl yn ddau gategori eang: y rheiny sydd â'r 'hawl i fyw' yn y Deyrnas Unedig ac sy'n gallu byw, gweithio a symud i mewn ac allan o'r wlad fel maen nhw eisiau, a'r rheiny sydd angen caniatâd er mwyn dod yma ac aros yma.
Mae yna rhai grwpiau o bobl sydd ddim yn ffitio'n hawdd i mewn i'r ddau gategori yma, ac sydd ddim yn gorfod cael caniatâd i 'ddod i mewn i'r wlad' ac i adael er nad oes ganddyn nhw'r hawl i fyw yma. Mae'r grwp yma'n cynnwys pobl su'n gallu elwa o hawliau rhyddid i symud Ewropeaidd.
Am ragor o wybodaeth am hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DU, gweler EEA: eich hawliau yn y DU ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk/eerights.
Lle mae pobl angen caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig, mae rheolau mewnfudo yn gosod ffyrdd gwahanol o'i ganiatáu. Dyma rhai enghreifftiau o gategorïau mewnfudo gwahanol: 'ymwelydd', 'cymar', 'au pair' a 'myfyriwr'. Ym mhob categori, mae'r rheolau'n nodi'r gofynion gwahanol y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff rhywun ganiatâd i ddod yma i aros. Er enghraifft, mae'n rhaid i fyfyrwyr ddangos y byddan nhw'n dilyn cwrs astudiaeth llawn amser. Mae'r rheolau'n gofyn i'r rhan fwyaf o gategorïau o bobl sy'n dod i'r Deyrnas Unedig allu eu cynnal eu hun heb ddibynnu ar arian cyhoeddus.
Mae'r rheolau mewnfudo hefyd yn nodi am ba mor hir y dylid rhoi'r caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig. Fe all yr hawl i aros fod yn gyfyngedig neu'n ddiderfyn. Rhoddir caniatâd cyfyngedig i bobl sy'n dod i mewn i'r Deyrnas Unedig am rhesymau 'dros dro, er enghraifft, fel myfyriwr. Fe fydd eraill sy'n gofyn am hawl i aros yn gallu aros yma'n ddiderfyn, gyda'r posibilrwydd y byddant yn gallu ceisio dod yn ddinasyddion Prydeinig.
Fe fydd angen i'r rhan fwyaf o bobl mewn categorïau 'dros dro;, fel ymwelwr, ddangos hefyd eu bod yn bwriadu gadael y wlad pan fydd diben eu cyfnod yma wedi dod i ben.
Fel arfer, fe fydd pobl sy'n gorfod cael caniatâd i ddod i'r Deyrnas Unedig yn gorfod cael eu mynediad wedi'i glirio er mwyn dangos bod hawl ganddynt i ddod i'r Deyrnas Unedig o dan rheolau mewnfudo. Mae yna rheolau manwl ar sut i fod yn gymwys i gael eich mynediad wedi'i glirio o fewn pob categori ymgeisydd sy'n dod i'r Deyrnas Unedig. Nid oes angen clirio mynediad rhai grwpiau, fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ond mae ei angen ar y rhan fwyaf.
Yng ngweddill yr wybodaeth yma, fe welwch chi rhai o'r problemau mewnfudo y gallech fod angen cyngor arnynt, ynghyd â rhestr o fudiadau a allai eich helpu. Dylech gofio bod deddfau mewnfudo yn cael eu gorfodi'n llym yn y Deyrnas Unedig ac fe allech wynebu canlyniadau difrifol os ydych yn camddeall eich hawliau yma. Fe allech gael eich halltudio. Mae'n bwysig iawn, felly, eich bod yn cael cyngor gan gynghorydd arbenigol os nad ydych yn siwr o'ch sefyllfa, neu sefyllfa ffrind neu aelod o'r teulu.
Fe all eich Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol roi mwy o wybodaeth i chi am sut i gael help gyda phroblemau yn ymwneud â mewnfudo. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae cyfraith mewnfudo yn ymwneud a sut a pham mae pobl o wledydd tu allan i’r Deyrnas Unedig yn cael dod i’r DU a pha mor hir maen nhw’n cael aros. Mae hefyd yn ymwneud â’r hyn maen nhw’n cael ei wneud pan yn y DU, er enghraifft a ydyn nhw’n cael gweithio, a ydyw eu perthnasau’n cael dod i’r DU i ymuno â nhw, ac a ydyn nhw’n cael defnyddio’r Gwasnaeth Iechyd Gwladol neu hawlio budd-daliadau.
Mae cyfraith mewnfudo yn mynd yn fwy cymhleth am ei fod yn gorgyffwrdd â chyfraith cenedligrwydd - hynny yw, y gyfraith ynglyn â phwy sy’n ddinasyddion Prydeinig, a hawliau’r gwahanol fath o ddinesydd Prydeinig. Am fod y cyfreithiau yma mor gymhleth, byddai rhoi unrhyw ganllawiau cyffredinol arnynt yn gamarweiniol. Yn hytrach, mae’r gyfraith yma’n cynnwys rhestr o’r prif broblemau a allai godi, a rhestr o’r cymdeithasau a fyddai’n gallu helpu.
Gall problemau mewfudo fod yn gymhleth iawn ac os oes angen cyngor arnoch, dylech fynd at y Ganolfan Gynghori leol. Er mwyn chwilio am eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rheini a all roi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae’n bosib y bydd angen cyngor ar fewnfudo / cenedligrwydd os oes gennych un o'r problemau canlynol.
Dyma enghreifftiau o broblemau y mae'n bosib eich bod angen cyngor arnynt:-
Mae'n rhaid fod pob cynghorydd ar fewnfudo wedi'i gofrestru gyda Chomisiynydd Swyddfa Gwasanaethau Mewnfudo (yr OISC), neu fod yn gynghorydd gyda mudiad sydd wedi’i eithrio rhag cofrestru. Mae’r ganolfan Cyngor ar Bopeth wedi'i heithrio rhag cofrestru ond mae ond yn medru rhoi cyngor sylfaenol ar fewnfudo hyd at Lefel Un yr OISC. Mae manylion pellach am Lefel Un yr OISC ar wefan yr OISC yn www.oisc.gov.uk.
Bydd unrhyw un sydd yn rhoi cyngor ar fewnfudo ac sydd heb ei gofrestru nac wedi'i eithrio, yn troseddu. Dylai pob asiantaeth gyngor sydd wedi'i chofrestru neu sydd wedi'i heithrio arddangos tystysgrif a gyhoeddwyd gan yr OISC i ddangos ei bod yn cwrdd â safonau’r OISC. Gallwch gysylltu â’r OISC yn:-
5th Floor
Counting House
53 Tooley Street
London
SE1 2QN
Llinell gymorth: 0845 000 0046 (ar gyfer ymholiadau cyffredinol)
Gwefan: www.oisc.org.uk
Gellir gweld rhestr o bob cynghorydd ac asiantaeth cyngor cofrestredig a chynghorwyr ac asiantaethau cyngor sydd wedi'u heithrio ar wefan OISC. Nid yw'r OISC yn delio ag ymholiadau ynglyn â phroblemau mewnfudo.
(Pencadlys)
County House
190 Great Dover Street
London
SE1 4YB
Ffôn: 0844 974 4000 (mae'r rhif yma'n eich cyfeirio chi at eich swyddfa leol agosaf)
Mae IAS yn rhoi cyngor ar fewnfudo o swyddfeydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae cyngor a chynrychiolaeth yn rhad ac am ddim i bobl sydd â hawl i Gymorth Cyfreithiol. Mae IAS hefyd yn darparu gwasanaeth talu ffioedd i unigolion sydd ddim â hawl i Gymorth Cyfreithiol. Mae manylion y gwasanaeth hwn ar wefan IAS.
Gellir cael manylion swyddfeydd rhanbarthol IAS o'r dudalen Contact Us ar wefan IAS yn: www.iasuk.org.
Nelson House
153-157 Commercial Road
London
E1 2DA
Rhif Ffôn: 020 7780 3200 (gwybodaeth gyffredinol)
Ffacs: 020 7780 3201
Sesiynau cyngor galw-i-mewn: Llun, Mercher, Gwener 9.30yb-1.00yp
Llinell gyngor os ydych yn cael eich dal: 0800 592 398 (Llun, Mercher a Gwener 10.30yb-1.00yp: 2.00yp-4.00yp)
Llinell frys tu allan i oriau gwaith: 07831 598 057 (ar ôl 6yh)
E-bost: rlc@rmj.org.uk
Gwefan: www.rmj.org.uk
Gall Refugee and Migrant Justice roi cyngor a help i’r rheiny sy’n ceisio lloches a ffoaduriaid. Mae hyn yn cynnwys helpu gyda cheisiadau, rhoi cyngor ar fynediad / rhyddhad dros dro, gwrthod lloches, aduno teuluoedd, a chynrychioli apeliadau mewn llys. Maen nhw’n cyfeirio pobl at asiantaethau eraill ar gyfer addysg, lles a gwasanaethau tai.
Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth cyngor ar sail apwyntiad. Mae’n cynnal sesiynau cyngor o 9.30 y bore yn ystod yr wythnos (heblaw am Ddydd Mawrth a Dydd Iau). Mae’n bosib gwneud apwyntiad trwy ffonio’r brif linell gyngor. Mae terfyn ar y nifer o bob y gall y ganolfan eu gweld heb apwyntiadau. Fe fydd ymholiadau yn cael eu hasesu ar ôl i chi gyrraedd. Fe fydd pobl sydd â’r angen mwyaf yn cael eu gweld yn gyntaf.
Mae'r Cyngor Ffoaduriaid hefyd yn rhedeg nifer o linellau cyngor ledled Lloegr. Rhoddir mwyafrif y cyngor yn Saesneg, ond mae unrhyw un sy'n ffonio ac am siarad yn eu hiaith eu hunain yn medru ffonio'r llinellau cyngor i drefnu ymweliad â un o swyddfeydd y Cyngor Ffoaduriaid yn eu hardal. Am wybodaeth bellach ynghylch y llinellau cyngor, ewch at wefan y Cyngor Ffoaduriaid – gweler isod.
240-250 Ferndale Road
London
SW9 8BB
Ffôn: 020 7346 6700
Ffacs: 020 7346 6701
Gwefan: www.refugeecouncil.org.uk
Ty Phoenix
389 Newport Road
Caerdydd
CF24 1TP
Rhif ffôn:029 2048 9800
E-bost: info@welshrefugeecouncil.org
Gwefan: www.welshrefugeecouncil.org
Mae’r Cyngor Ffoaduriaid yng Nghymru a Lloegr yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bob ffoadur a phob un sy’n ceisio lloches. Fel rhan o hyn, mae’n gweithredu gwasanaeth un stop, gan gynnig cyngor a chefnogaeth i ffoaduriaid a’r rheiny sy’n ceisio lloches sydd newydd gyrraedd ar fudd-daliadau gwasanaethau cymdeithasol, tai, mewnfudo ac addysg. Nid oes angen apwyntiad, ond fe fydd y cyntaf i gyrraedd yn cael ei (g)weld yn gyntaf. Mae’r Cyngor Ffoaduriaid hefyd yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith. Mae’r gwasanaeth un stop wedi’i lleoli yn:-
240-250 Ferndale Road
London
SW9 8BB
Ffôn: 020 7346 6777 (llinell gyngor - Llun-Gwener, 10.00am - 4.00pm)
5 Cadogan Square
(170 Blythswood Court)
Glasgow
G2 7PH
Rhif Ffôn: 0141 248 9799
Ffacs: 0141 243 2499
Llinell Gymorth: 0800 085 6087 (Llun–Gwe 9:30yb-4.00yp, ar gau 1.00yp-2.00yp ac eithrio ar Ddydd Mercher pan fydd ar agor o 1.00yp-4.00yp)
Gwefan: www.scottishrefugeecouncil.org.uk
E-bost: info@scottishrefugeecouncil.org.uk
Mae Cyngor Ffoaduriaid yr Alban yn gweithio gyda ffoaduriaid a’r rheiny sy’n ceisio lloches sy’n byw yn yr Alban a gyda cymdeithasau cymunedol sy’n ymwneud â ffoaduriaid. Mae hefyd yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles, tai, addysg a iechyd, er enghraifft.
PO Box 51524
London
SE1 7ZW
Ffôn: 020 7922 7812 (gweinyddol Mawrth-Iau)
Llinell Gymorth: 020 7922 7811 (Mawrth-Iau)
E-bost: followup@uklgig.org.uk
Gwefan: www.uklgig.org.uk
Mae UKLGIG yn gymdeithas lobïo ac ymgyrchu cenedlaethol sy’n gweithio dros degwch cyfreithiol i lesbiaid a hoywon. Mae UKLGIG yn grwp cefnogi ac ymgyrchu ar gyfer parau lesbiaidd a hoyw sydd â phroblemau mewnfudo na fyddent yn eu wynebu petaent yn wahanrywiol. Mae'r grwp yn gweithio i newid y rheolau mewnfudo er mwyn cael gwared ar y gwahaniaethu yma. Mae hefyd yn trefnu cyfnewid gwybodaeth, yn darparu rhwydwaith gefnogi ac yn cyngori ar geisiadau i'r Swyddfa Gartref ac yn eu cefnogi.
9-17 St Alban’s Place
London N1 ONX
Ffôn: 020 7288 4330 (gweinyddiaeth yn unig)
Ffacs: 020 7288 4360
Gwefan: www.ukcisa.org.uk
Mae UKCISA yn ymgyrchu ar ran myfyrwyr tramor ac yn cynhyrchu nifer o lyfrynnau defnyddiol iawn ar broblemau myfyrwyr. Dylai myfyrwyr rhyngwladol unigol sy'n chwilio am gyngor gysylltu â'u swyddfa Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr lleol (mae modd cysylltu â nhw drwy bencadlys yr UCM). Mewn argyfwng, mae'n bosib ffonio UKCISA ar y linell gwaith achos cyhoeddus: 020 7107 9922 (Llun-Gwener 1.00-6.00pm).
Independent Police Complaints Commission
5th Floor
90 High Holborn
London
WC1V 6BH
Ffôn: 08453 002 002
Ffacs: 02920 361948
E-bost: enquiries@ipcc.gsi.gov.uk
Gwefan: www.ipcc.gov.uk
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu'n gyfrifol am rhai o'r cwynion ynghylch swyddogion mewnfudo. Maen nhw'n medru ymchwilio os yw swyddogion mewnfudo'n methu â chyflawni rhai o'u dyletswyddau’n iawn, er enghraifft:
Mae'r ychydig gyfreithwyr mewn practis preifat sy'n arbenigo ar waith mewnfudo, mewn gwirionedd, wedi'u lleoli yn yr ardaloedd trefol mwy.
I ddarganfod a oes yna gyfreithwyr mewn practis preifat yn eich hardal chi sy'n arbenigo mewn gwaith ar fewnfudo, gallwch gysylltu â Chymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Mewnfudo (Immigration Law Practitioners’ Association) – gweler isod.
Yng Nghymru a Lloegr, mae gan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol wefan sy'n gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer cyfreithwyr ac asiantaethau cyngor eraill sy'n rhoi cyngor arbenigol – gweler isod.
Mae'r ILPA yn gymdeithas o gyfreithwyr sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo a chenedligrwydd. Mae'n bosib y bydd yn gallu cynghori ynglyn â dod o hyd i gyfreithiwr sy'n gallu cymryd eich hachos.
Gellir cysylltu â'r ILPA yn:-
Lindsey House
40-42 Charterhouse Street
London
EC1M 6JN
Ffôn: 020 7251 8383
Ffacs: 020 7251 8384
E-bost: info@ilpa.org.uk
Gwefan: www.ilpa.org.uk
Mae NICEM yn cynrychioli cymunedau lleiafrif ethnig yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n cynrychioli eu buddiannau'n uniongyrchol ac yn fforwm ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y cymunedau yna. Mae NICEM yn mynd ar drywydd cyfiawnder, cydraddoldeb ac urddas ac yn gweithio dros newid cymdeithasol mewn cysylltiadau hil, yn enwedig cael gwared ar wahaniaethu ar sail rhyw. Mae NICEM hefyd yn gweithredu gwasanaethau cymorth derbynfa, sy'n helpu'r rheiny sy'n ceisio lloches i wneud cais i'r system Gwasanaethau Cynnal Ceiswyr Lloches a'u cynnal tra'u bod yn aros am benderfyniad, yn ogystal â chynnig cyngor.
Gellir cysylltu â NICEM yn:-
3rd Floor
Ascot House
24-31 Shaftesbury Square
Belfast
BT2 7DB
Ffôn: 028 9023 8645/(028) 90319666
Llinell gymorth mewn argyfwng: 028 9024 2025
Ffacs: 028 9031 9485
E-bost: info@nicem.org.uk
Gwefan: www.nicem.org.uk
Yng Nghymru a Lloegr, rydych yn medru defnyddio Cyfeirlyfr Cynghorwyr Cyfreithiol Cyngor Cyfreithiol Cymunedol i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal chi.
Mae'r cyfeirlyfr yn cynnwys manylion cyswllt cyfreithwyr, asiantaethau cyngor a ffynonellau cyngor arbenigol lleol. Mae gwybodaeth ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Urdu, Bengali, Cantonîaidd, Punjabi a Gujarati. Dyma'r wefan: www.communitylegaladvice.org.uk.
Rydych hefyd yn medru cael gwybodaeth ynghylch cynghorwyr cyfreithiol drwy ffonio Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar: 0845 345 4 345.
Mae llawer o gymdeithasau lleol yn darparu cyngor ar fewnfudo a chenedligrwydd, er enghraifft, canolfannau cyfraith (gweler isod) neu gynghorau cydraddoldeb hil. Mae yna rai cyfreithwyr preifat hefyd sy'n arbenigo yn y maes yma (gweler y pennawd Cyfreithwyr mewn practis preifat).
Mae ansawdd y cyngor y mae cymdeithasau lleol yn ei roi yn gallu amrywio.
Mae canolfannau cyfraith, bron yn ddieithriad, â gweithiwr sy'n arbenigo ar fewnfudo. Yn gyffredinol, mae gan ganolfannau cyfraith ddalgylchoedd eithaf llym, ac felly mae'n bwysig holi a all canolfan gyfraith yn yr ardal gymryd eich hachos chi. Weithiau, bydd y dalgylch yn cynnwys pobl sydd naill ai'n byw neu'n gweithio yn yr ardal.
Os bydd y ganolfan gyfraith yn gallu cynnig cyngor a chynrychiolaeth mewn achosion o fewnfudo, bydd yn rhad ac am ddim.
Law Centres’ Federation
Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Secretary
Scottish Association of Law Centres (SALC)
c/o Govan Law Centre
47 Burleigh St
Govan
Glasgow G51 3LB
Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: www.govanlc.com/salc
Law Centre (NI)
Central Office
124 Donegal Street
Belfast
BT1 2GY
Ffôn: 028 9024 4401
Ffacs: 028 9023 6340
E-bost: admin.belfast@lawcentreni.org
Gwefan: www.lawcentreni.org
9 Clarendon Street
Derry
BT48 7EP
Ffôn: 028 7126 2433
Ffacs: 028 7126 2343
E-bost: admin.derry@lawcentreniwest.org