Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n ddinesydd Prydeinig ac rydw i am briodi fy nghariad sy'n dod o dramor. Mae hi yn y DU ar visa myfyriwr. A oes angen i ni wneud unrhyw beth yn arbennig ynghylch ei statws yn y wlad hon?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cyn i chi briodi, fe fydd yn rhaid i chi roi rhybudd eich bod am briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil mewn swyddfa gofrestru ddynodedig. Mae pob swyddfa gofrestru yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn swyddfa ddynodedig, ac mae yna 76 swyddfa ddynodedig yng Nghymru a Lloegr. Am fwy o wybodaeth a rhestr or swyddfeydd cofrestru dynodedig yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch âr Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Rhaid i chi fynd i’r swyddfa gofrestru gyda’ch gilydd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch chi gofrestru trwy’r post – nid oes rhaid i chi fynd i’r swyddfa gofrestru yn bersonol.

Pan fyddwch chi’n rhoi rhybudd eich bod am briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil, rhaid i chi ddod â thystiolaeth o’ch:

  • ·enwau
  • ·cyfeiriadau
  • ·oed
  • ·cenedligrwydd

Os ydych chi wedi bod yn briod neu wedi cofrestru partneriaeth sifil o’r blaen, fe fydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod nawr yn rhydd i briodi neu gofrestru partneriaeth sifil a rhoi’ch tystysgrif cymeradwaeth i’r cofrestrydd.

Os ydych yn cofrestru yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon trwy’r post, fe fydd angen i chi lungopïo’r sticer yn eich pasport ac anfon y llungopi at y cofrestrydd gyda’ch papurau yn hysbysu ynghylch eich priodsa neu bartneriaeth sifil.

Pan fyddwch chi wedi rhoi eich rhybudd i briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil, rhaid i chi aros am 15 diwrnod yng Nghymru a Lloegr, neu am 14 diwrnod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, cyn i chi fedru priodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil. Yna, fe allwch chi gael eich priodas neu bartneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu safle a gymeradwywyd.

Unwaith y byddwch wedi priodi, mae'n rhaid i'ch gwraig newydd gyflwyno cais ar ffurflen yr Asiantaeth Mewnfudo a Ffiniau am ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig fel cymar. Mae yna ofynion llym y bydd yn rhaid iddi gwrdd â nhw er mwyn bodloni'r awdurdodau mewnfudo bod eich priodas yn un gwirioneddol ac y dylid gadael iddi aros. Bydd yn rhaid iddi ddangos hefyd nad oedd yn bwriadu twyllo'r awdurdodau mewnfudo wrth iddi ddod i'r wlad fel myfyriwr ac, fel pâr, bod modd i chi gynnal eich hun heb help gan y wladwriaeth unwaith y byddwch wedi priodi. I ddechrau fe fydd caniatâd i aros fel eich gwraig yn cael ei rhoi am 2 flynedd. Tua diwedd y cyfnod 2 flynedd, fe fydd yn medru gwneud cais i aros yn barhaol.

Mae cyfraith mewnfudo'r DU yn gymhleth ac mae camddehongli'r gyfraith yn medru bod yn ddifrifol. Mae bob amser yn ddoeth cysylltu â chynghorydd profiadol. I ddarganfod mwy, gweler Help gyda phroblemau mewnfudo.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â mewnfudo: