Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pan ddaethoch i'r DU, rhoddwyd hawl i chi gael mynediad ar y sail eich bod yn gadael y DU wedi i'ch fisa ymwelydd ddirwyn i ben. O dan reolau mewnfudo, ni fydd hawl gennych i aros yma i astudio. Os ydych yn dymuno bod yn fyfyriwr, bydd yn rhaid i chi adael y DU a chyflwyno cais arall i ddychwelyd fel myfyriwr yn y dyfodol. Os ydych yn aros yn y DU wedi dyddiad eich fisa, byddwch yn torri amodau eich mynediad i'r wlad. Mae hwn yn drosedd difrifol a gellir eich erlyn a'ch alltudio.
Mae cyfraith mewnfudo'r DU yn gymhleth ac mae camddehongli'r gyfraith yn medru bod yn ddifrifol. Mae bob amser yn ddoeth cysylltu â chynghorydd profiadol. I ddarganfod mwy, gweler Help gyda phroblemau mewnfudo.