Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Nid yw fy mam yn ddinesydd yn y Deyrnas Unedig ac mae'n byw dramor. Mae'n byw ar ei phen ei hun ac yn mynd yn hen ac yn fregus. Rwyf wedi ei chynnal ers sawl blwyddyn. A fedrai ddod â hi yma i fyw gyda mi yn y DU?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Efallai y byddwch yn cael dod â'ch mam i'r DU ond, yn y mwyafrif o achosion, mae yna amodau llym y bydd yn rhaid i chi a hithau gwrdd â nhw. Y peth pwysicaf yw bod hawl parhaol gennych chi i fyw yma eich hun, ac mae'n rhaid i'ch mam fod yn ddibynnol arnoch chi yn ariannol a heb berthnasau agos yn y wlad y mae'n byw ynddi.

Mae cyfraith mewnfudo'r DU yn gymhleth ac mae camddehongli'r gyfraith yn medru bod yn ddifrifol. Mae bob amser yn ddoeth cysylltu â chynghorydd profiadol. I ddarganfod mwy, gweler Help gyda phroblemau mewnfudo.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â mewnfudo: