Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy ewythr yn byw mewn gwlad ac mae yna lawer o aflonyddwch gwleidyddol a thrais yno. Mae'n dweud ei fod yn ofn gadael y ty. Mae'n holi a fyddai'n medru dod i fyw yn y DU am ychydig hyd nes i bethau dawelu.

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r DU wedi arwyddo Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar ffoaduriaid, sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i gynnig lloches i bobl sydd mewn perygl o gael eu herlid yn eu gwlad eu hun. Mae'r broses o gyflwyno cais am loches yn y DU yn hynod o gymhleth a dylech geisio cyngor arbenigol i ddarganfod a ydyw'ch ewythr yn gymwys i dderbyn lloches ar hyn o bryd. Dim ond cyfran fach iawn o geisiadau am loches sy'n llwyddiannus, felly dylech hefyd ystyried a fedrai eich ewythr ddod i'r wlad hon am reswm arall. Efallai, er enghraifft, bod ganddo gysylltiadau teuluol gyda'r DU a fedrai roi hawliau iddo fod yma hyd nes i bethau dawelu yn y wlad y mae'n byw ynddi.

Mae cyfraith mewnfudo'r DU yn gymhleth ac mae camddehongli'r gyfraith yn medru bod yn ddifrifol. Mae bob amser yn ddoeth cysylltu â chynghorydd profiadol. I ddarganfod mwy, gweler Help gyda phroblemau mewnfudo.

I gael gwybodaeth ynghylch ceisio am lloches mewn iaith heblaw am Saesneg, cliciwch ar wefan Cyngor y Ffoaduriaid yn: (New window) http://languages.refugeecouncil.org.uk.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â mewnfudo: