The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Beth yw gwahaniaethu ar sail hil
Mae rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail hil pan fyddwch chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, neu oherwydd hil rhywun yr ydych yn gysylltiedig ag ef/hi, fel eich partner.
Mae ‘hil’ yn cynnwys lliw, cenedligrwydd, dinasyddiaeth a tharddiad ethnig neu genedlaethol.
Os oes gwahaniaethu ar sail hil yn digwydd yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol, mae’n anghyfreithlon ac efallai y byddwch yn medru cymryd camau ynglŷn â’r sefyllfa:
- cyflogaeth a hyfforddiant
- addysg
- wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, er enghraifft bancio, adloniant a thrafnidiaeth
- tai
- unrhyw rai o weithgareddau awdurdodau cyhoeddus, fel y GIG, adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, yr heddlu a charchardai.
Mae gwahaniaethu ar sail hil yn medru bod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hefyd yn medru bod ar ffurf aflonyddu neu erledigaeth.
Nid oes angen i wahaniaethu ar sail hil fod yn fwriadol. Efallai y bydd rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn heb sylweddoli hynny neu heb ei olygu, ond mae hyn yn dal i fedru cyfrif fel gwahaniaethu.
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail hil
Mae trin rhywun yn llai ffafriol nag y byddai rhywun arall yn cael ei drin o dan yr un amgylchiadau, oherwydd hil, yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil. Er mwyn profi gwahaniaethu uniongyrchol ar sail hil, fe fydd o gymorth os fedrwch chi roi enghraifft o rywun o grŵp hil arall sydd, mewn amgylchiadau tebyg, wedi cael ei drin/thrin yn fwy ffafriol neu a fyddai wedi cael ei d/thrin yn llai ffafriol, na chi. Mae cam-drin hiliol ac aflonyddu hiliol yn fathau o wahaniaethu uniongyrchol.
Un enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil fyddai pan yr ydych chi o grŵp hil penodol, ac mae cyflogwr yn gwrthod eich penodi oherwydd mae’r cyflogwr yn dweud ‘na fyddech yn ffitio i mewn’ neu ‘y byddai’r cwsmeriaid yn gwrthwynebu’.
Mae hefyd yn wahaniaethu uniongyrchol os yw cyflogwr yn gwrthod swydd i chi oherwydd eich cysylltiad â rhywun arall sydd o grŵp hil penodol. Er enghraifft, efallai y bydd y cyflogwr yn gwrthod swydd i chi am fod eich partner yn Affro-Garibïaidd.
Rydw i’n Asiaidd a’r noson o’r blaen es i glwb nos gyda rhai o fy ffrindiau. Fe ddywedon nhw nad oedden ni’n gallu mynd i mewn am ei fod yn llawn. Ond, fe gerddodd grŵp o bobl wynion i mewn. A yw hyn yn wahaniaethu? A oes unrhyw beth fedrwn ni ei wneud am y peth?.
Ydy, mae hyn yn medru bod yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil. Efallai y byddwch yn medru cymryd camau yn y llys a chael iawndal, os ydych wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd hil. Ewch i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth am gyngor pellach.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil
Mae’n wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil os oes yna reol, polisi neu arfer ac mae pobl o hil, grŵp ethnig neu genedl penodol yn llai tebygol o fod yn medru cwrdd â’r rheol, y polisi neu’r arfer na phobl eraill, ac mae hyn yn golygu eu bod ar anfantais.
Mae enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol yn medru cynnwys:
- cyflogwr sy’n mynnu bod gan ymgeisydd ar gyfer swydd gymwysterau o’r Deyrnas Unedig
- gwahardd gwisgo sgarffiau pen, neu fynnu bod merched yn gwisgo sgert, yn y gwaith neu yn yr ysgol
- cyflogwr sy’n mynnu bod rhywun yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
Os ydych chi’n credu bod gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil wedi digwydd, efallai y byddwch yn medru cwyno. Ond, os yw’r person neu’r mudiad yr ydych yn cwyno amdano/i yn medru dangos bod rhesymau didwyll dros y rheol, y polisi neu’r arfer, ac nad ydyw’n ymwneud o gwbl â hil, ni fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.
Er enghraifft, efallai y bydd cyflogwr yn medru dangos pam mae angen i weithiwr fod wedi ennill ei gymwysterau yn y Deyrnas Unedig er mwyn gweithio mewn rôl benodol. Os yw’n medru gwneud hyn, ni fydd wedi gwahaniaethu.
Rydw i o darddiad Indiaidd a chefais fy nghyflogi mewn swydd achlysurol. Nawr, maen nhw wedi gofyn i’r holl weithwyr achlysurol gymryd prawf ysgrifenedig i benderfynu a ydyn ni’n gallu cadw ein swyddi. Rwy’n cael trafferth ysgrifennu yn Saesneg. Dydyn ni ddim yn gorfod ysgrifennu unrhyw beth ar gyfer y swydd ac mae fy Saesneg llafar yn iawn. Rydw i wedi cwyno i’r bos ond fe ddywedodd fod yn rhaid i mi gymryd y prawf neu adael. Oes unrhyw beth arall fedra i ei wneud?
Efallai bod achos gennych o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil. Ewch at eich canolfan Cyngor ar Bopeth am gyngor pellach ar yr hyn ddylech chi ei wneud. Maen nhw’n medru eich helpu i drafod gyda’ch cyflogwyr. Os na fydd hyn yn gweithio, efallai y byddwch yn medru dwyn honiad gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Beth yw ‘hil’
Ystyr hil yw bod yn rhan o grŵp o bobl sy’n cael eu hadnabod wrth eu hil, lliw, cenedligrwydd, dinasyddiaeth neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
Os ydych chi’n rhan o un o’r grwpiau hyn ac yn dioddef gwahaniaethu, mae hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail hil.
Hyd yn oed os nad ydych yn un o’r grwpiau hyn, mae’n dal i fod yn wahaniaethu os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn am eu bod yn credu eich bod yn unrhyw un o’r grwpiau hyn. Gelwir hyn yn wahaniaethu ar sail hil ar ganfyddiad.
Tarddiadau ethnig
Nid ydyw'n hawdd dweud beth yn union a olygir wrth 'ethnig '. Ond, mae achosion cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail hil wedi egluro p’un ai fod rhai grwpiau o bobl yn medru cael eu cynnwys fel pobl ethnig ai peidio. Mae’r rhain yn cynnwys pobl Iddewig, sipsiwn Romani, aelodau o’r gymuned o deithwyr Gwyddelig a Sikhiaid.
Nid yw Mwslimiaid na Rastaffariaid yn cyfrif fel pobl ethnig. Fodd bynnag, mae pobl o’r grwpiau hyn yn medru cwyno ynghylch gwahaniaethu oherwydd cred grefyddol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd cred grefyddol, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.
Gwahaniaethu ar sail hil trwy gysylltiad
Efallai y bydd rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd hil rhywun arall yr ydych yn ei adnabod, yn hytrach na’ch hil chi eich hun. Gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad. Er enghraifft, efallai na fydd cyflogwr yn rhoi swydd i chi, er mai chi sydd â’r cymwysterau gorau ar gyfer y swydd, oherwydd mae’r cyflogwr yn gwybod bod eich partner yn berson du. Fe fyddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ac fe fyddech yn medru cyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn honiad gerbron cyflogaeth tribiwnlys, gweler Beth fedra i ei wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil?
Erledigaeth
Os ydych yn cwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, ni ddylid eich erlid chi am i chi gwyno. Mae hyn yn golygu na ddylid eich trin yn annheg am eich bod wedi cwyno.
Mae cwyno yn cynnwys dwyn achos llys, mynd at dribiwnlys cyflogaeth neu sefyll dros eich hawliau mewn rhyw ffordd arall.
Rydych yn medru cael eich amddiffyn os cewch eich erlid am i chi gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail hil. Rydych hefyd yn medru cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu am helpu rywun arall i gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, er enghraifft, trwy roi tystiolaeth fel tyst yn y llys.
Rydw i wedi cwyno i fy rheolwr ynghylch yr iaith hiliol a ddefnyddir yn fy ngweithle. Nawr, nid oes unrhyw un yn fodlon siarad â mi. Mae’n fy ypsetio i’n fawr iawn ac yn fy ngwneud i’n sâl. Oes unrhyw beth fedra i ei wneud?
Fe allai hyn fod yn enghraifft o’r hyn a elwir yn erledigaeth. Mae erledigaeth yn anghyfreithlon. Mae yna gamau y medrwch chi eu cymryd i geisio datrys y broblem. Ewch at eich undeb llafur, os ydych yn aelod. Neu mynnwch help gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Gwahaniaethu ar sail hil mewn cyflogaeth a hyfforddiant
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd hil. Mae hyn yn cynnwys pob cyflogwr, waeth faint o bobl y mae’n eu cyflogi. Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr, gan gynnwys cyflogedigion, gweithwyr asiantaeth, pobl dan hyfforddiant a’r rheiny sy’n hunangyflogedig, amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith, Mae hyn yn cynnwys:
- recriwtio a dethol
- dyrchafiad
- hyfforddiant, cyflog a buddion
- dileu swyddi a diswyddo
- amodau a thelerau’r gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith a Beth fedra i ei wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil?
Mae’n ddyletswydd ar undebau llafur i beidio â gwahaniaethu yn erbyn eu haelodau neu’r rheiny sydd am fod yn aelodau.
Mae yna rai sefyllfaoedd pan fydd cyflogwyr yn gallu eich trin chi’n llai ffafriol oherwydd eich hil, ac ni fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.
A oes yna adegau pan fydd cyflogwyr yn gallu eich trin yn llai ffafriol oherwydd hil?
Mae yna adegau pan fydd cyflogwr yn gallu eich trin chi’n llai ffafriol oherwydd eich hil, ac ni fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu..
Os yw cyflogwr yn medru dangos eich bod chi angen bod o hil benodol er mwyn gwneud gwaith penodol, mae’n medru mynnu ei fod yn cyflogi rhywun o’r hil yna.
Gelwir hyn yn angen galwedigaethol ac nid yw’n cyfrif fel gwahaniaethu.
Un enghraifft, i ddangos ble fedrai angen galwedigaethol fod yn berthnasol, yw hostel i fenywod Asiaidd sydd wedi dioddef trais. Efallai y byddan nhw’n medru mynnu eu bod am gyflogi menywod Asiaidd yn unig oherwydd fe fyddai menywod yn yr hostel yn ei chael yn haws ymberthyn i bobl o’r un rhyw a hil, a chyfathrebu â nhw.
Gwahaniaethu ar sail hil mewn addysg
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw ysgol neu goleg wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd hil. Mae hyn yn berthnasol i ysgolion a cholegau’r wladwriaeth ac ysgolion a cholegau preifat.
Ni ddylai ysgolion neu golegau wahaniaethu yn unrhyw rai o’u polisïau a’u harferion. Mae hyn yn cynnwys eu:
- polisïau derbyn
- y ffordd y maen nhw’n trin disgyblion
- gwahardd
- penderfyniadau ynghylch anghenion addysgol arbennig disgyblion.
Mae hefyd yn ddyletswydd ar ysgolion a cholegau i amddiffyn disgyblion rhag camdriniaeth a thrais hiliol gan ddisgyblion eraill, ar safle’r ysgol, ar y ffordd i’r ysgol neu ar y ffordd adref o’r ysgol.
Beth fedrwch chi ei wneud ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil mewn addysg
Fe fyddwch yn medru cwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg neu brifysgol yn eich llys sirol lleol (llys y siryf yn yr Alban). Ond, efallai y bydd yna sawl opsiwn arall y dylech chi roi tro arnynt yn gyntaf.
Os ydych yn meddwl am ddwyn achos llys ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Efallai y byddwch hefyd yn medru cael help gan un o’r mudiadau sydd wedi eu rhestru o dan Help pellach.
Ysgolion
Os yw’ch plentyn yn dioddef gwahaniaethu neu’n dioddef camdriniaeth hiliol gan ddisgyblion eraill yn yr ysgol, dylech dynnu sylw’r pennaeth at hyn.
Dylai fod gan bob un o ysgolion y wladwriaeth bolisi clir i gael gwared ar hiliaeth a hybu cydraddoldeb hil. Mae hyn yn golygu y dylai’r ysgol gymryd camau positif i annog pobl i beidio â gwahaniaethu ar sail hil ac i atal ymosodiadau hiliol. Os oes gan yr awdurdod addysg lleol gynghorydd gyda chyfrifoldeb arbennig dros faterion hil, dylech ddweud wrtho am unrhyw ddigwyddiadau hiliol hefyd.
Os nad ydych yn hapus o hyd, fe fyddwch yn medru mynd â’ch cwyn at gorff llywodraethu’r ysgol.
Os nad oes gan ysgol neu goleg bolisi gwrth-hiliol, neu os nad yw’n barod i gymryd camau i atal gwahaniaethu ar sail hil neu ymosodiadau hiliol, dylech gael cyngor gan fudiad arbenigol ynghylch sut i gymryd camau pellach. Efallai y byddwch chi am ddweud wrth yr heddlu os oes trosedd ynghlwm, er enghraifft, os oes rhywun yn ymosod ar eich plentyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno am ysgol, gweler Problemau yn yr ysgol.
Colegau a phrifysgolion
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â choleg neu brifysgol, dylech ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r sefydliad ei hun. Os ydych yn cwyno am goleg addysg bellach sy’n cael ei ariannu gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau efallai y byddwch hefyd yn medru cwyno i’r Asiantaeth. Mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn ar wefan yr Asiantaeth yn: www.skillsfundingangency.bis.gov.uk.
Os ydych yn cwyno am brifysgol yng Nghymru neu yn Lloegr, fe fyddwch yn medru dwyn eich cwyn gerbron Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Rydych yn medru cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yn:
Third Floor
Kings Reach
38-50 King's Road
Reading
RG1 3AA
Rhif Ffôn: 0118 959 9813
Gwefan: www.oiahe.org.uk.
Gwahaniaethu ar sail hil wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn y Deyrnas Unedig wahaniaethu oherwydd hil.
Mae enghreifftiau o nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn cynnwys siopau, bancio, adloniant, trafnidiaeth a llyfrgelloedd.
Ni ddylai rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau:
- wrthod darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau ar eich cyfer oherwydd eich hil
- ddarparu unrhyw rai o’r pethau hyn ar amodau neu delerau llai ffafriol oherwydd eich hil.
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu, waeth sut mae’r nwyddau a’r gwasanaethau yn cael eu darparu neu waeth a oes rhaid i chi dalu amdanynt ai peidio.
Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth mewn siop neu dros y rhyngrwyd, pan fyddwch chi’n gwneud ymholiad dros y ffon neu pan fydd rhywun yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.
Mae yna hysbysiad yn ein tafarn lleol sy’n dweud Dim Teithwyr. Dydw i ddim yn Deithiwr fy hun, ond rwy’n teimlo bod yr hysbysiad yn gas. A oes unrhyw beth fedra i ei wneud am hyn?
Mae aelodau o’r gymuned o Deithwyr Gwyddelig yn cael eu cyfrif fel grŵp ethnig ac felly mae’r hysbysiad hwn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail hil a fwy na thebyg ei fod yn anghyfreithlon. Fe fyddai cynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, yn medru eich helpu i gwyno neu fynd â’r mater ymhellach os nad yw hyn yn datrys y broblem.
A oes yna adegau pan fydd pobl sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn gallu eich trin yn llai ffafriol oherwydd hil?
Mae clybiau, cymdeithasau ac elusennau a sefydlwyd yn arbennig i bobl o grŵp ethnig neu genedlaethol penodol yn cael gwahaniaethu mewn rhai amgylchiadau. Maen nhw’n cael gwahaniaethu yn eich erbyn chi oherwydd eich cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol. Ond, ni chânt wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich lliw.
Gwahaniaethu ar sail hil ac awdurdodau cyhoeddus
Mae’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil wrth gyflawni unrhyw rai o’i swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau GIG, llysoedd a thribiwnlysoedd, yr heddlu swyddogion a charchardai.
Ar ben hyn, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb yn weithgar.
Gwahaniaethu ar sail hil a hysbysebu
Gyda rhai eithriadau cyfyngedig, mae’n anghyfreithlon cyhoeddi neu ddarlledu hysbyseb sy’n gwahaniaethu oherwydd hil, neu sy’n hysbysebu gwasanaethau sy’n gwahaniaethu.
Os cyhoeddir hysbyseb o’r fath, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru dwyn achos llys yn erbyn y cyhoeddwr.
Gwahaniaethu ar sail hil mewn tai
Gwerthu
Mae’n anghyfreithlon i berson neu fudiad sy’n gwerthu eiddo i wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil. Mae hyn yn cynnwys gwrthod gwerthu eiddo i chi oherwydd eich hil neu gynnig yr eiddo i chi ar delerau llai ffafriol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu cartref, gweler Prynu cartref.
Mae’n anghyfreithlon i landlordiaid preifat a landlordiaid tai cymdeithasol, fel awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, wahaniaethu yn eich erbyn wrth rentu eiddo, oherwydd hil. Mae hyn yn cynnwys asiantaethau gosod. Er enghraifft:
- nid yw landlordiaid tai cymdeithasol yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd hil ar restr aros am dai
- nid yw landlordiaid nac asiantaethau gosod yn cael gwrthod rhentu eiddo i chi naill ai oherwydd eich hil, neu oherwydd hil rhywun yr ydych yn ei adnabod fel partner neu ffrind
- nid yw landlordiaid nac asiantaethau gosod yn cael eich trin chi’n wahanol, fel tenant, i’r ffordd y byddent yn trin tenant o hil arall.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael eich cartrefu gan landlord tai cymdeithasol, gweler Dod o hyd i lety.
I ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant i landlord preifat, gweler Rhentu gan landlord preifat
Yng Nghymru a Lloegr, i ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant i landlord tai cymdeithasol, gweler Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Yn yr Alban, i ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant landlord sector cyhoeddus, gweler Rhentu gan landlord sector cyhoeddus.
Beth fedrwch chi ei wneud ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil mae yna nifer o bethau fyddwch chi’n medru eu gwneud, gan gynnwys:
- siarad â’r person neu’r mudiad sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn
- defnyddio gweithdrefn achwyniad neu ddwyn cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth os yw’n broblem sy’n ymwneud â chyflogaeth
- rhoi cyhoeddusrwydd i’ch achos trwy’r cyfryngau
- cymryd camau cyfreithiol drwy’r llysoedd
- rhoi manylion y broblem i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol os ydych yn credu bod y broblem yn un eang.
Wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, fe fydd angen i chi feddwl am yr hyn yr ydych yn ceisio’i gyflawni. Er enghraifft, ydych chi eisiau iawndal ariannol, cyfiawnder neu gyhoeddusrwydd? Fe fydd angen i chi feddwl hefyd pa mor gyflym y mae angen i chi gael canlyniad.
Mae unrhyw gyfres o gamau gweithredu yn debygol o fod yn gymhleth ac efallai y bydd yn golygu achos llys. Dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Beth fedra i ei wneud os fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil?
Help wrth ddwyn achos o wahaniaethu ar sail hil
Os ydych am gymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda’ch achos.
Mae cyngor ynglŷn â hyn ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth, neu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. I ddod o hyd i fanylion eich CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, efallai y cewch gymorth a chyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim gan gyfreithiwr. Mae hyn yn dod o dan gynllun Help Cyfreithiol (cynllun cyngor a chymorth yn yr Alban,). Efallai y byddwch hefyd yn medru cael help gyda chost dwyn achos gerbron y llys o dan Cynrychiolaeth Gyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help sydd ar gael gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Mathau eraill o wahaniaethu
Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail hil, fe allech ddioddef gwahaniaethu am resymau eraill. Er enghraifft, oherwydd:
- eich rhyw
- eich bod yn feichiog
- eich tuedd rhywiol
- eich anabledd
- eich crefydd.
Er enghraifft, rydych yn fenyw ddu sy’n feichiog ac yn cael eich diswyddo. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo am eich bod yn ddu ac am eich bod yn feichiog, fe fyddwch yn medru dwyn dau honiad, un am wahaniaethu ar sail hil ac un am wahaniaethu ar sail beichiogrwydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Beth fedra i ei wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil?
Am fwy o wybodaeth ynghylch mathau eraill o wahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.
Help pellach
Llinell Gymorth (Cymru a Lloegr yn unig)
Mae Llinell Gymorth Argyfwng Rhad ac Am Ddim y Grŵp Monitro yn cynghori dioddefwyr aflonyddu a chamdriniaeth hiliol. Mae ar gael 24 awr y dydd ac mae’n cael ei staffio gan wirfoddolwyr a recriwtiwyd o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig, i sicrhau eu bod yn medru cyfathrebu gyda’r person sy’n ffonio yn yr iaith briodol. Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0800 374 618.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Efallai y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru eich helpu chi os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu. Fe allwch gysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn:-
Lloegr
Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Rhif Ffôn: 0845 604 6610 (Llun- Gwener 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau ar wahaniaethu mewn cyflogaeth, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, awdurdodau cyhoeddus, tai ac addysg. Maen nhw ar gael ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Cymru
Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Rhif Ffôn: 0845 604 8810 (Llun - Gwener 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Yr Alban
Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Rhif Ffôn: 0845 604 5510 (Llun - Gwener 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Canolfannau Cyfraith
Mae Canolfannau Cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i bobl sydd am gymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail hil. Os ydych yn cael eich cynrychioli gan gyfreithiwr o ganolfan cyfraith, efallai y bydd hawl gennych i gael cymorth cyfreithiol. Mae manylion y Canolfannau Cyfraith agosaf ar gael gan-
Yng Nghymru a Lloegr
The Law Centres Federation
PO Box 65836,
London EC4P 4FX
Rhif Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Yn yr Alban
Scottish Association of Law Centres
Secretary
c/o Govan Law Centre
47 Burleigh Street
Govan
Glasgow G51 3LB
Rhif Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: www.salc.info
Free Representation Unit (Lloegr)
Mae Free Representation Unit (FRU) yn fudiad sy’n medru darparu cynrychiolaeth i bobl yn ardal Llundain sydd ar incwm isel. Ond, mae ond yn medru gweithredu ar ran pobl sydd wedi cael eu cyfeirio’n ysgrifenedig gan asiantaeth arall sy’n tanysgrifio i’r FRU, er enghraifft rhai canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ardal Llundain. Mae manylion cyswllt y canolfannau CAB yn y llyfr ffôn lleol neu ar wefan Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk. Gellir cysylltu â’r FRU yn:
6th Floor
289 - 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael drwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.thefru.org.uk
Cynrychiolaeth Rad ac Am Ddim (Yr Alban)
Mae peth cynrychiolaeth rad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer rhai achosion penodol ac i bobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.









