Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 6 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Gwahaniaethu    Ymosodiadau â chymhelliad hiliol neu grefyddol  

Gwahaniaethu - Yng Nghymru

 

 


Ymosodiadau â chymhelliad hiliol neu grefyddol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Beth yw ymosodiadau sydd â chymhelliad hiliol a chrefyddol

Mae ymosodiadau sydd â chymhelliad hiliol ac ymosodiadau sydd â chymhelliad crefyddol yn ymosodiadau ar berson oherwydd ei d/tharddiad hiliol neu ethnig, neu eu crefydd neu ddiffyg crefydd. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:-

  • ymosodiad corfforol ar berson neu deulu gan berson arall neu grwp o bobl
  • ymosodiad ar gartref neu eiddo person neu deulu, er enghraifft, torri ffenestr, taflu gwrthrych trwy flwch post neu danio car
  • camdriniaeth geiriol neu fygythiadau
  • camdriniaeth ysgrifenedig, er enghraifft, llythyr, pamffled, e-bost neu neges testun ar ffôn symudol
  • peintio geiriau creulon ar adeilad neu fur.

Troseddau hiliol a chrefyddol

Os oes rhywun wedi ymosod arnoch neu eich cam-drin oherwydd eich hil neu eich crefydd efallai fod y person a ymosododd arnoch neu a’ch camddefnyddiodd wedi troseddu.

Hefyd, os yw person yn cynhyrfu casineb at grwp hil neu grefyddol penodol, er enghraifft, trwy gyhoeddi neu ddosbarthu gwybodaeth sarhaus, gellir ei erlyn. Mae gwybodaeth yn medru cynnwys deunydd wedi’i argraffu fel taflenni neu gylchgronau. Mae hefyd yn medru bod yn gynnwys ar wefannau, negeseuon e-bost ac ystafelloedd sgwrsio ar y rhyngrwyd. Rydych yn medru dweud wrth yr IWF (Internet Watch Foundation) am gynnwys ar y rhyngrwyd sy’n cynhyrfu casineb hiliol, yn: (New window) www.iwf.org.uk.

Mae'r gyfraith sy'n delio ag ymosodiadau sydd â chymhelliad hiliol neu grefyddol, a digwyddiadau eraill, yn gymhleth, a dylech gael cyngor gan, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Troseddau sydd â chymhelliad hiliol neu grefyddol

Os oes gan drosedd gymhelliad hiliol neu grefyddol, mae'r llys yn medru gosod dedfryd mwy llym nag os nad oedd â chymhelliad hiliol neu grefyddol. Dyma enghreifftiau o droseddau sy'n medru bod â chymhelliad hiliol neu grefyddol.

  • niwed troseddol
  • ymosodiad, niwed corfforol gwirioneddol a niwed corfforol difrifol
  • aflonyddu.

Mae trosedd wedi'i chythruddo'n hiliol neu'n grefyddol os, ar adeg ei chyflawni, mae'r troseddwr yn sarhaus ynghylch aelodaeth y dioddefwr (neu aelodaeth â ragdybiwyd) o grwp hiliol neu grefyddol, neu os yw'r drosedd â chefndir o elyniaeth tuag at aelod o grwp crefyddol neu hiliol penodol.

Efallai y bu yna ymosodiadau cynt yn yr ardal a fyddai'n medru awgrymu bod yr ymosodiad â chymhelliad crefyddol neu hiliol. Efallai bod cymdeithas leol hefyd, er enghraifft, grwp cymunedol neu Ganolfan Gynghori sy'n medru cadarnhau bod yna hanes o'r fath ymosodiadau yn yr ardal. Mae tystiolaeth o ymosodiadau mewn ardal yn medru helpu profi i'r heddlu bod trosedd wedi'i gythruddo'n grefyddol neu'n hiliol.

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â throseddau sydd wedi'u cythruddo'n hiliol neu'n grefyddol yn gymhleth, a dylech gael cyngor gan, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Delio ag ymosodiadau sydd â chymhelliad hiliol a chrefyddol

Os ydych wedi dioddef ymosodiad, bydd yn gymorth, wrth ei riportio, os ydych yn medru rhoi'r wybodaeth yma:-

  • sut ymosodwyd arnoch chi
  • os ydy'r wybodaeth gennych, pwy yw'r ymosodwr/wraig a ble mae'n byw neu, dsgrifiad o ymddangosiad yr ymosodwr/wraig a'r hyn yr oedd yn ei wisgo
  • beth, os unrhyw beth, a ddywedwyd gan yr ymosodwr/wraig, yn enwedig rhywbeth sarhaus ynglyn â'ch crefydd neu hil
  • pam arall ydych chi'n teimlo fod yr ymosodiad wedi'i gythruddo'n hiliol neu'n grefyddol
  • os ydych wedi dioddef ymosodiad o'r blaen, pryd a gan bwy
  • lleoliad yr ymosodiad
  • amser yr ymosodiad (dyddiad ac amser o'r dydd neu'r nos)
  • natur unrhyw anafiadau a gafwyd. Gallai fod yn ddefnyddiol cael tystiolaeth feddygol
  • a ddioddefodd unrhyw un arall ymosodiad
  • enwau a chyfeiriadau unrhyw dystion.

Nôl i’r Brig



Riportio'r ymosodiad i'r heddlu

Os ydych angen help neu gefnogaeth gyda chysylltu â'r heddlu, gallwch fynd at Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf. Os ydych wedi dioddef ymosodiad gan aelod neu aeodau o'r heddlu, dylech bob tro gael cyngor.

Mae canllawiau'r llywodraeth yn diffinio digwyddiad hiliol fel '…unrhyw ddigwyddiad y mae'r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn ei hystyried yn hiliol'. Mae hyn yn golygu, os yw'r dioddefwr neu unrhyw berson arall, er enghraifft, tyst neu heddwas, yn ystyried bod yr ymosodiad â chymhelliad hiliol, dylai'r heddlu ei gofnodi fel hynny. Nid yw'r diffiniad yn ystyried ymosodiadau sydd â chymhelliad crefyddol ar hyn o bryd.

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r heddlu, gallwch ofyn am gael eich cyfweld yng ngorsaf yr heddlu, yn eich cartref neu mewn lleoliad niwtral y mae'r ddwy ochr yn cytuno arno, er enghraifft, Canolfan Cynghori (os caniateir hyn). Yn gyffredinol, mae'n ddoeth i berson arall fynychu gyda chi, er enghraifft, cyfreithiwr sydd â phrofiad yn y math yma o waith, cynghorydd gyda'r Ganolfan Cynghori neu ffrind.

Os ydych yn cael anhawster siarad neu ddeall Saesneg, efallai y byddai'n ddefnyddiol cael cyfeitihydd gyda chi. Gallwch ofyn i'r heddlu ddarparu cyfieithydd, gofyn i ffrind neu berthynas, neu fynd at fudiad lleol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. Os yw'r heddlu'n gwrthod darparu cyfieithydd, fe fyddwch yn medru gofyn am gael gweld eu polisi ar gyfieithwyr ac efallai y byddwch am gwyno.

Beth i'w wneud os nad yw'r heddlu'n cymryd unrhyw gamau

Wedi i chi riportio'r ymosodiad i'r heddlu, fe fyddan nhw'n penderfynu a ydyn nhw'n mynd i gynnal ymchwiliad ai peidio. Os yw'r heddlu'n penderfynu peidio ag ymchwilio i'r ymosodiad, rhaid iddynt ddweud wrthych cyn gynted â phosib ac o fewn pum niwrnod, fan hwyraf.

Os yw'r heddlu'n cynnal ymchwiliad, mae'n rhaid iddynt eich diweddaru ynghylch unrhyw ddatblygiadau yn yr achos. Er enghraifft, dylent ddweud wrthych os oes person a amheuir yn cael ei arestio, ei ryddhau neu ei ryddhau ar fechnïaeth. Unwaith y bydd yr heddlu wedi gorffen yr ymchwiliad, fe fyddan nhw'n penderfynu a ydyn nhw am erlyn unrhyw un.

Os ydych yn teimlo nad ydyw'r heddlu wedi rhoi ystyriaeth ddigon difrifol i'r ymosodiad, efallai y byddwch am gwyno.

Mae yn erbyn y gyfraith i'r heddlu wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd. Os nad ydych yn teimlo eu bod yn rhoi ystyriaeth ddigon difrifol i'ch cwyn oherwydd gwahaniaethu, mynnwch gyngor ynghylch beth i'w wneud.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhywioldeb, gweler Gwahaniaethu ar sail rhywioldeb.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.

Cyn gwneud cwyn, dylech gael cyngor gan, er enghraifft, Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Ymosodiadau yn gwaith

Os ydych wedi dioddef ymosodiad yn y gwaith, mae'n bosib fod yr ymosodiad yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail hil neu grefydd).

Am wybodaeth ynglyn â delio gyda gwahaniaethu ar sail hil neu grefydd yn y gwaith, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
Am wybodaeth gyffredinol ynglyn â delio gyda gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil.

Nôl i’r Brig



Ymosodiadau yn y cartref neu ger y cartref

Os ydych wedi dioddef ymosodiad yn eich cartref, neu ger eich cartref, efallai bod modd i'r awdurdod lleol weithredu.

Am wybodaeth ynglyn ag ymosodiadau sydd wedi digwydd ger eich cartref, gweler Ymddygiad anghymdeithasol mewn tai.

Mae yn erbyn y gyfraith i awdurdod lleol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd. Os ydych yn teimlo nad ydynt yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'ch cwyn oherwydd gwahaniaethu, mynnwch gyngor ynghylch yr hyn y dylech ei wneud.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhywioldeb neu grefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd, rhywioldeb neu oed.

Nôl i’r Brig



Ymosodiadau yn yr ysgol

Efallai bod plentyn wedi dioddef ymosodiad yn yr ysgol, neu gerllaw'r ysgol. Os felly, dylai'r ysgol fod wedi sefydlu gweithdrefn ar gyfer delio gyda'r fath ddigwyddiadau, a dylai gydweithredu gyda'r heddlu a'r awdurdod addysg lleol.

Am fwy o wybodaeth, gweler Problemau yn yr ysgol.

Mae yn erbyn y gyfraith i'r heddlu neu'r awdurdod lleol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, crefydd, rhywioldeb neu anabledd. Os ydych yn teimlo nad ydynt yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'ch cwyn oherwydd gwahaniaethu, mynnwch gyngor ynghylch yr hyn y dylech ei wneud.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Nôl i’r Brig



Cymorth pellach

Os ydych wedi dioddef ymosodiad, dylech gael cyngor. Mae'r cyngor yma ar gael mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Mae help ar gael hefyd gan eich cynllun Cymorth i Ddioddefwyr Lleol neu fudiadau lleol eraill.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chymorth i Ddioddefwyr, gweler Anafiadau personol.

Gallech hefyd gysylltu â Llinell gymorth frys rhadffôn y Grwp Monitro. Mae'r linell gymorth yn cynghori pobl sydd wedi dioddef aflonyddu hiliol a chamdriniaeth hiliol. Mae ar gael 24 awr y dydd, ac mae gwirfoddolwyr sydd wedi eu recriwtio o gymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig yn ei staffio, i sicrhau eu bod yn medru cyfathrebu gyda'r dioddefwr yn yr iaith berthnasol. Rhif ffôn y linell yw 0800 374 618. Mae gan y Swyddfa Gartref linell gymorth ar gyfer Mwslemiaid hefyd – 'Muslim Line'. Gall gynnig cyngor os ydych wedi cael eich camdrin oherwydd eich credo. Y rhif ffôn yw 0208 840 4 840 ac mae ar gael rhwng 9.30yb a 6.00yh Llun-Gwener.

Os ydych wedi dioddef anaf personol fel canlyniad i ymosodiad sydd â chymhelliad crefyddol neu hiliol, efallai eich bod yn gymwys i gael iawndal o dan Gynllun Iawndal Anafiadau Troseddol.

Am fwy o wybodaeth, gweler Anafiadau personol.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ