The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Troseddau casineb
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Beth yw digwyddiadau casineb
Mae digwyddiadau casineb yn weithredoedd treisgar neu’n elyniaeth yn erbyn pobl oherwydd pwy ydyn nhw neu bwy ydyn nhw ym marn rhywun. Maen nhw’n medru cynnwys trais llafar neu gorfforol, gan gynnwys galw enwau, ymddygiad bygythiol neu drais go iawn.
Mae enghreifftiau o droseddau casineb yn cynnwys targedu rhywun oherwydd y canlynol, neu’r hyn y mae pobl yn ei dybio am y canlynol:
- anabledd
- hunaniaeth rhyw
- hil
- crefydd
- tuedd rywiol
Beth yw troseddau casineb
Pan ddaw digwyddiadau casineb yn droseddau, maen nhw hefyd yn cael eu galw’n droseddau casineb.Nid yw pob digwyddiad casineb yn dod yn drosedd casineb, ond mae pob trosedd casineb hefyd yn ddigwyddiad casineb. Felly mae’n bwysig riportio pob digwyddiad casineb i’r heddlu.
Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch digwyddiad casineb
Yn ôl y gyfraith, mae rhywbeth yn ddigwyddiad casineb os yw’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn credu ei fod yn ddigwyddiad casineb. Felly os ydych chi’n credu eich bod yn dioddef digwyddiad casineb, neu wedi dioddef un, fe allwch ei riportio.
Hyd yn oed os nad yw digwyddiad casineb wedi ei gyfeirio atoch chi, fe fyddwch yn dal i fedru ei riportio i’r heddlu. Er enghraifft, fe allech fod yn pasio heibio, yn ffrind, yn gymydog, yn athro, yn gydweithiwr, yn weithiwr cymorth neu’n swyddog yr heddlu.
Pan fyddwch chi’n riportio digwyddiad neu drosedd casineb, dylech ddweud os ydych yn credu bod y digwyddiad â chymhelliant oed, anabledd, hunaniaeth rhyw, hil, crefydd neu duedd rywiol neu unrhyw gyfuniad o’r ffactorau hyn.
Efallai bod y digwyddiad casineb hefyd yn golygu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. I ddarganfod mwy am eich hawliau, gweler Deddf Cydraddoldeb 2010 – gwahaniaethu a’ch hawliau.
Gwybodaeth a chyngor pellach
I ddarganfod mwy am ddigwyddiadau casineb, beth ydyn nhw a ffyrdd o’u taclo, fe allwch:
Wrando ar ein podlediad cyngor, sy’n rhoi gwybodaeth lafar ar droseddau casineb
Cliciwch ar y botwm isod ac fe fydd y podlediad yn chwarae ar unwaith ac yn para tua 3 munud.
Darllen ein taflen
No Place for Hate [
410 KB]
Pori trwy wefan True Vision ble mae yna wybodaeth bellach, a riportio’r digwyddiad ar-lein i’ch heddlu lleol
Yng Nghymru, mae gwybodaeth bellach ar gael ar-lein ar wefan Cymru Ddiogelach yn www.saferwales.com ac fe allwch riportio’r digwyddiad yma hefyd.
Mynnwch help gan eich canolfan cyngor ar bopeth leol
Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu gyda digwyddiadau casineb. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.









