Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n credu eu bod nhw'n gwahaniaethu yn fy erbyn yn gwaith am mai merch ydw i. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae yna gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw i amddiffyn marched a dynion. Gall gwahaniaethu ddod o unrhyw gyfeiriad. Gallai fod yn gydweithiwr, yn oruchwylydd adran, eich rheolwr neu'ch cyflogwr.

Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trîn yn llai ffafriol na dyn, y peth cyntaf i'w wneud yw cael gair gyda chydweithwyr eraill i weld a ydynt yn cael yr un math o driniaeth neu a ydynt wedi sylwi eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol. Holwch i weld os oes rhywun arall yn fodlon sefyll gyda chi. Os ydych yn medru, ceisiwch siarad yn bersonol â'r person sy'n gwahaniaethu yn eich herbyn a gofynnwch iddo/i stopio neu rybuddiwch y byddwch yn cwyno'n swyddogol.Dylech wneud hyn os ydych yn teimlo ei fod yn ddiogel. Efallai y byddai’n ddefnyddiol cael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch yn gwneud hyn.

Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy’n digwydd. Nodwch hyn yn ysgrifenedig a chadwch gopi. Mae gofyniad cyfreithiol i’ch cyflogwr eich amddiffyn chi rhag gwahaniethu ar sail rhyw. Os yw’ch rheolwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dywedwch wrth rywun sy’n uwch yn y sefydliad.

Dylech hefyd gasglu tystiolaeth. Fe allai hyn gynnwys cadw dyddiadur neu gofnod o ddigwyddiadau, dyddiadau, amserau a lleoliadau’r ymddygiad, yr hyn a ddywedwyd neu a wnaethpwyd, a oedd unrhyw dystion yn bresennol a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr eraill. Cofnodwch enwau a swyddi’r rheiny sydd wedi cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu fanylion y rheol neu’r polisi sy’n eich gosod chi ar anfantais a pham.

Os na fydd pethau'n gwella, siaradwch â'ch undeb os ydych yn aelod, neu â’ch adran personél. Efallai y byddan nhw’n medru eich helpu i stopio’r gwahaniaethu.

Os nad yw hyn yn helpu, efallai y bydd angen i chi godi achwyniad. Er bod y gyfraith yn medru helpu eich diogelu, dylech sylweddoli, os ydych yn cwynio’n ffurfiol, y gallai hyn wneud eich bywyd yn y gwaith hyd yn oed yn fwy anghyffyrddus.

Os na fyddwch yn fodlon wedi'r camau cyntaf yma, y cam olaf, efallai, fydd dwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda’ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym, felly mynnwch gyngor ar gam cynnar.

Nid oes angen eich bod wedi gweithio i’ch cyflogwr am unrhyw gyfnod penodol o amser cyn i chi fedru dwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw. Os cawsoch eich diswyddo, efallai hefyd y byddwch yn medru honni diswyddiad annheg.

Fe fydd angen i chi brofi eich achos. Dyma pham mae casglu tystiolaeth mor bwysig. Fe fyddwch yn medru gofyn i’ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Fe fydd hyn yn medru helpu cefnogi eich achos. Mae yna derfynau amser llym ac fe fydd angen i chi gael cyngor i’ch helpu i wneud hyn.

Nid oes terfyn uwch ar gyfer swm yr iawndal y byddwch yn medru ei gael mewn tribiwnlys cyflogaeth mewn achos o wahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu yn y gwaith, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu yn y gwaith, gweler Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau geithredu yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad annheg oherwydd gwahaniaethu, gweler Diswyddiad.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Gwahaniaethu ar sail rhyw ac aflonyddu rhywiol yn y gwaith yn y Taflenni ffeithiau ar gyflogaeth.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gwaith, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â gwahaniaethu: