|
TMae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Beth yw gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred
Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu crefydd neu gred. Mae hyn yn berthnasol:
- pan fyddwch chi'n prynu nwyddau a gwasanaethau, neu'n eu defnyddio
- yn y gwaith
- mewn addysg
- wrth ddarparu tai.
Nôl i’r Brig
Beth yw ystyr crefydd neu gred
Rydych chi wedi eich amddiffyn, o dan y gyfraith, rhag gwahaniaethu oherwydd eich crefydd neu gred os ydych:
- yn perthyn i grefydd wedi'i threfnu fel Cristnogaeth, Iddewiaeth neu Islam
- â chred ddwys sy'n effeithio ar eich ffordd o fyw neu eich barn ar y byd, fel dyneiddiaeth (humanism)
- yn addoli ar y cyd
- yn perthyn i grefydd neu sect lai, fel Seientoleg neu Rastaffariaeth
- heb unrhyw grefydd, er enghraifft, os ydych yn anffyddiwr.
Nid yw'r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred yn cynnwys cred hollol wleidyddol, fel cefnogi plaid wleidyddol benodol.
Rydych hefyd wedi eich amddiffyn os yw rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn am eu bod yn credu eich bod yn perthyn i grefydd benodol, pan nad ydych chi. Er enghraifft, mae'n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn eich erbyn am wisgo penwisg am eu bod yn credu eich bod yn Fwslim, hyd yn oed os nad ydych yn Fwslim mewn gwirionedd.
Mae gwahaniaethu trwy gysylltiad hefyd yn anghyfreithlon. Er enghraifft, mae'n anghyfreithlon gwrthod gadael i chi ddod i mewn i fwyty oherwydd crefydd rhywun sydd gyda chi.
Nôl i’r Brig
Beth yw gwahaniaethu
Mae rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn os yw'n eich trin chi'n waeth na rhywun arall, oherwydd eich crefydd neu gred. Mae hyn yn anghyfreithlon. Dyma enghreifftiau:
- gwrthod rhoi benthyciad banc a'r unig reswm yw eich bod yn Iddew
- gwrthod gadael i chi fynd i mewn i fwyty a'r unig reswm yw eich bod chi'n Fwslim
- eich diswyddo chi a'r unig reswm yw eich bod chi'n Rastaffaraidd.
Mae hefyd yn anghyfreithlon os oes rheol, polisi neu arfer sy'n golygu eich bod ar anfantais oherwydd eich crefydd neu gred, er nad ydyw wedi ei dargedu atoch chi'n bersonol. Dyma enghreifftiau:
- gwrthod gadael i chi ddod i mewn i fwyty os ydych chi'n gwisgo hijab
- gofyn i bob gweithiwr wisgo mewn ffordd arbennig os yw hyn yn golygu nad ydynt yn medru gwisgo dilledyn sy'n rhan o'u ffydd.
Weithiau, caniateir y math yma o wahaniaethu os ellir cyfiawnhau'r rheswm drosto. Er enghraifft, efallai na fydd yn anghyfreithlon os yw'ch cyflogwr am i chi wisgo mewn ffordd arbennig am reswm yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, er efallai ei fod yn erbyn eich crefydd.
Erledigaeth
Mae gwahaniaethu yn medru bod ar ffurf erledigaeth. Mae hyn yn digwydd pan fyddwch chi'n cael eich trin yn waeth na rhywun arall am eich bod wedi cwyno neu gymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd. Mae hefyd yn erledigaeth os ydych yn cael eich trin yn annheg am eich bod wedi cefnogi rhywun arall sy'n cymryd camau, er enghraifft, os ydych yn dyst yn achos gwahaniaethu rhywun arall.
Nôl i’r Brig
Trais corfforol neu eiriol oherwydd crefydd neu gred
Mae'n drosedd os yw rhywun yn ymosod arnoch oherwydd eich crefydd neu gred, neu oherwydd eich diffyg crefydd. Mae hyn yn cynnwys trais corfforol a geiriol.
Mae rhywun hefyd yn troseddu os ydynt yn ennyn casineb yn erbyn grŵp crefyddol penodol, er enghraifft, trwy gyhoeddi neu ddosbarthu gwybodaeth sarhaus.
Os oes rhywun yn troseddu yn eich erbyn chi neu eich teulu yn un o'r ffyrdd hyn, dylech ddweud wrth yr heddlu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch troseddau sy'n ymwneud â thrais corfforol a geiriol oherwydd eich crefydd, yng Nghymru a Lloegr gweler Ymosodiadau â chymhelliad hiliol neu grefyddol, ac yn yr Alban, gweler Ymosodiadau â chymhelliad hiliol neu grefyddol.
Nôl i’r Brig
Gwahaniaethu oherwydd crefydd yn y gweithle ac mewn hyfforddiant
Rydych chi wedi eich amddiffyn yn y gwaith rhag gwahaniaethu oherwydd crefydd. Mae hyn yn golygu eich bod wedi eich amddiffyn:
- beth bynnag yw eich crefydd neu gred
- beth bynnag yw crefydd neu gred eich cyflogwr
- os ydych chi eisoes yn gweithio i'ch cyflogwr
- os ydych chi'n ceisio am swydd.
Mae gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred yn medru cynnwys:
- eich diswyddo chi oherwydd eich crefydd
- hysbysebu am ymgeiswyr ar gyfer swydd o un grefydd yn unig
- gofyn i chi wisgo mewn ffordd arbennig, er enghraifft, gofyn i bob menyw wisgo sgert fer. Ni fyddai hyn yn dderbyniol i fenywod o sawl crefydd wahanol
- gofyn i chi beidio â gwisgo eitemau sanctaidd. Er enghraifft, petai gofyn i chi, fel gŵr Sikh, dynnu eich kara (breichled symbolaidd)
- gwneud i chi weithio ar adegau sydd yn erbyn eich crefydd
- erledigaeth – gweler isod.
- bwlio yn y gwaith oherwydd eich crefydd. Gelwir hyn hefyd yn aflonyddu – gweler isod.
(Example box starts)
Rwy'n Iddew ac angen cymryd pob prynhawn Dydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith yn y Gaeaf er mwyn i mi gyrraedd adref cyn iddi dywyllu a pharatoi ar gyfer y Saboth. Ar hyn o bryd, mae fy rheolwr yn hapus i adael i mi wneud hyn a gweithio'r amser yn ôl yn ystod gweddill yr wythnos. Ond, mae'n ystyried cyflwyno patrwm shifftiau newydd, sy'n golygu na fyddaf yn medru gwneud hyn mwyach. A yw'n cael gwneud hyn? Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn gweithiwr oherwydd crefydd neu gred. Felly, os yw'ch cyflogwr yn cyflwyno patrwm shifftiau newydd a fydd yn anodd i chi oherwydd eich crefydd, efallai eich bod yn dioddef gwahaniaethu oherwydd crefydd. Fe fyddai'n rhaid i'ch cyflogwr ddangos pam yn union mae'n hanfodol i chi weithio ar brynhawn Dydd Gwener. Os nad ydyw'n medru dangos nad oedd unrhyw ffordd resymol arall o aildrefnu eich gwaith, efallai y bydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd.
(Example box ends)
Erledigaeth yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred
Mae erledigaeth yn digwydd pan fyddwch yn cael eich trin yn waeth na rhywun arall am eich bod chi wedi cwyno neu gymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd. Mae hefyd yn erledigaeth os ydych yn cael eich trin yn annheg am eich bod wedi cefnogi rhywun arall sy'n cymryd camau, er enghraifft, os ydych yn dyst yn achos gwahaniaethu rhywun arall.
Mae enghreifftiau o erledigaeth yn y gwaith yn medru cynnwys:
- cael eich labelu fel rhywun sy'n creu trafferth
- gwrthod rhoi cyfleoedd am ddyrchafiad neu hyfforddiant i chi
- cael eich anwybyddu gan eich cydweithwyr
- cael geirda gwael.
(Example box starts)
Mae pobl yn y gwaith yn chwerthin ar un o fy nghydweithwyr sy'n un o Dystion Jehovah a wastad yn darllen y Beibl yn ystod amser coffi, drwy'r amser. Rydw i wedi ceisio dweud wrthyn nhw am beidio a nawr maen nhw'n dweud pethau cas wrtha i hefyd. Mae fy mywyd yn y gwaith wedi mynd yn ddiflas iawn. Oes unrhyw beth fedra i ei wneud? Os ydych yn dioddef erledigaeth am eich bod wedi cwyno am wahaniaethu ar sail crefydd, mae hyn yn anghyfreithlon. Dylech gael cyngor arbenigol ynghylch sut i daclo'r broblem.
(Example box ends)
Bwlio yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred
Mae'n anghyfreithlon i rywun eich bwlio chi yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred. Gelwir hyn hefyd yn aflonyddu. Efallai mai eich cyflogwr neu gydweithiwr sy'n eich bwlio chi. Mae rhywun yn eich bwlio chi os ydych yn teimlo bod eu hymddygiad tuag atoch yn sarhaus, yn eich dychryn, yn eich diraddio, yn eich bychanu neu'n creu pryder i chi mewn unrhyw ffordd. Efallai ei fod yn fwriadol neu'n anfwriadol.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun eich bwlio chi yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, hyd yn oed os ydyn nhw'n anghywir. Er enghraifft, mae rhywun sy'n tybio'n anghywir eich bod yn Fwslim, oherwydd y ffordd yr ydych chi'n edrych, yn ymosod arnoch. Ni fydd yn rhaid i chi ddweud beth yn union yw eich crefydd er mwyn gwneud rhywbeth ynghylch hyn.
Beth fedra i wneud os ydw i'n cael fy nhrin yn annheg neu fy mwlio yn y gwaith?
Os ydych yn cael eich trin yn annheg neu eich bwlio yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, gwnewch rywbeth cyn gynted â phosib. Dyma rai pethau y medrwch chi eu gwneud:
- dweud wrth y person i stopio
- dweud wrth eich rheolwr neu rywun arall sydd â swydd uwch yn y sefydliad
- siarad â'ch adran personél neu undeb llafur.
Os nad yw hyn yn gweithio, efallai y bydd yn rhaid i chi godi achwyniad ac ystyried cwyno i dribiwnlys cyflogaeth.
Mae yna weithdrefnau a chyfyngiadau amser llym ar gyfer cwyno i dribiwnlys cyflogaeth. Os ydych chi'n credu efallai bod angen i chi wneud hyn, dylech ofyn am gyngor, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich crefydd yn y gwaith, gan gynnwys honni gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Beth fedra i wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred? yn y taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch codi achwyniad yn y gwaith, gweler Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Hyfforddiant
Mae'n anghyfreithlon gwrthod darparu cyfleoedd hyfforddiant ar eich cyfer oherwydd eich crefydd neu gred, neu i'w darparu mewn ffordd sy'n golygu eich bod o dan anfantais o gymharu â phobl eraill, oherwydd eich crefydd neu gred. Mae hyn yn cynnwys:
- unrhyw hyfforddiant a gynlluniwyd i'ch paratoi chi at gyflogaeth
- arweiniad ynghylch gyrfaoedd
- cyfleusterau hyfforddiant
- profiad gwaith ymarferol a ddarperir gan gyflogwr ar gyfer rhywun sydd ddim yn gweithio iddynt
- asesu rhywun ar gyfer cymhwyster proffesiynol neu fasnach.
Nôl i’r Brig
Gwahaniaethu ar sail crefydd gan sefydliadau sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau'n uniongyrchol i'r cyhoedd wahaniaethu oherwydd crefydd neu gred. Mae'r gyfraith yn berthnasol i fusnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus fel asiantaethau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, cyfleusterau addysg ac iechyd.
Mae gwahaniaethu'n cynnwys:
- gwrthod darparu nwyddau neu wasanaethau
- gwahaniaethu yn y ffordd y darperir nwyddau neu wasanaethau.
Er enghraifft, mae'n anghyfreithlon i dafarn neu fwyty wrthod eich gwasanaethu chi, neu i westy wrthod rhoi ystafell i chi, oherwydd eich crefydd neu beth yw eich crefydd yn eu barn nhw.
Nid oes gwahaniaeth a yw'r nwyddau neu wasanaethau yn rhad ac am ddim neu os oes rhaid i chi dalu amdanynt.
Mae mudiadau sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn cynnwys:
- tafarndai, bwytai a gwestai
- siopau
- sinemâu a theatrau
- ysbytai a chlinigau
- cwmnïau gwerthu tai, landlordiaid preifat ac adrannau tai'r awdurdod lleol
- banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a chwmnïau cyllid
- gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bws a meysydd awyr
- eglwysi a mannau addoli eraill
- elusennau a mudiadau gwirfoddol
- ysgolion a cholegau
- gwasanaethau lles, fel cyngor ar dai, gofal dydd neu ofal cymunedol
Am fwy o enghreifftiau o sefydliadau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau, gweler gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Am wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw sefydliad sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
(Example box starts)
Rydw i'n ddyn Mwslim. Yn ddiweddar, fe drefnais gadw ystafell mewn Gwely a Brecwast, ond wedi i mi gyrraedd fe ddywedodd y derbynnydd nad oedd yr ystafell ar gael mwyach. Fe ddywedodd wrtha i am westy gerllaw a fyddai fwy na thebyg yn medru cynnig lle i mi. Pam ofynnais i'r derbynnydd pam nad oedd ystafell ganddi i mi a minnau wedi gwneud trefniadau bythefnos ymlaen llaw, fe ddywedodd wrtha i nad oedd perchennog y Gwely a Brecwast yn hoffi cael pobl Fwslimaidd i aros yno rhag ofn eu bod yn derfysgwyr. Mae hyn yn wahaniaethu ar sail crefydd ac mae'n anghyfreithlon. Gellid erlyn y perchennog yn y llys. Mynnwch gyngor ynghylch yr hyn yr ydych yn medru ei wneud gan gyfreithiwr, canolfan gyfraith neu Cyngor ar Bopeth.
(Example box ends)
Awdurdodau cyhoeddus
Mae'n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu crefydd neu gred tra'n gweithredu unrhyw rai o'i swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau GIG, llysoedd a thribiwnlysoedd, swyddogion yr heddlu a charchardai.
Mae yna rai eithriadau i'r rheol. Er enghraifft, nid yw'n anghyfreithlon i swyddogion sy'n delio gydag achosion o fewnfudo i wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd.
Am wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw awdurdod cyhoeddus yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
Hysbysebu
Gydag ambell eithriad cyfyngedig, mae'n anghyfreithlon cyhoeddi hysbyseb am nwyddau neu wasanaethau sy'n gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, neu sy'n hysbysebu gwasanaethau sy'n gwahaniaethu.
Os cyhoeddir hysbyseb fel hyn, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru cymryd camau yn y llys yn erbyn y cwmni cyhoeddi - gweler y pennawd Help pellach.
Nôl i’r Brig
Elusennau
Mae elusen yn cael darparu gwasanaethau a manteision i bobl o grefydd neu gred benodol. Mae hyn yn golygu eu bod yn medru eithrio pobl o grefyddau eraill. Rhaid bod nodau'r elusen wedi eu nodi yn eu cyfansoddiad neu reolau. Er enghraifft, gellir sefydlu elusen i ddarparu gwasanaethau gofal dydd ar gyfer aelodau o'r gymuned Iddewig. Nid yw hyn yn anghyfreithlon ar yr amod mai dyma beth mae'r elusen yn ei wneud yn ôl ei chyfansoddiad.
Am wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw elusen yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
Nôl i’r Brig
Sefydliadau crefyddol
Efallai y bydd rhai sefydliadau crefyddol penodol yn cael gwahaniaethu yn erbyn pobl o grefyddau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys ysgolion ffydd – gweler y pennawd Gwahaniaethu ar sail crefydd mewn ysgolion a cholegau. Ni ddylai'r sefydliad fod yn un masnachol, hynny yw, dylai fod yn sefydliad nid-am-elw. Rhaid bod y gwahaniaethu yn angenrheidiol:
- er mwyn cwrdd â nodau crefyddol y sefydliad, neu
- i osgoi tramgwyddo'r rheiny sy'n rhannu ei nodau crefyddol.
(Example box starts)
Rydw i'n rhedeg clwb ieuenctid mewn eglwys. Ydw i'n cael cyfyngu aelodaeth y clwb i Gristnogion sy'n arfer eu ffydd yn unig, neu a yw hyn yn wahaniaethu? Tra nad yw eich clwb yn fusnes masnachol ac os mai eich nod yw estyn y gred Gristnogol allan ymhlith pobl ifanc, cewch wrthod aelodaeth i bobl ifanc sydd ddim yn Gristnogion.
(Example box ends)
Mae sefydliadau crefyddol yn cael gwahaniaethu trwy stopio pobl o grefyddau eraill neu bobl sydd heb grefydd:
- rhag dod yn aelodau
- rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau'r sefydliad
- rhag defnyddio'r nwyddau a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig
- rhag defnyddio eu safleoedd.
Am wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw sefydliad crefyddol yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
Nôl i’r Brig
Gwasanaethau lles
Mewn rhai amgylchiadau, mae rhai sefydliadau yn cael darparu gwasanaethau lles i bobl o grefydd neu gred benodol yn unig. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:
- llety hostel
- gwasanaethau cyngor ar dai
- gwasanaethau gofal dydd.
Mae sefydliadau yn cael gwneud hyn ble gellir dangos ei fod yn arwain at gael mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth, neu'n gwella'r gallu i drosglwyddo'r gwasanaeth.
Nôl i’r Brig
Gwahaniaethu ar sail crefydd mewn ysgolion a cholegau
Mae'n anghyfreithlon i ysgol neu goleg wahaniaethu oherwydd crefydd neu gred wrth benderfynu pwy i'w derbyn fel disgyblion neu fyfyrwyr. Mae hyn yn berthnasol i ysgolion a cholegau'r wladwriaeth ac ysgolion a cholegau annibynnol. Ond, nid yw'n berthnasol i ysgolion ffydd – gweler Ysgolion ffydd. Unwaith y byddwch chi wedi cael eich derbyn fel disgybl neu fyfyriwr yn yr ysgol neu goleg, mae'n anghyfreithlon iddynt wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, nid oes hawl gwrthod gadael i rywun fod yn swyddog, eu cadw ar ôl ysgol neu yn ystod yr awr ginio neu roi gwaith cartref ychwanegol iddynt oherwydd eu crefydd neu gred.
Gwisg ysgol
Ni ddylai rheolau ynghylch y wisg ysgol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd. Er enghraifft, os ydych yn ŵr Sikh ifanc, rhaid i chi gael gwisgo twrban yn yr ysgol oherwydd mae hyn yn rhan o'ch ffydd.
Ond, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgol ganiatáu pob eitem o wisg grefyddol. Mae ysgolion yn medru cael polisi gwisg ysgol sy'n atal disgyblion rhag gwisgo eitemau penodol. Efallai eu bod yn gwneud hyn, er enghraifft, am resymau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.
Y cwricwlwm
Nid yw'r gyfraith ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd yn berthnasol i'r hyn sy'n cael ei addysgu mewn ysgolion (y cwricwlwm). Er enghraifft:
- mae ysgol yn cael addysgu theorïau esblygiad hyd yn oed os yw'r theorïau hyn yn groes i farn grefyddol rhai rhieni
- nid yw'n anghyfreithlon i wersi addysg grefyddol yn yr ysgol addysgu ynghylch Cristnogaeth yn bennaf. Ond, mae'n rhaid i athrawon hefyd ystyried y prif grefyddau eraill. Nid yw hyn yn berthnasol i ysgolion ffydd.
(Example box starts)
Mae fy nheulu yn Hindŵ. Rydw i'n drist oherwydd mae fy merch yn gorfod mynd i wersi addysg grefyddol yn yr ysgol a phrin fyddan nhw'n sôn am Hindŵaeth. Mae'n ymddangos fod hyn yn wahaniaethu yn erbyn Hindŵiaid oherwydd maen nhw'n sôn dipyn am Gristnogaeth. Mae'n rhaid i'r dosbarthiadau adlewyrchu'r ffaith fod y traddodiad crefyddol yn y wlad hon yn bennaf Gristnogol. Ond, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd ystyried y prif grefyddau eraill ac mae dosbarthiadau unigol yn medru ymdrin â chrefyddau eraill. Ceisiwch siarad ag athro/athrawes eich plentyn am y problemau yr ydych yn dod ar eu traws. Ond, os nad ydych yn medru datrys y broblem, yna, fwy na thebyg, nid oes unrhyw gamau cyfreithiol y medrwch chi eu cymryd.
(Example box ends)
Addoli ar y cyd (gwasanaethau ysgol)
Mewn ysgol sefydledig neu gymunedol, mae'n rhaid i weithgarwch addoli ar y cyd, fel gwasanaethau boreol, fod o natur Gristnogol yn gyffredinol. Ond, ni ddylent adlewyrchu unrhyw fath arbennig o Gristnogaeth, er enghraifft, Pabyddiaeth.
Mewn ysgol ffydd, sy'n ysgol sefydledig neu wirfoddol, rhaid i addoli ar y cyd adlewyrchu ffydd yr ysgol.
Ysgolion ffydd
Mae yna rai meysydd yn y gyfraith ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd a chred sydd ddim yn berthnasol i ysgolion neu golegau ffydd.
Er enghraifft, mae gan ysgolion neu golegau ffydd yr hawl i wahaniaethu oherwydd crefydd wrth benderfynu ar y disgyblion neu'r myfyrwyr i'w derbyn. Maen nhw'n medru dewis rhoi blaenoriaeth i ddisgyblion sy'n rhannu eu ffydd nhw dros ddisgyblion eraill. Ond, mae'n anghyfreithlon iddynt adael llefydd heb eu llenwi os nad oes digon o ddisgyblion o'u ffydd nhw i'w llenwi.
Unwaith y byddwch chi wedi cael eich derbyn fel disgybl neu fyfyriwr i'r ysgol neu goleg, mae'n anghyfreithlon iddynt wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, nid yw ysgol Babyddol yn cael eithrio disgybl a ddechreuodd fel Pabydd ac sydd yna'n newid at ffydd wahanol.
Ond, mae ysgolion a cholegau ffydd yn cael cyfyngu gwasanaethau a manteision penodol y maen nhw'n eu cynnig i ddisgyblion sy'n rhannu ffydd yr ysgol neu'r coleg, neu'n medru eu cynnig mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, mae ysgolion ffydd yn cael:
- trefnu ymweliadau i ddisgyblion sy'n dilyn ffydd yr ysgol i'r eglwys leol neu gysegrfa grefyddol. Nid oes rhaid iddynt drefnu ymweliadau tebyg i blant o grefyddau eraill yn yr ysgol
- dweud mai dim ond disgyblion sy'n rhannu eu ffydd sy'n medru darllen testunau crefyddol penodol ar goedd yn ystod gwasanaeth
- nodi neu ddathlu eu digwyddiadau neu draddodiadau crefyddol eu hunain heb wneud yr un peth i blant o grefyddau eraill yn yr ysgol.
Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred mewn addysg
Rydych yn medru cwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg neu Awdurdod Addysg Lleol yn eich llys sirol lleol (llys y siryf yn yr Alban). Ond, os ydych am wneud hyn, mae yna gamau penodol y mae'n rhaid i chi eu dilyn.
Os yw'ch cwyn yn ymwneud ag ysgol y wladwriaeth, rhaid i chi ddweud wrth adran berthnasol y llywodraeth (gweler isod) eich bod yn cymryd camau yn y llys. Rhaid i chi wneud hyn cyn cymryd camau yn y llys, a rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis i'r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu am y tro cyntaf. Rhaid i chi ddechrau camau yn y llys o fewn chwe mis i'r dyddiad y dywedwyd wrth adran y llywodraeth eich bod yn gwneud hyn.
Os ydych chi eisiau cwyno am ysgol breifat, dylech ofyn am gyngor gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyntaf - gweler y pennawd Help pellach.
Cymru a Lloegr
The Secretary of state Department for Children, School and Families (DCSF) Equality Legislation Team Equality and Diversity Unit Level 1E Caxton House Tothill Street London SW1H 9NA E-bost: judithbailey@dcsf.gsi.gov.uk Gwefan: www.dcsf.gov.uk
Os yw’r gwyn yn ymwneud ag ysgol yng Nghymru, yn ogystal â dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol yn y DCSF, efallai hefyd y byddai’n ddefnyddiol cysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma’r manylion cyswllt:
Hyrwyddwr Cydraddoldeb Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru Craidd y Gogledd, CP2 Parc Cathays Caerdydd CF14 2QP Ffôn: 02920 825822
Yr Alban
Minister for Education Scottish Government Education Department Victoria Quay Edinburgh EH6 6QQ Ffôn: 0131 556 8400 E-bost: ceu@scotland.gov.uk Gwefan: www.scotland.gov.uk
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw ysgol neu goleg yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
Os ydych chi am gwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg neu Awdurdod Addysg Lleol, dylech ofyn am gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Gwahaniaethu ar sail crefydd wrth ddarparu tai
Mae'n anghyfreithlon i rywun sy'n gwerthu neu'n gosod eiddo wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred.
Nid yw hyn yn berthnasol i eiddo tramor, hyd yn oed os yw'r eiddo'n cael ei werthu neu osod yn y Deyrnas Unedig.
Tenantiaid
Ni chaiff landlordiaid ac asiantaethau gosod wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Mae hyn yn cynnwys landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol fel cynghorau lleol a chymdeithasau tai. Mae hyn yn golygu, fwy na thebyg, y bydd landlord neu asiantaeth osod yn torri'r gyfraith os ydynt yn gwneud un o'r canlynol oherwydd eich crefydd neu gred:
- gwrthod gosod eiddo i chi
- rhoi blaenoriaeth i bobl oherwydd eu crefydd wrth benderfynu pwy i'w cartrefu neu ailgartrefu
- rhentu eiddo i chi ar delerau gwaeth na thenantiaid eraill
- eich trin chi'n wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd y cewch ddefnyddio cyfleusterau fel golchdy neu ardd
- eich troi chi allan neu aflonyddu arnoch
- codi rhent yn uwch arnoch chi na thenantiaid eraill
- gwrthod gwneud atgyweiriadau i'ch cartref.
Os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi, efallai na fydd y rheolau hyn yn berthnasol. Os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi a chithau'n credu ei fod yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech ofyn am gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw landlord neu asiantaeth osod yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
(Example box starts)
Ar yr ystâd gyngor ble'r ydw i'n byw, mae mwyafrif y tenantiaid yn Fwslimiaid Bangladeshi. Dydyn ni ddim yn medru cael unrhyw atgyweiriadau wedi eu gwneud, er bod angen llawer o waith ar ein hadeilad. Rydyn ni’n gwybod am ystâd arall yn yr ardal ble mae pobl wyn, gan fwyaf, yn byw a dydyn nhw ddim yn gorfod aros am atgyweiriadau. A yw hyn yn wahaniaethu? A oes unrhyw beth fedrwn ni ei wneud am y sefyllfa? Efallai bod yna resymau da pam mae'r ystâd arall yn cael pethau'n gyflymach. Er enghraifft, efallai mai atgyweiriadau bach sydd angen ar y bobl yn yr ystâd arall ond mae eich adeilad chi angen atgyweiriadau mawr. Ond, efallai hefyd fod eich awdurdod lleol yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail hil a chrefydd ac, os yw hyn yn wir, maen nhw'n ymddwyn yn anghyfreithlon. Mae angen i chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol a fydd yn medru eich helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd.
(Example box ends)
Prynu a gwerthu eiddo
Os yw rhywun yn gwerthu eu cartref trwy gwmni gwerthu tai, ni chânt wrthod cynnig gan rywun oherwydd eu crefydd, neu gynnig ei werthu iddynt ar delerau llai ffafriol. Byddai hyn yn wahaniaethu ac mae'n anghyfreithlon.
Ond, mae rhywun sy'n gwerthu eiddo yn syth i chi, heb fynd trwy gwmni gwerthu tai, yn medru gwahaniaethu fel hyn, tra nad ydynt yn hysbysebu'r eiddo.
Cwmnïau gwerthu tai
Nid yw cwmnïau gwerthu tai yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd. Er enghraifft, ni ddylent wrthod dangos eiddo penodol i chi am nad yw'r perchennog eisiau gwerthu i Fwslimiaid.
Os yw cwmni gwerthu tai yn gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm, rydych yn medru cwyno i'r cwmni. Os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad, efallai y byddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman ar gyfer Cwmnïau Gwerthu Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman ar gyfer Cwmnïau Gwerthu Tai, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru ac yn yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw cwmni gwerthu tai yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
Benthycwyr morgais
Mae'n anghyfreithlon i fenthyciwr morgais wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, ni ddylai benthyciwr wrthod rhoi morgais i chi oherwydd eich crefydd neu gred, neu roi morgais i chi ar delerau gwaeth na phobl o grefydd neu gred wahanol.
Os yw benthyciwr morgais yn gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm, rydych yn medru cwyno i'r cwmni dan sylw. Os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad, efallai y byddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru ac yn yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban.
Am fwy o wybodaeth ynghylch beth fedrwch chi ei wneud os yw benthyciwr morgais yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd.
Nôl i’r Brig
Yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd
Y ffordd gyflymaf o ddatrys eich problem yw anfon eich pryderon yn ysgrifenedig at y cwmni neu'r sefydliad dan sylw. Holwch os oes adran cwynion ac anfonwch eich llythyr neu e-bost yno. Os nad oes adran cwynion, gofynnwch am enw rheolwr neu berson uwch arall sy'n gyfrifol am y gwasanaeth a wahaniaethodd yn eich erbyn, ac ysgrifennwch atynt. Dylai eich llythyr neu e-bost gynnwys:
- yr holl ffeithiau, gan gynnwys y dyddiad neu'r dyddiadau y digwyddodd y gwahaniaethu
- pam yr ydych chi'n credu bod gwahaniaethu wedi digwydd
- a oedd unrhyw dystion, a nodi eu manylion
- yr hyn yr hoffech i'r cwmni neu sefydlid ei wneud am y broblem
- yr hyn yr ydych yn mynd i'w wneud os na chaiff y broblem ei datys o fewn cyfnod penodol.
Os nad yw hyn yn gweithio, mae'n bosib i chi geisio:
- dilyn gweithdrefn gwynion ffurfiol y cwmni neu'r sefydliad, os oes un ganddynt. Mae gan y mwyafrif o gwmnïau, a phob corff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau iechyd, weithdrefn gwynion ffurfiol
- cwyno i'r Ombwdsman. Mae gan bob corff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol, adrannau'r llywodraeth, awdurdodau iechyd a landlordiaid cymdeithasol, Ombwdsman, yn ogystal â sefydliadau ariannol fel banciau a chymdeithasau adeiladu
- dwyn achos gerbron y llys sirol (llys y siryf yn yr Alban). Rhaid i chi ddechrau achos o fewn chwe mis i'r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu. Os ydych yn llwyddo, efallai y cewch iawndal ac efallai y bydd y person yn cael gorchymyn i stopio gwahaniaethu yn eich erbyn
- dweud wrth y Comisiwn Cydraddoldeb Hawliau Dynol – gweler y pennawd Help pellach.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Ombwdsmyn, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru ac yn yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban.
Mae unrhyw gamau gweithredu yn medru bod yn gymhleth ac yn medru gwneud eich bywyd yn anghyffyrddus yn y tymor byr. Efallai hefyd y bydd yna gostau, yn enwedig os ydych yn defnyddio cyfreithiwr i'ch cynrychioli. Os ydych yn ystyried cymryd camau cyfreithiol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Mathau eraill o wahaniaethu
Yn ogystal â gwahaniaethu oherwydd eich crefydd, efallai y byddwch yn cael eich trin yn annheg am resymau eraill, er enghraifft, oherwydd eich hil, anabledd neu am eich bod yn fenyw.
Er enghraifft, rydych yn fenyw ac yn Fwslim Twrcaidd ac rydych yn cael eich diswyddo am eich bod yn feichiog. Efallai y byddwch yn medru honni gwahaniaethu ar sail hil a rhyw yn ogystal â gwahaniaethu ar sail crefydd. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg am fwy nag un rheswm, sicrhewch eich bod yn sôn am yr holl resymu os ydych yn cwyno.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sil hil.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich oed, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb, gweler Ydw i'n medru cael fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.
Nôl i’r Brig
Help pellach
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Nid yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn cymryd achosion unigol, ond dylent fod yn medru rhoi cyngor i chi. Rydych yn medru cysylltu â'r EHRC yn:
Lloegr
Equalities and Human Rights Commission Helpline England Freepost RRLL-GHUX-CTRX Arndale House Arndale Centre Manchester M4 3EQ
Ffôn: 0845 604 6610 Ffôn Testun: 0845 604 6620 Ffacs: 0845 604 6630 Gwefan: www.equalityhumanrights.com
Cymru
Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 3ydd Llawr 3 Sgwâr Callaghan Caerdydd CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 Ffôn Testun: 0845 604 8820 Ffacs: 0845 604 8830 Gwefan: www.equalityhumanrights.com
Yr Alban
Equalities and Human Rights Commission Helpline Scotland The Optima Building 58 Robertson Street Glasgow G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 Ffôn Testun: 0845 604 5520 Ffacs: 0141 228 5912 Gwefan: www.equalityhumanrights.com
Canolfannau cyfraith
Mae canolfan gyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim os ydych eisiau dwyn achos am wahaniaethu ar sail crefydd. Os oes cyfreithiwr o ganolfan gyfraith yn eich cynrychioli, efallai y byddwch yn gymwys i gymorth cyfreithiol. Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion y ganolfan gyfraith agosaf ar gael gan Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith, ac, yn yr Alban, gan fudiad o'r enw Scottish Association of Law Centres.
Cymru a Lloegr
Law Centres Federation Third Floor 293-299 Kentish Town Road London NW5 2TJ Ffôn: 020 7428 4400 Ffacs: 020 7428 4401 E-bost: info@lawcentres.org.uk Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Yr Alban
Scottish Association of Law Centres c/o Govan Law Centre 47 Burleight Street Govan Glasgow G51 3LB Ffôn: 0141 440 2503 E-bost: m@govanlc.com Gwefan: www.govanlc.com/salc
Free Representation Unit (Lloegr)
Mae'r FRU (Free Representation Unit) yn medru cynnig cynrychiolaeth i bobl ar incwm isel sy'n byw yn ardal Llundain. Ond, mae'r FRU yn fudiad gwirfoddol a ni ellir gwarantu cynrychiolaeth mewn achosion. Os ydych chi eisiau help gan yr FRU, rhaid i chi gael eich cyfeirio yn ysgrifenedig gan asiantaeth gyngor unwaith y byddwch wedi cael dyddiad ar gyfer y gwrandawiad. Rhaid bod yr asiantaeth yn tanysgrifio i'r FRU. Mae rhai canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ardal Llundain yn tanysgrifio i'r FRU. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dyma fanylion cyswllt yr FRU:-
6th Floor 289 – 293 High Holborn London WC1V 7HZ Ffôn: 020 7611 9555 E-bost: admin@freerepresentationunit.org.uk Gwefan: www.freerepresentationunit.org.uk
Cynrychiolaeth Rhad ac am ddim (yr Alban)
Mae yna beth cynrychiolaeth rhad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer achosion penodol a phobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
|