Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 16 af 2010

Gwahaniaethu - Yng Nghymru

Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Gwahaniaethu ar sail oed

Mae yn erbyn y gyfraith i’ch trin yn annheg (gwahaniaethu yn eich erbyn) yn y gwaith oherwydd eich oed. Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn am fod yn rhy ifanc neu’n rhy hen.

Mae'r gyfraith newydd ynghylch gwahaniaethu ar sail oed ond yn cwmpasu cyflogaeth, addysg oedolion a hyfforddiant. Nid oes unrhyw gyfraith i gwmpasu gwahaniaethu ar sail oed mewn meysydd eraill. Mae hyn yn golygu bod cwmnïau fel cwmnïau yswiriant a chwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau ariannol yn dal i fedru gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed.

Nôl i’r brig



I bwy mae'r gyfraith newydd yn berthnasol

Mae'r gyfraith newydd yn berthnasol i chi os ydych yn gweithio neu os ydych yn ceisio am swydd newydd. Mae'n berthnasol i chi os ydych yn weithiwr asiantaeth. Mae hefyd yn berthnasol i chi os ydych chi angen cael geirda gan gwmni yr oeddech yn arfer gweithio iddynt. Nid yw eich cyflogwr yn medru gwrthod rhoi geirda i chi pan fyddwch chi’n gadael swydd ar sail eich oed yn unig.

Mae'r gyfraith yn berthnasol i chi, waeth sawl person sy’n gweithio yn eich cwmni neu ba mor hir yr ydych wedi bod yn gweithio iddynt.

Ni fydd y gyfraith newydd yn berthnasol i chi os ydych yn y lluoedd arfog neu os ydych yn wirfoddolwr sydd ddim yn cael eich talu.

Nôl i’r brig



Beth mae'r gyfraith newydd yn ei olygu

Mae'r gyfraith newydd yn golygu:

Nôl i’r brig



Triniaeth annheg yn y gwaith

Nid yw eich cyflogwr yn cael eich trin yn annheg oherwydd eich oed. Nid yw'n medru cael rheolau neu arferion sydd, er nad ydynt wedi eu hanelu atoch chi’n bersonol, yn dal i olygu eich bod o dan anfantais oherwydd eich oed. Er enghraifft, nid yw'n medru dweud bod angen i chi gael 12 mlynedd o brofiad ar ôl ennill eich cymhwyster cyn ceisio am swydd. Mae hyn yn golygu bod pobl iau o dan anfantais ac fe fydd yn erbyn y gyfraith.

Hefyd, nid yw cyflogwyr yn cael eich bwlio neu bigo arnoch oherwydd eich oed. Er enghraifft, ni ddylent ganiatáu i bobl ddweud jôcs sarhaus am eich oed yn y gweithle.

Mae yna rai eithriadau i’r rheolau cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys y ffaith fod hawl gan gyflogwr i wahaniaethu yn erbyn rhywun weithiau oherwydd eu hoed os allant ddangos bod hyn wedi ei gyfiawnhau. Er enghraifft, fe allai cyflogwr ddadlau nad ydyw’n gwneud synnwyr busnes recriwtio pobl dros 60 pan mae yna gyfnod hyfforddi hir a drud ar gyfer y swydd. Ni fyddai’r person yn y swydd am gyfnod rhesymol cyn ymddeol. Os nad ydych yn derbyn y cyfiawnhad, rydych yn medru mynd â’ch cwyn at dribiwnlys cyflogaeth ac fe fyddan nhw’n edrych ar bob achos yn unigol. Ni fydd llawer o gyflogwyr yn medru cyfiawnhau gwahaniaethu.

Nôl i’r brig



Ymddeoliad a gwahaniaethu ar sail oed

(Example box starts)

Byddaf yn 60 fis Rhagfyr nesaf.  Mae fy nghytundeb yn dweud bod yn rhaid i mi ymddeol yn 60 ond dydw i ddim am ymddeol bryd hynny.  A yw'r gyfraith yn berthnasol i mi?

Nid yw'r rhan fwyaf o gwmnïau yn medru gwneud i chi ymddeol hyd nes i chi gyrraedd 65, onid oes rheswm da iawn ganddynt. Os ydych yn aelod o undeb llafur, siaradwch â’ch undeb llafur ynghylch sut i drafod gyda’ch cwmni, neu siaradwch â chynghorydd profiadol.

(Example box ends)

Yr oed ymddeol arferol ar gyfer dynion a menywod yw 65, onid yw eich cytundeb cyflogaeth yn dweud ei fod yn uwch. Mae’ch cyflogwr yn medru eich gorfodi i ymddeol yn 65 oed.

Os yw eich cytundeb yn dweud bod yn rhaid i chi ymddeol yn 60, nid yw eich cyflogwr yn debygol o fod yn medru eich gorfodi i ymddeol cyn 65 onid oes ganddynt  reswm da iawn dros gael oed ymddeol ifancach.  Os yw’ch cyflogwr yn gwneud i chi ymddeol cyn i chi gyrraedd 65 oed, fe fydd hyn yn wahaniaethu ar sail oed a dylech gael cyngor pellach.

Mae yna reolau ynghylch sut mae eich cyflogwr yn medru eich gorfodi chi i ymddeol.  

Mae'n rhaid iddynt roi rhybudd ysgrifenedig i chi ynghylch y dyddiad y byddwch yn ymddeol a dweud wrthych am eich hawl i ofyn am gael aros ymlaen ar ôl y dyddiad yna.  Dylech gael y rhybudd rhwng chwech a deuddeg mis cyn y dyddiad y byddech yn ymddeol.

Os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y rheolau hyn, fe fyddwch yn medru hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth ac mae'n bosib y cewch hyd at wyth wythnos o gyflog – gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu ar sail oed.

Os ydych yn gofyn i'ch cyflogwr weithio tu hwnt i'r oed ymddeol arferol, mae'n rhaid iddo ystyried eich cais ond nid oes yn rhaid iddo gytuno.

Os ydych chi eisiau ymddeol cyn 65, cewch wneud hynny os yw'ch cyflogwr yn cytuno.

Nid yw'r gyfraith yn effeithio ar yr oed y gallwch gael pensiwn ymddeol y wladwriaeth. Mae hwn yn 60 i fenywod a 65 i ddynion ar hyn o bryd.

Nôl i’r brig



Ceisiadau am swydd a gwahaniaethu ar sail oed

(Example box starts)

Rydw i newydd geisio am swydd ac mae'r ffurflen yn gofyn am fy nyddiad geni. A oes rhaid i mi ei roi? Rwy'n 62 ac yn ofni na fydd y cwmni yn edrych ar fy nghais os ydynt yn sylweddoli faint yw fy oed.

Nid oes unrhyw beth i atal cwmni rhag gofyn am eich dyddiad geni ar ffurflen gais. Ond os nad ydych yn cael y swydd ac rydych yn credu mai’r rheswm yw eich oed, fe allwch ddefnyddio’r ffaith eu bod wedi gofyn am eich dyddiad geni fel tystiolaeth posib o wahaniaethu ar sail oed a fydd yn erbyn y gyfraith.

(Example box ends)

Mae yn erbyn y gyfraith yn gyffredinol i gyflogwyr wrthod eich cyflogi neu eich dyrchafu oherwydd eich oed.

Mae hyn yn golygu, yn y mwyafrif o achosion, na ddylai cyflogwyr hysbysebu swyddi sydd wedi eu hanelu at grwpiau oed penodol.

Fodd bynnag, mae yn rai eithriadau i’r rheol hon. Mae'r rhain yn berthnasol ble mae cyflogwr yn medru cyfiawnhau ei bod yn angenrheidiol gwrthod cyflogi pobl dros oed penodol neu o dan oed penodol.

Mae cyflogwr yn medru gwrthod eich cyflogi:

  • Pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed (neu beth bynnag yw’r oed ymddeol arferol yn eich cwmni os yw’n fwy na 65); neu
  • Pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed (neu beth bynnag yw’r oed ymddeol arferol yn eich cwmni os ydyw’n fwy na 65) o fewn chwe mis i’r adeg y ceisioch am y swydd.

Hefyd, mae yna rai cyfreithiau yn ymwneud â’r oed sy’n rhaid i chi fod i wneud gwaith penodol. Er enghraifft, mae’n rhaid bod staff bar sy’n gweini alcohol yn 18, o leiaf. Yn amlwg, nid ydyw yn erbyn y gyfraith i hysbysebu am staff bar dros 18 oed.

Mae cyflogwr yn dal i fedru gofyn am wybodaeth am eich oed mewn cais am swydd. Ond, os ydych yn credu bod cyflogwr wedi defnyddio'r wybodaeth hon i wahaniaethu yn eich erbyn, rydych yn medru cwyno at dribiwnlys cyflogaeth - gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud am wahaniaethu ar sail oed.

Nôl i’r brig



Diswyddiad annheg

(Example box starts)

Dim ond 42 ydw i ond mae'r bos yn dweud ei fod yn gorfod cael fy ngwared oherwydd fy oed – mae'n dweud nad ydyw fy nelwedd i'n iawn i'w gwmni. Ydyw e'n gallu gwneud hyn?

Na, ni all eich diswyddo, onid oes rheswm da ganddo dros eich diswyddo. Yn syml, nid yw bod yn 42 yn rheswm da. Os cewch eich diswyddo, efallai bod gennych le i hawlio Diswyddiad annheg. Mynnwch gyngor cyn cynted â phosib.

(Example box ends)

Os cewch eich diswyddo'n annheg, rydych yn medru hawlio diswyddiad annheg gerbron tribiwnlys cyflogaeth, waeth beth yw eich oed. Mae'n annheg eich diswyddo oherwydd eich oed.

Ond, tra bod eich cyflogwyr wedi dilyn gweithdrefnau penodol, mae'n medru eich gorfodi i ymddeol yn 65. Ni fyddai hyn yn ddiswyddiad annheg. Ond, os ydych wedi gofyn am gael gweithio ar ôl cyrraedd 65, mae’n rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais. Os nad ydyw’n gwneud hyn, fe fydd eich diswyddiad yn cyfrif fel un annheg ac efallai y cewch iawndal. Ni fyddai'n cyfrif fel diswyddiad annheg os yw eich cyflogwr wedi ystyried eich cais ond wedi ei wrthod.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gweithdrefnau y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu dilyn pan fyddwch yn ymddeol o'r gwaith, gweler y pennawd Ymddeol a gwahaniaethu ar sail oed.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo'n annheg, dylech gael cyngor mor fuan â phosib, oherwydd mae yna derfynau amser ar gyfer hawlio. Dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Tâl am golli swydd a gwahaniaethu ar sail oed

Os cewch eich diswyddo o’ch gwaith, rydych yn medru cael tâl am golli eich gwaith waeth faint yw eich oed. Mae'n rhaid eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr ers o leiaf dwy flynedd.

Wrth ddiswyddo staff, ni chaiff cylflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr hŷn neu ifancach. Ond maen nhw'n cael dewis pobl i'w diswyddo ar sail y cyfnod y maent wedi gweithio iddynt.

Nôl i’r brig



Beth fedrwch chi ei wneud am wahaniaethu ar sail oed

Os ydych yn cael eich trin yn annheg neu eich bwlio yn y gwaith oherwydd eich oed, gwnewch rywbeth cyn gynted â phosib.

Siarad â rhywun

Ceisiwch ddweud wrth y person sy'n aflonyddu arnoch neu'n eich trin yn annheg i stopio, ond dim ond os ydych yn teimlo y byddai'n ddiogel gwneud hynny. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch yn gwneud hyn.

Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy'n digwydd ac hefyd siarad â'ch adran personél neu undeb llafur, os oes un gennych. Cofnodwch y cyfan yn ysgrifenedig a chadwch gopi. Mae gofyn i'ch cyflogwr, yn ôl y gyfraith, i geisio atal bwlio a gwahaniaethu yn y gweithle. Os mai'r person dan sylw yw eich rheolwr, dylech ddweud wrth rywun uwch yn y sefydliad.

Casglu tystiolaeth

Efallai y byddai'n ddefnyddiol casglu tystiolaeth ynghylch y gwahaniaethu yr ydych yn ei ddioddef. Me hyn yn medru cynnwys cadw dyddiadur neu gofnodi'r amser, y dyddiad a'r lleoliad ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, Yr hyn a gafodd ei ddweud neu ei wneud, a oedd unrhyw dystion, a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr. Efallai y byddwch am gofnodi enwau a swyddi'r rheiny sydd, yn eich barn chi, yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu ynghylch y rheol neu bolisi sy'n eich gosod o dan anfantais, ac esbonio pam.

Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i'ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Mae hyn yn medru helpu cael gwybodaeth i gefnogi eich achos. Mynnwch gyngor yn gynnar oherwydd mae yna derfynau amser llym ar gyfer y weithdrefn hon.

Rydych yn medru cael cyngor ar wahaniaethu ar sail oed gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Codi achwyniad

Os nad yw siarad â rhywun wedi stopio'r aflonyddu neu driniaeth annheg, rydych yn medru codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr. Dylai fod gan bob gweithle weithdrefn achwyniad.

Am wybodaeth bellach ynghylch codi achwyniad gyda'ch cyflogwr, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.

Hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Os nad ydych wedi medru datrys eich problem trwy godi achwyniad, efallai y bydd yn rhaid i chi hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Efallai y bydd angen i chi fod wedi codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr cyn gwneud hyn. Mae gennych dri mis o'r dyddiad y dioddefwyd y gwahaniaethu cyntaf er mwyn cyflwyno cais.

Mae tribiwnlys cyflogaeth yn medru:

  • penderfynu ar eich hawliau
  • rhoi iawndal. Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar gyfer yr iawndal y medrwch ei gael oherwydd gwahaniaethu ar sail oed.
  • Awgrymu i'r cyflogwr unioni'r broblem.

Os ydych yn ystyried hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft gan ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Cynlluniau pensiwn gwaith a gwahaniaethu ar sail oed

Mae cyflogwyr yn cael cynnwys rheolau am oedran yn eu cynlluniau pensiwn gwaith. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail oed.

Ni fydd newid yn y mathau hyn o reolau o fis Hydref. Fe fydd cyflogwyr yn dal i gael cynnwys rheolau ynglyn ag oed yn eu cynlluniau pensiwn gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau pensiwn gwaith, gweler Pensiynau.

Nôl i’r brig



Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwahaniaethu ar sail oed

Mae yna gyfraddau cyflog gwahanol ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oed. Rydych yn cael llai o arian os ydych yn iau na 22 ac nid yw hyn yn erbyn y gyfraith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.

Nôl i’r brig



Mathau eraill o wahaniaethu

Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail oed, mae'n bosib i chi gael eich trin yn annheg am resymau eraill, er enghraifft, am eich bod yn fenyw, yn hoyw neu'n anabl.

Er enghraifft, rydych yn fenyw 60 oed ac yn cael eich diswyddo am eu bod yn dweud eich bod wedi cyrraedd oed ymddeol. Mae dynion yn y cwmni'n ymddeol yn 65. Efallai y medrwch gyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn ogystal â gwahaniaethu ar sail oed. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin y annheg yn y gwaith oherwydd eich oed ac oherwydd eich bod yn fenyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi'r ddau fater os ydych yn cwyno.

Am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, a Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich hil, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil? Yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig



Gwybodaeth bellach

Mae mwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail oed yng Nghymru a Lloegr ar gael oddi ar wefan Age Positive yn (New window) www.agepositive.gov.uk a gan Age Concern yn (New window) www.ace.org.uk. Yn yr Alban, ewch i wefan Age Concern yr Alban, (New window) www.ageconcernscotland.org.uk.

Mae'r Rhwydwaith Oed a Chyflogaeth (Age and Employment Network) yn gweithio gyda phobl hŷn i hybu cyfleoedd gwaith iddyn nhw. Mae hefyd yn rhedeg gwefan Agebusters sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oed: (New window) www.agebusters.org.uk.

Mae Is that discrimination? yn wefan a gynhyrchwyd gan Advicenow. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut i daclo gwahaniaethu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys tudalen broblemau ac astudiaethau achos ynghylch gwahaniaethu. Rhowch glic ar (New window) www.isthatdiscrimination.org.uk.

Nôl i’r brig



Help pellach

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Efallai y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru eich helpu os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu.  Rydych yn medru cysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn:-

Lloegr

Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ

Ffôn: 0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630

E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Cymru

Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT

Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830

E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Yr Alban

Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU

Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530

E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon

Mae cyngor ar gael gan Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon. Dyma’r manylion cyswllt:

The Equality Commission for Northern Ireland
Equality House
7-9 Shaftesbury Square
Belfast
BT2 7DP

Ffôn: 028 9050 0600
Ffôn Testun: 028 9050 0589

Llinell Ymholiadau: 028 90 890 890
Ffacs: 028 9024 8687
E-bost: information@equalityni.org
Gwefan: (New window) www.equalityni.org

Canolfannau Cyfraith

Mae canolfannau cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i bobl sydd am gymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail hil. Os ydych yn cael eich cynrychioli gan gyfreithiwr o ganolfan gyfraith, efallai y bydd hawl gennych i gymorth cyfreithiol. Mae manylion y canolfannau cyfraith agosaf ar gael gan:-

Yng Nghymru a Lloegr

The Law Centres Federation
Third Floor

293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ

Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

Yn Yr Alban

Scottish Association of Law Centres
Secretary
c/o Govan Law Centre
47 Burleigh Street
Govan
Glasgow G51 3LB

Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: (New window) www.salc.info

Yng Ngogledd Iwerddon

Law Centre NI
124 Donegall Street
Belfast
BT1 2GY

Ffôn: 028 9024 4401
Ffacs: 028 9023 6340
E-bost: admin.belfast@lawcentreni.org

Uned Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim (Lloegr)

Mae’r Uned Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim yn fudiad sy’n medru darparu cynrychiolaeth i bobl yn ardal Llundain sydd ar incwm isel. Ond, mae ond yn medru gweithredu ar ran pobl sydd wedi cael eu cyfeirio’n ysgrifenedig gan asiantaeth arall sydd wedi tanysgrifio i’r Uned, er enghraifft, rhai canolfannau Cyngor Ar Bopeth yn ardal Llundain. Mae manylion y canolfannau CAB mewn llyfrau ffôn lleol neu ar wefan Cyngor ar Bopeth, sef www.citizensadvice.org.uk. Gellir cysylltu â’r uned yn:

6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
E-bost: admin@freerepresentationunit.org.uk
Gwefan: (New window) www.freerepresentationunit.org.uk

Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim (Yr Alban)

Mae peth cynrychiolaeth rhad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer rhai achosion penodol ac ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.

I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy ‘n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig