Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth yma’n ymwneud â hawliau cyffredinol plant a phobl ifanc. Mae yna wybodaeth ynghylch hawliau plant a phobl ifanc mewn adrannau eraill o Adviceguide hefyd.
Am wybodaeth ynglyn a chyflogaeth, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynglyn â thai, gweler Pobl ifanc a thai.
Am wybodaeth ynglyn â materion teuluol, gweler Pobl ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynglyn ag arian a hawliau defnyddwyr, gweler Pobl ifainc – arian a hawliau defnyddwyr.
Am wybodaeth ynglyn â budd-daliadau, gweler Pobl ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynglyn â iechyd a materion personol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynglyn â'r gyfraith a phobl ifainc, gweler Pobl ifanc a'r gyfraith.
Am wybodaeth ynglyn â chludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a chludiant.
Yn y wybodaeth yma, mae plentyn yn cyfeirio at rywun sy'n iau na 14 mlwydd oed ac mae person ifanc yn cyfeirio at rywun sy’n 14 oed a throsodd ond yn iau na 18 oed. Mae rhiant yn cyfeirio at rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Mae yna nifer o gynlluniau sy’n darparu cardiau i’ch helpu i brofi eich oedran. Mae llawer o awdurdodau lleol a cholegau lleol yn rhedeg cynlluniau cerdyn.
Mae yna gynllun cenedlaethol o’r enw Proof of Age Standards Scheme (PASS). Os oes gan gerdyn hologram PASS mae’n golygu bod y sawl â gyhoeddodd y cerdyn wedi cwrdd â safonau llym a osodir gan Swyddogion Safonau Masnach lleol ac y gellir dibynnu ar y cerdyn. Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gerdyn prawf oedran sydd gennych yn dangos yr hologram PASS. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar wefan PASS yn www.pass-scheme.org.uk.
Cymdeithas yw Grwp Portman sy’n gweithio er mwyn atal y camddefnydd o alcohol a hybu yfed cyfrifol. Mae’r grwp yn medru darparu cerdyn Prawf Oedran os ydych dros 18 oed ond nid ydych yn edrych eich hoedran. Rhaid i ymgeiswyr dalu £5, llenwi ffurflen a darparu ffotograff. Rhaid i berson cymwys lofnodi'r ffurflen a’r ffotograff. Mae’r ffurflen yma ar gael gan rai masnachwyr neu’n uniongyrchol oddi wrth Grwp Portman.
The Portman Group
7 - 10 Chandos Street
Cavendish Square
London
W1G 9DQ
Rhif ffôn: 020 7907 3700
Ffacs: 020 7907 3710
E-bost: info@portmangroup.org.uk
Gwefan: www.portmangroup.org.uk
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un, yn cynnwys plentyn neu berson ifanc, ar sail:
Mae rhai o’r llefydd rydych yn cael eich gwarchod rhag gwahaniaethu yn cynnwys ysgolion a cholegau, gwaith, siopau, clybiau, tafarndai, ysbytai, clinigau a gwasanaethau’r cyngor. Rydych yn cael ei gwarchod rhag gwahaniaethu p’un ai rydych yn prynu rhywbeth neu’n ei gael am ddim.
Mae na eithriadau i’r rheolau hyn mewn amgylchiadau penodol, sy’n golygu bod gwahaniaethu’n gyfreithlon.
Os ydych wedi dioddef gwahaniaethu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol neu ar sail hil, neu aflonyddu ar sail eich rhywioldeb, crefydd neu gred, mae’n bosib y gallwch ddwyn achos yn erbyn y gymdeithas neu’r unigolyn a oedd yn gyfrifol.
Am ragor o wybodaeth am wahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil.
Am ragor o wybodaeth am wahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am ragor o wybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb, gweler Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.
Mae’r gyfraith ar genedligrwydd a mewnfudiad yn gymhleth, a dylech geisio cymorth gan gynghorydd profiadol, enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am gyfeiriadau a gwybodaeth ynglyn â chymdeithasau sy’n cynnig cymorth pellach gyda materion fewnfudo, gweler Help gyda phroblemau ymwyneud a mewnfudiad.
Mae gennych yr hawl i weld gwybodaeth a gedwir amdanoch, waeth beth fo eich hoedran, oni bai fod y person sy’n gofalu am y wybodaeth yn ystyried nad ydych yn ddigon galluog i ddeall natur y cais yr ydych yn ei wneud. Os gwrthodir mynediad i chi at eich cofnodion gallwch wneud cwyn at y Comisiynydd Gwybodaeth.
Fel rhiant, fel arfer nid oes gennych hawl i weld gwybodaeth a gedwir am eich plentyn ar gofnod cyfrifiadur. Yr unig bryd caniateir hyn yw os yw’r sawl sy’n gofalu am y wybodaeth yn gwybod fod y plentyn wedi awdurdodi’r cais, neu - os gwneir y cais ar ran plentyn neu berson ifanc - a ysytyrir ei b/fod yn ddigon galluog i ddeall natur y cais.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â mynediad at gofnodion personol, gweler Defnyddio'r gyfraith i warchod eich gwybodaeth neu ewch at wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.informationcommissioner.gov.uk.
Fel rhiant, mae gennych hawl cyfreithiol i ddefnyddio cosb corfforol ar blentyn neu berson ifanc. Fodd bynnag, os yw’r trais a ddefnyddir yn ddifrifol, gellir eich erlyn am ymosodiad neu gellir cymryd y plentyn neu’r person ifanc i mewn i ofal yr awdurdod lleol. Byddai’n rhaid i’r llys benderfynu p'un ai oedd y gosb yn gymedrol neu’n rhesymol yn unol ag oedran a chryfder y plentyn neu’r person ifanc.
Ni chaniateir i unrhyw athro mewn ysgol ddefnyddio cosb corfforol ar ddisgybl o unrhyw oed. Yng Ngogledd Iwerddon, ni chaniateir i athro mewn unrhyw ysgol sy’n derbyn cymorth grantiau i ddefnyddio cosb corfforol ar ddisgybl o unrhyw oed.
Mae'r pennaeth a'r athrawon yn medru defnyddio dulliau anghorfforol rhesymol i gosbi disgybl am ymddygiad annerbyniol. Rhaid i unrhyw gosb fod yn deg, yn rhesymol ac o fewn polisi'r ysgol. Mae enghreifftiau o gosbau rhesymol yn cynnwys gwaith ychwanegol yn ystod oriau ysgol neu geryddu.
Mae aelod o staff yn medru defnyddio grym corfforol rhesymol i atal ymladd rhwng disgyblion neu i atal disgyblion rhag eu peryglu eu hunain, disgyblion eraill neu eiddo'r ysgol neu i atal disgybl rhag troseddu.
Am fwy o wybodaeth, gweler Problemau yn yr ysgol.
Ni chaniateir defnyddio cosb corfforol ar unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n byw mewn cartref plant, uned ddiogel, cartref maeth a ddarperir gan yr Awdurdod lleol neu gymdeithas gwirfoddol, cartref gofal preswyl neu sefydliad troseddwyr ifainc. Nid oes gwaharddiad ar gosbau corfforol os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn byw mewn cartref maeth preifat, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl preifat neu ganolfan triniaeth ieuenctid. Fodd bynnag, mae yna reolau yn y sefydliadau yma ynglyn â chosbau cymedrol neu resymol.
Os ydych yn poeni ynglyn y defnydd o gosb corfforol, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru a Lloegr, ni chaniateir i warchodwyr plant cofrestredig daro plentyn sydd yn eu gofal. Yng Ngogledd Iwerddon, lle nad ydyw gwrachodwyr plant wedi eu gwahardd rhag daro plentyn, mae'n rhaid bod rhiant wedi cytuno i ddefnyddio'r gosb yma ar y plentyn unigol a dylid defnyddio grym corfforol pan fydd pob ymgais arall wedi methu yn unig.
Os ydych yn poeni ynghylch y defnydd o gosb corfforol, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae gan rieni hawl i ddewis a yw eu plentyn yn dilyn crefydd yn y cartref ac yn yr ysgol ac os felly, pa grefydd y mae'n ei ddilyn. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dewis ei grefydd ei hun os oes gydag ef/hi ddealltwriaeth digonol. Os yw’r rhiant yn ystyried bod y grefydd a ddewiswyd gan y plentyn yn niweidiol, gellir gofyn i’r llys ymyrryd.
Mae yna ofyn cyffredinol i ysgolion ddarparu addysg grefyddol ond mae’n bosib i blentyn unigol beidio â derbyn yr addysg grefyddol.
Am fwy o wybodaeth am addysg grefyddol mewn ysgolion, gweler Problemau yn yr ysgol.
Childline
Freepost 1111
London N1 0BR
Ffôn: 020 7239 1000
Llinell Gymorth: 0800 1111 (llinell cyngor rhad ac am ddim 24 awr)
Gwefan: www.childline.org.uk
Mae plant a phobl ifainc yn medru ffonio neu ysgrifennu, yn gyfrinachol, os oes angen cyngor neu os ydynt mewn trafferth neu mewn perygl. Mae Childline yn medru cynnig cefnogaeth a chymorth ymarferol.
Childline Cymru/Wales
9fed Llawr
Tŷ Alexandra
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5ED
Ffôn: 0870 336 2935
Llinell Gymorth: 0800 1111 (llinell gyngor rhad ac am ddim 24 awr)
Ffacs: 0870 336 2936
Gwefan: www.childline.org.uk/CymruWales.asp
11 Million
1 London Bridge
London
SE1 9BG
Ffôn: 0844 800 9113
E-bost: info.request@11million.org.uk
Gwefan: www.11million.org.uk
Mae Comisiynydd Plant Lloegr yn gofalu am fuddiannau plant a phobl ifanc ac yn gweithredu fel eu llais annibynnol.
Ffôn: 0800 801 1000 (Llun-Gwe 9.00yb -5.00yp)
Ffôn testun: 80800 a decreuwch y neges gyda COM
E-bost: advice@childcomwales.org.uk
Tŷ Oystermouth
Ffordd Phoenix
Llansamlet
Abertawe SA7 9FS
Ffôn: 01792 765600
Ffacs:01792 765601
E-bost: post@childcomwales.org.uk
Gwefan: www.childcom.org.uk
Penrhos Manor
Oak Drive
Bae Colwyn
Conwy LL29 7YW
Ffôn: 01492 523333
Ffacs: 01492 523336
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn gallu rhoi cyngor i blant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru ynghylch eu hawliau a’u lles. Mae’r Comisiynydd hefyd yn gallu eich helpu i gwyno ynghylch eich triniaeth os ydych yn defnyddio gweithdrefn gwynion arferol sefydliad fel ysgol, cartref gofal neu adran o’r gwasanaethau cymdeithasol. Os nad yw’ch cwyn yn llwyddiannus, efallai y bydd y Comisiynydd yn medru cynnal ymchwiliad ar wahân.
Mae gan y Comisiynydd Plant bwerau hefyd i gymryd camau dros 'ddinoethi'. Mae 'Dinoethi', yn yr achos hwn, yn golygu bod gweithiwr sefydliad i blant a phobl ifanc yn codi pryderon fod y sefydliad yn gweithredu yn erbyn buddiannau plant yn ei gofal.
Mae plant yn medru defnyddio’r rhifau rhadffôn a neges testun rhad ac am ddim i gysylltu â’r Comisiynydd, ac ni fydd yn dangos ar unrhyw fil ffôn. Mae yna gyfeiriad e-bost arbennig hefyd, i blant ei defnyddio. Mae’r gwasanaeth hwn yn ddwyieithog ac os ydych am siarad â rhywun mewn iaith heblaw am Saesneg neu Gymraeg, fe fyddan nhw’n ceisio sicrhau bod hyn yn bosib.
42 Curtain Road
London
EC2A 3NH
Ffôn: 020 7825 2500
Llinell Gymorth: 0808 800 5000 (llinell cyngor rhad ac am ddim 24 awr)
Gwefan: www.nspcc.org.uk
Mae'r NSPCC yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth.