Diweddarwyd y safle:

Chwefror 11 af 2012

  • Cymru
  • Gweithdrefnau pleidleisio

Gweithdrefnau pleidleisio

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio

Mae yna ddau fersiwn o gofrestr etholaeth. Mae'r rhestr lawn yn rhestru pob un yn yr etholaeth sy'n cael pleidleisio. Mae hwn ar gael i bleidiau gwleidyddol, rhai o asiantaethau'r llywodraeth ac asiantaethau cyfeirio credyd. Mae hefyd ar gael i'r cyhoedd ei archwilio drwy gydol y flwyddyn yn swyddfeydd y cyngor a mannau dethol eraill.

Mae yna fersiwn wedi'i olygu hefyd. Mae hwn ar gael ar gyfer gwerthiant agored ac mae gennych yr hawl i ddewis peidio â chael eich cynnwys ar y fersiwn yma.

Er mwyn cael eich cynnwys ar y gofrestr etholiadol, mae'n rhaid:-

  • eich bod yn 18 neu'n hyn – ond gweler isod
  • bod gennych un o'r mathau o ddinasyddiaeth a restrir isod
  • eich bod yn byw yn yr etholaeth lle rydych yn dymuno pleidleisio – gweler isod. Os ydych yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor, gweler isod
  • nad ydych yn berson sydd wedi'i (h)eithrio rhag pleidleisio – gweler isod.

Oed

Os ydych yn mynd i fod yn 18 yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis wedi cyhoeddi'r gofrestr, dylech fod ar y gofrestr fel eich bod yn medru pleidleisio unwaith y byddwch wedi troi'n 18. Mae'n rhaid rhoi'ch dyddiad geni ar y ffurflen gais ar gyfer y gofrestr etholiadol.

Dinasyddiaeth

Mae'r bobl ganlynol yn medru cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol Ewropeaidd, etholiadau seneddol Prydeinig (mae hyn yn golygu rhai cyffredinol ac is-etholiadau) ac etholiadau llywodraeth leol:-

  • dinasyddion Prydeinig (ond gweler isod os ydych yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor
  • dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon sy'n byw yn y Deyrnas Unedig
  • dinasyddion Tiriogaethau Tramor Prydain sy'n byw yn y Deyrnas Unedig
  • dinasyddion y Gymanwlad sy'n byw yn y Deyrnas Unedig

Os ydych yn ddinesydd y Gymanwlad neu'n ddinesydd Tiriogaethau Tramor Prydain sy'n dymuno cofrestru i bleidleisio, mae'n rhaid i un o'r canlynol fod yn wir:-

  • rydych wedi cael eich caniatau i ddod i'r DU neu i aros yn y DU; neu
  • rydych yn berson sydd ddim angen caniatâd i ddod i'r DU neu i aros yn y DU.

Mae dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor yn medru cofrestru a phleidleisio mewn etholiadau seneddol Ewropeaidd a Phrydeinig ond nid etholiadau i Senedd yr Alban nac etholiadau lleol. Os ydych wedi bod yn byw dramor ers dros 15 mlynedd, efallai y byddwch yn colli'r hawl hwn. Mae pobl sy'n byw yn Gibraltar ond yn medru pleidleisio mewn etholiadau seneddol Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig.

Os nad ydych yn siwr pa fath o ddinasyddiaeth sydd gennych, neu a oes gennych yr hawl i bleidleisio, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yr hawl i bleidleisio mewn:

  • etholiadau seneddol Ewropeaidd
  • etholiadau llywodraeth leol Prydeinig
  • etholiadau i Senedd yr Alban, os ydynt yn byw yn yr Alban
  • etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os ydynt yn byw yng Nghymru
  • etholiadau i Gynulliad Gogledd Iwerddon, os ydynt yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Nid oes gan ddinasyddion Ewropeaidd nad ydynt yn ddinasyddion yr UE yr hawl i bleidleisio yn yr etholiadau yma.

Nid yw dinasyddion yr UE yn medru pleidleisio mewn etholiadau seneddol Prydeinig.

Ar gyfer etholiadau seneddol Ewropeaidd, gall ddinasyddion yr UE bleidleisio naill ai yn eu gwlad 'gartref', neu wlad yr UE lle maent yn byw ar hyn o bryd. Ni allant bleidleisio yn y ddau.

Er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol Prydeinig, mae'n rhaid i ddinasyddion yr UE fod wedi'u cynnwys ar y gofrestr etholiadol ar gyfer yr etholaeth ble maen nhw'n pleidleisio (gweler y pennawd Sut mae'r gofrestr etholiadol yn cael ei llunio).

Preswyliaeth

Er mwyn cofrestru i bleidleisio neu ddatgan cysylltiad lleol, mae'n rhaid eich bod yn byw yn yr etholaeth ar y dyddiad yr ydych yn gwneud y cais i gofrestru (gweler y pennawd Trefniadau arbennig ar gyfer grwpiau penodol pan yn cofrestru i bleidleisio). Os ydych i ffwrdd o'ch cartref dros dro, er enghraifft, os ydych yn astudio i ffwrdd o'ch cartref, gallwch bleidleisio neu ddatgan cysylltiad lleol yn yr etholaeth lle rydych yn byw fel arfer.

Mae yna rai eithriadau i'r reol yma, er enghraifft, pobl sy'n byw dramor, rhai pobl di-gartref, carcharorion sydd yn y ddalfa a phobl mewn cartref seiciatryddol – ond gweler isod am esboniad llawnach.

Pwy sy'n methu â phleidleisio

Nid oes hawl gan y bobl canlynol i bleidleisio:-

  • unrhyw un sydd ddim ar y gofrestr etholiadol ar ddiwrnod y bleidlais
  • pobl o dramor, (heblaw am ddinasyddion yr UE, dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon a dinasyddion y Gymanwlad sy'n gymwys, sy'n byw yn y DU – gweler uchod)
  • pobl sy'n iau na 18
  • y rhan fwyaf o garcharorion sydd wedi cael eu dedfrydu. Ond, mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi penderfynu y gallai hyn fod yn torri hawliau dynol. Dylai carcharor sy’n methu â phleidleisio gael cyngor arbenigol.
  • carcharorion sydd wedi eu cael yn euog sydd yn y carchar ac sydd wedi eu dedfrydu neu sydd 'yn rhydd yn anghyfreithlon' (gweler y pennawd Trefniadau arbennig ar gyfer grwpiau penodol pan yn cofrestru i bleidleisio)
  • pobl sydd wedi eu dal mewn ysbyty seiciatryddol o ganlyniad i weithgaredd droseddol
  • pobl penodol sydd wedi eu cyhuddo o arferion etholiadol twyllodrus neu anghyfreithlon
  • un o Arglwyddi'r Deyrnas sy'n dal i fod yn aelod o Dy'r Arglwyddi (ar gyfer etholiadau seneddol Prydeinig yn unig)
  • pobl sydd â salwch meddwl difrifol ac sy'n methu â deall y drefn bleidleisio.

Os nad ydych yn siwr a ydych yn gymwys i bleidleisio, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Pleidleiswyr dramor

Os ydych yn byw dramor, wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig, ac wedi cael eich cofrestru fel etholydd sy'n byw yn y Deyrnas Unedig o fewn y 15 mlynedd diwethaf, gallwch wneud datganiad blynyddol. Bydd hyn yn eich galluogi chi i gael eich cynnwys bob blwyddyn ar y gofrestr etholiadol yn yr etholaeth lle cawsoch eich cofrestru ddiwethaf cyn i chi fynd dramor. Mae cofrestru fel pleidleisiwr tramor yn wirfoddol.

Unwaith y byddwch wedi'ch cofrestru, rydych yn medru pleidleisio mewn unrhyw etholiad seneddol neu etholiad i senedd Ewropeaidd sy'n digwydd tra'ch bod chi ar y gofrestr. Nid ydych yn medru pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol nac mewn etholiadau i gynulliadau datganoledig, er enghraifft Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.

Os ydych bellach yn ddigon hen i'ch cynnwys ar y gofrestr, ond roeddech yn rhy ifanc i'ch cynnwys ar adael y Deyrnas Unedig, gallwch hefyd wneud datganiad blynyddol, ar yr amod eich bod wedi byw yn y Deyrnas Unedig o fewn y 15 mlynedd diwethaf a bod eich rhiant neu warcheidwad wedi'i g/chynnwys ar y gofrestr etholiadol.

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gymwys, ac sy'n dymuno cofrestru fel etholydd dramor, gwblhau'r ffurflenni angenrheidiol, sydd fel arfer ar gael o gonsyliaethau Prydeinig a swyddfeydd diplomataidd, neu fe allwch eu lawrlwytho o wefan y Comisiwn Etholiadol, yn (New window) www.aboutmyvote.co.uk.

Mae'n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflenni wedi'u cwblhau at y swyddog cofrestru etholiadol ar gyfer yr etholaeth yr oeddech wedi'ch cofrestru ynddi ddiwethaf. Mae'n rhaid i chi wneud hyn bob blwyddyn. Y tro cyntaf i chi wneud y datganiad, mae'n rhaid i chi roi manylion am eich dinasyddiaeth Prydeinig (sef yr unig fath o ddinasyddiaeth – gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio - sy'n cyfrif ar gyfer bod yn bleidleisiwr tramor). Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa gan y swyddog cofrestru (y prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) i adnewyddu eich datganiad etholiadol tramor.

Nôl i’r brig


Trefniadau arbennig ar gyfer grwpiau penodol pan yn cofrestru i bleidleisio

Mae yna drefniadau arbennig ar gyfer rhai grwpiau o bobl pan yn cofrestru i bleidleisio. Dyma'r grwpiau hynny:-

  • pobl ddigartref (gan gynnwys rhai teithwyr)- gweler isod
  • cleifion mewn ysbytai seiciatryddol (heblaw am y rheiny sydd wedi eu dal o ganlyniad i weithgaredd droseddol) - gweler isod
  • pobl sydd wedi eu cadw yn y ddalfa - gweler isod
  • pobl su'n byw mewn mwy nag un etholaeth - gweler isod.

Datganiad o gysylltiad lleol

Gall pobl ddi-gartref, cleifion mewn ysbytai seiciatryddol a charcharorion sydd yn y ddalfa wneud datganiad o gysylltiad lleol (datganiad). Dylech ddefnyddio hwn os ydych yn un o'r grwpiau uchod ac nad ydych yn bodloni'r gofynion arferol o ran preswylio (gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio), ond eich bod fel arall yn gymwys i gofrestru i bleidleisio.

Mae'n rhaid i'r datganiad:-

  • roi eich henw; a
  • darparu cyfeiriad ar gyfer anfon gohebiaeth, neu ymrwymiad i gasglu'r fath ohebiaeth o'r swyddfa gofrestru etholiadol; a
  • rhoi dyddiad y datganiad; a
  • datgan eich bod yn syrthio i un o'r categorïau sy'n cael gwneud datganiad a datgan y categori sy'n berthnasol i chi; a
  • datgan eich bod yn bodloni'r gofynion o ran eich cenedligrwydd – gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio; a
  • datgan eich bod yn 18 oed neu, os nad ydych yn 18, rhoi eich dyddiad geni llawn – gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio.

Os ydych yn rhoi mwy nag un cyfeiriad, neu'n cyflwyno mwy nag un datganiad yn dwyn yr un dyddiad a chyfeiriadau gwahanol, bydd y datganiad(au) yn ddi-rym. Gallwch ganslo datganiad ar unrhyw adeg.

Mae datganiad yn eich galluogi chi i wneud cais am gofrestru i bleidleisio. Mae'n rhaid i chi gyflwyno'r datganiad i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) o fewn tri mis i'r dyddiad ar y datganiad a byddwch yn cael eich trin fel preswylydd yn y cyfeiriad a roddwyd gennych. Bydd y cofrestru yn ddilys am ddeuddeg mis oni bai ei fod wedi'i ganslo neu ei ddisodli.

Pobl ddigartref

Os ydych yn ddigartref, dylech wneud datganiad, gan roi cyfeiriad y man lle rydych yn treulio rhan sylweddol o'ch hamser, neu gyfeiriad rhywle gerllaw y fan yna. Gallai hyn gynnwys caffi neu ganolfan galw-i-mewn. Efallai y bydd teithiwr sydd ddim ar safle penodol hefyd yn gallu gwneud datganiad.

Cleifion mewn ysbytai seiciatryddol

Nid oes gan y rheiny sydd wedi eu dal mewn ysbyty seiciatryddol o ganlyniad i weithgaredd droseddol yr hawl i bleidleisio, gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio.

Os ydych yn glaf yn y tymor byr mewn ysbty seiciatryddol, gallwch gofrestru i bleidleisio trwy gwblhau'r ffurflen arferol ar gyfer y gofrestr etholiadol - gweler isod. Dylech roi eich cyfeiriad arferol tu allan i'r ysbyty fel y man lle rydych yn byw/preswylio.

Os ydych yn glaf yn y tymor byr heb unrhyw gyfeiriad tu allan i'r ysbyty ac yn pryderi nad ydych wedi eich cofnodi ar y gofrestr etholiadol, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn glaf yn y tymor hir mewn ysbyty seiciatryddol pan fydd cofrestr etholiadol newydd yn cael ei llunio, mae gennych yr hawl i gofrestru i bleidleisio. Gallwch gofrestru yn eich cyfeiriad tu allan i'r ysbyty. Neu, fel arall, gallwch gofrestru o dan gyfeiriad yr ysbyty os bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn ystyried eich bod wedi bod yn yr ysbyty, neu y byddwch wedi bod yn yr ysbyty, am hyd digonol ar gyfer ei ystyried fel eich man preswyl.

Os nad ydych am ddefnyddio eich cyfeiriad cartref na chyfeiriad yr ysbyty, gallwch wneud datganiad o gysylltiad lleol – gweler uchod. Mae'n rhaid i'r datganiad roi enw'r ysbyry seiciatryddol a'r cyfeiriad lle byddech yn byw pe na byddech yn yr ysbyty. Os na allwch ddarparu eich cyfeiriad cartref mwyaf diweddar, dylech ddarparu cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle rydych wedi byw ar unrhyw adeg.

Os ydych wedi eich dal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (yn yr Alban, Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (yr Alban) 2003 ac, yng Ngogledd Iwerddon, Deddf Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986) ni allwch bleidleisio yn bersonol, ond yn hytrach, mae'n rhaid i chi bleidleisio trwy'r post (gweler y pennawd Sut i bleidleisio) neu trwy ddirprwy (gweler y pennawd Sut i bleidleisio).

Pobl sydd wedi eu cadw yn y ddalfa

Yr unig garcharorion sydd â hawl i bleidleisio yw'r rheiny sydd wedi eu cadw yn y ddalfa (p'un ai eu bod mewn carchar neu mewn ysbyty) a'r rheiny sydd wedi eu cael yn euog ond sydd heb eu dedfrydu (gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio).

Gallwch gofrestru o dan eich cyfeiriad tu allan i'r carchar. Neu, gallwch gofrestru o dan gyfeiriad y carchar os ydyw'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn ystyried eich bod wedi bod, neu y byddwch, yn y carchar am hyd digonol ar gyfer ei ystyried fel eich man preswyl.

Os nad ydych yn dymuno defnyddio eich cyfeiriad cartref na chyfeiriad y carchar, gallwch wneud datganiad o gysylltiad lleol - gweler uchod. Mae'n rhaid i'r datganiad roi enw'r carchar a'r cyfeiriad lle y byddech yn byw pe na byddech yn y carchar. Os na allwch ddarparu eich cyfeiriad cartref mwyaf diweddar, dylech ddarparu cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle rydych wedi byw ar unrhyw adeg.

Pobl sy'n byw mewn mwy nag un etholaeth

Mae eich sefyllfa os oes gennych fwy nag un cartref yn gymhleth. Mae eich hawliau i gael eich cynnwys ar y gofrestr a phleidleisio mewn etholaeth benodol yn dibynnu ar eich hamgylchiadau. Bydd angen ymgynghori â'r swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn y sefyllfa yma. Mae'n anghyfreithlon pleidleisio ddwy waith mewn etholiad.

Gallwch gael eich cofnodi ar mwy nag un cofrestr etholiadol os ydych yn byw mewn mwy nag un etholaeth. Er enghraifft, os ydych yn fyfyriwr, gallwch gael eich cofrestru mewn un cyfeiriad gan eich rhiant/warcheidwad a gallwch gofrestru eich hun yn nhref eich coleg/prifysgol os ydych yn byw i ffwrdd o'ch cartref.

Fodd bynnag, mewn rhai sefyllfaoedd, mae'n bosib y bydd y swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn eich hatal rhag cofrestru mewn dau fan. Er enghraifft, os oes gennych dy haf ond rydych yn treulio ychydig o ddiwrnodau'r flwyddyn yno yn unig, mae'n bosib na fyddwch yn cael eich hystyried fel 'preswylydd' yno. Fodd bynnag, os ydych yn treulio'r mwyafrif o bewythnosau yno, mae'n bosib y bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn eich hystyried fel un sy'n gymwys i'ch cynnwys ar y gofrestr. Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i'ch heithrio oddi ar y gofrestr, dylech ddilyn y weithdrefn gywir (gweler y pennawd Sut mae'r gofrestr etholiadol yn cael ei llunio).

Er nad ydyw'n anghyfreithlon cael eich cofrestru mewn mwy nag un lle, mae'n anghyfreithlon pleidleisio ddwy waith mewn etholiad. Er enghraifft, mewn etholiad cyffredinol, gallwch ddewis ym mha etholaeth i bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.

Os nad ydych yn yr etholaeth lle rydych yn dymuno pleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais, ac am wneud cais am bleidleisio trwy ddirprwy, mae'n rhaid i chi fodloni'r swyddog cofrestru eich bod yn gymwys - gweler y pennawd Sut i bleidleisio. Os caiff pleidlais trwy ddirprwy ei wrthod i chi, mae gennych yr hawl i apelio yn llys y sir (llys y siryf yn yr Alban). Gallwch bleidleisio trwy'r post heb orfod cwrdd ag unrhyw feini prawf penodol - gweler y pennawd Sut i bleidleisio.

Nôl i’r brig


Sut mae'r gofrestr etholiadol yn cael ei llunio

Caiff y gofrestr etholiadol ei llunio'n flynyddol ond caiff ei diwygio drwy gydol y flwyddyn. Mae gan bob awdurdod lleol swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) sy'n gyfrifol am y broses. Bob blwyddyn, tua mis Awst neu Fedi, bydd pob cartref mewn etholaeth yn derbyn ffurflen gofrestru etholiadol, neu, yn llai aml, yn cael ymweliad gan aelod o staff y swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon). Os na byddwch yn derbyn ffurflen, er enghraifft, am eich bod yn ddi-gartref, gallwch gael ffurflen gan y swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon). Rydych yn medru cofrestru ar ôl galw etholiad hyd at un ar ddeg diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.

Dylech gwblhau'r ffurflen yn unol â'r cyfarwyddiadau, ac mae'n rhaid cynnwys pob un yn y cartref sy'n gymwys i bleidleisio ac a fydd yn byw yn y cartref ar Hydref 15. Os yw rhywun i ffwrdd o'r cartref dros dro, dylid eu cynnwys ar y ffurflen. Dylid cynnwys unrhyw un a fydd yn 18 yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis wedi cyhoeddi'r gofrestr (ar Rhagfyr 1 y flwyddyn yna) hefyd, er mwyn iddynt allu pleidleisio ar gyrraedd 18. Mae'n rhaid rhoi dyddiadau geni perthnasol unrhyw un a fydd yn cael ei effeithio ar y ffurflen.

Mae yn erbyn y gyfraith i roi gwybodaeth ffug ar y ffurflen gofrestru etholiad, neu unrhyw ddogfen arall yn ymwneud â phleidleisio.

Os yw'r swyddog cofrestru yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth, mae'n rhaid i chi ei rhoi. Oni wnewch hyn, mae hyn hefyd yn erbyn y gyfraith.

Fe allwch gael mwy o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio oddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol yn (New window) www.aboutmyvote.co.uk.

O'r wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu, mae'r swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn llunio cofrestr. Caiff hwn ei gyhoeddi erbyn Rhagfyr 1 bob blwyddyn ac mae'n agored i'w archwilio drwy gydol y flwyddyn yn swyddfeydd lleol y cyngor a lleoliadau cyhoeddus eraill, er enghraifft, prif swyddfeydd post a llyfrgelloedd. Gallwch wneud cais i gael eich hychwanegu ar y gofrestr neu i ddiwygio eich manylion ar y gofrestr ar unrhyw adeg trwy gydol y flwyddyn, er, pan cynhelir etholiad, mae'n rhaid derbyn ceisiadau i gofrestru rhwng pythefnos a phedair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio, gan ddibynnu ar gofrestr yr etholiad.

Bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) naill ai'n cyhoeddi hysbysiadau yn amlinellu'r newidiadau i'r gofrestr neu yn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr ar unrhyw adeg yn y flwyddyn. Ni ddylai eich cofrestru gymryd mwy na chwech i wyth wythnos, heblaw am y cyfnod pan mae manylion cofrestru newydd yn cael eu casglu, fel arfer rhwng Awst a Hydref, pan fydd yn rhaid i berson sydd heb gofrestru aros hyd at bymtheg wythnos cyn cael eu hychwanegu at y gofrestr.

Fedrwch chi gofrestru'n ddienw

Rydych chi’n medru cofrestru'n ddienw, ond dim ond os ydych yn teimlo o dan fygythiad, er enghraifft gan gynbartner. Fel arall, gallai methu â darparu gwybodaeth ar gyfer staff cofrestru, neu methu â chwblhau'r ffurflen gofrestru, neu roi gwybodaeth ffug, olygu eich bod yn cael eich herlyn a'ch dirwyo.

Nid ydych wedi eich cynnwys ar y gofrestr

Os ydych yn ystyried eich bod yn gymwys i gofrestru, ond yn darganfod nad ydych wedi eich cynnwys ar y gofrestr, gallwch gael ffurflen gan y swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon), a gallwch ei defnyddio i wneud cais i gael eich cofrestru. Fel arall, gallwch wneud cais ar ffurf llythyr sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Gallwch chi'ch hun wneud y cais yma, neu gall rhywun arall ei wneud ar eich rhan.

Caiff unrhyw ychwanegiadau at y gofrestr neu unrhyw beth sy'n cael ei dynnu allan o'r gofrestr, ei ryddhau gan y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) mewn hysbysiad cyhoeddus. Gallwch wrthwynebu unrhyw ddiwygiad i'r gofrestr - gweler isod.

Os bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn penderfynu caniatáu eich cais, bydd eich henw yn cael ei osod ar y gofrestr etholiadol o'r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei gyhoeddi. Fodd bynnag, os caiff eich henw ei ychwanegu i'r gofrestr yn dilyn cau'r cyfnod enwebu ymgeiswyr, ni fyddwch yn medru pleidleisio yn yr etholiad benodol yna.

Os bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn penderfynu peidio â chaniatau'ch cais, byddwch yn cael eich hysbysu ynglyn â'r penderfyniad a'r sail iddo. Yna, mae gennych dri diwrnod o ddyddiad derbyn yr hysbysiad yma i ofyn am wrandawiad - gweler isod.

Sut i wrthwynebu cynnwys enw ar y gofrestr

Mae'n bosib y byddwch am wrthwynebu cynnwys eich henw, neu enw rywun arall ar y gofrestr, er enghraifft, am eich bod yn credu nad ydynt yn byw yn yr etholaeth bellach neu nad ydynt yn gymwys i bleidleisio. Gallwch hefyd wrthwynebu cynnwys eich manylion mewn copïau o'r gofrestr sy'n cael eu gwerthu i gymdeithasau masnachol. Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, dylech gysylltu â'r swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) a rhoi'ch gwrthwynebiad yn ysgrifenedig. Mae'n bosib y bydd gan yr awdurdod lleol ffurflen safonol y gallwch ei llenwi. Gall unrhyw berson ar y gofrestr etholiadol (heb fod yn yr un etholaeth, o angenrheidrwydd) wneud y fath wrthwynebiad.

Os bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn penderfynu peidio â chaniatau eich gwrthwynebiad ar unwaith, byddwch yn cael eich hysbysu ynglyn â'r penderfyniad a'i sail. Yna, mae gennych dri diwrnod o ddyddiad hysbysiad y swyddog cofrestru i ofyn am wrandawiad - gweler isod.

Os oes yna wrandawiad, bydd y gwerthwynebydd a'r person y mae'n gwrthwynebu yn gallu cyflwyno'u hachosion.

Gwrandawiadau ceisiadau a gwrthwynebiadau

Os na chaiff cais neu wrthwynebiad ei ganiatau neu ei wrthod ar unwaith, bydd y swyddog cofrestru etholiadol (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn gosod amser a lleoliad i glywed y cais neu'r gwrthwynebiad.

Yn y gwrandawiad, gallwch chi a/neu y gwrthwynebydd ymddangos yn bersonol, neu gael eich cynrychioli gan rywun arall. Gallwch gyflwyno datganiadau ysgrifenedig yn ogystal â thystiolaeth lafar.

Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda phenderfyniad y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon), gallwch apelio yn ei erbyn yn llys y sir (llys y siryf yn yr Alban).

Nôl i’r brig


Sut i bleidleisio

Cyn diwrnod y bleidlais, bydd pob un sydd â hawl i bleidleisio yn derbyn cerdyn pleidleisio, os nad oes pleidlais trwy ddirprwy (gweler isod) neu bleidlais trwy'r post (gweler isod) wedi'i gytuno ymlaen llaw. Bydd y cerdyn yn rhoi manylion yr orsaf bleidleisio a'r oriau agor. Nid oes angen i chi fynd â'r cerdyn pleidleisio i'r orsaf bleidleisio pan fyddwch yn mynd i bleidleisio, ond mae'n bosib y byddai'n fwy hwylus gwneud hynny. Rhaid i chi lofnodi am eich papur pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.

Os nad ydych yn dymuno, neu os na allwch fynychu'r orsaf bleidleisio yn bersonol, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post (gweler isod), neu bleidleisio trwy ddirprwy (gweler isod) os byddwch yn cwrdd â'r meini prawf perthnasol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i bleidleisio yn etholiadau seneddol yr Alban, gweler Senedd yr Alban.

Help i bobl anabl

Os ydych yn anabl, mae'n bosib y byddwch yn medru peidleisio drwy'r post (gweler isod) neu drwy ddirprwy (gweler isod).

Os ydych yn rhannol ddall ac yn dewis pleidleisio'n bersonol, mae'n rhaid i'r orsaf bleidleisio arddangos fersiwn print bras o'r papur pleidleisio i'ch helpu chi. Os ydych yn ddal neu' n rhannol ddall, mae'n rhaid i'r orsaf bleidleisio hefyd ddarparu dyfais i'ch galluogi i lenwi eich papurau pleidleisio heb unrhyw angen am gymorth gan unrhyw un arall.

Os ydych yn anabl yn gorfforol neu yn methu â darllen, gallwch fynd a chyfaill gyda chi i'ch helpu i gwblhau'r papur pleidleisio a'i osod yn y blwch pleidleisio. Mae'n rhaid i'ch cyfaill fod yn 18 neu'n hyn ac mae'n rhaid bod ganddo/i'r hawl i bleidleisio, ac mae'n rhaid dod â datganiad ysgrifenedig i'r perwyl yma.

Ni all eich cyfaill helpu mwy nag un pleidleisiwr anabl i bleidleisio yn yr etholiad yna. Mae'n rhaid bod y swyddog sy'n llywyddu yn fodlon bod angen help cyfaill arnoch er mwyn pleidleisio.

Fel arall, gallwch ofyn i'r swyddog sy'n llywyddu farcio'r papur pleidleisio ar eich rhan.

Pleidleisio trwy'r post

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch ddewis pleidleisio trwy'r post mewn etholiadau seneddol ac etholiadau llywodraeth leol naill ai am:

  • gyfnod diderfyn
  • cyfnod penodol
  • etholiad benodol.

I wneud cais am bleidleisio trwy'r post, mae'n rhaid i chi:-

  • nodi eich henw llawn a'ch dyddiad geni
  • darparu'r cyfeiriad lle rydych wedi'ch cofrestru, neu lle byddwch wedi'ch cofrestru
  • darparu'r cyfeiriad lle mae'n rhaid anfon y papur pleidleisio
  • nodi'r cyfnod neu'r etholiad penodol yr ydych yn gwneud y cais ar ei gyfer
  • nodi p'un ai fod y cais ar gyfer etholiadau seneddol, etholiadau llywodraeth leol, neu'r ddau
  • llofnodi a dyddio'r cais.

Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar gael gan eich swyddfa gofrestru etholiadol neu ar y wefan bleidleisio trwy'r post. Dim ond un ffurflen gais y gellir ei defnyddio ar gyfer pob person. Fel arall, gallwch wneud cais ysgrifenedig, er mae angen bod yn ofalus bod y llythr yn cynnwys yr holl wydboaeth sydd angen - gweler uchod.

Mae'n anghyfreithlon rhoi gwybodaeth ffug ynghylch cais am bleidlais trwy'r post. Mae hefyd yn anghyfreithlon cael y swyddog cofrestru i anfon ffurflen gais am bleidlais trwy'r post i gyfeiriad pan na fydd y person sydd â hawl i bleidleisio wedi cytuno i hyn.

Mae'n rhaid i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) dderbyn cais ar gyfer pleidleisio trwy'r post o leiaf un ar ddeg diwrnod gwaith cyn dyddiad y bleidlais. Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio trwy'r post ac yna'n newid eich meddwl, er enghraifft, eich bod eisiau pleidleisio trwy ddirprwy neu am gael eich tynnu oddi ar y gofrest, mae'n rhaid i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) dderbyn eich cais o leiaf un ar ddeg diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais llwyddiannus, dylech gael eich hychwanegu i adran o'r gofrestr a elwir yn restr pleidleiswyr absennol.

Dylech dderbyn cadarnhad eich bod wedu cael pleidlais trwy'r post (os oes digon o amser cyn yr etholiad). Byddwch yn derbyn:

  • ·papur pleidleisio
  • ·datganiad pleidleisio trwy’r post y mae'n rhaid i chi ei arwyddo a nodi eich dyddiad geni arno.  Trwy lofnodi’r datganiad, rydych yn cadarnhau mai chi yw’r person yr anfonwyd y papur pleidleisio ato/ati.
  • ·amlen ragdaledig yn ôl yr angen
  • ·gwybodaeth ynghylch sut i gael canllawiau ar bleidleisio mewn ieithoedd heblaw am y Saesneg, mewn Braille neu trwy ddulliau eraill fel dulliau clywedol.

Os ydych wedi'ch cofrestru ac wedi gwneud cais i bleidleisio trwy'r post ac nad ydych yn derbyn eich papur pleidleisio trwy'r post erbyn y pedwerydd diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais, gallwch wneud cais i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) am bapur pleidleisio yn ei le. Mae'n rhaid i'r cais ar gyfer papur pleidleisio arall gynnwys tystiolaeth o bwy ydych chi. Yna, dylech dderbyn papur pleidleisio arall yn lle.

Pleidleisio trwy ddirprwy

Mae pleidleisio trwy ddirprwy yn golygu eich bod yn apwyntio rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan.

Mae'n rhaid i'r person sy'n cael ei apwyntio fel dirprwy fod yn gymwys i bleidleisio - gweler y pennawd Fedrwch chi gofrestru i bleidleisio.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i bleidleisio trwy ddirprwy, byddwch yn medru gwneud hynny mewn etholiadau seneddol a llywodraeth leol naill ai am gyfnod diderfyn, cyfnod penodol neu etholiad penodol. Dim ond grwpiau penodol (gweler isod), sy'n medru gwneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy am gyfnod penodol neu gyfnod diderfyn, ond gall unrhyw un wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol.

Gall unrhyw un wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy am etholiad penodol (gweler uchod). Fodd bynnag, dim ond y bobl canlynol sy'n gallu bod yn gymwys i bleidleisio trwy ddirprwy am gyfnod penodol neu gyfnod diderfyn:-

  • pobl sydd wedi cofrestru fel pleidleiswyr gwasanaeth (aelodau o'r lluoedd arfog)
  • pobl sydd wedi eu cofrestru fel etholwyr tramor - gweler y pennawd Trefniadau arbennig ar gyfer grwpiau penodol pan yn cofrestru i bleidleisio. Ni all y rheiny sydd yn y sefyllfa yma bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol
  • pobl sydd ddim yn gallu mynd i bleidleisio'n bersonol heb deithio mewn awyren neu ar y môr
  • pobl nad oes digwyl iddynt bleidleisio'n bersonol oherwydd natur gyffredinol eu galwedigaeth neu alwedigaeth eu cymar (mae angen tystiolaeth)
  • pobl nad oes disgwyl iddynt bleidleisio mewn person am eu bod yn mynychu cwrs a ddarperir gan sefyliad addysgol, neu eu cymar (mae angen tystiolaeth)
  • pobl sy'n ddall neu sydd ag anallu corfforol arall ac na ellir disgwyl iddynt, oherwydd hynny, bleidleisio'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio benodedig neu na ellir disgwyl iddynt bleidleisio heb gymorth - gweler uchod.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol ac nad ydych yn un o'r grwpiau a restrir uchod, mae'n rhaid i chi fodloni'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) nad oes disgwyl i chi, ar y diwrnod pleidleisio, bleidleisio'n bersonol yn eich gorsaf bleidleisio benodedig. Nid yw'r gofyniad yma yn berthnasol i'r rheiny a restrir uchod.

I wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen gais ac arni mae'n rhaid i chi:-

  • nodi eich henw llawn; a
  • darparu'r cyfeiriad lle rydych, neu y byddwch, wedi'ch cofrestru; a
  • darparu enw a chyfeiriad llawn y dirprwy ynghyd a'i b/pherthynas deuluol â chi, os yw hyn yn berthnasol; a
  • nodi ar ba sail yr ydych yn gwneud cais am gael bod yn gymwys ar gyfer pleidleisio trwy ddirprwy - gweler uchod; a
  • nodi'r cyfnod neu'r etholiad penodol yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer; a
  • nodi a yw'r cais ar gyfer etholiadau seneddol, etholiadau llywodraeth leol, neu'r ddau; a
  • llofnodi a dyddio'r cais - gweler isod.

Mae'n anghyfreithlon ceisio perswadio rhywun i bleidleisio trwy ddirprwy neu roi gwybodaeth ffug ynghylch cais am bleidlais trwy ddirprwy. Mae hefyd yn anghyfreithlon cael y swyddog cofrestru i anfon ffurflen gais am bleidlais trwy ddirprwy i gyfeiriad pan na fydd y person sydd â hawl i bleidleisio wedi cytuno i hyn.

Mae'n rhaid i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) dderbyn cais am bleidlais trwy ddirprwy o leiaf chwech diwrnod gwaith cyn dyddiad y bleidlais. Ond os fyddwch yn cael eich taro’n dost jyst cyn diwrnod yr etholiad, gallwch wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy mewn argyfwng os gallwch ddangos tystiolaeth feddygol.

Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio trwy ddirprwy, ac yna'n newid eich meddwl, er enghraifft, rydych eisiau pleidleisio trwy'r post yn lle neu cael eich tynnu oddi ar y gofrestr, mae'n rhaid i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) gael ei hysbysu ynglyn â hyn o leiaf un ar ddeg diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais llwyddiannus, dylech gael eich hychwanegu i adran o'r gofrestr etholiadol a elwir yn restr pleidleiswyr absennol.

Dylech dderbyn cadarnhâd eich bod wedi cael pleidleisio trwy ddirprwy (os oes digon o amser cyn yr etholiad) yn cadarnhau enw a chyfeiriad y dirprwy a'r cyfnod o amser y mae hawl ganddo/i fod yn ddirprwy i chi. Bydd y dirprwy hefyd yn derbyn cadarnnhâd, ac, yn fuan cyn y diwrnod pleidleisio, derbyn cerdyn pleidleisio trwy ddirprwy neu bapur pleidleisio, yn ddibynnol ar y modd o bleidleisio a ddewiswyd.

Pleidleiswyr dall neu sydd ag anallu corfforol

Os ydych yn gwneud cais am bleidleisio trwy ddirprwy (am gyfnod penodol neu ddi-derfyn) ar sail anabledd corfforol, mae'n rhaid i'r ffurflen gael llofnod Meddyg Teulu, ymarferydd Christian Science neu nyrs cofrestredig. Os ydych yn byw mewn gofal preswyl, gofal awdurdod lleol neu gartref nyrsio neu lety cysgodol, gallwch gael llofnod y person sydd â chyfrifoldeb ar eich cais.

Mae'n rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cais nodi:-

  • eu bod yn eich trin (neu yn darparu gofal) ar eich cyfer am y cyflwr corfforol a nodwyd yn y cais; a
  • na ellir disgwyl i chi fynd yn bersonol i'r gorsaf bleidleisio benodedig nac i bleidleisio yno heb gymorth; a
  • bod y cyflwr corfforol yn debygol o barhau naill ai'n barhaol neu ar gyfer y cyfnod penodol a nodwyd yn y cais.

Os ydych yn gwneud cais am bleidlais trwy ddiprwy (am gyfnod penodol neu ddi-derfyn) ar sail anallu corfforol, ni fydd angen i chi fodloni'r gofynion a restrir uchod os ydych:-

  • wedi'ch cofrestru'n ddall; neu
  • yn derbyn cyfradd uwch cydran symudedd lwfans byw ar gyfer pobl anabl; neu
  • wedi'ch cofrestru gyda'r awdurdod lleol ar sail anallu corfforol a/neu feddyliol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â lwfans byw i'r anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu' n anabl.

Nôl i’r brig


Apelio yn erbyn cael eich cais i bleidleisio trwy'r post neu bleidlais trwy ddirprwy wedi'i wrthod

Os bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn gwrthod cais ar gyfer pleidlais trwy ddirprwy neu drwy'r post, byddwch yn cael eich hysbysu ynglyn â'r penderfyniad yma a'r rheswm drosto. Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad yma, ond nid os ydych wedi gwneud cais i bleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy ar gyfer etholiad benodol yn unig.

Mae'n rhaid i chi roi hysbysiad ynglyn â'r apêl trwy lythr i'r swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) o fewn 14 diwrnod i gael eich gwrthod. Mae'n rhaid i chi nodi sail yr apêl.

Bydd y swyddog cofrestru (prif swyddog etholiadol yng Ngogledd Iwerddon) yn anfon yr hysbysiad ynglyn â'r apêl at y llys sirol perthnasol (llys siryf yn yr Alban) gyda manylion eu penderfyniad.

Nôl i’r brig


Herio Canlyniad etholiad

Fe allwch herio canlyniad etholiad seneddol neu senedd Ewrop ar sail anghysondeb. Yn achos etholiad llywodraeth leol, fe all pedwar pleidleisiwr neu fwy sy'n gweithredu gyda'i gilydd herio'r canlyniad.

Er mwyn herio canlyniad, mae angen i chi lenwi deiseb etholiad yn Swyddfa Deisebau Etholiad (Election Petitions Office) y Llysoedd Cyfiander Brehinol (Court of Session yn yr Alban). Rhaid gwneud hyn o fewn 21 diwrnod i'r etholiad. Codir tâl o £120.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y weithdrefn ar gyfer herio'r canlyniad gan y Swyddfa Deisebau Etholiad. Dyma'r cyfeiriad:-

Cymru a Lloegr

Electoral Petitions Office
Room E19
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
Ffôn: 020 7947 7529
Ffacs: 020 7947 7339/6807

Yr Alban

Electoral Petitions Office
Court of Sessions
Parliament Square
Edinburgh
EH1 1HQ
Ffôn: 0131 240 6747

Gogledd Iwerddon

The Clerk of the Crown
Room 1.3
Royal Courts of Justice
Belfast
BT1 3JF
Ffôn: 028 9023 5111

Nôl i’r brig