Mae'r wybodaeth yma’n berthnasol ar gyfer Cymru, Lloegr yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 yn gwneud gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu rhyw yn anghyfreithlon. Gall gwahaniaethu ar sail rhyw fod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Gall hefyd fod ar ffurf erledigaeth.
Mae trin rhywun yn llai ffafriol na rhywun o’r rhyw arall o dan yr un amgylchiadau oherwydd eu rhyw yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.
Mae enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw yn cynnwys:-
Ceir gwahaniaethu anuniongyrchol ble mae gan gyflogwr reol, polisi neu arfer sy'n gosod rhywun o dan anfantais oherwydd eu rhyw ac ni ellir cyfiawnhau hyn.
Mae enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw yn cynnwys:-
Rydw i wedi cwyno i fy rheolwr ynghylch y calendrau rhywiaethol y mae'r dynion yn eu harddangos yn y gwaith. Maen nhw wedi gorfod eu tynnu i lawr, ond nawr nid oes unrhyw un yn y swyddfa'n siarad â mi. Mae'n fy ypsetio i'n fawr iawn ac rwy'n credu ei fod yn fy ngwneud i'n sâl. A oes unrhyw beth arall y medraf ei wneud?
Efallai ei fod yn erbyn y gyfraith i'ch erlid fel hyn. Mynnwch gyngor gan eich undeb llafur os oes un gennych, neu gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn CAB.
Yn ôl y gyfraith, mae erledigaeth yn digwydd pan eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol o ganlyniad i gwyn, dod ag achos neu weithredu eich hawliau o dan ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae yna erledigaeth hefyd ofyd os ydych yn cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd eich bod wedi cefnogi rhywun arall wrth weithredu, er enghraifft, drwy fod yn lygad dyst mewn achos gwahaniaethu ar sail rhyw.
Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gael gwared ar wahaniaethu ar sail rhyw a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus fel cynghorau lleol, ysgolion, ysbytai, yr heddlu ac adrannu’r llywodraeth sicrhau bod dynion a menywod yn derbyn gwasanaethau a fydd yn diwallu eu hanghenion yn well.
Am ragor o wybodaeth am ddyletswyddau awdurdodau cyhoeddus a gwahaniaethu ar sail rhyw, ewch i wefan y Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal yn: www.eoc.org.uk, neu yng Ngogledd Iwerddon, cliciwch ar www.equalityni.org.
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail rhyw mewn:-
Cyflogaeth neu hyfforddiant
Es i am brentisiaeth fel nyrs feithrinfa ond fe ddywedon nhw nad ydyn nhw'n cymryd dynion ifainc. Ydyn nhw'n medru gwneud hyn?
Na. Mae’n anghyfreithlon i gwmni wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd eu rhyw wrth ddarparu hyfforddiant. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan CAB leol.
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail rhyw. Mae hyn yn cynnwys cyflogedigion, waeth pa mor fach yw’r nifer y maen nhw’n eu cyflogi. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr, gan gynnwys cyflogedigion, gweithwyr dan hyfforddiant a gweithwyr hunan-gyflogedig, amddiffyniad gyfreithiol rhag gwahaniaethu ar sail rhyw ym mhob agwedd o’u cyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, dethol, dyrchafu, hyfforddiant, cyflog a budd-daliadau, dileu swyddi ac amodau a thelerau gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyflogaeth a hunan-gyflogaeth, gweler Cytundebau cyflogaeth.
Mae Deddf cyflog cyfartal 1970 yn rhoi’r hawl i berson gael ei d/thrin yn gyfartal o ran cyflog mewn cymhariaeth ag aelod o’r rhyw arall. Rhaid i’r bobl sy’n cael eu cymharu fod yn gweithio yn yr un lle neu’n gweithio mewn sefydliadau gwahanol i’r un cyflogwr. Byddai’n rhaid i fenyw sy’n credu ei bod yn dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw ddangos ei bod wedi ei chyflogi:-
Dw i pedwar mis yn feichiog ond ddim yn meiddio dweud wrth y bos. Cafodd y fenyw feichiog ddiwethaf yn ein gweithle ei diswyddo, gan iddynt ddweud nad oedd cwmni bach fel hyn yn gallu fforddio talu rhywun arall tra yr oedd hi i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth. Yn y cyfamser, dw i’n dal i godi llwythi trwm ac yn poeni y bydda i’n niweidio’r babi. Pa hawliau sydd gennyf?
Nid oes hawl gan eich cwmni i’ch diswyddo am eich bod yn feichiog. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw ac os fyddwch yn cael eich diswyddo, gallwch wneud cais i’r tribiwlys cyflogaeth ac mae’n bosib y byddan nhw’n talu iawndal i chi. Y peth pwysig yw i gael cyngor cyn gynted â phosib. Os ‘dych chi’n aelod o undeb llafur, mynnwch gyngor oddiwrthyn nhw, neu oddiwrth ymgynghorwr profiadol fel, er enghraifft, yn swyddfa CAB.
Mae diswyddo menyw am ei bod yn feichiog, neu am reswm sy'n gysylltiedig â chyfnod mamolaeth, yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Gan mai’r fenyw yn unig a all fod yn feichiog, neu gymryd cyfnod mamolaeth, mae diswyddo ar sail beichiogrwydd yn cael ei ystyried fel gwahaniaethu ar sail rhyw yn awtomatig.
Gall menyw sydd wedi cael ei diswyddo oherwydd ei bod yn feichiog hawlio ei bod wedi cael ei diswyddo’n annheg hefyd, heb ystyried y cyfnod y bu’n gweithio i’r cyflogwr. Fodd bynnag, mae yna gyfyngu ar uchafswm yr iawndal y gellir ei wobrwyo am ddiswyddiad annheg ond does yna ddim cyfyngu ar gyfer iawndal am wahaniaethu ar sail rhyw. Dylai menyw sydd wedi cael ei diswyddo am ei bod yn feichiog, neu am reswm sy'n gysylltiedig â chyfnod mamolaeth, wneud honiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn ogystal â diswyddiad annheg.
Am fwy o wybodaeth am Hawliau rhiant yn y gwaith, gweler Hawliau rhiant yn y gwaith.
Mae’r gyfraith yn amddiffyn pobl drawsrywiol rhag gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol ac wrth ddarparu tai, nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau (ond nid addysg).
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol sy’n bwriadu newid eu rhyw, sydd eisioes wedi newid eu rhyw neu sydd yn y broses o newid eu rhyw. Os ydych chi yn y sefyllfa yma a’ch bod yn cael eich trin yn llai ffafriol ar y sail yma, gallwch wneud honiad o wahaniaethu ar sail rhyw.
O safbwynt cyflogaeth, mae gwahaniaethu yn erbyn person o’r naill ryw am ei f/bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig yn wahaniaethu ar sail rhyw. Does yna ddim darpariaeth sy’n cwmpasu gwahaniaethu yn erbyn person am ei f/bod yn ddi-briod, er efallai y byddai’n bosib dadlau hyn.
Gwrthodwyd lle i fy merch yn yr ysgol a ddewisom. Fe ddywedodd y pennaeth mai dim ond llefydd i fechgyn oedd ar ôl. A yw ysgol yn medru cadw nifer penodol o lefydd ar gyfer bechgyn neu ferched?
Na, mae'n anghyfreithlon i ysgol rhyw cymysg i wahaniaethu yn ei pholisïau derbyn. Ni ddylent wrthod mynediad i ddisgybl oherwydd ei rhyw. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn CAB lleol.
Mae’n anghyfreithlon i sefydliad addysgol cyhoeddus neu breifat wahaniaethu yn eu polisïau mynediad, oni bai mai sefydliad un rhyw ydyw. Er enghraifft, nid ddylai ysgol gymysg wrthod mynediad i ddisgybl ar sail rhyw, neu geisio cynnal cydbwysedd rhyw yn yr ysgol drwy gynnig mynediad i un rhyw a dim i’r llall pan fo lleoedd yn gyfyng.
Rhaid i ferch a bachgen gael yr un mynediad at Gwricwlwm yr ysgol, hynny yw, rhaid cynnig yr un opsiynau pwnc yn union iddynt a'r un faint o addysgu pwnc.
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad addysgol wahaniaethu yn y modd mae’n darparu gwasanaethau ar gyfer y disgyblion. Er enghraifft, dylai fod gan ddisgyblion ysgol yr un faint o fynediadi ymgynghoriad opsiynau cwrs a chyfarwyddyd gyrfa. Ni ddylai unrhyw gynghori a ddarperir fod yn wahaniaethol.
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i wahaniaethu ar sail rhyw drwy wrthod eu darparu, neu i wahaniaethu o ran y modd y maent yn cael eu darparu. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn y ffordd yma yn erbyn pobl drawsrywiol neu yn erbyn menywod oherwydd eu beichiogrwydd neu famolaeth. Nid oes gwahaniaeth a yw'r nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn cael eu darparu am dâl neu am ddim.
Mae’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaethau ariannol wahaniaethu drwy, er enghraifft, ofyn i wraig briod ddarparu gwarantydd ar gyfer benthyciad (oni bai y byddent yn gofyn i ddyn yn yr un sefyllfa i wneud hyn), mynnu fod yn rhaid i wraig briod sy’n ceisio benthyciad wneud cais ar y cyd gyda’i gwr (oni bai y gofynnir i bob ymgeisydd priod wneud hyn) neu osod amodau mwy llym pan fo merch yn gofyn am fenthyciad busnes na phan fyddai dyn yn gofyn am yr un benthyciad. Mae’n bosib ei bod hi’n gyfreithlon, fodd bynnag, i wahaniaethu pan yn darparu yswiriant (gweler y pennawd Pan nad yw gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon).
Mae’n anghyfreithlon i dafarn wahaniaethu drwy, er enghraifft, wrthod rhoi diod i ferch mewn gwydr peint (oni bai y gweithredir yr un telerau ar gyfer dynion hefyd) neu i glwb wahaniaethu drwy gynnig mynediad am ddim i ferched yn unig. Fodd bynnag, mae’n bosib i wahaniaethiad fod yn gyfreithlon yn achos clybiau preifat. (gweler y pennawd Pan nad yw gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon).
Mae’n anghyfreithlon i berson neu gymdeithas sy’n gyfrifol am werthu neu osod adeiladau i wahaniaethu ar sail rhyw o ran amodau cynnig yr eiddo. Mae’n anghyfreithlon i wananiaethu o ran triniaeth y bobl sydd wedi eu rhestru fel rai sydd angen llety, er enghraifft, ar restrau llety’r awdurdod lleol. Mae hefyd yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn tenant unwaith y bydd yr eiddo wedi ei lenwi.
Mae yna rai meysydd llety lle nad yw gwahaniaethu yn anghyfreithlon (gweler y pennawd Pan nad yw gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon).
Mae’n anghyfreithlon i rywun gyhoeddi hysbyseb sy’n awgrymu bwriad i wahaniaethu ar sail rhyw. Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i glwb sy’n agored i’r cyhoedd hysbysebu mynediad am ddim ar gyfer menywod tra’n gorfodi dynion i dalu neu bod cyflogwr yn defnyddio ymadroddion sydd ag ystyr rhywiol yn yr hysbyseb, megis ‘crefftwr’, ‘rheolwraig’ neu ‘tasgmon’.
Mae yna nifer o sefyllfaoedd lle nad yw’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail rhyw.
Nid yw’n anghyfreithlon i elusennau ddarparu buddion ar gyfer pobl o un rhyw yn unig, ar yr amod yr amlinellir hyn yng nghyfansoddiad neu reolau’r elusen.
Nid yw’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail rhyw person wrth ddarparu rhai mathau o lety cymunedol, er enghraifft, lloches i fenywod. Caiff llety cymunedol ei ddiffinio fel:-
Nid yw’n anghyfreithlon i wahanaiethu ar sail rhyw person mewn ‘ty llai’ neu ar gyfer is-osod llety lle:-
Nid yw’n anghyfreithlon i gwmni yswiriant wahaniaethu ar sail rhyw person pan fo’r cwmni’n asesu risg, ar yr amod fod y cwmni yn medru dangos ei fod:-
Enghreifftiau o wahaniaethu cyfreithlon fyddai:-
Nid yw’n anghyfreithlon i glwb aelodau preifat dilys wahaniaethu ar sail rhyw person yn y modd y maent yn trin eu haelodau. Mae clwb aelodau preifat mewn egwyddor, ond hefyd yn ymarferol, yn gweithredu system o gynnig ac eilio aelodau newydd, ac yn dilyn hyn, caiff yr enwebiadau eu hystyried gan bwyllgor y clwb. Enghreifftiau o’r clybiau yma yw clybiau gweithwyr, clybiau golff a bowlio, a chlybiau boneddigion. Am wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu mewn clybiau eraill a thafarndai (gweler y pennawd Pan nad yw gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon).
Nid yw’n anghyfreithlon i glwb gynnig gwahanol fathau o aelodaeth sy’n gyfyngedig i un rhyw yn unig. Enghraifft o hyn fyddai clwb sy’n cynnig aelodaeth ‘llawn’ i ddynion, gyda hawliau pleidleisio llawn a breintiau eraill, ac aelodaeth ‘ohebol’ i fenywod, gyda hawliau mwy cyfyng. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddai modd dadlau y dylid diwygio cyfansoddiad y clwb er mwyn dod ar gwahaniaethu hyn i ben. Mae’n bosib bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru eich helpu os ydych yn ceisio sicrhau newid (gweler y pennawd Ffynonellau cymorth).
Nid yw clybiau preifat yn medru gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr ar sail rhyw. Cânt eu hamddiffyn gan ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail rhyw a chyflog cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth a chyflog cyfartal (gweler y pennawd Lle mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon).
Nid yw’n anghyfreithiol cyfyngu cyfraniad mewn rhai digwyddiadau chwaraeon, ar yr amod bod cryfder corfforol, stamina a chorff yn bwysig i’r gêm benodol, er enghraifft, lle byddai menyw o dan anfatais cystadleuol i ddyn.
Ni fyddai’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail rhyw mewn sefyllfaoedd lle mae’n bosib y byddai aelod o un rhyw yn gwrthwynebu i gyffyrddiad corfforol gyda pherson o’r rhyw arall. Er enghraifft, mae’n gyfreithlon i ddosbarth hunan-amddiffyn gyfyngu ei hun i gyfranwyr benywaidd yn unig.
Nid yw’n anghyfreithlon i glwb chwaraeon preifat dilys wahaniaethu ar sail rhyw (gweler y pennawd Pan nad yw gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon).
Nid yw’r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw yn caniatau gwahaniaethu positif o blaid un rhyw. Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu o blaid merch wrth recriwtio neu ddyrchafu ar y sail bod merched wedi eu heffeithio’n sylweddol gan wahaniaethu yn y gorffennol. Fodd bynnag, caniateir gweithredu positif (gweler isod).
Mae’r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw yn caniatau gweithredu positif o blaid un rhyw, yn enwedig mewn hyfforddiant a hysbysebu. Mae gweithredu positif yn anelu at wneud yn iawn am effeithiau blaenorol cyfleoedd anghyfartal trwy annog y rhyw lleiaf amlwg heb wahaniaethu’n weithredol yn erbyn y rhyw mwyaf amlwg. Dyma enghreifftiau o weithredu positif:-
Pan yn cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw, nid oes yn rhaid i chi ddangos fod yna fwriad i wahaniaethu yn eich herbyn. Mae ond yn angenrheidiol dangos bod gwahaniaethu wedi digwydd.
Pan yn gweithredu yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw o dan ddeddfwriaeth, fel arfer bydd yn rhaid dwyn cymhariaeth rhwng sut mae menyw wedi cael ei thrin a sut mae dyn wedi cael ei drin. Fodd bynnag, os nad yw menyw yn medru andabod dyn sy’n cael ei drin, neu sydd wedi cael ei drin, yn fwy ffafriol, gall gymryd achos os yw’n medru dangos y byddai dyn yn cael ei drin yn fwy ffafriol.
Nid yw’r gyfraith ar wahaniaethu ar sail rhyw yn cynnwys gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb. Mae yna gyfraith ar wahân sy'n eich amddiffyn chi rhag gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb, gweler Can I be treated unfairly because of my sexuality? yn y Taflenni Ffeithiau ar Wahaniaethu.
Os ydych yn credu bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru cynnig cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae’r gyfraith yn amddiffyn pobl trawsrywiol rhag gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Nid yw’n darparu amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg nac yn narpariaeth llety, nwyddau neu wasanaethau.
Mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol, mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl trawsrywiol sy’n bwriadu newid eu rhyw, sydd eisioes wedi newid eu rhyw neu sydd yn y broses o newid eu rhyw. Os ydych chi yn y sefyllfa yma a’ch bod yn cael eich trin yn llai ffafriol gan gyflogwr neu gorff hyfforddi galwedigaethol ar y sail yma, gallwch wneud honiad o wahaniaethu ar sail rhyw.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw, mae yna nifer o ddulliau gweithredu y medrwch eu dilyn. Mae'r rhain yn cynnwys:-
Os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, ac yn meddwl eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gwaith, efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr cyn y gallwch ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Mae unrhyw gamau yn debygol o fod yn gymhleth, ac fe allai olygu cyfwynebiad neu achos llys. Os ydych yn ystyried gweithredu dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rydych chi'n medru cwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg neu Awdurdod Addysg Lleol yn eich llys sirol lleol. Ond, os ydych chi am wneud hyn, mae yna rai camau penodol y mae'n rhaid i chi eu dilyn.
Os ydych yn cwyno am un o ysgolion y wladwriaeth, mae'n rhaid i chi ddweud wrth adran berthnasol y llywodraeth (gweler isod) eich bod yn cymryd camau yn y llys. Rhaid i chi wneud hyn cyn cymryd camau yn y llys, a rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis i'r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu am y tro cyntaf. Rhaid i chi ddechrau camau yn y llys o fewn chwe mis i'r dyddiad y dywedoch wrth adran y llywodraeth eich bod yn gwneud hyn.
Os ydych chi am gwyno ynghylch ysgol breifat, dylech gael cyngor gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyntaf – gweler y pennawd Ffynonellau Cymorth.
The Secretary of State
Department for Children, School and Families (DCSF)
Equality Legislation Team
Equality and Diversity Unit
Level 1E
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9NA
E-bost: judith.bailey@dcsf.gsi.gov.uk
Gwefan: www.dcsf.gov.uk
Os yw’r gwyn yn ymwneud ag ysgol yng Nghymru, yn ogystal â dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol yn y DCSF, efallai hefyd y byddai’n ddefnyddiol cysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma’r manylion cyswllt:
Hyrwyddwr Cydraddoldeb
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Craidd y Gogledd, CP2
Parc Cathays
Caerdydd
CF14 2QP
Ffôn: 029 2082 5822
Minister for Education
Scottish Government
Education Department
Victoria Quay
Edinburgh
EH6 6QQ
Ffôn: 0131 556 8400
Ebost: ceu@scotland.gov.uk
Gwefan: www.scotland.gov.uk
Permanent Under-Secretary of State
Department of Education
Rathgael House
Balloo Road
Bangor
BT19 2PR
Ffôn: 028 9127 9000
Ffacs: 028 9127 9779
Gwefan: www.deni.gov.uk
Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail rhyw, efallai hefyd eich bod yn cael eich trin yn annheg am resymau eraill, oherwydd:
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich oed, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, gweler Can I be treated unfairly because of my sexuality? yn y Taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, a Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich hil, gweler What can I do if my employer treats me unfairly because of my race? yn y Taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.
Mae'r EHRC yn cynnig cyngor rhad ac am ddim dros y ffôn i unrhyw un sydd wedi cael d/thrin yn annheg yn y gwaith ac sydd am wybod mwy am eu hawliau cyfreithiol, eu hopsiynau a'r camau y gallant eu cymryd - mae'r rhif ffôn wedi'i nodi isod.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gallu rhoi manylion cyfreithwyr sy'n brofiadol gydag achosion o wahaniaethu ar sail rhyw ac fe allai drefnu cynrychiolaeth.
Fe’ch cynghorir bob amser i gysylltu â’r corff perthnasol cyn dwyn achos o wahaniaethu ar sail rhyw. Dyma'r manylion cyswllt:-
Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Ffôn:0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Equality Commission
Equality House
7-9 Shaftesbury Square
Belfast
BT2 7DP
Ffôn: 028 9024 8687
Ffacs: 028 9033 1544
Ffôn Testun: 028 9024 0589
Ebost: information@equalityni.org
Gwefan: www.equalityni.org
Mae canolfan cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol am ddim os ydych am ddwyn achos o wahanaiethu ar sail rhyw. Os oes cyfreithiwr o ganolfan cyfraith yn eich cynrychioli, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus (Cymorth Cyfreithiol yn yr Alban). Yn Lloegr a Chymru, mae manylion am eich canolfan cyfraith leol ar gael gan Ffederasiwn Canolfannau Cyfraith, a Chymdeithas Canolfannau Cyfraith yr Alban yn yr Alban.
Law Centres Federation
Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
Ebost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Scottish Association of Law Centres
C/o Govan Law Centre
47 Burleigh Streeet
Govan
Glasgow
G51 3LB
Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: www.salc.info
124 Donegall Street
Belfast
BT1 2GY
Ffôn: 028 9024 4401
Ffacs: 028 9023 6340
Ebost: admin.belfast@lawcentreni.org
Gwefan: www.lawcentreni.org
Mae'r FRU yn medru darparu cynrychiolaeth ar gyfer pobl sydd ar incwm isel ac yn byw yn ardal Llundain. Fodd bynnag, mae'r FRU yn fudiad gwirfoddol ac nid oes modd gwarantu cynrychiolaeth. Os hoffech dderbyn help gan yr FRU, yna mae'n rhaid i chi gael eich ailgyfeirio yn ysgrifenedig gan asiantaeth arall unwaith y bydd dyddiad y gwrandawiad wedi ei osod. Mae'n rhaid i'r asiantaeth fod yn tanysgrifio gyda'r FRU. Mae rhai Canolfannau CAB yn ardal Llundain yn tanysgrifio i'r FRU. Gellir cael manylion cyswllt Canolfannau CAB yn y llyfr ffôn lleol neu ar wefan y Ganofan Cynghori, www.citizensadvice.org.uk.
Gallwch gysylltu â'r FRU yn y cyfeiriad isod:-
6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
Ebost: admin@freerepresentationunit.org.uk
Gwefan: www.freerepresentationunit.org.uk
Mae yna beth cynrychiolaeth rhad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer achosion penodol ac i bobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru a Lloegr, mae gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw ar gael mewn ieithoedd eraill. Gweler Equal opportunities (2): Sex and sexual discrimination ar wefan Multikulti yn: www.multikulti.org.uk.