Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Yn gyfreithiol, gall gwahaniaethu ar sail hil fod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, neu gall fod ar ffurf aflonyddu neu erledigaeth.
Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd statudol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon gan weithredu i hyrwyddo cydraddoldeb.
Os yn gweithredu yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil, nid oes yn rhaid i chi ddangos bod yna fwriad i wahaniaethu yn eich herbyn. Yr hyn sy’n rhaid gwneud w dangos bod gwahaniaethu wedi digwydd.
Nid oes yn rhaid i chi ddangos mai seiliau hiliol oedd yr unig reswm tu ôl i’r gwahaniaethu a brofwyd gennych. Mae’n ddigon i ddangos bod seiliau hiliol wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwahaniaethu. Os ydych am ddiffiniad o ‘seiliau hiliol’, gweler isod.
Rwy'n Asiaidd a'r noson o'r blaen, es i glwb nos gyda rhai o fy ffrindiau. Dywedodd y bobl nad oeddem yn gallu dod i mewn am ei fod yn llawn. Ond fe gerddodd grŵp o bobl wyn i mewn. A yw hyn yn wahaniaethu? A oes unrhyw beth y medrwn ei wneud am hyn?
Oes, mae'n bosib fod hyn yn enghraifft o wahaniaethu ar sail hil. Efallai y byddwch yn medru cymryd camau yn y llys a chael iawndal. Ewch at eich CAB am gyngor pellach.
Mae trin person yn llai ffafriol na pherson arall o dan yr un amgylchiadau, ar sail hil, yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil. Yn ogystal â geiriau neu weithredoedd o wrthodiad, mae gwahaniaethu uniongyrchol yn cynnwys geiriau neu weithredoedd anghefnogol.
Enghraifft clir o wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil fyddai gwrthod penodi person o grwp hil penodol oherwydd, yn ôl y cyflogwr, ni fyddent yn ‘ffitio i mewn’ neu ‘byddai’r cwsmeriaid yn gwrthwynebu’. Enghreifftiau ychydig yn llai amlwg fyddai fod person yn cael ei (g)wrthod ar gyfer swydd oherwydd cysylltiad â rhywun o grwp hil penodol, er enghraifft, oherwydd fod ei g/chymar yn Affro-garibiaidd, neu ei b/fod yn cael ei (d)diswyddo am wrthod dilyn cyfarwyddiadau a fyddai’n gwahaniaethu yn erbyn pobl o’r grwp hil yna.
Rwyf o darddiad Indiaidd a chefais fy nghyflogi ar sail achlysurol. Nawr, gofynnwyd i'r holl weithwyr achlysurol gymryd prawf ysgrifenedig i benderfynu a ydyn ni'n medru aros yn y swydd. Rwy'n cael trafferth ysgrifennu yn Saesneg. Dydyn ni ddim yn gorfod ysgrifennu unrhyw beth yn y gwaith ac mae fy Saesneg llafar yn iawn. Rydw i wedi cwyno i'r bos ond fe ddywedodd bod yn rhaid i mi gymryd y prawf neu adael. A oes unrhyw beth arall fedrai wneud?
Efallai bod gennych achos o wahaniaethu ar sail hil. Ewch at eich CAB am gyngor pellach ar yr hyn y dylech ei wneud. Efallai y byddant yn medru eich helpu i drafod gyda'ch cyflogwyr. Os nad yw hyn yn gweithio, efallai y byddwch yn medru mynd at y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Ystyrir gosod amodau neu ofynion ar gyfer person sy'n ymddangos fel petaent yn gymwys ar gyfer pawb, ond bod modd iddynt roi pobl o dan anfantais annheg o safbwynt hiliol, ethnig neu grwp cenedlaethol yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil.
Mae amod neu ofyniad yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil os:-
Gall amod neu ofyniad fod yn wahaniaethu anuniongyrchol os yw aelodau o un neu fwy o grwpiau hiliol, ethnig neu genedl yn llai tebygol o allu cwrdd ag ef nag eraill. Enghraifft o hyn fyddai petai cyflogwr yn mynnu bod ymgeiswyr ar gyfer swydd yn medru siarad Saesneg perffaith pan ei bod hi’n amlwg nad yw hyn yn angenrheidiol ar gyfer y math yma o waith. Enghreifftiau pellach yw gwahardd gwisgo pensgarffiau neu fynnu bod merched yn gwisgo sgert i’r gwaith neu i’r ysgol, neu bod cyflogwr yn mynnu fod person yn meddu ar gymwysterau y gellir eu hennill yn y DU yn unig.
Rwyf wedi cwyno at fy rheolwr ynghylch yr iaith hiliol a ddefnyddir yn fy ngweithle. Nawr, nid oes unrhyw un yn siarad â mi. Mae'n fy ypsetio ac yn fy ngwneud i'n sâl. Oes unrhyw beth fedrai wneud?
Mae'n bosib fod hyn yn enghraifft o'r hyn a elwir yn erledigaeth. Mae'n anghyfreithlon. Mae yna gamau y byddwch yn medru eu cymryd i geisio sortio'r broblem. Ewch at eich undeb llafur, os ydych yn aelod. Neu mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich CAB lleol.
Byddwch wedi dioddef erledigaeth os ydych yn cael eich trin yn llai ffafriol am eich bod wedi cwyno, dod ag achos yn erbyn rhywun neu weithredu eich hawliau o dan gyfreithiau gwahahiaethu ar sial hil. Mae’r rhain yn cynnwys person sydd wedi cynorthwyo neu gefnogi person wrth wneud hynny, er enghraifft, drwy roi tystiolaeth fel llygad dyst mewn achos o wahaniaethu ar sail hil.
‘Mae ‘seiliau hiliol’ yn cynnwys:-
Nid yw wastad yn hawdd dweud beth yn union a olygir wrth 'tarddiad ethnig'. Ond, mae achosion cyfreithiol o wahaniaethu wedi egluro a yw grwpiau penodol o bobl yn medru cael eu cyfrif fel eu bod yn perthyn i grŵp ethnig neu hil. Er enghraifft, daethpwyd i'r casgliad fod Iddewon, sipsiwn Romani, aelodau o'r gymuned deithiol Wyddelig a Sikhs yn grwpiau ethnig. Daethpwyd i'r casgliad nad oedd Rastaffariaid yn aelodau o grŵp ethnig. Ond, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn Rastaffariad, oherwydd eich crefydd.
Nid yw’n hanfodol eich bod yn perthyn i un o’r grwpiau yma cyn dioddef gwahaniaethu. Mae’n bosib fod person yn gwahaniaethu yn eich erbyn am eu bod yn credu eich bod yn perthyn i grŵp hil gwahanol.
Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail hil mewn:-
Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail hil. Mae hyn yn cynnwys pob cyflogwr, waeth faint o bobl y maen nhw'n eu cyflogi. Mae gan y mwyafrif y gweithwyr, gan gynnwys cyflogedigion, rhai sydd o dan hyfforddiant a'r rheiny sy'n hunan-gyflogedig amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu ar sail hil ym mhob agwedd o gyflogaeth gan gynnwys recriwtio, dethol, dyrchafu, hyfforddiant, cyflog a buddion, colli swydd, diswyddiad ac amodau a thelerau gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaeth ar sail hil y y gwaith gweler Hawliau sylfaenol yn ygwaith .Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler hefyd Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil, yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
Mae gan undebau llafur ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu yn erbyn eu haelodau na'r rheiny sy'n dymuno dod yn aelodau.
Mae yna rai sefyllfaoedd lle nad ydyw'n anghyfreithlon gwahaniaethu mewn cyflogaeth (gweler y pennawd Pan nad yw gwahaniaethu ar sail hil yn anghyfreithlon).
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw ysgol neu goleg wahaniaethu ar sail hil. Dyma'r achos p'un ai ei fod yn cael ei gynnal gan yr awdurdod addysg lleol ai peidio (awdurdod addysg yn yr Alban, bwrdd addysg a llyfrgelloedd yng Ngogledd Iwerddon). Ni ddylai ysgol wahaniaethu yn unrhyw un o'i bolisïau ac arferion, gan gynnwys ei bolisïau derbyn, y modd y mae'n trin disgyblion, eithriadau neu benderfyniadau ynglyn ag anghenion addysgol arbennig disgyblion.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â delio gyda hiliaeth mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr, gweler Problemau yn yr ysgol, yn yr Alban, gweler Problemau yn yr ysgol.
Ni ddylai awdurdod addysg lleol (awdurdod addysg yn yr Alban, bwrdd addysg a llyfrgelloedd yng Ngogledd Iwerddon) wahaniaethu yn unrhyw rai o'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud.
Mae yna hysbysiad yn y dafarn leol sy'n dweud Dim teithwyr. Nid wyf yn deithiwr fy hun ond rwy'n teimlo bod yr hysbysiad yn ofnadwy. A oes unrhyw beth fedrai wneud am y peth?
Ystyrir aelodau'r gymuned deithio Wyddelig yn grŵp ethnig, ac felly fwy na thebyg fod yr hysbysiad hwn yn erbyn y gyfraith. Byddai cynghorydd profiadol, er enghraifft yn eich CAB lleol, yn medru eich helpu i gwyno neu fynd â'r mater ymhellach os nad yw hyn yn datrys y broblem.
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un sy'n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn y Deyrnas Unedig i wahaniaethu ar sail hil, naill ai trwy ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau neu trwy eu darparu ar amodau neu delerau llai ffafriol. Dyma'r achos os yw'r nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn cael eu darparu am dâl neu am ddim.
Yn y mwyafrif o amgylchiadau, mae'n anghyfreithlon i berson neu gymdeithas sy'n gyfrifol am werthu neu osod eiddo i wahaniaethu ar sail hil, naill ai trwy wrthod gwerthu neu rhentu eiddo neu yn yr amodau ar gyfer cynnig yr eiddo.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phrynu ty, yng Nghymru a Lloegr, gweler Prynu cartref, yn yr Alban, gweler Prynu cartref.
Yn y mwyafrif o amgylchiadau, mae'n anghyfreithlon i awdurdodau lleol (yng Ngogledd Iwerddon, Cyfarwyddiaeth Tai Gogledd Iwerddon), cymdeithasau tai neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill wahaniaethu ar sail hil, er enghraifft, wrth ddyranu eiddo i bobl ar y restr dai lleol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chael ty, gweler Dod o hyd i lety.
Mae'n anghyfreithlon i landlord wahaniaethu yn erbyn tenant unwaith y bydd preswylydd yn yr eiddo.
I ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant landlord preifat, yng Nghymru a Lloegr, gweler Tenantiaethau'r sector preifat, yn yr Alban, gweler Tenantiaethau'r sector preifat.
I ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant landlord cyhoeddus, yng Nghymru a Lloegr, gweler Tenantiaethau'r sector cyhoeddus, yn yr Alban gweler Tenantiaethau'r sector cyhoeddus.
Mae'r gyfraith ar wahaniaethu ar sail hil yn dweud bod yna rai sefyllfaoedd lle mae gwahaniaethu ar sail hil yn cael ei ganiatau.
Os gellir dangos bod rhai amodau neu ofynion mewn cyflogaeth yn rhai 'gymwysterau galwedigaethol didwyll' mae'n bosib nad ydynt yn wahaniaethu. Er enghraifft, gellir cyfiawnhau bod perchennog bwyty Tseinïaidd neu Roegaidd yn gofyn am weinydd Tseinïaidd neu Roegaidd gan bod y bwyty yn gofyn am hyn. Mae modd cyfiawnhau i hostel ar gyfer marched o Asia sydd wedi dioddef trais nodi bod angen marched o Asia yn unig ar y sail y byddai merched yn ei chael hi'n haws unieithu a chyfathrebu gyda phobl o'r un grwp hil â hwy.
Nid yw gwahaniaethu ar sail hil yn anghyfreithlon os yw'r gwaith yn golygu gweithio ar gyfer ty preifat, gweithio dramor am y mwyafrif o'r amser nen, gyda rhai swyddi, pan mai'r Goron yw'r cyflogwr.
Mae hawl gan glybiau, cymdeithasau ac elusennau sydd wedi eu sefydlu yn arbennig ar gyfer pobl o grwp ethnig neu genedl penodol, i wahaniaethu ar sail cenedligrwydd, neu darddiad ethnig neu genedlaethol ond nid ar sail lliw.
Gall perchennog-breswylydd sy'n gwerthu neu'n rhentu eiddo wahaniaethu'n cyfreithlon ar sail hil os nad ydyw'n hysbysebu neu'n defnyddio cwnmi gwerthu tai. Gall pobl sy'n rhentu 'eiddo llai' wneud hyn hefyd, os yw'r landlord neu aelod o'r teulu yn gorfod rhannu cyfleusterau gyda thenantiaid neu ddarpar-denantiaid.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil, mae yna nifer o gamau y gallwch eu cymryd, gan gynnwys:-
Os ydych yn gyflogedig ac yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith, efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr cyn y gallwch ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Bydd y camau yr ydych yn eu dewis yn dibynnu’n rhannol ar y canlyniad yr ydych yn dymuno ei weld, er enghraifft, iawndal ariannol, cyfiawnder, cyhoeddusrwydd, a pha mor gyflym yr ydych yn dymuno cael canlyniad.
Mae unrhyw weithredu yn debygol o fod yn gymhleth a gall olygu achos llys, felly dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail hil, mae'n bosib y cewch eich trin yn annheg am resymau eraill, oherwydd:
Er enghraifft, rydych yn fenyw ddu ac rydych yn cael eich diswyddo am eich bod yn feichiog. Efallai y byddwch yn medru cyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn ogystal â gwahaniaethu ar sail hil. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg am eich bod yn ddu ac am eich bod yn fenyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi'r ddau fater os ydych yn cwyno.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich oed, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, a Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.
Efallai y byddwch yn medru cael help i ddwyn achos yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.
Efallai y byddwch yn medru cael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, neu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – gweler y pennawd Ffynonellau Cymorth.
Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, efallai y byddwch yn medru cael cyngor a chymorth cyfreithiol rhad ac am ddim gan gyfreithiwr. Mae hyn yn dod o dan Help Cyfreithiol ('advice and assistance scheme' yn yr Alban, neu gynllun y ffurflen werdd yng Ngogledd Iwerddon). Efallai y byddwch hefyd yn medru cael help gyda'r gost o ddwyn achos i'r llys o dan Gynrychiolaeth Gyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ar yr help sydd ar gael gyda chostau cyfreithiol, yn Lloegr gweler Help gyda chostau cyfreithiol, yn yr Alban gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Yng Nghymru a Lloegr, mae gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil ar gael mewn ieithoedd eraill, ar wefan Multikulti (www.multikulti.org.uk). Ewch at Racial Discrimination – Your legal rights and Racial Discrimination – What you can do about discrimination.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil ar gael mewn ieithoedd eraill oddi ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb yn www.equalityni.org.
Mae Llinell Gymorth Frys Rhadffôn y Grŵp Monitro yn cynghori dioddefwyr camdriniaeth ac aflonyddu hiliol. Mae ar gael 24 awr y dydd ac yn cael ei staffio gan wirfoddolwyr sy'n cael eu recriwtio o gymunedau du a lleiafrif ethnig i sicrhau y gallant gyfathrebu gyda'r person sy'n ffonio yn yr iaith berthnasol. Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0800 374 618.
Mae’n bosib y bydd yr EHRC yn medru eich helpu os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu. Rydych yn medru cysylltu â'r EHRC:-
Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Ffôn:0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Mae cyngor ar gael gan Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon. Dyma’r manylion cyswllt:
The Equality Comission for Northern Ireland
Equality House
7-9 Shaftsbury Square
Belfast
BT2 7DP
Ffôn: 028 9050 0600
Ffôn Testun: 028 9050 0589
Llinell Ymholiadau: 028 90 890 890
Ffacs: 028 9024 8687
E-bost: information@equalityni.org
Gwefan: www.equalityni.org
Mae canolfannau cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i bobl sy’n dymuno gweithredu yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. Os ydych yn cael eich cynrychioli gan gyfreithiwr o Ganolfan Gyfraith mae'n bosib y byddwch â hawl i gymorth cyfreithiol. Mae manylion ynglyn â’r Canolfannau Cyfraith agosaf ar gael gan:-
The Law Centres Federation
Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
Ebost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk
Scottish Association of Law Centres
Secretary
c/o Govan Law Centre
47 Burleigh Street
Govan
Glasgow
G51 3LB
Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: www.salc.info
Law Centre NI
124 Donegall Street
Belfast
BT1 2GY
Ffôn: 028 9024 4401
Ffacs: 028 9023 6340
Ebost: admin.belfast@lawcentreni.org
Cymdeithas yw Uned Cynrychiolaeth Rhad Ac Am Ddim (FRU) sy’n medru darparu cynrychiolaeth i bobl yn ardal Llundain sydd ar incwm isel. Fodd bynnag, mae ond yn medru gweithredu ar ran pobl sydd wedi eu cyfeirio atynt gan asiantaeth arall sy’n danysgrifwr i FRU, er enghraifft, Canolfan Cynghori. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Canolfan Cynghori yn y llyfr ffôn neu ar wefan NACAB www.citizensadvice.org.uk. Gellir cysylltu â’r FRU yn:
6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
Ebost: admin@freerepresentationunit.org.uk
Gwefan: www.freerepresentationunit.org.uk
Mae yna beth cynrychiolaeth rhad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer achosion penodol ac i bobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gall NICEM ddarparu cymorth a chyngor i bobl sy'n credu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil a gall helpu pobl baratoi achosion gwahaniaetu ar sail hil. Gallwch gysyllty â NICEM yn:-
3rd Floor
Ascot House
24-31 Shaftesbury Square
Ffôn: 028 9023 8645
Llinell gymorth mewn argyfwng: 028 9024 2025
Ffacs: 028 9031 9485
E-bost: info@nicem.org.uk
Gwefan: www.nicem.org.uk