Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 20 af 2010

Hawliau sifil - Yng Nghymru

Enwebiadau ar gyfer y restr anrhydedd

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Pwy sy'n gallu cael ei (h)enwebu ar gyfer anrhydedd

Gall unigolion preifat neu gynrychiolwyr cymdeithasau gynnig enwebiadau ar gyfer y Restr Anrhydeddau. Gall unrhyw un enwebu person ar gyfer anrhydedd, ar yr amod fod yr enwebiad ar gyfer gwasanaeth i'r gymuned ac nad ydyw'n hunan-enwebiad, er mae'n bwysig nodi bod y nifer o enwebiadau bob tro'n fwy na'r anrhydeddau sydd ar gael bob blwyddyn. Dylech hefyd gofio bod ystyried enwebiadau ar gyfer Rhestr Anrhydeddau benodol yn dechrau nifer o fisoedd cyn cyhoeddi'r restr.

Caiff pob enwebiad ei ystyried ar ei gryfderau ac felly, os ydych am enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd, dylech fod yn siwr bod yna resymau gwrthrychol sylweddol dros wneud hynny.

Nôl i’r brig



Sut i enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd

Os ydych yn dymuno enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd, gallwch gael ffurflen enwebu ar gyfer Anrhydedd o'r cyfeiriad canlynol:-

The Ceremonial Secretariat
Cabinet Office
35 Great Smith Street
London SW1P 3BQ
Ffôn: 020 7276 2777/2778
Ebost: ceremonial@cabinet-office.x.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.honours.gov.uk

Dylech gwblhau'r ffurflen gyda'r manylion canlynol:-

  • enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni (os ydych yn ei wybod) neu oed y person; a
  • manylion llawn y gwasanaeth i'r gymuned, ynghyd â dyddiadau, yn y maes yr ydych yn enwebu ar ei gyfer; a
  • crynodeb o'r cyraeddiadau / rhinweddau penodol sy'n ei (g)wneud yn neilltuol
  • enw a chyfeiriad yr enwebydd a'i b/pherthynas gyda'r person sy'n cael ei enwebu.

Dylid anfon o leiaf dau lythr o gefnogaeth gan aelodau eraill o'r gymuned sydd â gwybodaeth gynradd o weithgareddau'r person sy'n cael ei (h)enwebu, naill ai gyda'r ffurflen, neu ar wahân.

Dylid anfon y ffurflen wedi'i chwblhau, a'r llythyron cefnogaeth at:-

  • ar gyfer person a enwebwyd sy'n byw yn Lloegr, yr Uned Enwebiadau (Nominations Unit) (gweler y cyfeiriad uchod)
  • ar gyfer person a enwebwyd sy'n byw yng Nghymru, yr Alban neu Gogledd Iwerddon – gweler isod
  • adran y llywodraeth y mae gwaith y person yn gysylltiedig yn uniongyrchol â hi (byddai hyn yn cynnwys pobl sy'n gweithio ar gyfer yr adran yna o'r llywodraeth neu bobl y mae eu gwasanaeth wedi gwneud cyfraniad penodol yn y maes y mae'r adran yn gyfrifol amdano).

Dyma'r cyfeiriad ar gyfer enwebiadau ar gyfer person a enwebwyd sy'n byw yng Nghymru, yr Alban neu Gogledd Iwerddon:-

Yr Alban

The Honours Secretariat
Management Group Support Staff
Scottish Government
R1 Saughton House
Broomhouse Drive
Edinburgh EH11 3XD

Cymru

Ysgrifennydd Anrhydeddau
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ystafell ES-2
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gogledd Iwerddon

Honours Secretariat
Office of the First Minister and Deputy First Minister
Room E4.15
Castle Buildings
Belfast
BT4 3SR

Nôl i’r brig



Beth sy'n digwydd nesaf

Unwaith y byddwch wedi enwebu, fe fyddwch yn cael cydnabyddiaeth. Os digwydd i'r person sy'n cael ei enwebu am wobr farw, dylech ddweud wrth y swyddfa sy'n delio â'r enwebiad ar unwaith, oherwydd ni ellir rhoi gwobr o dan yr amgylchiadau hyn.

Os yw'r enwebiad yn llwyddiannus, bydd yr Uned Enwebiadau (y Gyfarwyddiaeth Anrhydeddau neu'r Ysgrifennydd Anrhydeddau)yn cyslltu â'r person a enwebwyd dipyn cyn cyhoeddi'r Rhestr Anrhydeddau, i sicrhau bod y person yna'n hapus i'w dderbyn. Mae disgwyl i'r person gadw'r wybodaeth yma'n gyfrinachol tan cyhoeddi'r rhestr. Caiff y rhestr ei chyhoeddi ddwy waith y flwyddyn , fel a ganlyn:-

  • Rhagfyr 31 – Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
  • ganol-Mehefin – Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Nôl i’r brig



Gwobrau dewrder

Mae gwobrau dewrder (neu gwroldeb) yn cael eu cyflwyno i bobl sydd wedi peryglu eu bywydau eu hunain i achub, neu i geisio achub, bywyd rhywun arall. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio i gydnabod gweithredoedd i atal troseddau.

Fel arfer, caiff pobl eu henwebu gan gorff swyddogol, fel yr heddlu neu'r gwasanaeth tân, ond gall unrhyw un enwebu rhywun ar gyfer gwobr. Mae mwy o wybodaeth ar gael o'r Uned Enwebiadau (gweler y pennawd Sut i enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd).

Nôl i’r brig