The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Hawliau dynol
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Hawliau dynol yw'r hawliau a'r rhyddfreiniau sylfaenol sydd gan bob person yn y byd.
Mae enghreifftiau o'ch hawliau dynol yn cynnwys:
- yr hawl i fyw
- amddiffyniad rhag arteithio
- amddiffyniad rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
- yr hawl i barch at eich bywyd preifat a theuluol
- amddiffyniad rhag gwahaniaethu.
Mae'r Gynhadledd Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn amddiffyn hawliau dynol pobl mewn gwledydd sy'n perthyn i Gyngor Ewrop. Mae hyn yn cynnwys y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi'n teimlo y diystyrwyd eich hawliau dynol o dan y Gynhadledd Ewropeaidd, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron llys yn y Deyrnas Unedig. Fe fydd angen cyngor arbenigol arnoch.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch hawliau dynol ar gael gan y Comisiwn Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.









