Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru
Mae ombwdsman yn berson sydd wedi'i benodi i ymchwilio i gwynion ynghylch mudiad. Fel arfer, mae'r ombwdsman yn gyfreithiwr ac mae'n ymchwilio o safbwynt annibynnol.
Mae yna nifer o ombwdsmyn:-
Nid oes tâl ar gyfer ymchwiliadau ombwdsman. Dylech hawlio unrhyw arian a wariwyd gennych ar y gwyn, er enghraifft, costau teithio, yn ôl o swyddfa'r ombwdsman perthnasol.
Hyd yn oed ble mae'r ombwdsman yn cytuno bod eich cwyn wedi'i chyfiawnhau, yn y mwyafrif o achosion ni ellir gorchymyn i fudiad wneud unrhyw beth i'ch iawndalu. Yn ychwanegol, gall ymchwiliad yr ombwdsman gymryd cryn amser. Dylech ond ystyried gwneud cwyn i'ch ombwdsman felly, fel mesur terfynol.
Gwaith yr ombwdsman yw ymchwilio i achosion o gamweinyddu. Mae hyn yn golygu'r modd mae cymdeithas wedi delio â sefyllfa, er enghraifft, pun a’i fod y dulliau gweithredu a ddefnyddiwyd gan y gymdeithas yn deg ac yn rhesymol.
Mae’r ombwdsman hefyd yn medru ymchwilio i gwynion fod aelod o gorff llywodraeth leol, gan gynnwys cynghorwyr ac aelodau o’r awdurdodau tân a’r heddlu, wedi torri eu côd ymarfer. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, os yw cynghorydd wedi dwyn gwarth ar y cyngor neu wedi defnyddio ei sefyllfa i gael mantais iddo’i hun.
Mae ombwdsman ond yn ymchwilio i achosion ble mae unigolyn (neu grŵp o unigolion mewn rhai achosion) wedi dioddef anghyfiawnder, caledi neu golled ariannol oherwydd gweithredoedd, neu ddiffyg gweithredu, mudiad penodol. Mae'n rhaid i’r person a ddioddefodd yr anghyfiawnder, caledi neu golled gyflwyno’r gwyn.
Ni all ombwdsman ymchwilio i benderfyniad a wnaethpwyd gan fudiad. Gall ymchwilio i’r modd y daethpwyd i’r penderfyniad yn unig. Darperir gwybodaeth fwy manwl ar ba fath o gwyn y mae’n bosib i Ombwdsman ymgymryd â hi yn yr wybodaeth ganlynol.
Dylech ofyn am gyngor gan weithiwr cyngor profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth, neu'r swyddfa ombwdsman perthnasol, i ddarganfod a ydyw ombwdsman yn medru mynd ar drywydd cwyn penodol. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dylech ond wneud cwyn at Ombwdsman os yw'r mudiad perthnasol wedi cael cynnig gwneud sylwadau ynglyn â'r gwyn a datrys unrhyw broblemau yn gyntaf. Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y dylid ei wneud cyn cwyno at Ombwdsman, gweler yr wybodaeth isod.
Ni fydd Ombwdsman yn ymchwilio i achos os ydyw ar fin mynd i'r llys neu os yw gweithrediadau llys yn cael eu hystyried. Mewn rhai achosion ni fydd yr Ombwdsman yn ymchwilio i achosion y gellir eu datrys mewn llys neu dribiwnlys.
Mae'r dull gweithredu ar gyfer cychwyn ymchwiliad gan Ombwdsman yn dibynnu ar ba Ombwdsman sy'n derbyn y gwyn. Mae mwyafrif swyddfeydd yr Ombwdsman yn darparu ffurflen gais er mwyn gwneud cwyn. Nid oes rhaid defnyddio ffurflen gais fodd bynnag. Gellir anfon llythyr yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:-
Dylid anfon copïau o unrhyw waith papur sy'n berthnasol i’r gwyn hefyd.
Mae'n bosib i chi gael help cynghorydd profiadol i gysylltu ag ombwdsman a chychwyn y drefn gwyno, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gall yr Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd ymgymryd â chwynion ynglyn â’r modd y mae unigolyn wedi cael ei d/thrin gan adran o’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus arall. Mae’r ombwdsman yn ymwneud â cham-weinyddiaeth gan gorff cyhoeddus, er enghraifft, sut mae’r gweithdrefnau yn cael eu defnyddio. Gweler isod rai enghreifftiau o’r math o gwynion y mae’r ombwdsman yn medru delio â nhw:-
Ni all yr ombwdsman ymchwilio i’r mathau canlynol o gwynion:-
Dylech gyflwyno cwyn yn y lle cyntaf at yr adran o'r llywodraeth neu'r corff cyhoeddus cysylltiedig, gan fod yn rhaid rhoi cyfle iddynt i ystyried y broblem. Dylech anfon llythyr sy'n amlinellu'r broblem at yr adran berthnasol. Dylid cadw copïau o unrhyw lythyron a anfonwyd ac a dderbyniwyd. Os na fydd yr adran o'r llywodraeth neu'r corff cyhoeddus yn rhoi ymateb boddhaol, yna gellir ystyried cyflwyno cwyn at Ombwdsman.
Bydd ombwdsman ond yn medru helpu os bydd AS wedi gofyn iddo wneud hynny. Yn gyntaf, dylech ysgrifennu llythyr yn sôn am y broblem at unrhyw AS gan ofyn iddo/iddi gyfeirio'r achos at yr ombwdsman. Dylid anfon pob gohebiaeth berthnasol at yr AS. Mae'n bosib y bydd yr AS yn dymuno archwilio'r mater cyn ei gyfeirio at yr ombwdsman, ac efallai y bydd yn penderfynu peidio â phasio'ch cwyn ymlaen. Gweler y pennawd Sut i wneud cwyn at ombwdsman am wybodaeth ynglyn â'r hyn y dylid ei gynnwys yn y llythyr. Gellir cysylltu â Swyddfa'r ombwdsman yn uniongyrchol i holi a yw'r achos yn un y byddai'n medru ymgymryd ag ef.
Dyma gyfeiriad yr Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd:
Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4AP
Llinell Gymorth: 0845 015 4033
Ffacs: 0207 217 4000
E-bost: phso.enquiries@ombudsman.org.uk
Gwefan: www.Ombudsman.org.uk
Os bydd yr ombwdsman yn cytuno i ymchwilio i'r gwyn, fe fydd yn cynnal ymchwiliad preifat. Mae’n bosib y bydd rywun o swyddfa’r ombwdsman yn eich cyfweld yn eich cartref.
Os yw’r ombwdsman yn cytuno bod y gwyn yn gyfiawn fe fydd ef/hi yn gofyn i’r adran berthnasol o'r Llywodraeth ddatrys y sefyllfa. Bydd adroddiad yr ombwdsman yn cael ei anfon at yr Adran, yr AS a’r person sy’n cyflwyno’r gwyn.
Nid yw’r ombwdsman yn medru gorfodi adran o’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus arall i ddatrys anghyfiawnder, ac nid oes apêl yn erbyn ei ddarganfyddiadau. Fodd bynnag, ble mae ombwdsman yn cytuno gyda’r sawl sy’n cyflwyno’r gwyn ac yn gofyn iddynt unioni’r sefyllfa, fe fydd y corff cyhoeddus yn ymateb, fel arfer. Gall yr ombwdsman ofyn am:-
Mae'r Ombwdsman yn medru delio â chwynion o gam-weinyddiaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan y mudiadau canlynol:-
Mae'r ombwdsman ond yn medru ymchwilio i gwynion o gam-weinyddiaeth sydd wedi peri anghyfiawnder, dioddefaint neu galedi. Mae hyn yn golygu eu bod yn medru delio â chwynion sy'n ymwneud â'r modd y mae cymdeithas wedi gwneud rhywbeth, neu wedi methu a gwneud rhywbeth yn unig. Gweler isod enghreifftiau o'r mathau o gwynion y medrant ddelio â nhw:-
Mae’r ombwdsman hefyd yn medru ymchwilio i gwynion fod aelod o gorff lywodraeth leol wedi torri côd ymarfer y corff. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, os yw cynghorydd wedi dwyn gwarth ar y cyngor neu wedi defnyddio ei safle i gael mantais i’w hun. Mae’r ombwdsman yn medru ystyried cwyn am berson sy’n aelod o:
Yn gyfreithiol, nid yw’r Ombwdsman yn medru ymchwilio i gwynion ynghylch rhai pethau, gan gynnwys:
Mae'n rhaid gwneud cwyn yn gyntaf at y mudiad cysylltiedig. Ysgrifennwch lythyr at yr adran berthnasol gan amlinellu'r broblem. Os na cheir ymateb boddhaol neu os na cheir ymateb o gwbl o fewn cyfnod rhesymol o amser, gofynnwch i'r ombwdsman i ymchwilio i'r gwyn.
Gallwch anfon eich cwyn yn uniongyrchol at yr ombwdsman neu gallwch ofyn i gynghorydd lleol wneud hyn ar eich rhan.
Dyma gyfeiriad yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru:
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0845 601 0987
Ffacs: 01656 641 199
E-bost: ask@Ombudsman-wales.org.uk
Gwefan: www.Ombudsman-wales.org.uk
Os yw’r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yn credu ei bod hi’n briodol fe fydd yn ymchwilio i’r achos. Mae’n bosib y bydd rhywun o swyddfa'r ombwdsman yn ymweld â chi. Yna fe fydd yr ombwdsman yn gwneud adroddiad a fydd yn cael ei anfon at y gymdeithas gysylltiedig âc atoch chi. Ni fyddwch yn cael eich enwi yn yr adroddiad. Yn y mwyafrif o achosion, bydd yn rhaid i’r mudiad y mae'r gwyn yn ei gylch wneud adroddiad a fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae cwynion weithiau’n cael eu datrys cyn diwedd yr ymchwiliad.
Os bydd yr ombwdsman yn darganfod bod y gymdeithas yn gyfrifol am beri anghyfiawnder, fe fydd yn cyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys ei argymhellion ar gyfer datrysiad addas. Mae’n bosib i ombwdsman ofyn am un o'r canlynol:-
Nid oes gan yr ombwdsman y pŵer i orfodi mudiad i gymryd unrhyw un o’r camau yma, ond mae cymdeithasau fel arfer yn dewis cydymffurfio. Os nad yw mudiad yn gweithredu fel yr awgrymwyd gan yr ombwdsman, mae'n rhaid iddo gyhoeddi ei resymau dros beidio â gwneud hynny yn y wasg leol.
Mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru ymchwilio i achosion o gamweinyddu yng ngweithgareddau sefydliadau a chyrff y gymuned Ewropeaidd. Mae'r cyrff hyn yn cynnwys Y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a'r Llys Cyfiawnder.
Mae enghreifftiau o'r mathau o broblemau y mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru ymchwilio iddynt yn cynnwys oedi gweinyddol, gwrthod rhoi gwybodaeth, gwahaniaethu a chamddefnyddio pwer.
Cyn i chi wneud cwyn i'r Ombwdsman Ewropeaidd, dylech roi cyfle i'r sefydliad Ewropeaidd cysylltiedig ymchwilio i'r broblem a cheisio datrys y mater.
Mae yna derfyn amser ar gyfer cwynion. Mae'n ddwy flynedd o'r dyddiad pan oeddech yn gwybod ffeithiau'r broblem. Nid yw'n angenrheidiol i ASE gyfeirio'r cwyn at yr Ombwdsman Ewropeaidd. Nid oes ffi ar gyfer gwneud cwyn i'r Ombwdsman Ewropeaidd. Dylai'r gwyn fod yn ysgrifenedig. Mae yna ffurflen y medrwch ei lawrlwytho o Wefan yr Ombwdsman Ewropeaidd. Medrwch ei chwblhau a'i hanfon drwy'r e-bost. Fodd bynnag, nid oes rhaid gwneud cwyn gan ddefnyddio'r ffurflen.
Cyfeiriad yr Ombwdsman Ewropeaidd yw:-
1, Avenue du President Robert Schuman
CS 30403
F-67001Strasbourg Cedex
France
Ffôn: 00 33 388 172313
Ffacs: 00 33 388 179062
E-bost: eo@ombudsman.europa.eu
Gwefan: www.euro-ombudsman.eu.int
Fe fydd yr Ombwdsman Ewropeaidd yn ymchwilio i’r gwyn. Fel arfer nid yw cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol, ond os byddwch yn gofyn am i'ch cwyn gael ei thrin yn gyfrinachol bydd hyn yn cael ei barchu mewn amgylchiadau unigol, os yw hynny'n bosib.
Fe fydd yr Ombwdsman Ewropeaidd yn ceisio datrys y broblem trwy gymrodedd er mwyn ceisio unioni pethau a sicrhau bod y person sy'n cwyno yn fodlon. Os yw eich ymgais ar gymrodedd yn methu, mae'ch Ombwdsman Ewropeaidd yn medru gwneud argymhellion i'ch sefydliad i ddatrys yr achos. Os nad yw'r sefydliad yn derbyn argymhellion eich ombwdsman, mae'r ombwdsman yn medru gwneud adroddiad arbennig i Senedd Ewrop.
Mae'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn medru delio gyda chwynion defnyddwyr ynglyn â'r mwyafrif o faterion ariannol personol gan gynnwys
Mae'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim. Mae'n medru delio'n bennaf gyda chwynion defnyddwyr am gwmnïau sydd wedi eu hawdurdodi gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol, er, mae hefyd yn medru delio gyda nifer o gwmnïau anawdurdodedig. Dylech gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn uniongyrchol i ddarganfod os ydyw'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn gallu delio gyda'ch cwyn chi.
Cyn cwyno at y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol, mae'n rhaid i chi gwyno i'r cwmni drwy ddefnyddio'r weithdrefn gwynion ffurfiol. Os nad ydych yn fodlon â'r canlyniad, gellir cyflwyno cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol. Mae yna derfyn amser. Mae'r terfyn yn chwe mis i'r dyddiad y mae'r cwsmer yn derbyn penderfyniad terfynol oddi wrth y cwmni ynglyn â sut y mae'n bwriadu delio â'r mater. Gellir cael ffurflen gwyno oddi ar wefan y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol neu oddi wrth y llinell gymorth i ddefnyddwyr. Fe allwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn uniongyrchol am wybodaeth ynglyn â sut i wneud cwyn.
Cyfeiriad y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yw:-
Financial Services Ombwdsman
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR
Ffôn: 0845 080 1800
Ffacs: 020 7964 1001
E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk
Bydd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn bwrw golwg dros y gwyn ac yn cynghori ynglyn â sut i ddatrys y broblem. Os na cheir canlyniad boddhaol, bydd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn cynnal ymchwiliad ffurfiol. Mae'r cwmni'n rhwym i'r penderfyniad terfynol a roddir ar ddiwedd yr ymchwiliad, ond os nad yw'r cwsmer yn cytuno, gall fynd ar gwyn i'r llys.
Mae'r Ombwdsman Gwasanaethau Cyfreithiol yn medru delio â chwynion am gyfreithwyr, bargyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol a throsglwyddwyr trwyddedig.
Nid fydd yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyfreithiol yn medru delio â chwyn os:-
Yn gyntaf, mae'n rhaid i’r person gwyno at gorff proffesiynol i gyfreithwyr. Cymdeithas y Gyfraith yw'r corff ar gyfer cyfreithwyr. Yna rhaid aros nes bod y corff proffesiynol wedi cwblhau ei ymchwiliad. Os nad yw’n fodlon â'r canlyniad, yna mae'n medru cwyno at Ombwdsman y Gwasanaethau Cyfreithiol.
Dylech gysylltu â Swyddfa Ombwdsman y Gwasanaethau Cyfreithiol drwy ffonio, neu ysgrifennu. Gofynnwch am ffurflen gwyno, ei chwblhau a'i dychwelyd at:-
Office of Legal Services Ombudsman
3rd Floor Sunlight House
Quay Street
Manchester
M3 3JZ
Ffôn: 0845 601 0794
Ffacs: 0161 832 5446
E-bost: lso@olso.gsi.gov.uk
Gwefan: www.olso.org
Os yw'r Ombwdsman Gwasanaethau Cyfreithiol yn penderfynu ymchwilio i'r gwyn, bydd yr ombwdsman yn cysylltu â'r corff proffesiynol i gael y papurau yn yr achos. Pan fydd yr ombwdsman wedi gwneud penderfyniad, anfonir adroddiad at y ddwy ochr.
Os yw'r ombwdsman yn cytuno bod yna sail ar gyfer gwneud cwyn, mae’r ombwdsman yn medru argymell bod:-
Hefyd mae gan yr ombwdsman yr opsiwn o orchymyn fod iawndal yn cael ei dalu, yn hytrach nag argymell iawndal yn unig.
Os nad yw’r ombwdsman yn cymryd eich ochr ynghylch y broblem, neu os nad yw’r ochr arall yn cydymffurfio â’r argymhellion, mae’n bosib i chi weithredu ymhellach os ydych yn dymuno, er enghraifft, drwy’r llys.
Bydd yr Ombwdsman Eiddo yn ymchwilio i gwynion am gwmnïau sy’n aelodau os ydych wedi colli arian neu ddioddef anghyfleustra am fod y cwmni wedi:-
Ni fydd yr Ombwdsman Eiddo yn delio gyda chwynion os:-
Yn gyntaf, dylech ddefnyddio gweithdrefn gwyno fewnol y cwmni. Rhaid gwneud y cwyn o fewn deuddeg mis i'r digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch.
Os, ar ddiwedd y weithdrefn, nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch ysgrifennu at yr Ombwdsman Eiddo gan roi manylion am eich cwyn.
Dylech ysgrifennu at yr Ombwdsman Eiddo gan roi manylion llawn am y gwyn. Cyfeiriad yr Ombwdsman Eiddo yw:-
Beckett House
4 Bridge Street
Salisbury
SP1 2LX
Ffôn: 01722 333 306
Ffacs: 01722 332 296
E-bost: admin@tpos.co.uk
Gwefan: www.tpos.co.uk
Bydd yr Ombwdsman Eiddo yn anfon y penderfyniad at y ddwy ochr. Gall yr ombwdsman wobrwyo iawndal o hyd at £25,000. Gallwch dderbyn neu wrthod y penderfyniad. Os ydych yn derbyn bydd y Cwmni Gwerthu Tai yn gyfreithiol rhwym i dderbyn y penderfyniad.
Os ydych yn penderfynu gwrthod penderfyniad yr ombwdsman gallwch benderfynu pa gamau gweithredu (yn cynnwys camau cyfreithiol) yr ydych yn dymuno eu cymryd.
Mae’r Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn medru ystyried cwynion am y mwyafrif o agweddau o driniaeth carcharor mewn carchar, gan gynnwys gwrandawiadau disgyblu. Mae’r ombwdsman hefyd yn delio gyda chwynion gan bobl sydd ar brawf. Fe all ystyried p'un ai fod penderfyniad a wnaed gan Wasanaeth y Carchar neu'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gywir a p’un ai y dilynwyd y gweithdrefnau cywir wrth wneud y penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys camau a gymerwyd gan staff y carchar a gyflogir gan gwmnïau preifat a chan bobl fel swyddogion prawf y carchar neu aelodau o’r Bwrdd Monitro Annibynnol. Mae'r ombwdsman hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau pob carcharor a phreswylydd hostelau prawf a llety lle cedwir mewnfudwyr.
Nid yw'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn medru delio gyda chwynion sy’n ymwneud â gweithredoedd asiantaethau eraill, er enghraifft, yr heddlu, y llysoedd neu’r Adran Mewnfudo.
Cyn gwneud cwyn i'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf, rhaid eich bod chi yn gyntaf wedi defnyddio'r gweithdrefnau cwyno mewnol. Os nad ydych wedi cael ymateb boddhaol i'r gwyn, neu os nad yw Pencadlys Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Rhanbarthol wedi ymateb o fewn chwe wythnos, gellir cyflwyno cwyn i'r ombwdsman.
Mae yna derfyn amser ar gyfer cwyno. Mae'n un mis o'r dyddiad yr ydych yn cael ateb oddi wrth Bencadlys Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol. Os nad ydych wedi cael ymateb, fe allwch gwyno unrhyw amser wedi chwe wythnos. Mae gan yr Ombwdsman y rhyddid i ymchwilio i gwynion a wnaed y tu allan i'r cyfyngiad amser, er enghraifft, os oeddech yn sâl ac wedi methu â gwneud cwyn yn gynharach.
I gwyno, anfonwch lythyr, at yr ombwdsman. Os ydych yn garcharor, dylech anfon y llythyr mewn amlen o dan sêl gyda'r geiriau 'Prisoners confidential access' wedi eu hysgrifennu arni. Dylai carcharor gynnwys ei rif carchar yn y llythyr cwyn. Gellir cael cymorth gan ffrind, perthynas neu gynghorydd. Dylid anfon y gwyn at:-
Prison and Probation Ombudsman
Ashley House
2 Monck Street
London
SW1P 2BQ
Ffôn: 020 7276 2876 neu 08450 0107938
Ffacs: 020 7276 2860
E-bost: mail@ppo.gsi.gov.uk
Gwefan: www.ppo.gov.uk
Fel arfer bydd yr Ombwdsman Carchardai a Phrawf yn cael copïau o unrhyw bapurau perthnasol oddi wrth Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol. Bydd y gwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol cyn belled ag y bo modd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, fe fyddwch chi a'r bobl eraill sy'n gysylltiedig yn cael eich cyfweld.
Bydd yr ombwdsman yn anfon y penderfyniad a’r sail i’r penderfyniad yn ysgrifenedig atoch chi ac at Wasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol. Fel arfer byddwch yn cael ymateb oddi wrth yr ombwdsman o fewn wyth wythnos i'r dyddiad y cyflwynwyd y gwyn. Os fydd yr ymchwiliad yn parhau’n hirach na deuddeg wythnos, bydd y carcharor yn derbyn adroddiadau gyda'r diweddaraf ar hyn yn fisol oddi wrth yr ombwdsman.
Os yw’r ombwdsman yn cynnal eich cwyn, fe fydd yn argymell y camau y dylai Gwasanaeth y Carchar neu'r Bwrdd Prawf Cenedlaethol eu cymryd.