Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi creu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru ac yn caniatáu Llywodraeth ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gyfrifol am nifer o faterion, gan gynnwys iechyd, addysg, datblygu economaidd, diwylliant, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.
Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn debyg i berthynas Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Senedd. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn medru trafod y cyfreithiau a gynigir gan aelodau Llywodraeth y Cynulliad ac i alw aelodau’r Llywodraeth ger ei bron. Mae'n medru cymeradwyo rhai cyfreithiau ei hun, yn lle aros i’r cyfreithiau fynd drwy Raglen Seneddol y Deyrnas Unedig.
Ond, bydd rhai cyfreithiau angen cymeradwyaeth Senedd y DU o hyd.
O dan y Ddeddf a gyflwynodd y newidiadau hyn, gellir hefyd cael refferendwm i ystyried a ddylid rhoi’r pwerau deddfu llawn i Gymru.
Am fwy o wybodaeth, gweler www.cymru.gov.uk.