Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae fy nghydweithwyr yn y gwaith yn galw enwau arnai ac yn fy mhoeni am eu bod yn meddwl fy mod yn hoyw. Rwyf wedi siarad â fy rheolwr ond nid ydyw wedi gwneud unrhyw beth ynglyn â'r sefyllfa. Mae'n dweud mai dim ond ychydig o hwyl yw'r cyfan ac na ddylwn gymryd gormod o sylw o'r peth. Beth fedrai wneud?
Mae unrhyw ymddygiad fel hyn yn y gweithle sy'n ypsetio unigolyn, yn gallu bod yn aflonyddu. Mae cyflogwyr yn gyfrifol am ymddygiad eu staff ac mae'r staff eu hun hefyd yn gyfrifol fel unigolion am eu hymddygiad nhw tuag at eu cydweithwyr. Os ydych yn dioddef aflonyddu, efallai fod eich cyflogwr yn gyfrifol oni all ddangos ei b/fod wedi cymryd pob cam posib i atal yr aflonyddu. Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unrhyw weithiwr neu aflonyddu ar weithiwr oherwydd eu tuedd rhywiol, p'un ai fod y duedd yn ffaith ai peidio.
Gan fod eich rheolwr yn gwrthod cymryd eich pryderon o ddifri, efallai y byddwch chi am godi achwyniad gydag ef/hi. Dylech wneud hyn yn ysgrifenedig, a dylech ei arwyddo a'i ddyddio. Os ydych yn penderfynu hawlio gwahaniaethu gerbron tribiwnlys cyflogaeth, mae'n rhaid i chi godi achwyniad ysgrifeneidg cyn i chi wneud hyn.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chodi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch bos, gweler Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lleogr a’r Alban am wahaniaethu yn y gwaith ohrewydd rhywioldeb, gweler Beth fedrai wneud os ydyw fy nghyflogwr yn fy nhrin i'n annheg oherwydd fy nhuedd rhywiol, yn y Taflenni ffeithiau ar gyflogaeth.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle, gweler Hawliau Sylfaenol yn y Gwaith.