Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n credu eu bod nhw'n gwahaniaethu yn fy erbyn yn gwaith oherwydd fy mod yn fenyw. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae yna gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw i amddiffyn merched a dynion. Mae gwahaniaethu yn medru dod o unrhyw le. Gallai fod yn gydweithiwr, goruchwyliwr yr adran, eich rheolwr neu'ch cyflogwr.

Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol na dyn, y peth cyntaf i'w wneud yw cael gair gyda chydweithwyr eraill i weld a ydyn nhw'n cael eu trin yn yr un ffordd neu a ydynt wedi sylwi eich bod chi'n cael eich trin yn llai ffafriol. Holwch a oes unrhyw un yn fodlon eich cefnogi. Os yn bosib, ceisiwch siarad yn bersonol â'r person sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn a gofyn iddynt i stopio neu rhybuddiwch y byddwch yn gwneud cwyn swyddogol.

Os nad yw'r sefyllfa'n gwella, siaradwch â'ch undeb os ydych yn aelod, ac, os oes angen, codwch achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr. Fe fydd cadw cofnod o ddigwyddiadau, dyddiadau ac amseroedd yr ymddygiad gwahaniaethol yn eich helpu chi os bydd angen gwneud hyn, oherwydd fe ddylai eich achwyniad fod mor fanwl â phosib. Dylech arwyddo a dyddio'r achwyniad, a chadw copi. Mae’n debygol y bydd y person yr ydych yn ei g/chyhuddo yn gwadu'n egniol ac efallai bydd yn rhaid i chi brofi bod y gwahaniaethu ar sail rhyw o ddifrif.

Os na fyddwch yn fodlon wedi'r camau cyntaf yma, y cam olaf, efallai, fydd dwyn honiad o wahaniaethu ar sail rhyw gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda’ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym felly dylech gael cyngor ar gam cynnar.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich rhyw, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu yn y gwaith,gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu yn y gwaith, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad annheg oherwydd gwahaniaethu, gweler Diswyddiad.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â hawliau sifil: