Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n teimlo eu bod nhw'n fy nhrin yn annheg yn y gwaith oherwydd fy nghrefydd, a ydyw hyn yn gyfreithlon?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae yn gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. Mae sail hil yn cynnwys lliw, hil, cenedl a tharddiad ethnig/cenedlaethol. Mae gwahaniaethu yn medru dod o unrhyw le. Gallai fod yn gydweithiwr, goruchwyliwr yr adran, eich rheolwr neu'ch cyflogwr. Nid oes yn rhaid profi bod y gwahaniaethu yn fwriadol – mae'r ffaith ei fod wedi digwydd yn ddigon o reswm dros gymryd camau.

Os ydych yn teimlo bod cyflogwr yn eich trin yn annheg, mae yna nifer o gamau i'w cymryd. Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eich lliw, hil, cenedl neu darddiad ethnig/cenedlaethol, y peth cyntaf i'w wneud yw darganfod a oes cydweithwyr eraill yn cael eu trin yn yr un ffordd. Dylech holi eich cydweithwyr a ydynt wedi sylwi eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol. Holwch a oes unrhyw un fodlon eich cefnogi. Os yn bosib, ceisiwch siarad yn bersonol â'r person sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn a gofyn iddynt i stopio neu rhybuddiwch y byddwch yn gwneud cwyn swyddogol.

Os nad yw'r sefyllfa'n gwella, siaradwch â'ch undeb os ydych yn aelod, ac, os oes angen, codwch achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr. Fe fydd cadw cofnod o ddigwyddiadau, dyddiadau ac amseroedd yr ymddygiad gwahaniaethol yn eich helpu chi os bydd angen gwneud hyn, oherwydd fe ddylai eich achwyniad fod mor fanwl â phosib. Dylech arwyddo a dyddio'r achwyniad, a chadw copi. Mae’n debygol y bydd y person yr ydych yn ei g/chyhuddo yn gwadu'n egniol ac efallai bydd yn rhaid i chi brofi bod y gwahaniaethu ar sail hil o ddifrif.

Os na fyddwch yn fodlon wedi'r camau cyntaf yma, y cam olaf, efallai, fydd dwyn yr achos i Dribiwnlys Cyflogaeth. Bydd angen cyngor a chefnogaeth arnoch os ydych yn mynd i fynd â materion ymhellach, a hynny gan rywun fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu undeb llafur. Efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda’ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym felly dylech gael cyngor ar gam cynnar.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu yn y gwaith,gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith. Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler hefyd Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil, yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad annheg oherwydd gwahaniaethu, gweler Diswyddiad.

Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu yn y gwaith,, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â hawliau sifil: