Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut ydw i’n cwyno ynghylch y ffordd y mae fy nghyngor lleol wedi trafod fy nghais am Fudd-dal Tai?

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru

Os ydych am gwyno ynghylch y ffordd y mae eich cyngor lleol wedi trafod eich cais am Fudd-dal Tai, dylech gwyno trwy ddefnyddio gweithdrefn gwynion eich cyngor. Fe fydd eich cyngor yn medru dweud wrthych sut i gwyno. Mae eu manylion cyswllt ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: (New window) www.wales.gov.uk.

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cwyn, fe fyddwch yn medru cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn medru ymchwilio i amrywiaeth eang o gwynion, gan gynnwys cwynion ynghylch:

  • oedi wrth ddelio gyda’ch cais am Fudd-dal Tai neu oedi cyn gwneud taliadau
  • gweithredu’n anghywir neu ddim yn gweithredu o gwbl
  • methu â dilyn y gweithdrefnau cywir neu’r gyfraith
  • methu â rhoi gwybodaeth i chi neu ateb eich ymholiadau
  • torri addewidion
  • rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i chi.

Rydych yn medr cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os ydych yn cael trafferth gyda gwasanaethau eich cyngor lleol, fel gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio a biliau’r dreth gyngor.

I ddarganfod mwy ynglyn â defnyddio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yng Nghymru.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â hawliau sifil: