Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 20 af 2010

Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb - Yng Nghymru

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Ynglŷn â'r wybodaeth hon

Mae'n anghyfreithlon i bobl sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau ar eich cyfer wahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol. Mae hefyd yn anghyfreithlon i bobl sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau wahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn heterorywiol. Mae'r gyfraith yn berthnasol i fusnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus fel asiantaethau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, cyfleusterau addysg ac iechyd.

Mae hefyd yn anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb. Nid yw'r wybodaeth hon yn trafod gwahaniaethu yn y gweithle. Am wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd rhywioldeb, gweler – Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.

Nôl i’r brig



Pryd mae gwahaniaethu'n medru digwydd?

Fe fyddai rhywun sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn os ydynt yn gwneud un o'r canlynol oherwydd eich rhywioldeb:

  • gwrthod gwerthu rhywbeth i chi
  • gwrthod eich caniatáu chi i ddefnyddio gwasanaeth
  • rhoi nwyddau neu wasanaethau gwaeth neu fwy drud i chi nag i rywun gyda rhywioldeb gwahanol
  • ymddwyn mewn ffordd anghwrtais neu elyniaethus.

Nid oes rhaid i fusnes sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi eu hanelu at y gymuned hoyw ddechrau darparu nwyddau neu wasanaethau tebyg wedi eu hanelu at bobl heterorywiol. Ond, nid yw'n medru gwrthod unrhyw gwsmeriaid heterorywiol. Er enghraifft, ni fydd yn rhaid i siop lyfrau lesbiaidd a hoyw ddechrau cadw llyfrau sydd wedi eu hanelu at ddarllenwyr heterorywiol, ond, ni fydd yn medru gwrthod cwsmeriaid heterorywiol sydd eisiau prynu ei llyfrau.

Os ydych chi mewn partneriaeth sifil, ni chaiff ddarparwr nwyddau neu wasanaethau eich trin chi'n wahanol i bâr priod. Rhaid i nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael i barau dibriod sydd ddim o'r un rhyw fod ar gael i barau o'r un rhyw sydd ddim mewn partneriaeth sifil.

Mae'r gyfraith hefyd yn berthnasol i hysbysebu. Nid yw cwmni'n medru dweud yn ei hysbysebion fod ei nwyddau neu wasanaethau ond ar gael i bobl heterorywiol. Yn yr un modd, ni chaiff fusnes hoyw hysbysebu nad ydyw'n cynnwys pobl heterorywiol, er, mae'n medru dweud ei fod yn 'fusnes hoyw-gyfeillgar'.

Rydych chi wedi eich amddiffyn os ydych wedi dioddef gwahaniaethu am fod rhywun yn credu, neu'n tybio, eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, hyd yn oed os nad yw hyn yn wir. Rydych chi hefyd wedi eich amddiffyn os ydych wedi dioddef gwahaniaethu am fod gennych ffrind neu aelod o'r teulu sy'n lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol.

Os ydych yn drawsrywiol, nid yw'n anghyfreithlon, eto, i wahaniaethu yn eich erbyn wrth ddarparu nwyddau neu wasanaethau.

Nôl i’r brig



Pa sefydliadau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau?

Dyma enghreifftiau o sefydliadau sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau:

  • tafarndai, bwytai a gwestai
  • siopau
  • cyfleusterau adloniant fel sinemâu, theatrau, parciau hwyl, lloriau sglefrio iâ a thraciau rasio
  • ysbytai a chlinigau
  • cwmnïau gwerthu tai, landlordiaid preifat ac adrannau tai awdurdodau lleol
  • banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a chwmnïau cyllid
  • gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bws a meysydd awyr
  • eglwysi a mannau addoli eraill
  • elusennau a mudiadau gwirfoddol
  • ysgolion a cholegau
  • gwasanaethau lles, fel cyngor ar dai, gofal dydd neu ofal cymunedol
  • pobl sy'n darparu gwasanaethau personol neu fasnach. Mae hyn yn cynnwys adeiladwyr a phobl sy'n darparu therapïau cyflenwol fel aciwbigo neu adweitheg (reflexology)
  • cartrefi gofal preswyl
  • llysoedd, carchardai a'r heddlu

Am fwy o enghreifftiau o sefydliadau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau, gweler gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Nôl i’r brig



Ysgolion a darparwyr addysg eraill

Ni chaiff ysgolion a darparwyr addysg eraill eich trin chi'n wahanol os ydych yn ddisgybl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu os ydych yn blentyn i rieni lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Rhaid i athrawon gydnabod eich anghenion a thaclo bwlio homoffobig, sef bwlio oherwydd eich rhywioldeb.

Mae ysgolion ffydd yn medru addysgu bod eu crefydd nhw yn ystyried bod arferion lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn anghywir. Ond, ni ddylent wneud hyn mewn ffordd sy'n eich gosod chi ar anfantais, o gymharu â disgyblion eraill.

Nôl i’r brig



Tafarndai, barrau, bwytai a chlybiau nos

Nid oes hawl eich troi chi i ffwrdd o dafarndai, barrau, bwytai neu glybiau nos oherwydd eich rhywioldeb. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn hoyw, yn lesbiaidd, yn ddeurywiol neu'n heterorywiol. Felly, er enghraifft, ni chaiff rywun ofyn i chi adael bar am y rheswm eich bod chi'n hoyw neu'n lesbiaidd yn unig. Ac ni chaiff bar i bobl hoyw eich troi chi i ffwrdd am y rheswm eich bod chi'n heterorywiol yn unig. Ond, maen nhw'n medru eich troi chi i ffwrdd os ydych yn gwneud sylwadau creulon am bobl hoyw neu os nad ydych yn parchu'r ffaith eich bod mewn gofod hoyw.

Clybiau a chymdeithasau preifat

Ni chaiff clybiau a chymdeithasau preifat gyda mwy na 25 aelod wahaniaethu. Ond, os mai eu prif ddiben yw cynnig manteision i fenywod lesbiaidd, dynion hoyw a phobl ddeurywiol, maen nhw'n medru parhau i wneud hynny. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os mai eu diben yw cynnig preifatrwydd neu amgylchedd diogel a chefnogol. Er enghraifft, os mai prif ddiben clwb pêl-droed i bobl hoyw yw peidio â chystadlu mewn twrnameintiau, ond cynnig gofod cymdeithasol diogel i ddynion hoyw, mae'n medru gwrthod gadael i ddynion heterorywiol ymuno os fyddai hynny'n newid cymeriad y clwb yn ei hanfod.

Nôl i’r brig



Gwestai, gwestai bach a safleoedd gwely a brecwast

Ni ellir gwrthod mynediad i barau o'r un rhyw nau'u hatal rhag archebu ystafell ddwbl.

Nôl i’r brig



Gwasanaethau ariannol

Ni chaiff fanciau, cymdeithasau adeiladu na darparwyr gwasanaethau ariannol eraill wrthod benthyciad, grant, credyd neu wasanaeth ariannol arall i chi oherwydd eich rhywioldeb.

Yswiriant

Ni chaiff gwmnïau yswirio ddefnyddio eich rhywioldeb fel amod, ynddo'i hun, dros beidio â chynnig yswiriant i chi. Ond, maen nhw'n medru ystyried eich ymddygiad rhywiol os ydyw wedi ei gefnogi gan dystiolaeth ynghylch y risgiau posib.

Nôl i’r brig



Trefnwyr teithiau a chwmnïau teithio neu gludiant

Ni chaiff cwmnïau teithio wrthod gwerthu gwyliau i chi oherwydd eich rhywioldeb. Er enghraifft, os cynigir gwyliau i barau yn unig, rhaid ei gynnig i barau heterorywiol a pharau o'r un rhyw.

Nôl i’r brig



Cwmnïau gwerthu tai, landlordiaid neu bobl sy'n gwerthu eiddo

Mae'n anghyfreithlon i landlordiaid, neu rywun sy'n gwerthu neu'n gosod eiddo, wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb.

Mae landlordiaid yn cynnwys landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol, fel cynghorau lleol a chymdeithasau tai.

Ond, efallai na fydd y gyfraith yn berthnasol os ydych yn byw yn yr un eiddo â'ch landlord.

Nôl i’r brig



Elusennau

Ni chaiff elusennau eithrio pobl oherwydd eu rhywioldeb. Ond, maen nhw'n medru darparu gwasanaethau i bobl o duedd rhywiol benodol os mai eu diben yw helpu'r grŵp yna. Er enghraifft, efallai bod elusen yn bodoli er mwyn cefnogi dynion hoyw digartref neu roi cyngor i fenywod lesbiaidd ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Nôl i’r brig



Mudiadau crefyddol

Mae mudiadau crefyddol yn medru gwrthod darparu gwasanaethau i chi o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y bydd encilfa grefyddol yn medru eich gwrthod chi am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, neu efallai y bydd eglwys yn cael gwrthod gadael i grŵp hoyw gynnal cyfarfodydd ar ei safleoedd.

Nôl i’r brig



Asiantaethau mabwysiadu neu faethu

Ni all unrhyw asiantaethau mabwysiadu neu faethu wrthod gosod plant gyda chi os ydych yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol.

Nôl i’r brig



Rhoi gwaed

Mae dynion hoyw wedi eu gwahardd rhag rhoi gwaed o hyd.

Nôl i’r brig



Beth fedrai wneud os ydw i'n dioddef gwahaniaethu gan rywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau?

Os ydych yn dioddef gwahaniaethu gan rywun sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau, mae angen i chi gymryd camau cyn gynted â phosib. Mynnwch gyngor gan ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB), canolfan gyfraith neu gymdeithas hoyw. Efallai y byddwch chi am gwyno'n anffurfiol neu ddilyn gweithdrefn gwyno mwy ffurfiol, os oes un gan y gymdeithas. Os nad ydych yn fodlon o hyd, efallai y byddwch chi am ystyried cymryd camau yn y llys sirol.

Dylech gofio, os ydych am ddwyn eich honiad gerbron y llys sirol, fod yna gyfyngiad amser o chwe mis o'r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu.

Honni gerbron y llys

Os ydych yn penderfynu honni gerbron y llys, mae yna weithdrefn ffurfiol ar gyfer casglu tystiolaeth. Mae angen i chi anfon ffurflen safonol, sy'n cynnwys cwestiynau yr ydych am eu holi, at y cwmni, y sefydliad neu'r person yr ydych yn cwyno amdanynt. Mae'r llys yn medru rhoi iawndal, ond os digwydd i chi golli, gellir gorchymyn i chi dalu costau cyfreithiol yr ochr arall, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y gweithdrefnau a'r risgiau cysylltiedig.

Mae unrhyw gamau gweithredu yn medru bod yn gymhleth ac maen nhw'n medru gwneud eich bywyd yn fwy anghyffyrddus yn y tymor byr. Efallai hefyd y bydd yna gostau, yn enwedig os ydych yn defnyddio cyfreithiwr i'ch cynrychioli. Os ydych yn ystyried cymryd camau cyfreithiol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ni fyddwch yn medru cymryd camau ynghylch hysbysebion sy'n gwahaniaethu. Rhaid i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (yr EHRC) gymryd camau ynghylch hysbysebion sy'n gwahaniaethu. Am wybodaeth ynghylch yr EHRC – gweler isod.

Nôl i’r brig



Mathau eraill o wahaniaethu

Yn ogystal â gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb, mae'n bosib i chi gael eich trin yn annheg am resymau eraill, er enghraifft, oherwydd eich hil, eich anabledd neu am eich bod yn fenyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich crefydd, gweler. Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.

Nôl i’r brig



Help pellach

Stonewall

Mae Stonewall yn fudiad sy'n ymgyrchu ac yn lobio ac mae'n gweithio ar faterion sy'n berthnasol i lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol. Yn Lloegr, mae ganddynt wybodaeth am wahaniaethu ar eu gwefan yn: (New window) www.stonewall.org.uk. Maen nhw hefyd yn gweithredu llinell gymorth rad ac am ddim sy'n cynnig gwybodaeth, ar: 08000 50 20 20. Mae'r llinell ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9.30yb hyd nes 5.30yp. Neu fe allwch anfon e-bost atynt i ofyn am wybodaeth, ar: info@stonewall.org.uk.

Yng Nghymru, dyma'r wefan ar gyfer Stonewall Cymru: (New window) www.stonewallcymru.org.uk.

Yn yr Alban, dyma'r manylion cyswllt:

9 Howe Street
Edinburgh
EH3 6TE

Ffôn: 0131 557 3679
E-bost: info@stonewallscotland.org.uk
Gwefan: (New window) www.stonewallscotland.org.uk

Nid yw Stonewall yn medru rhoi cyngor cyfreithiol i chi na'ch helpu chi i fynd ar drywydd achos neu gwyn, ond maen nhw'n medru eich cyfeirio chi at arbenigwyr sy'n medru gwneud hynny.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Nid yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cymryd achosion unigol, ond dylai fod yn medru rhoi peth cyngor i chi. Rydych yn medru cysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn:

Lloegr

Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Ffôn:0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Cymru

Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Yr Alban

Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Canolfannau cyfraith

Mae canolfan gyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim os ydych eisiau cymryd achos am wahaniaethu ar sail crefydd. Os oes cyfreithiwr o ganolfan gyfraith yn eich cynrychioli, efallai y byddwch yn gymwys i gymorth cyfreithiol. Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion y ganolfan gyfraith agosaf ar gael gan Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith, ac, yn yr Alban, gan fudiad o'r enw Scottish Association of Law Centres.

Cymru a Lloegr

Law Centres Federation
Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

Yr Alban

Scottish Association of Law Centres
c/o Govan Law Centre
47 Burleight Street
Govan
Glasgow G51 3LB
Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: (New window) www.govanlc.com/salc

Free Representation Unit (Lloegr)

Mae'r FRU (Free Representation Unit) yn medru cynnig cynrychiolaeth i bobl ar incwm isel sy'n byw yn ardal Llundain. Ond, mae'r FRU yn fudiad gwirfoddol a ni ellir gwarantu cynrychiolaeth mewn achosion. Os ydych chi eisiau help gan yr FRU, rhaid i chi gael eich cyfeirio yn ysgrifenedig gan asiantaeth gyngor unwaith y byddwch wedi cael dyddiad ar gyfer y gwrandawiad. Rhaid bod yr asiantaeth yn tanysgrifio i'r FRU. Mae rhai canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ardal Llundain yn tanysgrifio i'r FRU. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Dyma fanylion cyswllt yr FRU:-

6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
E-bost: admin@freerepresentationunit.org.uk
Gwefan: (New window) www.freerepresentationunit.org.uk

Free Representation (yr Alban)

Mae yna beth cynrychiolaeth rhad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer achosion penodol a phobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig