Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae ad-daliad treth yn ad-daliad treth a ordalwyd. Mae yna nifer o resymau pam y gordalwyd treth, yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chodau TWE brys, gweler System Talu Wrth Ennill (TWE/PAYE). Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r codau treth anghywir, gweler Talu Wrth Ennill (TWE): problemau cyffredin.
Os ydych chi’n gordalu treth o dan TWE neu hunan asesiad, fe allwch chi hawlio ad-daliad.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio ad-daliad treth am ordaliadau trwy eich swydd, neu os ydych chi’n ddi-waith, gweler gwefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio ad-daliad ar ôl gadael eich swydd, ewch i wefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk.
Os ydych chi ar streic, telir ad-daliad dim ond pan fyddwch chi’n gadael eich swydd neu pan ewch chi nôl i’r gwaith. Chewch chi ddim ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chodau treth anghywir, gweler Talu Wrth Ennill (TWE): problemau cyffredin. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y trethir budd-daliadau, gweler Incwm Trethadwy ac anrhethadwy.
Gall gordaliad treth incwm godi yn dilyn marwolaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio treth yn ôl ar ran rhywun sy wedi marw, ewch i wefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk. Os gwneir ad-daliad treth, fe’i cyfrifir fel rhan o ystâd y person sy wedi marw.
Yr ydych yn talu gormod o dreth ar log cynilion. Os felly, fe allwch chi hawlio ad-daliad. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chael llog yn rhydd o dreth a hawlio ad-daliad ar dreth a ordalwyd ar log ar wefan HMRC. Ewch i: www.hmrc.gov.uk.
Yr ydych yn talu gormod o dreth ar eich pensiwn neu pan fyddwch chi’n troi pensiwn bychan yn arian mewn llaw. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio ad-daliad treth a ordalwyd ar bensiwn ar wefan HMRC. Ewch i: www.hmrc.gov.uk.
Os ydych chi’n talu’ch treth o dan TWE, fe allwch chi hawlio’ch ad-daliad o fewn pum mlynedd i 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth lle gordalwyd treth. Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Mae’r terfyn amser hwn i fod i newid o 1 Ebrill 2012.
Os ydych chi’n cwblhau ffurflen hunan asesiad, rhaid i chi hawlio unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus yn eich barn chi o fewn pedair blynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth lle gordalwyd treth.
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i dderbyn ad-daliad, hawliwch nawr rhag ofn i chi golli’r hawl i wneud cais am yr arian yn ôl.
Fe allwch chi ddod o hyd i enghreifftiau o derfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliadau ar wefan HMRC yn www.hmrc.gov.uk ar gyfer y rhai sy’n talu o dan TWE.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os yw HMRC wedi gwneud camgymeriad, gweler Cymorth gyda phroblemau treth.
Rhaid i HMRC dalu llog ar ad-daliad treth os gwneir yr ad-daliad ar ôl 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth lle y gordalwyd treth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfraddau llog ewch i wefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk.