Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Oes rhaid i mi anfon i mewn ffurflen dreth? Sut ydw i’n mynd ati i wneud hyn?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydych chi’n gweithio i gyflogwr sy’n tynnu treth ac yswiriant gwladol TWE (Talu Wrth Ennill) o’ch cyflog rheolaidd, ac nid oes gennych unrhyw incwm arall, fel arfer nid oes rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth.

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth Hunan Asesiad os ydych chi’n hunan gyflogedig, yn gyfarwyddwr cwmni, yn bartner mewn busnes neu os oes gennych incwm nad yw’n cael ei drethu yn y ffynhonnell, er enghraifft, incwm rhent.

Gellir dod o hyd i restr gyflawn o bobol sy’n gorfod llenwi ffurflen dreth ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk neu yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Nidirect yn (New window) www.nidirect.gov.uk.

Os yw Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn credu fod gennych incwm sydd angen ei drethu o dan Hunan Asesiad, fe fydd yn anfon ffurflen atoch i’w chwblhau. Sut bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth HMRC os ydych chi’n credu fod gennych incwm y dylid ei drethu.

Fe allwch gwblhau ffurflen dreth ar-lein neu ar bapur. Os nad ydych wedi derbyn ffurflen dreth bapur neu rybudd i gwblhau ffurflen ar-lein a chwithau’n credu eich bod yn gorfod cwblhau un, cysylltwch â’ch swyddfa dreth neu linell gymorth Hunan Asesiad HMRC ar 0845 900 0444.

Os ydych chi’n llenwi’ch ffurflen ar bapur, rhaid i chi ei dychwelyd i HMRC heb fod yn hwyrach na 31 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Os ydych chi’n cwblhau’ch ffurflen dreth ar-lein, rhaid i chi wneud hyn heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Os nad ydych yn cadw at y dyddiadau terfyn hyn, fe godir tâl cosb arnoch.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Hunan Asesiad, gweler Hunan Asesiad.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffurflenni treth, gweler Ffurflenni treth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â TWE, gweler System Talu Wrth Ennill (PAYE).

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â threth: