Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pan fyddwch chi dros 65 oed mae’n rhaid i chi o hyd dalu treth ar eich incwm, ond mae’ch lwfans di-dreth yn uwch na’r hyn oedd cyn i chi fod yn 65. Mae eich incwm trethadwy yn cynnwys eich pensiwn galwedigaethol neu bensiwn personol os oes gennych un. Mae rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol hefyd yn drethadwy, er enghraifft, eich pensiwn ymddeol. Efallai y bydd gennych incwm hefyd yn ffurf llog o gynilion neu gyfranddaliadau, o arian rhent o eiddo sy’n berchen i chi neu enillion o unrhyw waith yr ydych yn ei gyflawni.
Os mai’ch unig incwm trethadwy ydyw’r pensiwn ymddeol gwladol cyfradd sylfaenol (ac eithrio pensiwn graddedig neu ychwanegol) fyddwch chi ddim yn talu unrhyw dreth. Mae hyn oherwydd y bydd eich lwfans di-dreth yn fwy na’ch pensiwn sylfaenol.
Os ydych chi’n gweithio, naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser, fe drethir eich enillion o dan system TWE. Bydd unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eich incwm trethadwy, er enghraifft, pensiwn ymddeol gwladol, yn cael ei ddidynnu o’ch enillion o dan system TWE.
Efallai yr anfonir ffurflen dreth Hunan Asesiad atoch. Os nad anfonir ffurflen atoch a chwithau ag incwm sy’n drethadwy, eich cyfrifoldeb chi ydyw gofyn i HMRC am anfon ffurflen atoch.
Os oes gennych gynilion, fel arfer didynnir treth o’r llog cyn i chi ei dderbyn. Os ydyw’ch incwm yn isel, efallai y gallwch hawlio nôl y dreth a dalwyd ar eich llog cynilo. Fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hawlio nôl treth yr ydych wedi’i ordalu ar eich cynilion o wefan HMRC yn www.hmrc.gov.uk.
Os ydych chi’n dalwr treth cyfradd uwch, bydd yn rhaid i chi dalu treth ychwanegol ar eich incwm o gynilion neu fuddsoddiadau. Mae’n rhaid i chi nodi hyn ar eich ffurflen dreth.
Os ydych chi’n profi gostyngiad yn eich incwm wrth i chi ymddeol, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad treth.
Mae gwybodaeth bellach ynglyn â threth a phensiynau ar wefan CAThEM yn www.hmrc.gov.uk.
Am fwy o fanylion, yn cynnwys esboniad am y codau treth y gallwch ddod ar eu traws, gweler Treth Incwm a phensiynwyr.