The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Bondiau Cynilo
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â bondiau cynilo
Os ydych chi’n ystyried rhoi rhywfaint o arian o’r naill du ar gyfer diwrnod glawog, un opsiwn ydyw rhoi’r arian mewn bond cynilo.
Mae bondiau cynilo ar gael oddi wrth y banciau, cymdeithasau adeiladu a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
Rydych chi’n cytuno i roi’ch arian mewn bond am gyfnod penodol o amser. Mae hyn rhwng un a phum mlynedd ac fe’i gelwir yn dymor. Bydd rhaid i chi roi isafswm o arian sy fel arfer rhwng £500 a £1.000.
Fe gewch chi log ar eich arian, ac fe ellir talu hwn naill ai ar gyfradd sefydlog neu gyfradd newidiol. Mae newidiol yn golygu y gall y gyfradd fynd i fyny neu i lawr.
Yn gyffredinol mae’r llog enillwch chi yn uwch po mwyaf o arian rhowch chi i mewn. Os fyddwch chi’n gadael arian i mewn am fwy na blwyddyn, efallai y cewch chi gyfradd uwch hefyd.
Efallai yr hoffech chi ystyried prynu bond cynilo os:
- oes gennych gyfandaliad i’w gynilo
- nad ydych am fentro gormod gyda’ch arian
- ydych chi am gynilo am gyfnod heb fod yn fwy na phum mlynedd
Gall bondiau cynilo fod yn ddefnyddiol hefyd i bobol sy am ennill incwm o’u cynilion, megis pensiynwyr sy am arian ychwanegol i’w ychwanegu at eu pensiwn. Y rheswm am hyn yw eich bod yn gallu dewis cael eich llog yn fisol os ydych yn dymuno, yn hytrach nag unwaith y flwyddyn, os oes gennych lawer o fondiau cynilo.
Mae bondiau cynilo yn opsiwn diogelach na rhoi’ch arian i mewn i stociau a chyfranddaliadau ac fe allwch chi ennill mwy o log nag mewn cyfrif banc a chymdeithas adeiladu cyffredin.
Ar y llaw arall, mae yna rai anfanteision:
- fyddwch chi ddim yn gallu cael gafael ar eich arian yn rhwydd iawn
- efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os ydych chi am dynnu’ch arian allan yn gynnar neu, gyda rhai bondiau cynilo, fyddwch chi ddim yn gallu tynnu arian allan o gwbl.
- gyda bondiau ecwiti gwarantedig, os ydyw’r farchnad stoc yn gwneud yn dda, chewch chi ddim cymaint o arian â phetaech chi wedi buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau.
Mae yna sawl math gwahanol o fondiau cynilo ar gael sydd i gyd yn gweithio mewn ffyrdd ychydig yn wahanol. Y prif fathau o fondiau cynilo yw:
Os oes diddordeb gennych mewn prynu bond cynilo ond heb fod yn siŵr os mai hwn ydyw’r opsiwn iawn i chi, efallai yr hoffech gael cyngor ariannol annibynnol.
Bondiau cyfradd sefydlog
Mae bondiau cyfradd sefydlog ar gael trwy fanciau, cymdeithasau adeiladu a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
Os oes gennych gyfandaliad i’w gynilo, gallai bondiau cyfradd sefydlog gynnig cyfraddau llog da iawn o’u cymharu â chyfrifon cynilo cyfrif banc a chymdeithas adeiladu. Gyda rhai cyfrifon, dim ond am flwyddyn y bydd yn rhaid i chi glymu’ch arian.
Fe allwch ddewis cael y llog wedi’i dalu naill ai:
- ar ddiwedd y cyfnod cyfradd sefydlog y cytunoch chi iddo (y tymor) neu,
- fel incwm misol.
Mae yna rai anfanteision i fondiau cyfradd sefydlog:
Fe allwch chi golli llog os ydych chi’n codi’ch arian cyn diwedd y cyfnod y cytunoch chi iddo
- gyda llawer o fondiau, efallai na fyddwch chi’n gallu tynnu’ch arian allan yn gynnar o gwbl
- os ydych chi’n drethdalwr, tynnir treth o’r llog yr enillwch chi ar y bond hyd yn oed os na fyddwch chi’n gallu cael gafael ar yr arian
- os bydd cyfraddau llog yn codi, efallai y gwelwch chi’n sydyn iawn fod y gyfradd yr ydych chi’n ei chael yn llawer is na’r hyn mae cyfrifon eraill yn ei thalu. Ond fyddwch chi ddim yn gallu symud eich arian tan ddiwedd y cyfnod penodol ac efallai y bydd gwerth eich cynilion yn gostwng.
Os ydych chi’n credu y bydd angen cael gafael ar eich arian yn gynnar neu os nad ydych am beryglu colli llog os bydd y cyfraddau’n codi, efallai y byddwch am edrych ar gyfrifon rhybudd tymor byrrach sy’n talu cyfradd llog dda.
Bondiau ecwiti gwarantedig
Mae bondiau ecwiti gwarantedig ar gael trwy lawer o fanciau, cymdeithasau adeiladu a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
Mae bondiau ecwiti gwarantedig yn apelio at bobol sy’n hoffi’r syniad o fuddsoddi yn y farchnad stoc ond sy’n pryderu ar yr un pryd ynglŷn â cholli eu harian.
I fod yn fanwl gywir nid buddsoddiadau ydyw’r bondiau hyn ond cyfrifon cynilo. Fel arfer mae’n rhaid i chi gytuno i adael eich arian yn y cyfrif am gyfnod penodol o amser, yn aml rhwng tair a saith mlynedd.
Mae maint y llog enillwch chi yn gysylltiedig â pherfformiad y cyfranddaliadau yn y farchnad stoc. Mae bondiau ecwiti gwarantedig yn aml yn dilyn perfformiad yr indecs FTSE 100. Dyma restr o’r can cwmni sy’n perfformio orau yn y DU.
Os ydyw’r farchnad stoc yn gwneud yn dda fe enillwch chi arian. Os ydyw’n gwneud yn wael, fe gewch chi nôl o leiaf y swm gwreiddiol roddoch chi i mewn yn y bond. Mae hyn yn gwneud bondiau ecwiti gwarantedig yn ddiogelach na buddsoddi’n uniongyrchol yn y farchnad stoc lle gallwch chi golli popeth os ydyw’r farchnad stoc yn gwneud yn wael.
Sut bynnag, mae yn rai anfanteision.
Os ydyw’r farchnad stoc yn gwneud yn dda
Hyd yn oed os yw’r farchnad stoc yn gwneud yn eithriadol o dda, fyddwch chi ddim yn gwneud cymaint o arian ag y byddech chi trwy fuddsoddi’n uniongyrchol yn y farchnad stoc. Y rheswm am hyn yw bod gan y rhan fwyaf o fondiau gyfyngiad uchafswm ar y llog y maen nhw’n ei dalu allan, sy’n cael ei gyfartalu allan dros gyfnod y bond. Hefyd, chewch chi ddim unrhyw ddifidendau, sef yr incwm gewch chi wrth fuddsoddi’n uniongyrchol yn y cyfranddaliadau.
Os ydyw’r farchnad stoc yn gwneud yn wael
Oherwydd bod eich arian wedi’i glymu i fyny am gyfnod hir o amser, efallai na fyddwch chi’n gallu mynd ato a’i roi yn rhywle arall os yw’r farchnad stoc yn gwneud yn wael.
Er y cewch chi yn ôl y swm gwreiddiol o arian y rhoddoch chi i mewn, fydd eich cynilion wedi ennill dim. Fel mater o ffaith, unwaith y cymerir y gost o fyw (chwyddiant) i ystyriaeth, bydd gwir werth eich cynilion yn is na phetaech chi wedi’u rhoi mewn cyfrif rhybudd neu i fath arall o fond cynilo.
Bondiau incwm misol
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) yn cynnig bond incwm misol allai apelio i chi os ydych am incwm o’ch cynilion ond hefyd am fynd at eich arian yn rhwydd.
Fe allwch dynnu’ch arian ar unrhyw adeg a does dim rhaid i chi ei adael yno am gyfnod penodol o amser (tymor), fel gyda bondiau cynilo eraill.
Yr isafswm y gallwch ei roi mewn bond incwm misol ydyw £500 ac fe delir y llog ar gyfradd newidiol. Mae hyn yn golygu y gall y swm o arian enillwch chi fynd i fyny neu i lawr. Ond os talwch chi mwy na £25,000 i mewn, fe gewch chi gyfradd uwch o log.
Os penderfynwch chi brynu bond incwm misol, fe ddylech chi gymharu cyfraddau yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn cael cyfradd waeth nag y byddech chi o gyfrif cynilo banc neu gymdeithas adeiladu. [link to page Cyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu]
Mae yna rai anfanteision i fondiau incwm misol:
- efallai nad ydyw bondiau incwm yn addas i chi os ydych chi’n cynilo i roi cyfandaliad i chi yn y dyfodol
- ni fydd bondiau incwm misol y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn rhoi cyfradd llog gwarantedig i chi. Os ydych chi am gyfradd warantedig, efallai yr hoffech chi ystyried bondiau cyfradd sefydlog neu gyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu yn lle. Ond cofiwch y bydd yn rhaid i chi glymu’ch arian am o leiaf un flwyddyn os dewiswch chi fond cyfradd sefydlog. Fe allwch chi ddefnyddio gwefan gymharu i’ch helpu i gymharu cyfraddau.
Bondiau premiwm
Mae bondiau premiwm ar gael oddi wrth Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) yn unig.
Mae pob bond premiwm yn werth £1 ac mae ganddo ei rif unigol ei hun. Dydych chi ddim yn ennill llog ar fondiau premiwm. Yn hytrach, rhoddir eich bondiau mewn raffl fisol. Os tynnir eich rhif bond chi mae gennych y siawns o ennill hyd at un filiwn o bunnoedd. Mae hefyd mwy na miliwn o wobrau ariannol eraill rhwng £25 a £100,000.
Os dewisir eich rhif bond chi, mae’r holl arian enillwch chi yn ddi-dreth. Po fwyaf o fondiau premiwm sydd gennych, y mwyaf yw’ch siawns o ennill.
Fe allwch chi roi isafswm o £100 mewn bondiau premiwm, i fyny at uchafswm o £30,000. neu fe allwch chi ddewis cynilo isafswm o £50 y mis. Fe allwch chi gyfnewid eich bondiau am arian unrhyw bryd heb gael eich cosbi.
Mae yna rai anfanteision mewn bod yn berchen ar fondiau premiwm:
- oni bai eich bod yn berchen ar lawer o fondiau premiwm, yr ydych yn cymryd gambl na fyddwch chi’n ennill dim byd o gwbl ar eich arian.
- Mae’r ods o ennill y wobr o £1 miliwn o bunnoedd yn llawer is nag ennill gwobr fawr y Loteri.
Os nad ydych yn ennill unrhyw beth, neu swm bychan yn unig, efallai y bydd eich cynilion yn werth llai na phetaech wedi eu rhoi mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, unwaith fod chwyddiant wedi’i gymryd i ystyriaeth.
Fe allwch chi weithio allan os oes gwerth mewn prynu neu ddal at fondiau premiwm a defnyddio'r cyfrifydd bond premiwm i weithio allan eich siawns o ennill yn: www.moneysavingexpert.com.
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Pam mae angen i mi gynilo
- Alla i fforddio cynilo a faint
- Beth ydyw’r ffordd orau o gynilo
- Cyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu
- Buddsoddi yn y farchnad stoc
- Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cynnyrch ariannol, gan gynnwys tablau cymharu. Rhowch glic ar : www.moneyadviceservice.org.uk.
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig nifer o gynhyrchion ariannol a warentir gan y llywodareth. Maen nhw ar gael trwy Swyddfa’r Post, ar-lein neu dros y ffôn. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.nsandi.com.
Llais Defnyddwyr Cymru (Consumer Focus)
Cwmni gwarchod y defnyddwyr i’r llywodraeth ydyw Llais Defnyddwyr Cymru(Consumer Focus). Maen nhw’n cadw rhestr o wefannau cymharu cymeradwy y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar eu gwefan yn: www.consumerfocus.org.uk.
Cyngor Ariannol Annibynnol
Am gymorth i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, cysylltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:
Hyrwyddiadau Ariannol Annibynnol (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk
Sefydliad Cynllunio Ariannol (IFP)
Tel: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Cymdeithas Cyllid Personol (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org
Gwefan Moneysavingexpert
Mae gan wefan money saving expert lawer iawn o wybodaeth ariannol defnyddiol, yn cynnwys tablau cymharu prisiau ar gyfer cyfrifon cynilo gwahanol. Ewch i: www.moneysavingexpert.com.









