Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loer, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Beth yw ISA

Os ydych yn talu treth yn y DU, bydd angen i chi dalu treth ar yr arian (llog) a enillwch ar eich cynilion.

Os ydych yn:

  • talu treth ar y gyfradd gynilo, byddwch yn talu 10 y cant
  • talu treth ar y gyfradd sylfaenol, byddwch yn talu 20 y cant o dreth
  • talu treth ar y gyfradd uwch, byddwch yn talu 40 y cant o dreth
  • talu treth ar gyfradd ychwanegol, byddwch yn talu 50 y cant.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gyfraddau’r dreth incwm, gweler Cyfraddau’r dreth incwm.

Fodd bynnag, ceir cynlluniau cynilo a buddsoddi sy’n eich galluogi i gynilo swm penodol o arian bob blwyddyn lle mae’r incwm a enillwch arnynt yn ddi-dreth.

Cyfrifon Cynilo Unigol neu ISAs yw’r enw arnynt. Gallwch roi eich cynilion a’ch buddsoddiadau mewn ISAs.

Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi dalu treth ar y llog neu’r incwm a enillwch. Mae yna ddau fath o ISA:

  • ISA arian
  • ISA buddsoddiad. Caiff ISAs buddsoddiad hefyd eu hadnabod fel ISAs stociau a chyfrannau.

Mae’r holl log a enillwch ar ISA arian yn ddi-dreth.

Gydag ISA buddsoddiad, ni chodir treth ar y mwyafrif o’r incwm a enillwch ohono. Fodd bynnag os ydych yn dewis buddsoddiad sy’n seiliedig ar gyfrannau, codir treth ar yr arian a enillwch ar y cyfrannau.

Nôl i’r brig


Pwy all gynilo mewn ISA?

Mae’n rhaid eich bod yn byw yn y DU er mwyn agor ISA.

Gallwch agor ISA os ydych yn 16 oed neu hŷn a gallwch agor ISA buddsoddiad os ydych yn 18 oed neu hŷn.

Nôl i’r brig


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ISA arian ac ISA buddsoddiad?

Mae ISAs arian yn ffordd dda o gynilo byrdymor. Mae hyn fel arfer am lai na phum mlynedd. Maen nhw fel arfer yn cynnig cyfraddau llog da o gymharu â chyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu ac nid oes angen i chi dalu treth ar y llog.

Mae ISAs buddsoddiad ar gyfer buddsoddiadau’r farchnad stoc. Mae’n werth eu hystyried os hoffech gynilo am fwy na pum blynedd ac os ydych yn fodlon cymryd risg gyda’ch arian.

Mae buddsoddi yn y farchnad stoc yn ffordd fwy peryglus o gynilo oherwydd mae’n bosib y gallwch golli arian yn hytrach na’i gynyddu. Fodd bynnag, y mwyaf o amser yr ydych yn buddsoddi, y mwyaf tebygol ydych chi o gynyddu eich arian na petaech wedi cynilo mewn banc neu gymdeithas adeiladu. Bydd hyn yn rhoi mwy o elw i chi.

Os hoffech fwy o wybodaeth am fuddsoddi yn y farchnad stoc, gweler Buddsoddi yn y farchnad stoc.

Gallwch drosglwyddo’r arian sydd gennych mewn ISA arian i ISA buddsoddiad ond ni allwch roi’r arian sydd gennych mewn ISA buddsoddiad i mewn i ISA arian. Felly os ydych yn meddwl trosglwyddo i ISA buddsoddiad, cofiwch na allwch roi’r arian yn ôl i mewn i ISA arian os nad yw eich buddsoddiad yn cynyddu cystal.

Os hoffech drosglwyddo i wahanol ISA, mae’n rhaid i’ch darparwr wneud hyn a gall godi tâl arnoch.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi eich arian i mewn i ISA buddsoddiad, mae’n bosib yr hoffech gael cymorth gan ymgynghorydd ariannol annibynnol. Fe fydd yn eich helpu i benderfynu os taw hwn yw’r dewis gorau ar eich cyfer chi.

Nôl i’r brig


Faint y gallwch ei roi mewn ISA?

Gallwch roi £11,280 i mewn i ISA. Gall hyd at £5,640 ohono gael ei roi i mewn i ISA arian. Os nad ydych yn talu i mewn i ISA arian, gallwch roi’r swm llawn i mewn i ISA buddsoddiad [link to heading Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ISA arian ac ISA buddsoddiad?]

Os nad ydych wedi defnyddio eich terfyn buddsoddi blynyddol, ni fedrwch drosglwyddo’r swm nad ydych wedi’i ddefnyddio i’r flwyddyn dreth ganlynol. Gallwch godi’ch arian unrhyw bryd. Fodd bynnag, os ydych yn codi’ch arian o fewn y flwyddyn dreth, ni allwch ei roi yn ôl tan bod y flwyddyn dreth newydd wedi dechrau a’ch bod yn gymwys i gael terfyn buddsoddi newydd.

Gallwch gynilo a buddsoddi mewn un ISA arian ac un ISA buddsoddiad ym mhob blwyddyn dreth gyda gwahanol ddarparwyr. Fodd bynnag, ni allwch gael dau ISA arian neu ddau ISA buddsoddiad yn ystod yr un flwyddyn dreth.

Nôl i’r brig


Treth Enillion Cyfalaf ac ISAs

Gallwch ddefnyddio ISA i osgoi talu Treth Enillion Cyfalaf (TEC), sef treth a godir gan y llywodraeth ar elw o gynilion a buddsoddiadau.

Os ydych yn gwneud mwy na £11,200 o elw pan ydych yn gwerthu cyfrannau a rhai asedau eraill yn y flwyddyn dreth 2012/13, mae’n rhaid i chi fel arfer dalu TEC. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi dalu TEC ar elw o ISA.

Nôl i’r brig


Defnyddio eich lwfansau treth

Os ydych yn byw gyda phartner neu’n briod, mae gan y ddau ohonoch lwfansau treth. Hwn yw’r swm o arian y mae’r llywodraeth yn eich caniatáu i’w ennill cyn talu treth. Os yw un ohonoch yn talu treth, neu os yw un ohonoch yn talu treth ar y gyfradd uwch, mae’n werth defnyddio eich ISA a sicrhau taw enw’r person sy’n talu’r swm lleiaf o dreth sydd ar y cynilion.

Os hoffech fwy o wybodaeth am lwfansau treth, gweler Lwfansau a symiau’r dreth incwm.

Nôl i’r brig


Ffyrdd di-dreth eraill o gynilo

Os ydych yn chwilio am ffyrdd di-dreth eraill o gynilo, mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) sy’n cael eu cefnogi gan y llywodraeth yn cynnig cyfres o dystysgrifau cynilo mynegrifol a llog sefydlog. Gallwch gynilo rhwng £100 a £15,000 ym mhob un a chânt eu cyflwyno sawl gwaith y flwyddyn. Os hoffech fwy o wybodaeth am NS&I ewch at www.nsandi.com. Dylech bob amser gymharu cyfraddau llog cynhyrchion Cynilion Cenedlaethol gyda chyfraddau llog y cynhyrchion eraill sydd ar gael.

Nôl i’r brig


Ble allwch gael ISA?

Gallwch gael ISA trwy’r canlynol:

Mae’n rhaid bod yr holl ddarparwyr ISA yn cael eu rheoli gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA). Hwn yw corff gwarchod buddiannau ariannol y llywodraeth.

Os hoffech wybod mwy am ISAs arian, ewch at:

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Ar Adviceguide

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig nifer o gynhyrchion ariannol sydd wedi’u gwarantu gan y Llywodraeth. Maen nhw ar gael yn y Swyddfa Bost, ar-lein a dros y ffôn. Os hoffech fwy o wybodaeth, ewch at www.nsandi.com.

Cyngor Ariannol Annibynnol

Os hoffech gymorth i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, cysylltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:

Independent Financial Promotions (IFAP)

Gwefan: www.unbiased.co.uk.

Y Sefydliad Cynllunio Ariannol (IFP)

Rhif ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk

Y Gymdeithas Cyllid Personol (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org

Gwefan Moneysavingexpert

Mae gan wefan moneysavingexpert lawer o wybodaeth ddefnyddiol am reoli arian, gan gynnwys tablau cymharu prisiau ar gyfer gwahanol gyfrifon cynilo. Ewch at www.moneysavingexpert.com

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback