Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Cyfrifon cynilo Banciau a Chymdeithasau Adeiladu

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban.

Ynglŷn â chyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu

Os ydych chi’n ystyried rhoi rhywfaint o arian o’r naill du ar gyfer diwrnod glawog, opsiwn poblogaidd ydyw ei roi mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Mae yna gannoedd o gyfrifon cynilo gwahanol ar gael a gall fod yn anodd gwybod pa un i’w ddewis.

Bydd dewis yr un iawn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae llawer o fathau gwahanol o gyfrifon a bydd rhai yn fwy addas ar gyfer eich amgylchiadau nag eraill.

Er enghraifft:

  • cynllunnir cyfrifon mynediad hawdd i bobol sydd am gael gafael ar eu harian yn gyflym - er eu bod yn cynnig cyfraddau llog is na mathau eraill o gyfrifon cynilo.
  • cynllunnir cyfrifon cynilo rheolaidd i bobol sy’n gallu rhoi arian o’r naill du yn rheolaidd ond sy ddim am glymu eu harian am flwyddyn neu fwy.
  • cynllunnir cyfrifon cynilo rheolaidd rhybudd penodol i bobol sy am ennill cyfraddau llog uwch ac sy ddim am gael gafael ar eu harian ar frys.

Ar y dudalen hon, fe ddywedwn ni wrthych am y rai o’r gwahanol fathau o gyfrifon cynilo sydd ar gael a’ch helpu i weithio allan pa un allai fod yn iawn i chi.

Yr hyn na chewch chi ar y dudalen hon yw cymharu y cyfrifon unigol a gynigir gan gwmnïau gwahanol. Er mwyn dod o hyd i wybodaeth fel hyn, bydd angen i chi edrych ar un o’r gwefannau cymharu a restrir o dan Cymorth ychwanegol.

Nôl i’r brig


Pam cynilo gyda banc neu gymdeithas adeiladu?

Gyda chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, yr ydych yn talu eich arian i mewn ac yn gyfnewid am ei gadw yno fe gewch chi dâl bychan. Adwaenir hwn fel llog. Gall llog naill fod yn benodol neu’n newidiol. Os ydyw’r llog yn benodol, bydd yn aros yr un fath dros gyfnod arbennig o amser. Os ydyw’r llog yn newidiol, gall y llog gewch chi fynd i fyny neu i lawr.

Mae cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn ffordd ddiogelach o gynilo oherwydd yr ydych yn sicr o allu cael yn ôl yr arian roddoch chi i mewn o leiaf. Os ydyw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, yr ydych yn sicr o gael yr arian roddoch chi i mewn i gyd yn ôl, i fyny at uchafswm o £85,000.

Mae cyfrifon banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn well os ydych chi’n cynilo yn y tymor byr, yn hytrach na’r hir dymor. Mae hyn fel arfer yn golygu cyfnod o lai na phum mlynedd.

Mae hyn oherwydd y byddwch efallai am gael gafael ar eich arian yn gyflym ac mae’n haws gwneud hyn trwy gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu na phetaech chi’n buddsoddi’r arian yn y farchnad stoc.

Sut bynnag, os ydych chi’n rhoi’ch arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu am gyfnod hir o amser, gall y llog fyddwch chi’n ei ennill ar eich cynilion fod yn llai na’r cynnydd yng nghostau byw. Adwaenir hyn fel chwyddiant. Pan gymerir chwyddiant i ystyriaeth, fe allech chi ddiweddu gyda llai o arian nag oedd gennych ar y dechrau.

Os ydych chi am gynilo arian yn yr hir dymor, efallai y byddai’n well i chi ei fuddsoddi yn y farchnad stoc, yn hytrach na’i roi mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddsoddi yn y farchnad stoc, gweler Buddsoddi yn y farchnad stoc.

Mae buddsoddi yn y farchnad stoc yn ffordd fwy mentrus o gynilo oherwydd mae’n bosibl colli arian yn hytrach na’i ennill. Os ydych chi wir yn anhapus ynglŷn â’r syniad y gallech chi golli arian, efallai y byddwch chi am gadw at gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu.

Nôl i’r brig


Dewis cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

Cyn dewis cyfrif cynilo banc neu gymdeithas adeiladu bydd angen i chi gymharu'r gwahanol gyfrifon sydd ar gael yn ofalus iawn ac ystyried beth sy fwyaf addas i’ch anghenion chi.

Bydd angen i chi edrych ar delerau ac amodau'r cyfrifon yn ogystal â chyfraddau llog. Dyma rai o’r pethau i edrych amdanynt:

  • oes cyfyngiad ar ba mor hir y mae’r cyfraddau llog yn parhau? Gall rhai cyfraddau llog ymddangos yn apelgar ond dydyn nhw ddim yn parhau’n hir iawn ac fe’ch symudir chi i gyfradd lai apelgar.
  • pan fyddwch chi’n cymharu cyfraddau llog- gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu tebyg at ei debyg. Y ffordd symlaf o gymharu cyfrifon cynilo yw edrych ar y Gyfradd Gyfatebol Flynyddol (AER). Dyma’r gyfradd llog y mae’r cyfrif yn ei dalu ac mae’r ffordd y caiff ei gyfrifo yn golygu y gallwch chi gymharu gwahanol gyfrifon. Sut bynnag, nid yw’r AER yn cynnwys unrhyw fonws arbennig y gall cyfrif ei gynnig i’ch annog i gynilo.
  • oes yna unrhyw gosbau os ydych chi’n codi’ch arian yn gynnar neu’n codi mwy nag unwaith yn ystod un flwyddyn?
  • oes yna unrhyw gyfyngiadau ar y ffordd y gallwch chi reoli’ch cyfrif? Er enghraifft, ydy’r cyfrif yn un post neu ryngrwyd?

Mae yna nifer o wefannau cymharu prisiau sy’n rhestru’r holl gyfrifon sydd ar gael ac yn caniatáu i chi gymharu cyfradd ynghyd â thelerau ac amodau. Am fwy o wybodaeth am y gwefannau hyn, gweler Cymorth ychwanegol.

Unwaith y byddwch chi wedi agor cyfrif cynilo, fe ddylech chi wirio'r gwefannau cymharu’n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn dal i gael y gyfradd orau posibl. Os ydych chi’n gweld fod cyfraddau gwell mewn man arall, fe ddylech ystyried o ddifri symud eich arian.

Cyfrifon post, ffôn a’r rhyngrwyd

Pan fyddwch chi’n dewis cyfrif cynilo banc neu gymdeithas adeiladu, edrychwch allan am unrhyw delerau ac amodau sy’n cyfyngu ar y ffordd y gallwch reoli’ch cyfrif.

Gyda rhai cyfrifon, fe allwch chi gyflawni rhai trafodion arbennig trwy’r post, y ffôn neu’r rhyngrwyd yn unig. Gall y cyfrifon yma ymddangos yn apelgar gan eu bod yn aml iawn yn cynnig cyfraddau llog gwell na chyfrifon cangen gyffelyb. Ond os nad ydych yn hapus yn defnyddio’r rhyngrwyd neu os ydyw’n well gennych siarad â rhywun wyneb yn wyneb, fe ddylech chi ystyried yn ofalus cyn cytuno i gyfrif fel hyn.

Nôl i’r brig


Cyfrifon Mynediad Hawdd

Gellir galw cyfrifon mynediad hawdd yn gyfrifon mynediad cyflym hefyd. Maen nhw’n ffordd gyfleus o gynilo os ydych chi am gael gafael ar eich arian yn gyflym oherwydd fe allwch godi arian pryd y mynnoch.

Prif anfantais cyfrifon mynediad hawdd ydyw fod y llog a enillir gennych ar eich arian yn is fel arfer na chyfrifon cynilo eraill, lle rydych chi’n cytuno i adael eich arian i mewn am gyfnod arbennig o amser heb ei gyffwrdd.

Anfantais arall y math yma o gyfrif ydyw ei bod yn gallu’ch digalonni chi rhag cynilo mwy oherwydd ei fod mor hawdd i godi arian pryd y mynnoch chi.

Nôl i’r brig


Cyfrifon Rhybudd

Bydd rhai cyfrifon yn talu cyfradd llog uwch os cytunwch chi i roi rhybudd ymlaen llaw i’r banc neu gymdeithas adeiladu eich bod am godi arian.

Gall cyfnod rhybudd nodweddiadol amrywio o rhwng saith a naw deg diwrnod. Fel arfer, po fwyaf y rhybudd y bydd yn rhaid i chi ei roi, yr uchaf fydd y gyfradd llog gewch chi.

Os na fyddwch chi’n rhoi digon o rybudd cyn tynnu’ch arian allan, fe allech chi golli rhywfaint o’r llog yr ydych wedi’i ennill. Fe allwch chi ddewis cynilo’n rheolaidd neu roi cyfandaliad i mewn i gyfrif rhybudd penodol.

Os agorwch chi un o’r cyfrifon hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r gyfradd gewch chi yn rheolaidd. Efallai y bydd angen i chi newid eich cyfrif er mwyn gwneud yn siŵr bob amser eich bod yn cael y fargen orau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon rhybudd, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Cyfrifon Cynilo Rheolaidd

Os oes gennych arian i’w gynilo’n rheolaidd, fe ddylech chi ystyried agor cyfrif cynilo rheolaidd. Mae’r cyfrifon hyn yn rhoi cyfradd llog uwch i na phetaech chi’n rhoi arian i mewn yn achlysurol pan fydd rhywfaint ychwanegol gennych dros ben. Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu i mewn rhwng £10 a £500 y mis. Fe allech chi hefyd gael bonws bychan ychwanegol am gynilo bob mis. Sut bynnag, os methwch chi daliad neu godi arian yn gynnar, fe allwch chi golli rhywfaint o’r llog enilloch chi.

Mae’n werth ystyried cyfrifon cynilo rheolaidd os ydych chi am fod yn ddisgybledig ynglŷn â chynilo ond nid am glymu’ch arian am flwyddyn neu fwy.

Maen nhw ar gael trwy’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu, ac mae rhai drwy’r post neu dros y rhyngrwyd. Gall cyfrifon gael y geiriau ‘cynilwr rheolaidd’ yn eu henw ond nid pob un, felly gwiriwch y print mân i ddarganfod os cewch chi log ychwanegol os byddwch chi’n cynilo’n rheolaidd.

Gall cyfrifon cynilo rheolaidd fod yn rhai mynediad hawdd hefyd neu gyfrifon rhybudd.

Mae’r cyfraddau llog gorau yn newid yn aml, felly defnyddiwch wefan cymharu i ddarganfod pa gyfrifon sy’n talu’r cyfraddau gorau. Unwaith y byddwch chi wedi agor cyfrif, gwiriwch nad yw’ch cyfradd yn mynd i lawr. Os ydych chi am newid cyfrifon, gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli llog os ceisiwch chi godi arian yn gynnar. I wybod mwy am gymharu cyfrifon cynilo rheolaidd, ewch i Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk neu www.moneysavingexpert.com.

Nôl i’r brig


Cyfrifon Cynilo Rheolaidd Rhybudd Penodol

Adwaenir cyfrifon cynilo rheolaidd rhybudd penodol hefyd fel Cyfrifon Cynilo Cyfradd Uchel. Mae’r cyfrifon hyn yn rhoi cyfradd llog uwch i chi yn gyfnewid am adael eich arian i mewn am gyfnod penodol o amser (neu dymor) Fel arfer mae hyn am flwyddyn o leiaf. Bydd rhai cyfrifon yn talu cyfraddau llog uwch hyd yn oed os ydych chi’n cadw’ch arian i mewn am ddwy neu dair blynedd.

Efallai yr hoffech chi ystyried un o’r cyfrifon hyn os:

Pan fyddwch chi’n agor cyfrif cynilo rheolaidd rhybudd penodol, efallai y gofynnir i chi agor cyfrif arall ar yr un pryd. Adwaenir hwn fel cyfrif bwydo. Bydd angen i chi dalu arian i mewn i’r cyfrif bwydo yn gyntaf ac yna trosglwyddo symiau rheolaidd i’r cyfrif rhybudd penodol. Chewch chi ddim cyfradd llog sicr ar eich cyfrif bwydo ac felly bydd angen i chi wirio fod y llog a delir ar y cyfrif rhybudd penodol yn ddigon uchel i wneud iawn am yr arian yn cael ei gadw yn y cyfrif bwydo ar gyfradd llog is.

Fe allwch chi weithiau ddefnyddio’ch cyfrif cyfredol fel cyfrif bwydo os yw’ch cyfrif cynilo gyda’r un banc neu gymdeithas adeiladu. Os oes rhaid i chi agor cyfrif ar wahân, gwiriwch pa gyfradd llog gewch chi ar yr arian yn eich cyfrif bwydo.

Cyn i chi agor cyfrif cynilo rheolaidd rhybudd penodol, ytyriwch beth allai ddigwydd os clymwch chi’ch arian am gyfnod hir o amser. Os bydd y cyfraddau llog yn codi, fe allech chi’n sydyn iawn ddarganfod fod y gyfradd yr ydych chi’n ei derbyn yn llawer llai na’r hyn mae cyfrifon eraill yn ei dalu. Ond fyddwch chi ddim yn gallu symud eich arian tan ddiwedd y cyfnod penodol ac fe allai gwerth eich cynilion chi ddisgyn.

Os ydych chi’n drethdalwr, mae’n werth cymharu'r cyfraddau y gallwch eu cael ar gyfrif cynilo rheolaidd cyfnod penodol gyda’r rhai a delir ar un ISA arian. Fydd dim rhaid i chi dalu treth ar y llog enillwch chi o un ISA arian ac fel arfer fe fyddwch chi’n gallu cael gafael ar eich arian yn llawer haws hefyd.

Am fwy o wybodaeth am ISAs, gweler Cyfrifon Cynilo Unigol.

Nôl i’r brig


Cyfrifon incwm misol

Os ydych chi am gael incwm o’ch cynilion, fe allwch chi ddewis cyfrif cynilo sy’n talu llog i chi yn rheolaidd, yn fisol yn aml. Fel arfer telir yn llog ar gyfradd newidiol. Mae hyn yn golygu y gall fynd i fyny neu i lawr, yn dibynnu ar y gyfradd mae’ch darparwr cynilion yn ei gynnig.

Mae rhai cyfrifon hefyd yn cynnig cyfradd llog gwarantedig sydd fel arfer yr unfath â neu ychydig uwchben cyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Mae hyn yn golygu na fydd eich cynilion yn colli’u gwerth.

Yn aml anelir cyfrifon incwm misol at gynilwyr hŷn sy’n fwy tebygol o angen incwm. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi roi cyfandaliad mawr (£500 neu fwy), bod dros 50 oed neu gytuno i gael eich pensiwn wedi’i dalu i mewn i’r cyfrif i gael y cyfraddau gorau.

Mae llawer o gyfrifon yn rhai mynediad hawdd, ac felly fe allwch chi godi’ch arian pryd y mynnoch. Sut bynnag, fe ddylech chi wirio faint o godiadau arian y gallwch chi eu gwneud mewn blwyddyn. Mae rhai cyfrifon yn talu bonws, ac fe allech chi ei golli os ydych chi’n dal i godi arian.

Mae yna fathau eraill o gyfrifon incwm misol a elwir yn fondiau incwm misol. Darperir y rhain gan NS&I. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhain, gweler Bondiau Cynilo.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Gwefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cynnyrch ariannol, gan gynnwys tablau cymharu. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig nifer o gynhyrchion ariannol a warentir gan y llywodareth. Maen nhw ar gael trwy Swyddfa’r Post, ar-lein neu dros y ffôn. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.nsandi.com.

Llais Defnyddwyr Cymru (Consumer Focus)

Cwmni gwarchod y defnyddwyr i’r llywodraeth ydyw Llais Defnyddwyr Cymru(Consumer Focus). Maen nhw’n cadw rhestr o wefannau cymharu cymeradwy y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar eu gwefan yn: www.consumerfocus.org.uk.

Cyngor Ariannol Annibynnol

Am gymorth i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, cyslltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:

Hyrwyddiadau Ariannol Annibynnol (IFAP)

Website: www.unbiased.co.uk

Sefydliad Cynllunio Ariannol (IFP)

Tel: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk

Cymdeithas Cyllid Personol (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org

Gwefan Moneysavingexpert

Mae gan wefan money saving expert lawer iawn o wybodaeth ariannol defnyddiol, yn cynnwys tablau cymharu prisiau ar gyfer cyfrifon cynilo gwahanol. Ewch i: www.moneysavingexpert.com.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback