Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Pam mae angen i mi gynilo?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Pam mae angen i mi gynilo

Mae’r dudalen hon yn sôn wrthych am rai o’r prif resymau pam y byddech chi am gynilo. Mae hefyd yn eich helpu i ystyried os oes angen i chi gynilo trwy edrych ar rai o’r dewisiadau a’ch helpu i bwyso a mesur eich opsiynau.

I’r rhan fwyaf o bobol mae’n syniad da i gael rhywfaint o arian wedi’i roi o’r naill du ar gyfer diwrnod glawog.

Rhoi arian heibio’n rheolaidd ydyw’r ffordd orau o gynilo ar gyfer pethau drudfawr, megis gwyliau, car, neu briodas. Gall fod yn ffordd dda hefyd o wneud yn siŵr fod gennych arian i dalu am bethau mewn argyfwng megis yr angen i ailosod eitem ddrud yn y cartref.

Fe allwch chi ddefnyddio cardiau credyd neu gael benthyciad i dalu am bethau fel hyn, ond bydd hyn yn costio arian i chi ac mewn rhai achosion fe allan nhw arwain at broblemau dyled os nad ydych chi’n rheoli’r ad-daliadau’n iawn.

Fe allwch chi hefyd gynilo arian ar gyfer y tymor hir, megis ymddeoliad. Gall fod yn anodd meddwl am hyn, yn enwedig pan fyddwch yn ifanc ac ymddeoliad ymhell iawn i ffwrdd. Os oes arian dros ben gennych, mae’n demtasiwn i’w wario ar bethau yr ydych am eu prynu a’u gwneud nawr.

Ond mae’n syniad da i ystyried os bydd gennych ddigon i fyw arno pan fyddwch chi’n hŷn a dim yn ennill cyflog mwyach. Ystyriwch y math o fywyd yr ydych amdano a sut yr ydych yn mynd i dalu amdano. Efallai y bydd yn rhaid i chi aberthu rhywfaint o wario nawr, er mwyn gallu cael ymddeoliad cyffyrddus a byw'r math o fywyd y dymunwch yn y dyfodol. Y ffordd fwyaf cyffredin o gynilo ar gyfer ymddeoliad ydyw gyda phensiwn, ond fe allwch chi hefyd fuddsoddi eich arian mewn ffyrdd eraill i gynilo ar gyfer y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phensiynau, gweler Pensiynau.

Pan fyddwch chi wedi penderfynu os ydych chi am gynilo ai peidio â phenderfynu ar gyfer beth, edrychwch ar ein tudalen, Alla i fforddio cynilo a faint. Yna edrychwch ar Beth ydyw’r ffordd orau o gynilo er mwyn cael help gyda’r ffordd orau o gynilo ar gyfer eich amgylchiadau chi.

Dyma rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin pam y byddech chi am gynilo.

Nôl i’r brig


Arian ar gyfer diwrnodau glawog

Efallai y bydd angen arian arnoch i dalu am waith trwsio brys yn y cartref megis ailosod boeler, neu os oes angen i chi ailosod eitem hanfodol yn y cartref megis peiriant golchi neu bopty.

Nôl i’r brig


Arian ar gyfer pethau sy’n rhoi pleser

Efallai y byddwch am roi peth arian o’r naill du i dalu am bethau sy’n rhoi pleser i chi megis gwyliau, darn drud o ddodrefn neu’r Nadolig.

Nôl i’r brig


Nodded ariannol

Efallai y byddwch am i gronfa ariannol fod ar gael rhag ofn i chi wynebu anawsterau ariannol oherwydd colli swydd, mynd yn ddifrifol wael neu’n anabl ar ôl damwain.

Nôl i’r brig


Gwario yn y dyfodol

Efallai y byddwch am gynilo ar gyfer rhywbeth penodol yn y dyfodol megis priodas, car newydd neu’ch ymddeoliad.

Am fwy o wybodaeth am gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Ffyrdd amgen o gynilo

Mae yna ffyrdd eraill o dalu am rai o’r pethau yr ydych am gynilo ar eu cyfer. Efallai y byddwch am ystyried os fyddai un o’r rhain yn opsiwn gwell i chi na chynilo. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae yna resymau dros ac yn erbyn y ffyrdd amgen hyn a bydd yn rhaid i chi bwyso a mesur wrth benderfynu beth sydd orau i chi.

Nôl i’r brig


Yswiriant

Mae sawl math gwahanol o yswiriant y gallwch chi eu prynu i’ch gwarchod chi rhag ofn y bydd yna anhawster ariannol annisgwyl.

Mantais cael yswiriant yw y gall yn gyffredinol dalu allan cyn gynted ag y byddwch wedi prynu’r polisi, er bod yna rai eithriadau, Gall gymryd peth amser i adeiladu cynilion ac efallai fydd dim digon gennych i warchod yr hyn fydd ei angen os digwydd rhywbeth annisgwyl.

Mae’r mathau o yswiriant yn cynnwys:

  • Yswiriant cynnwys y cartref sy’n eich gwarchod rhag difrod i’ch eiddo neu golli’ch eiddo.
  • Yswiriant adeiladau sy’n eich gwarchod rhag difrod i’ch cartref
  • Yswiriant cynnal a chadw sy’n eich gwarchod rhag atgyweiriadau gwaith plymwr a gwresogi.
  • Yswiriant gwarchod taliadau sy’n eich helpu i gadw i fyny gydag ad-daliadau benthyciadau os collwch chi’ch swydd, mynd yn sâl neu gael damwain.
  • Gwarantau y gallwch chi eu prynu i dalu am doriadau i offer trydanol
  • Yswiriant afiechyd difrifol sy’n talu allan os bydd diagnosis eich bod yn dioddef rhai cyflyrau arbennig megis trawiad ar y galon, strôc, mathau arbennig o gancr, parlys ymledol neu golli aelod o’r corff.
  • Diogelu taliad morgais sy’n talu’ch morgais am gyfnod arbennig o amser os stopiwch chi ennill arian oherwydd diswyddo, damwain neu afiechyd.
  • Yswiriant gwarchod incwm sy’n adfer rhan o’ch incwm os ydych chi’n analluog i weithio am gyfnod hir o amser oherwydd salwch neu anabledd.

Anfanteision yswiriant

Yn aml mae gan bolisïau yswiriant nifer o amodau ynghlwm wrthynt sy’n golygu na fyddan nhw o bosib yn talu allan pan fyddwch chi angen hynny. Er enghraifft fydd polisi yswiriant afiechyd difrifol ddim yn gwarchod pob math a phob cam o’r clefyd cancr.

Mae gan rai mathau o yswiriant amser aros cyn y gallwch chi hawlio, neu efallai dalu allan am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig. Bydd diogelwch taliad morgais yn dechrau talu eich ad-daliadau un mis ar ôl i’ch incwm ddod i ben yn unig a thalu i fyny hyd at 12 mis yn unig.

Mae rhai mathau o yswiriant yn cynnig gwerth gwael am arian, megis gwarantau i warchod cyfarpar cartref sy’n torri i lawr.

Efallai y dewch chi o hyd i rai mathau o yswiriant sy’n rhy ddrud.

Er mwyn dod i wybod mwy am y rhesymau o blaid ac yn erbyn yswiriant, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Budd-daliadau gwladol

Os mai’ch prif reswm dros gynilo ydyw eich gwarchod yn erbyn colli’ch swydd neu fynd yn rhy sâl neu’n anabl i weithio, efallai y byddwch chi am ystyried a allwch chi gael unrhyw fudd-daliadau gwladol o dan yr amgylchiadau hynny.

Enghreifftiau o fudd-daliadau y gallech eu cael yw Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Byw i’r Anabl.

Pan gewch chi rai budd-daliadau arbennig, fe allwch chi hefyd gael eich rhent wedi’i dalu gan Fudd-dal Tai neu help tuag at dalu’r llog ar eich morgais. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael grant trwy’r Gronfa Gymdeithasol ar gyfer treuliau un-tro megis costau angladd, cael babi neu ddodrefnu cartref newydd.

Os ydych chi’n gallu cael budd-daliadau, gallai hyn effeithio ar y swm y penderfynwch ei gynilo. Os ydych chi ar incwm isel, efallai yr hoffech chi ystyried os byddai’r swm y gallwch chi gynilo yn darparu mwy o arian na’r hyn y gallech chi ei gael trwy fudd-daliadau.

Sut bynnag, fe ddylech chi fod yn ofalus ynglŷn â dibynnu ar fudd-daliadau i warchod yn erbyn caledi ariannol. Y rheswm am hyn yw:

  • allwch chi ddim bod yn sicr y bydd hawl gennych i gael budd-daliadau ar yr adeg y byddwch chi eu hangen.
  • mae budd-daliadau yn weddol isel, ac efallai ddim yn talu digon i chi i warchod y costau sy’n eich wynebu
  • mae’r swm o arian sydd ar gael i grantiau Cronfa Gymdeithasol yn gyfyngedig ac efallai wedi rhedeg allan erbyn yr amser y byddwch chi ei angen
  • mewn rhai achosion, bydd yn rhaid i chi aros cyn cael help. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobol dan 60 aros am 13 wythnos cyn y gallan nhw gael help tuag at eu costau morgais.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau, gweler ein hadran ar Fudd-daliadau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â help tuag at eich taliadau morgais pan fyddwch chi’n derbyn budd-daliadau, gweler Help gyda’ch costau morgais os ydych chi allan o waith.

Nôl i’r brig


Benthyca arian

Os mai’ch prif reswm chi dros gynilo ydyw talu am bethau sy’n rhoi pleser neu rywbeth penodol megis car neu ddarn drud o ddodrefn, efallai y byddwch am fenthyca arian yn lle ei gynilo. Sut bynnag, gall benthyca arian fod yn ffordd ddrud o dalu am rywbeth, oherwydd bydd yn rhaid i chi dalu llog ar eich benthyciad.

Os na allwch chi fforddio i gynilo, efallai mai dyma’r unig ffordd i chi brynu’r hyn sydd ei angen arnoch. Sut bynnag, mae angen i chi ystyried yn ofalus iawn ynglŷn â benthyca fel ffordd amgen o gynilo ar gyfer rhywbeth, gan ei fod bob amser yn rhatach i gynilo arian na’i fenthyca.

Mae’r rhesymau eraill pam y byddech chi efallai am fenthyca yn hytrach na chynilo ar gyfer rhywbeth yn cynnwys:

  • allwch chi ddim aros i gynilo ar gyfer rhywbeth oherwydd y mae ei angen arnoch chi nawr ac fe gymerai ormod o amser i chi gynilo'r hyn sydd ei angen arnoch. Sut bynnag, fe ddylech chi geisio ystyried os oes angen yr eitem arnoch mewn gwirionedd neu a allech chi aros amdano.
  • mae pris yr hyn sydd ei angen arnoch yn debygol o godi. Gallai’r arbedion yr ydych yn eu gwneud wrth ei brynu nawr gorbwyso cost y benthyciad. Gallai hyn fod yn berthnasol i rywbeth mewn sêl. Ar y llaw arall, os ydyw’r pris yn debygol o ostwng, efallai y bydd hi’n well arnoch i gynilo ar ei gyfer. Fel arfer mae hyn yn berthnasol i gyfrifiaduron a nwyddau trydanol eraill megis teledu.
  • yr ydych yn sylweddoli y byddwch yn talu mwy na’r disgwyl trwy fenthyca i dalu am rywbeth nawr ond yr ydych yn credu hefyd ei fod yn werth y gost ac yr ydych yn gwybod y byddwch yn gallu ad-dalu’r arian o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhesymau dros ac yn erbyn talu am rywbeth trwy fenthyca yn hytrach na chynilo, gweler gwefan Moneysavingexpert yn:http://www.moneysavingexpert.com.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â benthyca, gweler Benthyca arian.

Nôl i’r brig


Gwerthu’ch eiddo

Fe allech chi ystyried gwerthu rhywbeth sy’n berchen i chi i dalu am rywbeth yn hytrach na chynilo ar ei gyfer. Efallai yr hoffech wneud hyn i dalu am rywbeth sydd ei angen arnoch nawr, neu am rywbeth fydd ei angen arnoch yn y dyfodol. Un enghraifft o hyn yw cynllun rhyddhau ecwiti sydd yn ffordd o ddefnyddio gwerth eich cartref i godi arian. Fe allwch gael gwybod mwy am ryddhau ecwiti ar wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback