The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Beth ydyw’r ffordd orau o gynilo
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Cwestiynau y dylech chi eu hystyried
Os ydych chi’n ystyried cynilo, fe all fod yn anodd penderfynu ar y lle gorau i roi’ch arian. Fe fydd angen i chi ofyn rhai cwestiynau sylfaenol megis:
- ar gyfer beth mae’r arian
- ar gyfer pryd yr ydych yn cynilo - y tymor byr neu’r tymor hir?
- ydych chi’n fodlon mentro gyda’ch arian i ennill mwy o log, neu a fyddai’n well gennych i wybod fod eich arian yn ddiogel ond yn ennill llai o log?
- pa mor gyflym fydd angen i chi gael gafael ar eich arian yn wyneb argyfwng?
- sut fydd eich sefyllfa dreth yn effeithio’ch cynilion?
Os ydych chi’n fodlon mentro gyda’ch arian er mwyn ennill mwy o log, efallai yr hoffech ystyried buddsoddi yn y farchnad stoc yn hytrach na chynilo mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arfer mae’n well buddsoddi yn y farchnad stoc dim ond os ydych chi’n cynilo ar gyfer y tymor hir, [link to heading Ar gyfer pryd yr ydych yn cynilo] yn hytrach na’r tymor byr.
Mae’r dudalen hon yn eich helpu i ystyried rhai o’r cwestiynau y bydd angen i chi ofyn ynglŷn â chynilo a buddsoddi eich arian ac i weithio allan beth allai’r opsiwn orau fod i chi.
Cyn i chi edrych ar y dudalen hon, fe ddylech chi edrych ar y cwestiwn Pam y mae angen i mi gynilo sy’n eich helpu i weithio allan eich rhesymau dros gynilo. Mae hefyd yn eich helpu i ystyried os oes angen i chi gynilo. Mae o hyd yn well i gynilo arian, ond efallai weithiau na fydd yn bosibl ac fe fydd angen i chi feddwl am ffyrdd eraill.
Fe ddylech chi hefyd edrych ar Alla i fforddio i gynilo a faint? Mae angen i chi fod mewn sefyllfa ariannol dda i gynilo, sy’n golygu gofalu am rannau eraill o’ch cyllid yn ogystal. Mae angen i chi gael dealltwriaeth dda o’ch sefyllfa ariannol i weithio allan faint o arian dros ben sydd gennych i’w gynilo.
Ar gyfer pryd yr ydych yn cynilo
Unwaith y byddwch wedi gweithio allan ar gyfer beth mae’r arian yr ydych yn ei gynilo fe fyddwch yn gallu gweithio allan os fyddwch chi angen yr arian yn y tymor byr neu yn y tymor hir.
Fel arfer mae cynilo ar gyfer y tymor byr yn golygu y bydd angen yr arian arnoch o fewn y pum mlynedd nesaf. Mae cynilo ar gyfer y tymor hir fel arfer yn golygu y bydd ei angen arnoch ymhen pum mlynedd neu fwy.
Fe ddylech chi hefyd ystyried os ydych chi am gynilion neu fuddsoddiad sy’n talu allan incwm i chi nawr, neu os ydych am i’ch arian dyfu dros gyfnod hir o amser i ddarparu cyfandaliad i chi yn y dyfodol.
Cynilion tymor byr
Efallai y byddwch am gynilo yn y tymor byr ar gyfer pethau fel gwyliau, y Nadolig, car newydd neu flaendal ar gartref newydd.
Os ydych yn cynilo ar gyfer y tymor byr, fe fyddwch am roi’ch arian yn rhywle lle gallwch gael gafael arno’n rhwydd a hefyd bod yn siŵr ei fod yno pan fydd ei angen arnoch.
Y mathau o gyfrifon y gallwch edrych arnynt os ydych am gynilo ar gyfer rhywbeth sydd ei angen arnoch yn fuan ydyw cyfrifon banciau a chymdeithasau adeiladu. Gelwir y rhain hefyd yn gyfrifon cadw. Fe allwch hefyd edrych ar gyfrifon Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I), sydd ar gael trwy Swyddfa’r Post, ar-lein a dros y ffôn. Mae’r rhain yn eiddo i’r llywodraeth ac yn gwbl ddiogel.
Ffordd arall o gynilo ar gyfer y tymor byr ydyw trwy Gyfrif Cynilo Unigol neu ISA.
Cynilion tymor hir
Mae cynilion tymor hir ar gyfer pethau fel ffioedd coleg eich plant neu’ch ymddeoliad chi. Mae’r rhain yn bethau sy ddim yn debygol o ddigwydd am o leiaf pum mlynedd neu fwy.
Bydd y ffordd y dewiswch chi gynilo ar gyfer pethau fel y rhain yn dibynnu ar ba mor ddiogel yr ydych am i’ch arian fod a faint o fenter yr ydych yn fodlon ei gymryd gyda’ch arian.
Fe allwch chi ddewis naill ai rhoi’ch arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu ei fuddsoddi yn y farchnad stoc. Mae cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn ffordd ddiogelach o gynilo oherwydd yr ydych yn sicr o gael yn ôl o leiaf yr arian roddoch chi i mewn. Sut bynnag, fe allwch chi ennill llai o log.
Mae buddsoddi yn y farchnad stoc yn ffordd fwy mentrus o gynilo oherwydd mae’n bosibl colli arian yn hytrach na’i ennill. Sut bynnag, po hiraf y byddwch yn buddsoddi, y mwyaf tebygol yr ydych o wneud mwy o arian na phetaech wedi’i gynilo gyda banc neu gymdeithas adeiladu. Gelwir hyn yn rhoi adenillion uwch i chi.
Os oes gennych arian i’w fuddsoddi ar gyfer y tymor hir, fe allwch chi hefyd ddefnyddio eich lwfans ISA stociau a chyfranddaliadau.
Cyfrifon banciau a chymdeithasau adeiladu
Gyda chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, yr ydych yn talu eich arian i mewn ac yn gyfnewid am ei gadw yno fe gewch chi dâl bychan. Adwaenir hwn fel llog. Gall llog naill ai fod yn benodol neu’n newidiol. Os ydyw’r llog yn benodol, bydd yn aros yr un fath dros gyfnod arbennig o amser. Os ydyw’r llog yn newidiol, gall y llog gewch chi fynd i fyny neu i lawr.
Mae cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn ffordd ddiogelach o gynilo oherwydd yr ydych yn sicr o leiaf o allu cael yn ôl yr arian roddoch chi i mewn. Os ydyw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, yr ydych yn sicr o gael yr arian roddoch chi i mewn i gyd yn ôl, i fyny at uchafswm o £85,000.
Mae cyfrifon banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn well os ydych chi’n cynilo yn y tymor byr, [link to heading Ar gyfer pryd yr ydych yn cynilo] yn hytrach na’r tymor hir.
Mae hyn oherwydd y byddwch efallai am gael gafael ar eich arian yn gyflym ac mae’n haws gwneud hyn trwy gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu na phetaech chi’n buddsoddi’r arian [link to heading buddsoddiadau] yn y farchnad stoc.
Sut bynnag, os ydych chi’n rhoi’ch arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu am gyfnod hir o amser, gall y llog fyddwch chi’n ei ennill ar eich cynilion fod yn llai na’r cynnydd yng nghostau byw. Adwaenir hyn fel chwyddiant. Pan gymerir chwyddiant i ystyriaeth, fe allech chi ddiweddu gyda llai o arian nag oedd gennych ar y dechrau.
Os ydych chi am gynilo arian yn y tymor hir, [link to heading Ar gyfer pryd yr ydych yn cynilo] efallai y byddai’n well i chi ei fuddsoddi yn y farchnad stoc, yn hytrach na’i roi mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Sut bynnag, mae buddsoddi yn y farchnad stoc [link to heading Buddsoddiadau] yn ffordd fwy mentrus o gynilo oherwydd mae’n bosibl colli arian yn hytrach na’i ennill.
Os ydych chi wir yn anhapus ynglŷn â’r syniad y gallech chi golli arian, efallai y byddwch chi am gadw at gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu.
Fe allwch chi gael gwell cyfradd llog mewn rhai cyfrifon rhybudd lle mae’n rhaid i chi ddweud wrth y banc ymlaen llaw os ydych chi am godi arian o’ch cyfrif. Os fyddwch chi’n agor un o’r cyfrifon hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r gyfradd yr ydych yn ei derbyn yn rheolaidd. Efallai y bydd angen i chi symud eich cyfrif i wneud yn siŵr eich bod yn cael y ddêl orau.
Fe allech chi wirio hefyd rhai o’r cynhyrchion sy’n cael eu cynnig gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, sy’n cael eu gwarantu gan y llywodraeth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon rhybudd, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Mae yn gannoedd o gyfrifon cynilo i ddewis ohonynt a gall y cyfraddau llog gorau a gynigir newid yn aml. Mae yna hefyd wahanol fathau o gyfrifon, yn cynnwys cyfrifon mynediad ‘sydyn’ neu ‘cynilo rhwydd’, cyfrifon rhybudd a thymhorol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r gwahanol fathau o gyfrifon cynilo mewn banciau a chymdeithasau adeiladu, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.
Ar gyfer rhestr o wefannau cymharu prisiau sy wedi’u cymeradwyo gan gwmni gwarchod y llywodraeth, Llais Defnyddwyr Cymru (Consumer Focus), ewch i: www.consumerfocus.org.uk.
Undebau Credyd
Mae undebau credyd yn ffordd dda o gynilo os mai swm bychan o arian yn unig y gallwch fforddio’i gynilo.
Cwmni cydweithredol hunangymorth ydyw undeb credyd lle mae’r aelodau yn crynhoi eu cynilion gyda’i gilydd er mwyn darparu credyd i’w gilydd ar gyfradd llog isel.
Maen nhw’n cynnig benthyciadau ar gyfraddau cystadleuol iawn ond fel arfer mae’n rhaid i chi fod yn gynilwr rheolaidd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag undebau credyd, gweler Benthyciadau Undeb Credyd.
Buddsoddiadau
Os ydych chi’n hapus i fentro rhywfaint gyda’ch arian ac am gynilo am o leiaf pum mlynedd, un opsiwn y gallech ei ystyried ydyw buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau.
Prynir a gwerthir stociau a chyfranddaliadau ar y farchnad stoc. Gelwir hyn hefyd yn masnachu. Y rhestr marchnad stoc fwyaf adnabyddus yn y DU ydyw’r FTSE100 sy’n rhestru'r can cwmni sy’n perfformio orau yn y DU.
Pan fyddwch chi’n prynu cyfranddaliadau, mae’r cwmni yn cymryd eich arian ac yn ei fuddsoddi. Os yw’r cwmni’n gwneud yn dda, yr ydych ill dau yn gwneud rhywfaint o arian. Os ydyw’r cwmni’n gwneud yn wael, mae perygl y byddwch yn colli arian. Gall gwerth eich cyfranddaliadau gael ei effeithio hefyd gan ddigwyddiadau economaidd a gwleidyddol y byd.
Mae buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau yn ffordd fwy mentrus o gynilo oherwydd mae’n bosibl colli arian yn hytrach na’i ennill. Ond gall cyfranddaliadau godi yn eu gwerth yn gyflym hefyd. Felly po hira y byddwch chi’n buddsoddi y mwyaf tebygol yr ydych o ennill mwy o arian na phetaech chi wedi cynilo mewn banc neu gymdeithas adeiladu. Gelwir hyn yn rhoi adenillion uwch i chi.
Mae buddsoddi yn y farchnad stoc yn golygu hefyd na fyddwch yn gallu mynd at eich arian mor rhwydd a phetaech chi wedi ei gynilo mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Bydd angen i chi ystyried os allwch chi fynd at eich arian mewn ffyrdd eraill os ydych am wneud hynny mewn argyfwng.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau, gweler Buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau.
Faint sydd gennych i’w gynilo neu fuddsoddi?
Gall y swm o arian sydd gennych i’w gynilo neu fuddsoddi effeithio'r swm o log yr enillwch chi.
Efallai y byddwch chi am fuddsoddi cyfandaliad sydd gennych ar ôl gwerthu’ch tŷ neu gael bonws yn y gwaith. Ar y llaw arall, efallai y byddwch am roi symiau llai o arian heibio yn rheolaidd.
Bydd angen i chi ddewis yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gyfradd orau ar gyfer y swm o arian sydd gennych.
Cyfandaliadau
Os oes gennych gyfandaliad mawr i’w gynilo, fe allwch chi edrych am gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n cynnig cyfraddau llog uchel. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ennill llog wrth benderfynu beth yr ydych yn mynd i wneud â’r arian.
Mae yna gyfrifon cymdeithasau adeiladu wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer buddsoddi cyfandaliadau ond mae hefyd yn werth gwirio os gewch chi gyfradd llog gwell mewn cyfrif cynilo rheolaidd.
Os allwch chi gael cyfradd well mewn cyfrif cynilo rheolaidd, fe allech chi symud eich arian yn raddol o gyfrif cynilo cyfandaliad i gyfrif cynilion rheolaidd sydd â chyfradd llog uwch. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn colli allan ar unrhyw log.
Bydd rhai cyfrifon cynilo hefyd yn gadael i chi ddechrau gyda chyfandaliad ac yna ychwanegu symiau rheolaidd. Yn aml, mae’r cyfraddau uchaf yn parhau am amser cyfyngedig yn unig, ac felly efallai y bydd angen i chi gadw i symud eich arian er mwyn cael y fargen orau. Ond gwyliwch am unrhyw gyfyngiadau ar y cyfrif sy’n golygu y byddwch yn colli llog os ydych chi’n tynnu’r arian allan yn gynnar.
Os ydych chi’n talu treth, peidiwch ag anghofio defnyddio eich lwfans ISA arian parod hefyd.
Cofiwch, mae’n syniad da i beidio â rhoi mwy na £50,000 mewn unrhyw un cyfrif cynilo. Y rheswm am hyn yw petai’r banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, cyhyd â bod llai na £50,000 gennych chi yn y cyfrif, fe fyddech bob amser yn cael yr arian i gyd yn ôl.
Os ydych chi’n fodlon cymryd mwy o fenter gyda’ch arian yn y gobaith o ennill mwy, fe allech chi hefyd ystyried buddsoddi eich cyfandaliad mewn buddsoddiad marchnad stoc.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddsoddiadau’r farchnad stoc, gweler Buddsoddi yn y Farchnad stoc.
Os oes gennych swm mawr o arian i’w gynilo neu fuddsoddi efallai y byddech chi hefyd am ystyried ei roi mewn mwy nag un man. Bydd y ffordd yr ydych yn cynilo neu fuddsoddi’r arian yn dibynnu ar y cwestiwn os ydych chi am yr arian yn y tymor byr neu’r tymor hir a hefyd ar faint o fenter yr ydych yn fodlon ei gymryd gyda’ch arian.
Gallai’ch opsiynau gynnwys rhoi rhywfaint mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu llog uchel ar y gyfradd orau posibl ond lle gallwch fynd at yr arian yn rhwydd os oes ei angen arnoch. Fe allech chi wedyn rhoi rhywfaint mewn buddsoddiad marchnad stoc tymor hirach [link to heading Buddsoddiadau]a defnyddio’r gweddill i ad-dalu’ch morgais os oes gennych un.
Os oes gennych swm mawr i’w fuddsoddi, mae’n syniad da i gael rhywfaint o gyngor ariannol [link to heading Cymorth ychwanegol] ynglŷn â’ch opsiynau.
Cyfrifon Cynilo Rheolaidd
Os oes gennych arian i’w gynilo’n rheolaidd, fe ddylech chi ystyried agor cyfrif cynilo rheolaidd. Mae’r cyfrifon hyn yn rhoi cyfradd llog uwch i chi na phetaech chi’n rhoi arian i mewn yn achlysurol pan fydd rhywfaint ychwanegol gennych dros ben. Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu i mewn rhwng £10 a £500 y mis. Fe allech chi hefyd gael bonws bychan ychwanegol am gynilo bob mis. Sut bynnag, os methwch chi daliad neu godi arian yn gynnar, fe allwch chi golli rhywfaint o’r llog enilloch chi.
Mae cyfrifon cynilo rheolaidd ar gael trwy’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu, ac mae rhai drwy’r post neu dros y rhyngrwyd. Gall cyfrifon gael y geiriau ‘cynilwr rheolaidd’ yn eu henw ond nid pob un, felly gwiriwch y print mân i ddarganfod os cewch chi log ychwanegol os byddwch chi’n cynilo’n rheolaidd.
Mae’r cyfraddau llog gorau yn newid yn aml, felly defnyddiwch wefan cymharu i ddarganfod pa gyfrifon sy’n talu’r cyfraddau gorau. Unwaith y byddwch chi wedi agor cyfrif, gwiriwch nad yw’ch cyfradd yn mynd i lawr. Os ydych chi am newid cyfrifon, gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli llog os ceisiwch chi godi arian yn gynnar. I wybod mwy am gymharu cyfrifon cynilo rheolaidd, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn www.moneyadviceservice.org.uk.
Os ydych chi’n fodlon cymryd mwy o fenter gyda’ch arian, fe allwch chi hefyd gynilo symiau rheolaidd ym muddsoddiadau’r farchnad stoc.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddsoddiadau’r farchnad stoc, gweler Buddsoddi yn y farchnad stoc.
Pa gynilion sydd orau i’ch sefyllfa dreth chi?
Os ydych chi’n talu treth y DU, mae’n rhaid i chi hefyd dalu treth incwm ar y llog mae’ch cynilion yn ei ennill. Mae trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn talu 20 y cant a threthdalwyr cyfradd uwch yn talu 40 y cant. Felly mae’n werth edrych ar gyfrifon cynilo di-dreth i leihau’ch bil treth.
Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Un o’r ffyrdd gorau i wneud eich cynilion yn ddi-dreth yw eu rhoi mewn cyfrif Cynilo Unigol neu ISA. Cyfrifon cynilo sy’n talu llog ydyw ISAs. Sut bynnag, yn wahanol i gyfrifon cynilo eraill, dydych chi ddim yn talu unrhyw dreth ar y llog enillwch chi. Fe allwch chi agor ISA, cymdeithas adeiladu neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
Mae dau fath o ISA:
- ISA arian parod a
- ISA stociau a chyfranddaliadau.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2011/12, fe allwch roi hyd at £10,680 mewn ISAs. Gall i fyny at £5,340 o hwn fod mewn ISA arian parod. Os na fyddwch chi’n talu i mewn i ISA arian parod, fe allwch chi roi’r cyfyngiad cyfan i mewn i ISA stociau a chyfranddaliadau.
Os ydych chi’n byw gyda phartner neu’n briod, mae gan y ddau ohonoch lwfansau treth. Dyma’r swm o arian y caniateir i chi ei ennill gan y llywodraeth cyn y bydd rhaid i chi ddechrau talu treth. Os oes un ohonoch yn talu treth a’r llall ddim, neu os mai un ohonoch sy’n talu treth ar y gyfradd uwch, mae’n werth defnyddio eich hawliau ISA a sicrhau fod cynilion eraill yn enw’r deiliad cyfrif sy’n talu’r swm lleiaf o dreth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ISAs, gweler Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs).
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â lwfansau treth, gweler Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs).
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
Opsiwn di-dreth arall ar gyfer buddsoddi ydyw gyda Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I). Maen nhw’n cynnig cyfres o dystysgrifau indecs cyswllt a chyfradd sefydlog. Fe allwch gynilo rhwng £100 a £15,000 ymhob dyroddiad ac y mae yna nifer o ddyroddiadau bob blwyddyn. Am fwy o wybodaeth am y tystysgrifau hyn, ewch i wefan NS&I yn: www.nsandi.com <http://www.nsandi.com>.
Pa gynilion sydd orau i’ch crefydd neu egwyddorion?
Efallai y byddwch chi am gynilo mewn ffordd sy’n addas i’ch crefydd neu egwyddorion moesol.
Er enghraifft, efallai y byddwch am gynilo yn unol ag egwyddorion Islam. Mae sawl banc y stryd fawr yn cynnig cyfrifon sy’n ffitio i mewn gydag egwyddorion cyfraith shariah. Mae Banc Islam Prydain yn cynnig cyfrifon cynilo, morgeisi amgen a chynhyrchion ariannol personol eraill ac yn cael eu rheoli gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) Am fwy o wybodaeth ewch i www.islamic-bank.com.
Efallai y byddwch am ddod i wybod mwy am gyfrifon a buddsoddiadau sy’n ffitio i mewn â’ch egwyddorion moesol. Er enghraifft, efallai y byddwch am osgoi cynilo gyda banciau sy’n buddsoddi mewn diwydiannau megis pŵer niwclear, tybaco neu arfau.
Fe allwch ddarganfod mwy am gynilion a buddsoddiadau sy’n addas i’ch egwyddorion moesol ar y wefan: www.yourethicalmoney.org neu wefan banc moesegol Triodos yn www.triodos.com
Cymorth ychwanegol
Yn Adviceguide
- Pam mae angen i mi gynilo
- Alla i fforddio cynilo, a faint
- Cyfrifon cynilo Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
- Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
- Buddsoddi yn y farchnad stoc
The Money Advice Service
The Money Advice Service is a free, independent service. Their website has lots of useful information about financial products, including comparison tables. Go to: www.moneyadviceservice.org.uk
Llais Defnyddwyr Cymru (Consumer Focus)
Cwmni gwarchod y defnyddwyr i’r llywodraeth ydyw Llais Defnyddwyr Cymru(Consumer Focus). Maen nhw’n cadw rhestr o wefannau cymharu cymeradwy y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar eu gwefan yn: www.consumerfocus.org.uk.
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig nifer o gynhyrchion ariannol a warentir gan y llywodraeth. Maen nhw ar gael trwy Swyddfa’r Post, ar-lein neu dros y ffôn. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.nsandi.com.
Cyngor Ariannol Annibynnol
Am gymorth i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, cyslltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:
Hyrwyddiadau Ariannol Annibynnol (IFAP) Website: www.unbiased.co.uk.
Sefydliad Cynllunio Ariannol (IFP)
Tel: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Cymdeithas Cyllid Personol (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org
Gwefan Moneysavingexpert
Mae gan wefan money saving expert lawer iawn o wybodaeth ariannol defnyddiol, yn cynnwys tablau cymharu prisiau ar gyfer cyfrifon cynilo gwahanol. Ewch i: www.moneysavingexpert.com.









