Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Alla i fforddio cynilo a faint?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Alla i fforddio cynilo a faint?

Cyn i chi ddechrau cynilo, mae’n bwysig edrych yn ofalus ar eich cyllid.

Mae angen i chi gael dealltwriaeth dda o’ch sefyllfa ariannol i weithio allan faint o arian dros ben sydd gennych i’w gynilo neu ei fuddsoddi.

Mae yna bedwar prif beth y dylech chi eu hystyried er mwyn deall eich cyllid:

  • Eich dyledion. Mae angen i chi sicrhau eich bod wedi clirio’ch dyledion cyn dechrau cynilo oherwydd gall y llog yr enillwch chi ar eich cynilion gael ei ddileu gan y llog sydd arnoch ar eich dyledion.
  • Eich cyllideb. Mae’n hanfodol i chi gael darlun cywir o faint yn union yr ydych yn ei wario mewn blwyddyn, er mwyn gweld os allwch ryddhau unrhyw arian ychwanegol i’w roi mewn cynilion.
  • Eich cynlluniau ar gyfer ymddeol. Gall cynilo trwy bensiwn fod yn ffordd effeithiol iawn o gynilo ar gyfer y dyfodol. Efallai yr hoffech chi ystyried rhoi peth o’ch arian yn syth i mewn i gynllun pensiwn yn hytrach nag mewn cynilion neu fuddsoddiadau.
  • Ydych chi wedi’ch gwarchod yn ariannol rhag marwolaeth a salwch difrifol. Mae angen i chi edrych sut fyddech chi neu’ch teulu yn ymdopi os byddech chi neu’ch partner yn marw neu dod yn ddifrifol wael. Os nad oes gennych lawer o arian dros ben, efallai mai prynu yswiriant fyddai’r ffordd orau i gynllunio ar gyfer hyn yn hytrach na chynilo.

Nôl i’r brig


Clirio’ch dyledion yn gyntaf

Os ydych chi mewn dyled, fe ddylech chi ddefnyddio unrhyw arian dros ben i glirio’ch dyledion cyn i chi feddwl am gynilo.

Os oes gennych ôl-ddyledion morgeisi, rhent neu dreth gyngor, fe ddylech chi dalu’r rhain yn gyntaf. Gelwir y math hwn o ddyled yn ddyledion blaenoriaethol. Mae dyledion blaenoriaethol hefyd yn cynnwys ôl-ddyledion treth incwm, TAW, nwy a thrydan, eich trwydded teledu a dirwyon llys am bethau fel troseddau trafnidiaeth. Os na fyddwch chi’n talu dyledion fel y rhain, fe allech chi golli’ch cartref neu hyd yn oed fynd i garchar.

Am fwy o wybodaeth am ddyledion blaenoriaethol a sut i ddelio â nhw, gweler Delio â dyledion brys.

Ond hyd yn oed os nad oes gennych ddyledion blaenoriaethol, efallai yr hoffech chi ystyried o ddifri i glirio dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth megis dyledion cardiau credyd a benthyciadau personol nad ydynt wedi’u gwarantu gyda’ch arian dros ben, cyn i chi ddechrau cynilo dim byd.

Y rheswm am hyn yw bod y llog yr ydych yn ei dalu ar y rhan fwyaf o fenthyciadau nad ydynt wedi’u gwarantu a chardiau credyd yn llawer uwch na’r llog y gallech ei ennill ar gyfrif cynilo.

Benthyciad nad ydyw wedi’i warantu ydyw benthyciad nad ydyw wedi’i warantu yn erbyn eich cartref. I wybod mwy am fenthyciadau personol gwarantedig a rhai heb eu gwarantu, gweler Benthyciadau Personol.

Fe allwch ddod i wybod mwy ynglŷn â phryd y bydd hi’n rhatach i chi glirio dyledion cardiau credyd a benthyciadau personol nag i gynilo ar wefan MoneySavingExpert yn: www.moneysavingexpert.com.

Nôl i’r brig


Edrych ar eich cyllideb

Y ffordd orau i weld os oes gennych unrhyw arian dros ben ar gyfer cynilo ydyw gweithio allan faint yr ydych yn ei wario bob mis a’i gymharu â’r arian sydd yn dod i mewn gennych. Gelwir hyn yn gyllideb.

Fe ddylech chi hefyd edrych yn ofalus ar eich gwario er mwyn gweld os oes unrhyw beth y gallwch chi dorri i lawr arno. Fe allai hyn olygu fod arian ar gael i’w osod o’r naill du.

Dyma rhai awgrymiadau ynglŷn â gweithio allan eich cyllideb ac edrych ar eich gwario. Fe allwch gael mwy o wybodaeth am hyn ar ein tudalen Cyllidebu.

Cadw cofnod o’r hyn yr ydych yn ei wario

Y ffordd orau o ddarganfod faint yr ydych yn ei wario ydyw prynu llyfr nodiadau ac ysgrifennu ynddo bopeth yr ydych yn ei wario am fis. Cofiwch, fyddwch chi ddim yn gwario'r un swm bob wythnos neu fis.

Mae bob amser yn beth da i oramcangyfrif y swm yr ydych yn ei wario a chynnwys popeth, pa mor fychan bynnag ydyw. Peidiwch ag anghofio cyllidebu ar gyfer treuliau blynyddol megis gwyliau, penblwyddi a Nadolig yn ogystal. Edrychwch trwy hen filiau gwasanaeth, megis nwy, trydan a ffôn, i weithio allan faint yr ydych yn ei wario dros flwyddyn.

Lleihau costau biliau’r cartref

Mae nawr yn amser da i wirio eich bod yn cael y fargen orau gyda’ch morgais, ffôn, band llydan, yswiriant a chostau tanwydd. Gall dod o hyd i fargen well arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn. Defnyddiwch wefan cymharu prisiau i gymharu cyfraddau.

Fe allwch ddod o hyd i restr o wefannau cymharu prisiau sy wedi’u cymeradwyo gan gwmni gwarchod y llywodraeth, Llais Defnyddwyr Cymru(Consumer Focus) yn: www.consumerfocus.org.uk.

Adolygu eich cyfrifon cyfredol a chynilo presennol

Fe ddylech chi hefyd adolygu eich cyfrif cyfredol ac ystyried newid i un sy’n talu llog os ydych chi’n gwybod eich bod chi bob amser yn mynd i fod yn y du. Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu lleiafswm o tua £1000 y mis i fod yn gymwys i gael llog.

Edrychwch ar unrhyw gyfrifon cynilo cyfredol a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y gyfradd orau posibl. Efallai y bydd yn werth newid i gyfrif sy’n talu llog uwch.

Fe allwch chi siopa o gwmpas i gael y fargen orau ar gyfrifon cynilo a chyfredol ar y gwefannau canlynol:

www.moneyadviceservice.org.uk

www.moneysavingexpert.com

Trefnu debydau uniongyrchol

Fe allwch chi drefnu debydau uniongyrchol misol i’ch helpu i gyllidebu ar gyfer eich taliadau. Mae rhai cyflenwyr megis nwy a thrydan yn cynnig gostyngiad i’w cwsmeriaid os ydynt yn talu trwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog.

Sut bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw trac o faint sy’n cael ei dynnu o’ch cyfrif. Os ydych chi’n gweld fod gormod o arian yn eich cyfrif neu’n gweld fod gormod wedi’i dynnu allan, cysylltwch â’ch cyflenwr i wybod pam mae hyn wedi digwydd.

Fe allwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â debydau uniongyrchol yn Sut mae cyfrifon banc yn gweithio.

Cyfrifo cyllideb ar-lein

Fe allwch chi ddefnyddio cyfrifydd cyllideb ar-lein i’ch helpu i weithio allan faint o arian y gallwch ei gynilo.

Fe ddowch o hyd i gyfrifydd cyllideb ar-lein ar ein tudalen cyllidebu.

Mae hefyd gyfrifyddion cyllideb ar-lein ar wefan MoneySavingExpert yn www.moneysavingexpert.com a gwefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Edrychwch ar eich cynlluniau ymddeol

Cyn i chi ailgyfeirio arian i gyfrif cynilo neu i fuddsoddiadau, fe ddylech chi ystyried gweithio allan faint fydd ei angen arnoch i fyw pan fyddwch chi’n ymddeol a phenderfynu os allwch chi fforddio i roi peth arian mewn pensiwn.

Mae cynilo trwy gynllun pensiwn yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o gynilo oherwydd mae eich holl gyfraniadau yn ddi-dreth. Mae hefyd yn bwysig i ddechrau cynilo i bensiwn cyn gynted ag y gallwch chi oherwydd bydd gan eich cronfa bensiwn fwy o gyfle ac amser i dyfu ac ennill arian. Os dechreuwch chi’ch pensiwn yn hwyr, fe fydd rhaid i chi dalu cyfraniadau drutach er mwyn cael pensiwn digonol pan fyddwch chi’n ymddeol.

Os oes gennych bensiwn eisoes, gwnewch yn siŵr ei fod ar y trywydd iawn i dalu allan yr incwm yr ydych ei angen a gwiriwch os oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau.

Os nad oes gennych bensiwn, efallai mai nawr fyddai’r amser i chi drefnu un os oes gennych beth arian dros ben. Mae gan wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol gyfrifydd all eich helpu i gyfrifo faint ddylech chi fod yn talu allan i bensiwn. Ewch at wefan  MoneySavingExpert yn www.moneysavingexpert.com a gwefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Mae sawl ffordd o gynilo ar gyfer ymddeol ac mae llawer o bethau y mae angen i chi eu hystyried cyn dewis cynllun pensiwn. Er mwyn gwybod mwy am bensiynau, gweler Pensiynau.

Nôl i’r brig


Ydych chi wedi’ch gwarchod yn ariannol yn erbyn marwolaeth a salwch difrifol?

Pan fyddwch chi’n edrych ar eich sefyllfa ariannol, mae angen i chi feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y byddech chi neu’ch teulu yn ymdopi petai un ohonoch yn marw neu’n mynd yn ddifrïol wael.

Os nad oes gennych lawer o arian dros ben, efallai mai prynu yswiriant fyddai’r ffordd orau i gynllunio ar gyfer hyn yn hytrach na chynilo.

Un o’r ffyrdd rhataf i wneud hyn ydyw prynu yswiriant bywyd cyfnod. Mae yswiriant bywyd cyfnod yn talu allan os byddwch chi farw o fewn cyfnod penodol o amser (y cyfnod) y cytunoch chi arno gyda’ch cwmni yswiriant. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn ddeg, pymtheg neu ugain mlynedd. Os ydych chi’n byw yn hirach na’r cyfnod, chewch chi ddim byd. Os ydych chi’n byw fel cwpl gyda morgais yna fe ddylai’r ddau bartner ystyried prynu’r yswiriant hwn.

Efallai mai ychydig o bunnoedd y mis yn unig y bydd yn rhaid i chi ei dalu fel premiymau ond fe allai roi taliad allan eithaf sylweddol i chi. Gallai’r arian hwn dalu’r morgais neu ddarparu incwm arall. Sut bynnag os ydych chi’n byw i ddiwedd y tymor nid oes taliad allan fel arfer.

Os oes gennych bensiwn y gweithle, pensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol, fe ddylech chi wirio hwn yn gyntaf cyn ystyried yswiriant bywyd cyfnod i weld pa fuddion y mae’n ei dalu allan.

Mae rhai pensiynau yn talu allan cyfandaliad i’ch teulu os byddwch chi farw cyn ymddeol. Mewn rhai achosion, maen nhw hefyd yn talu allan os byddwch chi farw o fewn amser byr i ymddeol.

Am fwy o wybodaeth am yswiriant bywyd cyfnod tymor a mathau eraill o yswiriant bywyd, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phensiynau, gweler Pensiynau.

Mae yna fathau eraill o yswiriant sy’n gallu rhoi incwm i chi os ydych chi’n colli’ch swydd neu sy’n talu allan cyfandaliad os gwneir diagnosis eich bod yn dioddef o afiechydon arbennig.

Er mwyn gwybod mwy am y mathau hyn o yswiriant, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Ddylech chi gynilo neu glirio’ch morgais yn gynnar?

Os oes gennych arian dros ben, efallai yr hoffech chi ystyried ei ddefnyddio i glirio’ch morgais yn gynnar, yn hytrach na’i roi mewn cyfrif cynilo. Mae rhai morgeisi yn caniatáu i chi wneud hyn trwy dalu ychydig yn ychwanegol bob mis.

Gallai clirio’ch morgais yn gynnar arbed miloedd o bunnoedd mewn taliadau llog ac efallai y bydd hyn yn fwy cost effeithiol na chynilo arian.

Sut bynnag, mae yna rai pethau y dylech eu hystyried.

Clirio dyledion eraill yn gyntaf

Os oes gennych ddyledion eraill megis cardiau credyd neu fenthyciadau personol, mae’n syniad da i glirio’r dyledion hyn yn gyntaf cyn defnyddio unrhyw arian dros ben i dalu’r morgais. Mae morgeisi yn ffordd rad o fenthyca arian o’i gymharu â chardiau credyd a benthyciadau personol ac felly fe ddylech chi ystyried clirio’r rhain yn gyntaf cyn naill ai glirio’ch morgais neu gynilo arian. Gweler ein hadran, Talu eich dyledion yn gyntaf er mwyn gwybod mwy am hyn.

Gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o arian i warchod rhag argyfyngau

Efallai y bydd angen arian arnoch i warchod rhag argyfwng annisgwyl megis salwch, damwain neu golli’ch swydd. Os ydych chi’n gyfarwydd ag incwm rhesymol, efallai y gwelwch chi nad yw budd-daliadau gwladol yn ddigon i warchod eich holl dreuliau. Efallai y bydd angen i chi gael eich arian ar fyrder ac os yw’ch arian i gyd wedi’i glymu wrth eich cartref, efallai na fydd hyn yn bosibl.

Mae’n syniad da i gael peth arian o’r naill du lle gallwch gael gafael arno yn hawdd. Gallai hyn fod yn gyfrif mynediad hawdd, undeb credyd neu ISA arian gyda’r gyfradd llog orau y gallwch ei darganfod. Fe ddylai fod digon o arian yn y cyfrif hwn i warchod tri i chwe mis o dreuliau byw.

Os na allwch chi fforddio cynilo ar gyfer argyfyngau yn ogystal â thalu’ch morgais yn gynnar, efallai y dylech ail feddwl ynglŷn â chlirio’ch morgais.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhoi arian o’r naill du i warchod rhag argyfyngau, gweler Pam y dylwn i gynilo?

Fydd rhaid i chi dalu cosb am ad-dalu’n gynnar?

Gwiriwch eich cytundeb morgais i weld os oes rhaid i chi dalu cosb am ad-dalu’n gynnar.

Fe allwch ddod o hyd i gyfrifydd defnyddiol ar wefan MoneySavingExpert sy’n eich helpu i weithio allan os ydyw’n werth i chi glirio’ch morgais. Ewch i: www.moneysavingexpert.com.

Nôl i’r brig


Faint ddylech chi gynilo bob mis?

Mae’r swm yr ydych yn ei gynilo yn dibynnu ar faint sydd gennych dros ben ar ôl i weithio allan eich cyllideb.

Fe allwch ddefnyddio cyfrifydd ar-lein i’ch helpu i weithio allan faint ddylech chi ei gynilo bob mis os ydych chi’n cynilo ar gyfer rhywbeth penodol. Ewch i wefan moneysavingexpert yn: www.moneysavingexpert.com.

Os ydych chi’n gwybod faint o arian sydd ei angen arnoch ar gyfer nod cynilo, fe allwch ddefnyddio cyfrifydd cynilo ar-lein i weithio allan pa mor hir y cymer i chi gynilo ar y gyfradd llog a delir ar eich cynilion. I ddod o hyd i gyfrifydd, ewch i www.guardian.co.uk.

Nôl i’r brig


Beth os na allwch chi fforddio i gynilo dim?

Os ydych chi wedi gweithio allan eich cyllideb, a gweld fod gennych fwy o arian yn mynd allan nag sy’n dod i mewn neu’n gweld nad oes gennych ddim dros ben, efallai na fyddwch chi’n gallu fforddio i gynilo dim. Ond y mae yna sawl peth y gallwch chi eu gwneud.

Edrychwch eto ar eich cyllideb

Fe ddylech chi edrych eto ar eich gwario i weld os allwch chi dorri nôl mewn unrhyw ffordd. Gallai hyn olygu fod arian ar gael i’w gynilo. Efallai fod yna ffyrdd i chi gynyddu’ch incwm yn ogystal.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn, gweler Sut i wario llai a Sut i gynyddu’ch incwm.

Os ydych chi’n cael trafferth i dalu’ch biliau, yn enwedig y rhai pwysicaf megis morgais, rhent, treth gyngor neu nwy a thrydan, fe ddylech chi gael help ar unwaith oddi wrth ymgynghorydd dyledion profiadol. Fe allech chi fod mewn perygl o gael eich cymryd i’r llys neu golli’ch cartref.

Gall ymgynghorydd dyledion hefyd eich helpu i edrych ar ffyrdd o dorri i lawr ar eich gwario neu gynyddu’ch incwm. Fe allan nhw wneud yn siŵr nad ydych yn colli allan ar gredydau treth neu fudd-daliadau gwladol y mae gennych hawl iddynt.

Fe allwch chi gael cyngor ynglŷn â dyledion oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os oes gennych swm bychan dros ben

Os allwch chi sbario ychydig bunnoedd yma ac acw, fe allech chi ystyried eu rhoi mewn cyfrif cynilo mynediad sydyn er mwyn i chi ennill rhywfaint o log. Dewiswch gyfrif sy’n caniatáu i chi gynilo cyn lleied ag y dymunwch a lle nad oes rhaid i dalu i mewn yn rheolaidd.

Am fwy o wybodaeth am gyfrifon cynilo mynediad sydyn, gweler Cyfrifon cynilo Banciau a Chymdeithasau Adeiladu.

Gall undebau credyd fod yn ffordd dda o gynilo os allwch chi fforddio rhoi ychydig arian o’r naill du yn unig. Maen nhw hefyd yn cynnig benthyciadau ar brisiau cystadleuol iawn ond fel arfer mae’n rhaid i chi fod yn gynilwr rheolaidd. Am fwy o wybodaeth, gweler Undebau Credyd.

Gwnewch yn siŵr fod argyfyngau wedi’u gwarchod

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau ac mae angen arian arnoch mewn argyfwng, efallai y byddwch yn gallu cael grant trwy'r Gronfa Gymdeithasol ar gyfer treuliau un-tro megis treuliau angladd, cael babi neu brynu celfi neu gartref newydd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn, gweler Cymorth i bobol ar incwm isel- y Gronfa Gymdeithasol.

Os nad oes digon gennych i’w gynilo, edrychwch os allwch chi gael digon o arian i brynu yswiriant fyddai’n eich gwarchod chi os byddwch chi neu’ch partner yn marw neu’n mynd yn ddifrifol wael. Gweler Pam ddylwn i gynilo? i wybod mwy am hyn. Fe ddylech chi hefyd wirio unrhyw bolisïau yswiriant sydd gennych eisoes i weld os ydynt yn cynnig sicrwydd ychwanegol. Er enghraifft, gallai polisïau cynnwys y cartref gynnig buddion ychwanegol megis gwarchod cyfreithiol neu ddifrod damweiniol.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback