Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Canllawiau ar gyfer defnyddio templedi llythyrau

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ynglŷn â thempledi llythyrau

Er mwyn datrys eich problemau dyledion bydd angen i chi gysylltu â’ch credydwyr i ddweud wrthynt am eich sefyllfa ac i ofyn iddynt am dderbyn eich cynllun ad-dalu.

Er mwyn eich helpu gyda hyn, rydyn ni wedi creu set o dempledi llythyrau y gallwch eu defnyddio i ysgrifennu at eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Mae arian sy’n ddyledus i gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys pethau fel dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau heb eu gwarantu.

Mae’r templedi llythyrau yn eich helpu i ysgrifennu at gredydwyr mewn sefyllfaoedd gwahanol. Allwch chi ddim newid prif gynnwys y llythyrau ond fe allwch chi ychwanegu eich manylion personol megis eich enw, cyfeiriad a’r rhesymau pam na allwch chi dalu’r arian.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth a chysylltu â chredydwyr, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler, Cymorth gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Cymorth gyda dyled.

Nôl i’r brig


Problemau gyda defnyddio’r llythyrau

Os na allwch chi weld y dudalen templedi llythyrau, efallai mai’r rheswm am hyn yw bod yr atalydd naidlenni wedi’i actifadu ar eich cyfrifiadur. Fe allwch chi dros dro ddiffodd yr atalydd naidlenni er mwyn caniatau i chi weld y llythyrau. Mae’r ffordd o wneud hyn yn dibynnu ar ba borwr rhyngrwyd yr ydych yn ei ddefnyddio.

Internet explorer

Er mwyn diffodd eich atalydd naidlenni yn Internet Explorer, ewch i Offer (Tools), Atalydd Naidlenni (Pop-up Blocker), ac yna diffoddwch Atalydd Naidlenni (Pop-up Blocker).

Firefox

Er mwyn diffodd eich atalydd naidlenni yn Firefox, cliciwch ar Fwydlen Offer (Tools menu) a dewiswch Dewisiadau (Options). Dewiswch y panel Cynnwys (Content panel) a dad-ddewis opsiwn ffenestri Atalydd Naidlenni (Block pop-up).

Opera

Er mwyn diffodd eich atalydd naidlenni yn Opera, ewch i Offer (Tools), Dewisiadau (Preferences), Cyffredinol (General) ac yna Naidlenni (Pop-ups).

Nôl i’r brig


Pryd i ddefnyddio’r llythyrau

Cyn defnyddio’r llythyrau bydd angen i chi weithio allan eich cyllid er mwyn gweld os oes gennych arian ar gael i‘w gynnig i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Os oes gennych ddyledion sy’n flaenoriaeth, bydd angen i chi hefyd siarad â’ch credydwyr sy’n flaenoriaeth a gwneud trefniadau i dalu unrhyw ôl-ddyledion, cyn i chi ddatrys eich dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth. Mae dyledion sy’n flaenoriaeth yn cynnwys pethau megis rhent, morgais, treth gyngor, biliau tanwydd neu ddirwyon.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dyledion sy’n flaenoriaeth, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler, Delio gyda dyledion brys. Yn yr Alban, gweler Delio gyda dyledion sy’n flaenoriaeth.

Nôl i’r brig


Pa lythyr i’w ddefnyddio

Bydd angen llythyr gwahanol arnoch yn dibynnu ar beth yr ydych am ofyn i’r credydwyr amdano. Dyma restr o’r llythyron a phryd i’w defnyddio:

Llythyr ymatal

Fe allwch ddefnyddio’r llythyr hwn i ofyn i gredydwyr am ymatal am gyfnod byr tra byddwch chi’n gweithio allan eich cyllid neu’n cael cyngor.

Llythyr cynnig i gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth

Fe allwch chi ddefnyddio’r llythyr hwn pan fydd rhywfaint o arian ar gael gennych i’w gynnig i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Fe allwch ddefnyddio’r Offer Cyllido i weithio allan eich cyllid a chynigion teg i bob un o’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Llythyr dim arian i’w gynnig i gredydwyr

Fe allwch chi ddefnyddio’r llythyr hwn pan na fydd gennych arian ar gael i’w gynnig i’ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Fe allwch ddefnyddio’r Offer Cyllido i weithio allan eich cyllid ac i weld os oes gennych arian ar gael i dalu eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth.

Llythyr cais i ddileu’r ddyled

Fe allwch chi ddefnyddio’r llythyr hwn pan na fyddwch yn gallu cynnig ad-daliad a’ch amgylchiadau ddim yn mynd i wella.

Llythyr terfynu cytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol

Fe allwch chi ddefnyddio’r llythyr hwn i derfynu cytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os na allwch chi fforddio’r taliadau mwyach. Cyn defnyddio’r llythyr hwn, efallai y bydd o gymorth i chi ddarllen ein gwybodaeth am gytundebau hurbwrcas a gwerthiant amodol.

Nôl i’r brig


Sut mae’r templedi llythyrau’n gweithio

Mae’r templedi llythyrau yn caniatau i chi wneud y pethau canlynol:

Nôl i’r brig


Dewis llythyr

Er mwyn gweld rhestr o’r llythyrau sydd ar gael, cliciwch ar Dewiswch templed llythyr os gwelwch yn dda. Fe allwch ddewis y llythyr sydd ei angen arnoch o’r rhestr gwympo trwy glicio arno. Fe allwch chi wedyn ddewis:

  • gweld sampl o lythyr, neu
  • ysgrifennu llythyr.

Nôl i’r brig


Gweld sampl o lythyr

Cliciwch ar Gweld Sampl (View Sample) er mwyn edrych ar fersiwn sampl o’r llythyr ddewisoch chi, er mwyn i chi wirio beth sydd ynddo. Mae’n syniad da i edrych ar sampl o lythyr cyn mynd ati i greu llythyr, er mwyn sicrhau ei fod yn iawn i’ch anghenion chi.

Pan fyddwch chi’n clicio ar Gweld Sampl, bydd y llythyr yn ymddangos naill ai mewn ffenestr neu dab newydd, yn dibynnu ar ba borwr yr ydych yn ei ddefnyddio. Er mwyn mynd yn ôl at restr y llythyrau, caewch y ffenestr neu’r tab gyda’r llythyr ynddo.

Nôl i’r brig


Sut i ysgrifennu llythyr

I ysgrifennu llythyr â’ch manylion chi ynddo fe fydd angen i chi:

Llewni’r ffurflen llythyr

Mae gan bob ffurflen nifer o flychau i chi eu llenwi â’ch manylion. Er enghraifft, bydd angen i chi lenwi eich enw a’ch cyfeiriad, manylion y credydwr yr ydych yn ysgrifennu ato a’r rhesymau pam yr ydych yn ei chael hi’n anodd talu’r hyn sy’n ddyledus.

Mae pob ffurflen llythyr yn wahanol yn dibynnu ar y llythyr yr ydych yn ei ysgrifennu.

Awgrymiadau ar gyfer llenwi’r ffurflenni llythyr

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer llenwi’r ffurflenni:

  • cyn i chi lenwi’r ffurflenni, gwnewch yn siwr fod gennych fanylion y credydwyr yr ydych yn ysgrifennu atynt. Fe fydd angen eu henwau a’u cyfeiriad arnoch.
  • darllenwch y wybodaeth sydd wrth ochor pob blwch i’ch helpu i lenwi’r ffurflen yn gywir
  • mae gwybodaeth sydd wedi’i nodi gan asterisc (*) yn orfodol. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i chi ysgrifennu rhywbeth yn y blwch. Os ydych chi’n methu gwybodaeth orfodol bydd rhybudd yn ymddangos ar y sgrîn a fyddwch chi ddim yn gallu parhau hyd nes y byddwch chi wedi rhoi i mewn pob gwybodaeth orfodol.
  • ceisiwch ymarfer llenwi’r ffurflen a chreu llythyr cyn gwneud y fersiwn terfynol. Bydd hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd a ble y mae’r wybodaeth yn mynd a beth yw ei edrychiad pan fyddwch chi’n creu llythyr.
  • mewn rhai o’r llythyrau fe allwch chi roi gwybodaeth amdanoch chi’ch hunan a’ch sefyllfa i esbonio pam yr ydych mewn dyled. Ystyriwch yr hyn yr ydych am ei ddweud ac ysgrifennwch eich rhesymau yn glir yn y blwch a ddarperir. Bydd beth bynnag fyddwch chi’n ei roi yn cael ei fewnosod i’r llythyr yn union fel yr ysgrifennwch chi ef.
  • gwiriwch y llythyr yn ofalus cyn ei argraffu. Fe allwch chi fynd yn ôl at y ffurflen a newid yr hyn ysgrifennoch chi.

Creu llythyr

Er mwyn gweld eich llythyr, cliciwch ar Creu Llythyr (Create letter). Bydd eich llythyr yn ymddangos mewn ffenestr neu dab newydd, yn dibynnu ar ba borwr yr ydych yn ei ddefnyddio. I fynd yn ôl at y ffurflen ar unrhyw adeg, caewch y ffenestr neu’r tab a’r llythyr ynddo.

Llythyron ar y cyd

Efallai y byddwch am ysgrifennu llythyr ar y cyd oddi wrth mwy nag un person, er enghraifft os oes gennych ddyled sydd yn eich enw chi a’ch partner. Mae’r templedi llythyrau yn caniatau i chi wneud hyn. Ar ddechrau’r ffurflen dewiswch ‘ydy’ i’r cwestiwn ‘Ydy hon yn ddyled ar y cyd. Bydd hyn yn creu llythyr ar y cyd.

Fe allwch chi roi mwy nag un enw yn y blwch Eich enw a bydd y ddau’n ymddangos ar y llythyr.

Nôl i’r brig


Cadw’ch llythyr

Fe allwch gadw fersiwn pdf o’ch llythyr ar eich cyfrifiadur neu ffon gof yn y ffordd arferol. Fe fydd angen ‘adobe reader’ arnoch i wneud hyn.

Nôl i’r brig


Argraffu’ch llythyr

Fe fyddwch yn gallu argraffu’ch llythyr o’ch cyfrifiadur yn y ffordd arferol.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback