Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Llythyrau Sampl i gredydwyr

cursor pointing to an envelope

Os oes gennych ddyled fe allwch ddefnyddio ein templedi llythyrau sampl i ysgrifennu at eich credydwyr. Fe allwch ddefnyddio'r templedi llythyrau i ddweud wrth eich credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth am eich sefyllfa a gofyn iddynt i dderbyn eich cynllun ad-dalu. Mae’r dyledion hyn yn cynnwys cardiau credyd a benthyciadau personol eraill sydd heb eu gwarantu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau ar gyfer defnyddio’r templedi llythyrau yn gyntaf.

Os oes gennych broblemau yn agor y templedi llythyrau, gweler y Canllawiau ar gyfer defnyddio'r templedi llythyrau er mwyn cael help gyda hyn.

Canllawiau ar gyfer defnyddio templedi llythyrau

Mae’r canllawiau hyn yn dweud wrthych pa bryd mae defnyddio’r llythyrau, pa lythyr i’w ddefnyddio a sut i greu, cadw ac argraffu llythyr.

Ewch at y canllawiau

Llythyrau sampl

Llythyrau sampl (bydd yn agor mewn ffenestr newydd):

- llythyr ateb dros dro sy’n gofyn i’r credydwyr am ddal yn ôl am ychydig rhag eich erlid am daliad

- llythyr sy’n cynnig ad-dalu’ch credydwyr

- llythyr sy’n esbonio pam nad oes gennych arian i’w gynnig i’ch credydwyr

- cais i ddiddymu’ch dyledion

- llythyr i ddod â chytundeb hur bwrcasu i ben.

Ewch i lythyrau sampl

Nationwide logo