The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol I Loegr a Chymru
Ynglŷn â mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent
Os oes gennych ôl ddyledion rhent, mwy na thebyg fe fydd eich landlord yn ceisio’ch troi allan. Gelwir hyn yn gais i feddiannu. Er mwyn gwneud hyn, yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen iddynt ddilyn gweithdrefn sy’n cynnwys cael gorchymyn llys. Allan nhw ddim eich gorfodi i adael eich cartref heb fynd i’r llys yn gyntaf. Os ydyn nhw’n eich gorfodi i adael heb fynd â chi i’r llys yn gyntaf, mae hyn yn erbyn y gyfraith.
Mewn rhai achosion, hyd yn oed os ydyn nhw’n mynd â chi i’r llys i’ch troi allan, fe allan nhw gytuno i adael i chi aros yn yr eiddo cyhyd â’ch bod chi’n addo ad-dalu’r arian sy’n ddyledus ac nad ydych yn syrthio nôl gyda’ch taliadau rhent eto.
Dyma’r weithdrefn y mae’n rhaid i’ch landlord ei dilyn os ydyn nhw am eich troi allan am ôl-ddyledion rhent:
- protocol cyn gweithredu. Camau ydyw’r rhain y mae’n rhaid i rai landlordiaid eu cymryd cyn dechrau achos llys. Mae’n berthnasol i landlordiaid tai cymdeithasol yn unig, megis awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, nid landlordiaid preifat.
- anfon rhybudd i chi,a elwir yn rhybudd cais am feddiannu neu rybudd i adael
- anfon papurau llys atoch
- cael gorchymyn llys a elwir yn orchymyn meddiannu
- cael gwarant meddiannu
- cael rhybudd troi allan a anfonir atoch gan y beilïaid.
Os ydych chi’n denant preifat gyda thenantiaeth byrddaliad sicr, gall eich landlord ddefnyddio gweithdrefn wahanol sydd ychydig yn gyflymach na’r un a ddisgrifir ar y dudalen hon.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod pa fath o denantiaeth sydd gennych er mwyn i chi weithio allan yn union pa gamau y mae’n rhaid i’ch landlord eu cymryd cyn eich troi allan.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o denantiaeth sydd gennych, gweler Rhentu gan landlord preifat a Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Fe allwch chi hefyd fynd i’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol er mwyn cael cyngor ynglŷn â’r math o denantiaeth sydd gennych. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Hyd yn oed os ydyw’ch landlord wedi dechrau’r camau i’ch troi allan, nid yw’n rhy hwyr i chi geisio dod i gytundeb i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dod i gytundeb i dalu’ch ôl-ddyledion rhent, gweler Talu eich ôl—ddyledion rhent.
Rheolau arbennig ar gyfer landlordiaid tai cymdeithasol
Mae’n rhaid i landlordiaid tai cymdeithasol ddilyn rheolau arbennig a elwir yn brotocol cyn gweithredu ôl-ddyledion rhent. Mae hyn yn golygu fod yna gamau arbennig y mae’n rhaid iddynt eu dilyn cyn y gallan nhw fynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent. Mae landlordiaid tai cymdeithasol yn cynnwys awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
Ni all landlord tai cymdeithasol ddechrau achos llys oni bai eu bod:
- wedi ceisio dod i gytundeb â chi i dalu’r hyn sy’n ddyledus. Rhaid i hyn fod yn swm y gallwch chi fforddio’i dalu, wedi’i seilio ar faint o arian sy’n dod i mewn i’r cartref a faint sydd ei angen arnoch i wario
- cynnig eich helpu i hawlio Budd-dal Tai
- wedi eich cynghori i gael help oddi wrth Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth cynghori ynglŷn â dyledion.
Os ydych chi’n denant landlord tai cymdeithasol, rhaid iddynt beidio dechrau achos llys i’ch troi allan os ydych chi wedi gwneud cais am Fudd-dal Tai ac yn gallu dangos:
- eich bod wedi rhoi'r holl dystiolaeth angenrheidiol i’r awdurdod lleol er mwyn iddynt brosesu’ch hawliad, a
- bod siawns dda y byddwch yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai, a
- eich bod wedi talu symiau eraill o arian nad sy’n gynwysedig yn y Budd-dal Tai, er enghraifft, taliadau dŵr sy’n gynwysedig yn eich rhent.
Os oes gennych landlord tai cymdeithasol, fe ddylech chi a’ch landlord ystyried ffordd amgen o ddatrys eich problemau rhent, yn hytrach na mynd i’r llys. Gelwir hyn yn ddull amgen o ddatrys anghydfod neu ADR. Am fwy o wybodaeth am ADR, ewch i wefan ADRNOW yn www.adrnow.org.uk.
Os nad yw eich landlord tai cymdeithasol wedi dilyn y protocol cyn gweithredu yn gywir, fe ddylech chi wneud yn siŵr fod y barnwr yn gwybod hyn os cymerir chi i’r llys. Bydd y barnwr yn cymryd hyn i ystyriaeth pan fyddan nhw’n penderfynu pa orchymyn llys i’w gyflwyno.
Rhybudd i adael eich cartref
Mae gan y rhan fwyaf o denantiaid yr hawl i gael rhybudd ysgrifenedig i adael eiddo hyd yn oed os na roddodd eich landlord gytundeb ysgrifenedig i chi fyw yno yn y lle cyntaf.
Gall hyn fod naill ai’n rhybudd i adael neu’n rhybudd i geisio meddiant, yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych. Y prif eithriad i hyn yw os ydych yn breswylydd eithriedig. Fe fyddwch yn breswylydd eithriedig os ydych chi’n rhannu llety byw megis cegin neu ystafell ymolchi gyda’ch landlord. Yn yr achos hwn, gall eich landlord ofyn i chi adael ar lafar yn unig.
Nid yw derbyn rhybudd i adael neu rybudd i geisio meddiant bob amser yn golygu y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref. Mae’n rhaid i’ch landlord o hyd gael gorchymyn llys cyn y gallan nhw eich troi allan ac ni allant wneud cais am orchymyn llys hyd nes y bydd y cyfnod rhybudd wedi dod i ben. Mae hyd y cyfnod rhybudd yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych. Hefyd, gyda rhai mathau o denantiaethau, megis tenantiaeth byrddaliad sicr, gall fod yn haws i’r landlord eich troi allan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau Byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent.
Os nad ydych yn siwr pa fath o denantiaeth sydd gennych, gweler Rhentu gan landlord preifat a Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Fe allwch chi hefyd fynd i’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol am gyngor ynglŷn â’r math o denantiaeth sydd gennych a pha mor hir y mae’n rhaid i gyfnod rhybudd fod. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus
Efallai y gallwch chi ad-dalu’r holl ôl-ddyledion cyn i’r cyfnod rhybudd ddod i ben. Os allwch chi wneud hyn, fe fydd yn atal unrhyw orchymyn llys rhag mynd ymhellach ac ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref.
Sut bynnag, mewn rhai achosion, er enghraifft, os oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr, efallai na fydd ad-dalu’r ôl-ddyledion yn eich rhwystro rhag cael eich troi allan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.
Hyd yn oed os na allwch chi dalu’ch holl ôl-ddyledion cyn i’r cyfnod rhybudd ddod i ben efallai y byddwch yn gallu dod i gytundeb gyda’ch landlord i ad-dalu’r arian dros gyfnod hwy o amser. Byddai hyn yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo a gallai olygu y gallwch osgoi rhag mynd i’r llys. Byddai hyn yn osgoi rhag i chi orfod talu costau’r llys. Sut bynnag, gallai eich landlord o hyd fynd â chi i’r llys hyd yn oed os dewch chi i gytundeb. Yn yr achos hwn, mae’r barnwr yn debygol o ddweud y gallwch chi aros yn eich cartref cyhyd â’ch bod yn cadw at y cytundeb.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dod i gytundeb gyda’ch landlord, gweler Talu eich ôl—ddyledion rhent.
Cysylltwch â’ch landlord ar unwaith gan adael iddynt wybod beth yw’ch sefyllfa. Hyd yn oed os nad oes gennych arian i ad-dalu’ch ôl-ddyledion fe ddylech chi, os allwch chi, barhau i dalu’r rhent.
Os oes rhesymau pam na allwch chi dalu’ch rhent neu ôl-ddyledion, rhowch y rhain yn ysgrifenedig i’ch landlord a chadw copi o’ch llythyr neu e-bost. Er enghraifft, efallai eich bod yn aros am benderfyniad ynglŷn â chais am Fudd-dal Tai.
Os oes gennych landlord tai cymdeithasol, mae yna reolau arbennig y mae’n rhaid iddynt eu dilyn pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, sy’n cynnwys eich helpu i ddatrys eich problemau Budd-dal Tai.
Fe ddylech chi hefyd roi gwybod i’r swyddfa Budd-dal Tai'r awdurdod lleol am eich sefyllfa.
Mae’ch landlord yn gwrthod taliadau rhent
Os bydd eich landlord yn gwrthod derbyn taliadau rhent ar ôl iddyn nhw roi rhybudd gadael neu rybudd i geisio meddiant, fe ddylech chi roi’r arian o’r neilltu. Y rheswm am hyn yw bod gennych ddyletswydd gyfreithiol i dalu’r rhent yn ystod y cyfnod rhybudd. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol hefyd i dalu’ch landlord pan ddaw’r cyfnod rhybudd i ben, hyd nes y cewch chi’ch troi allan mewn gwirionedd. Nid yw’r taliad hwn yn cael ei alw’n rhent mewn gwirionedd ond elw mesne. Os allwch chi gynilo’r arian, rhowch e mewn cyfrif ar wahân. Bydd hyn yn eich helpu os bydd eich achos yn mynd i’r llys. Fe allwch ddefnyddio’r arian i ddangos eich bod yn fodlon ac yn gallu talu'r ôl-ddyledion ac nad ydyw’n rhesymol i’r llys eich troi allan.
Gwiriwch fod y rhybudd yn gywir
Fe ddylech chi wirio fod y rhybudd i adael neu’r rhybudd i geisio meddiant yn cwrdd â’r gofynion cyfreithiol cywir. Os nad ydyw, fe allai hyn atal neu ohirio’ch landlord rhag cymryd camau pellach.
Fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol ynglŷn â hyn. Fe ddylai eich swyddfa Cyngor ar Bopeth fod yn gallu helpu, neu eich cysylltu â rhywun sy’n gallu. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cyn i chi fynd i’r llys
Os nad ydych chi’n talu’r ôl-ddyledion neu ddod i gytundeb gyda’ch landlord o fewn y cyfnod rhybudd, fe fyddan nhw’n gwneud cais am orchymyn llys.
Papurau’r llys
Anfonir papurau i chi gan y llys, sy’n dangos achos y landlord yn eich erbyn. Gelwir y papurau hyn yn ffurflen gais a manylion y cais. Fe gewch bapurau hefyd i chi eu cwblhau a’u dychwelyd i’r llys. Gelwir y rhain yn ffurflen amddiffyn.
Os oes gwrandawiad llys i fod, fe roddir amser a lleoliad y gwrandawiad i chi hefyd.
Sut bynnag, os ydych chi’n denant byrddaliad sicr, efallai na chewch chi’r siawns i fynd i’r llys.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.
Fe ddylech chi wirio’r ffurflen gais a manylion y cais yn ofalus er mwyn sicrhau fod popeth y dywed y landlord amdanoch yn gywir. Er enghraifft, rhaid bod y cyfeiriad lle rydych yn byw a’r arian sydd yn ddyledus gennych fod yn gywir. Os oes unrhyw un o’r manylion yn anghywir, gwnewch yn siŵr fod y llys yn gwybod amdanynt. Fe allwch wneud hyn naill ai ar y ffurflen amddiffyn neu yn y gwrandawiad.
Fe ddylech chi geisio llenwi’r ffurflen amddiffyn a’i dychwelyd i’r llys erbyn y dyddiad cau, sydd fel arfer yn 14 diwrnod. Os na fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen amddiffyn mewn pryd, fe fydd gennych yr hawl o hyd i fynd i’r llys i amddiffyn eich achos. Sut bynnag, mae’n well anfon y ffurflen amddiffyn yn ôl mewn pryd, neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol.
Dyma rai enghreifftiau o bethau y gallech chi sôn amdanynt ar eich ffurflen amddiffyn:
- dydych chi ddim yn credu fod arnoch chi’r arian y mae’r landlord yn sôn amdano. Er enghraifft, efallai eich bod yn credu mai rhywun arall sy’n gyfrifol am yr arian sy’n ddyledus, neu nad yw’ch landlord wedi gweithio allan y swm sy’n ddyledus yn gywir.
- mae Budd-dal Tai yn ddyledus i chi ac fe allai hwn dalu’r holl ddyledion neu beth ohonynt
- y rhesymau pam mae’r ôl-ddyledion wedi cynyddu. Er enghraifft, efallai eich bod wedi colli’ch swydd, neu wedi bod yn rhy sâl i weithio. Gall y llys gymryd y rhesymau hyn i ystyriaeth wrth benderfynu naill ai eich troi allan neu adael i chi aros yn yr eiddo. Os ydyw’ch amgylchiadau wedi newid ac fe allwch chi ddechrau wneud taliadau unwaith eto, gall y llys gymryd hwn i ystyriaeth hefyd.
- fe fyddech yn dioddef caledi eithriadol os byddai’n rhaid i chi adael yr eiddo ar unwaith. Enghraifft o galedi eithriadol yw lle rydych chi’n mynd i fod yn ddigartref a heb gael eich ailgartrefu gan yr awdurdod lleol. Gall y llys ohirio’r troi allan er mwyn rhoi cyfle i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.
- rydych chi’n denant i landlord tai cymdeithasol a dydyn nhw ddim wedi dilyn y gweithdrefnau cywir
- rydych chi am gyflwyno gwrth-hawliad am atgyweiriadau y dylai’ch landlord fod wedi’u cyflawni. Fe ddylech chi gael cyngor cyn gwneud hyn.
Fe allwch chi gael help i wirio beth sydd ym mhapurau’r llys ac i gwblhau’r ffurflen amddiffyn oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wirio os yw’r swm y mae papurau’r llys yn dweud sy’n ddyledus gennych yn gywir, gweler Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent.
Daliwch ati i dalu’ch rhent
Os allwch chi, daliwch ati i dalu’ch rhent fel arfer yn ystod y cyfnod hwn a dechreuwch wneud taliadau tuag at yr ôl-ddyledion. Talwch y swm o arian y gallwch ei fforddio. Os na fydd eich landlord yn derbyn y taliadau hyn, rhowch yr arian o’r neilltu.
Os ydych chi am fwy o amser
Os ydych chi am fwy o amser i baratoi ar gyfer y gwrandawiad llys, fe allwch ofyn am ohiriad. Mae hyn yn golygu y bydd y gwarandawiad llys yn cael ei ohirio er mwyn rhoi mwy o amser i chi. Er mwyn gofyn am ohiriad, cysylltwch â’ch landlord neu eu cyfreithwyr. Os ydyn nhw’n cytuno, fe ddylech chi neu’r landlord ysgrifennu wedyn at y llys yn dweud eich bod ill dau wedi cytuno i ohiriad. Fel arfer bydd y llys yn gohirio’r achos os ydych chi a’r landlord wedi cytuno.
Os nad yw’ch landlord yn cytuno i ohiriad, neu os nad yw hi’n bosibl cysylltu â’ch landlord, trowch i fyny yn y llys ar ddyddiad y gwarandawiad a gofyn am ohiriad yn y gwrandawiad ei hun.
Y gwrandawiad llys
Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r gwrandawiad llys. Y rheswm am hyn yw eich bod yn gallu darganfod beth mae’r barnwr yn ei orchymyn a chael siawns i affeithio’r canlyniad.
Ceisiwch gael help a chyngor cyn mynd i’r llys. Os nad ydych chi wedi cael help cyn diwrnod y gwarandawiad, efallai y bydd desg yn y llys lle gallwch chi gael help neu gyngor cyn y gwrandawiad os bydd ei angen arnoch.
Fe ddylech chi fod yn gallu cael cyngor am ddim oddi wrth Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth cynghori arall. Os oes hawl gennych i gael cymorth cyfreithiol, fe allwch chi gael cyngor oddi wrth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (CLA). Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Er mwyn gweld os allwch chi gael cymorth am ddim oddi wrth CLA, ffoniwch linell gymorth y CLA ar 0845 345 4345.
Os ydych chi’n denant byrddaliad sicr, efallai na chewch chi’r cyfle i fynd i’r llys.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.
Os ydych chi’n anabl
Os ydych chi’n anabl, gwiriwch os oes cyfleusterau addas ar gael yn y llys. Fe allwch ddod o hyd i fanylion mynediad i’r llys ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk. Os oes gennych anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd mynd i’r llys neu i gyfathrebu, fe allwch gysylltu â Llinell Gymorth Anabledd ar 0800 358 3506. Mae gwasanaeth ffon destun ar gyfer y byddar neu bobol â nam ar y clyw ar gael hefyd ar 0191 478 1476.
Casglu tystiolaeth at ei gilydd
Cyn dyddiad y gwarandawiad, fe ddylech chi gasglu ynghyd yr holl dystiolaeth sydd ei angen arnoch i gyflwyno’ch achos. Er enghraifft, efallai y bydd angen prawf o’r amgylchiadau ariannol megis slipiau cyflog a’ch cyfriflenni banc. Os oes arian yn ddyledus i chi, er enghraifft os oes Budd-dal Tai neu fudd-dal arall yn ddyledus i chi, fe ddylech chi geisio cael cadarnhad ysgrifenedig o hyn er mwyn i chi ei ddangos i’r barnwr.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud taliadau tuag at yr ôl-ddyledion, bydd y llys am weld tystiolaeth, er enghraifft, derbynneb. Os ydyw’ch landlord wedi gwrthod derbyn y taliadau hyn, ond rydych chi wedi rhoi’r arian o’r neilltu,
Fe ddylech chi ddod â chopi o’ch datganiad ariannol neu daflen cyllideb gyda chi. Mae hwn yn ddatganiad sy’n dangos faint o arian sy’n dod i mewn i’ch cartref, faint yr ydych yn ei wario a faint sydd gennych ar ôl i dalu’ch ôl-ddyledion. Os anfonoch chi ddatganiad ariannol neu daflen cyllideb yn ôl gyda’ch ffurflen amddiffyn ond bod eich amgylchiadau wedi newid ers hynny, fe ddylech chi wneud un newydd a dod â hon gyda chi.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â llunio datganiad ariannol neu daflen cyllideb, gweler Sut i gyfrifo eich cyllideb.
Pa benderfyniadau all y barnwr eu gwneud
Yn y gwrandawiad llys, bydd y barnwr yn gwrando ar ddwy ochr y stori ac yn edrych ar y dystiolaeth a ddygwyd gerbron y llys. Bydd y gwrandawiad yn breifat ac yn gyffredinol ni fydd yn parhau’n hir iawn.
Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y barnwr yn gwneud penderfyniad a elwir yn orchymyn. Bydd y barnwr yn eich hysbysu chi a’r landlord o’r penderfyniad hwnnw a bydd y llys yn anfon copi o’r gorchymyn llys i’r ddau ohonoch. Fel arfer fe fydd hyn o fewn ychydig ddyddiau i’r gwrandawiad. Sut bynnag, fe ddylech chi nodi penderfyniad y barnwr eich hunan gan fod oedi weithiau cyn i’r llys bostio’r gorchymyn atoch.
Mae yna sawl math o benderfyniadau y gall y barnwr eu gwneud. Gall y barnwr:
- daflu’r achos allan (gwrthod yr achos). Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os nad chi sy’n gyfrifol am yr ôl-ddyledion
- gwneud gorchymyn meddiannu gohiriedig
- gwneud gorchymyn meddiannu ataliedig
- gwneud gorchymyn meddiannu llawn
- gwneud dyfarniad ariannol.
Gorchmynion meddiannu gohiriedig
Os ydy’r barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu gohiriedig, mae'n golygu eich bod yn dal i fyw yn eich cartref cyhyd â’ch bod yn cadw at amodau arbennig. Fel arfer bydd y rhain yn cynnwys talu’r rhent a swm o’r ôl-ddyledion y cytunwyd arno.
Os na fyddwch chi’n cadw at yr amodau hyn, gall y landlord ofyn i’r llys am ganiatâd i’ch troi allan. Serch hynny, bydd yn rhaid iddynt fynd trwy weithdrefn arall yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys gwneud cais i’r llys am ddyddiad meddiannu ac yna, unwaith y byddan nhw wedi cael hwn, gwneud cais am warant meddiannu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sydd angen i’ch landlord ei wneud i’ch troi allan os oes ganddynt orchymyn meddiannu gohiriedig, gweler Troi allan oherwydd ôl-ddyledion.
Fe all fod yn bosibl:
- apelio yn erbyn gorchymyn meddiannu gohiriedig
- gofyn i’r llys am roi’r gorchymyn o’r neilltu
- gofyn i’r llys am ohirio’r cais
Os bydd eich amgylchiadau chi’n newid a chwithau’n methu cadw at amodau’r gorchymyn, efallai y gallwch chi gael y llys i newid (amrywio) yr amodau.
Efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnoch os bydd eich landlord yn mynd â chi i’r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent. Fe ddylai eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol fod yn gallu helpu, neu eich cysylltu â rhywun arall sy’n gallu. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gorchmynion meddiannu ataliedig
Mae gorchymyn meddiannu ataliedig yn debyg iawn i orchymyn meddiannu gohiriedig. Mae’n rhoi'r hawl i chi aros yn eich cartref cyhyd â’ch bod yn cadw at y cytundeb i gadw at y taliadau rhent a thalu’ch ôl-ddyledion.
Os nad ydych yn cadw at y cytundeb, gall eich landlord wneud cais i’r llys am warant meddiannu i’ch troi allan. Sut bynnag, yn wahanol i orchymyn meddiannu gohiriedig, chewch chi ddim gwybod ymlaen llaw os ydynt yn gwneud hyn.
Unwaith y bydd eich landlord wedi derbyn gwarant meddiannu, fe ellir eich gorfodi i adael eich cartref.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan gaiff eich landlord warant meddiannu, gweler Troi allan oherwydd ôl-ddyledion.
Os ydyw’ch landlord wedi gofyn i’r llys am orchymyn meddiannu ataliedig, gall fod yn bosibl:
- gofyn am i’r gorchymyn gael ei ohirio
- gofyn am i’r gorchymyn gael ei roi o’r neilltu
- apelio yn erbyn y gorchymyn
- gofyn am i amodau’r gorchymyn gael eu newid ar ddyddiad diweddarach os bydd eich amgylchiadau’n newid
Gorchmynion meddiannu llawn
Os bydd y llys yn rhoi gorchymyn meddiannu llawn i’ch landlord, bydd hwn yn dweud fod yn rhaid i chi adael yr eiddo erbyn dyddiad arbennig. Mae’n debygol y rhoddir gorchymyn meddiannu llawn i’ch landlord os na allwch chi berswadio’r barnwr eich bod yn gallu cadw at eich taliadau rhent a thalu’r ôl-ddyledion.
Os allwch chi berswadio’r barnwr eich bod yn gallu cadw at eich taliadau rhent a thalu’ch ôl-ddyledion, efallai y gallwch chi gael y gorchymyn llawn wedi’i newid i orchymyn gohiriedig neu orchymyn ataliedig yn lle.
Efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnoch os bydd eich landlord yn mynd â chi i’r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent. Fe ddylai eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol fod yn gallu helpu, neu eich cysylltu â rhywun arall sy’n gallu.Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr, efallai nad ydych wedi cael y cyfle i fynd i’r llys a siarad â’r barnwr.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ôl-ddyledion rhent os ydych chi’n denant byrddaliad sicr, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.
Os nad ydych yn siwr pa fath o denantiaeth sydd gennych, gweler Rhentu gan landlord preifat a Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.
Fe allwch chi gael cyngor hefyd ynglŷn â’ch tenantiaeth oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydyw’ch landlord yn cael gorchymyn meddiannu llawn, nid oes rhaid i chi adael yr eiddo erbyn y dyddiad sydd ar y gorchymyn, bydd angen i’ch landlord gael gwarant meddiannu yn gyntaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan gaiff eich landlord warant meddiannu, gweler Troi allan oherwydd ôl-ddyledion.
Weithiau mae’n bosibl perswadio’ch landlord i beidio gwneud cais am warant meddiannu. Er enghraifft, gallai eich amgylchiadau ariannol newid neu fe all eich Budd-dal tai ddod trwodd a thalu’r holl ôl-ddyledion.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Talu eich ôl—ddyledion rhent.
Dyfarniadau ariannol
Pan fydd landlord yn gofyn i’r llys am roi iddynt orchymyn meddiannu ar eich cartref, fe allan nhw hefyd ofyn am ddyfarniad ariannol. Dyfarniad llys sirol cyffredin (CCJ) ydyw hwn. Mae’n golygu y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian sy’n ddyledus i’r landlord, hyd yn oed os ydych chi wedi gadael yr eiddo.
Os rhoddwyd gorchymyn meddiannu ataliedig neu orchymyn meddiannu gohiriedig i’ch landlord, fel arfer caiff y dyfarniad ariannol ei atal neu ei ohirio hefyd. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i fyw yn yr eiddo cyhyd â’ch bod yn cadw at y taliadau rhent ac yn ad-dalu'r hyn sy’n ddyledus yn ôl y gyfradd a nodir yn y gorchymyn meddiannu.
Os na fyddwch chi’n cadw at amodau’r gorchymyn meddiannu a bod y landlord yn gwneud cais i’ch troi allan, bydd yn rhaid i chi o hyd ad-dalu’r rhent sy’n ddyledus, hyd yn oed os byddwch wedi gadael yr eiddo.
Os rhoddir CCJ i’ch landlord, fe allan nhw gymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn. Gallai hyn olygu, er enghraifft, cael gorchymyn llys arall sy’n caniatáu iddynt gael arian wedi’i ddidynnu o’ch cyflog i dalu’r arian sy’n ddyledus iddynt. Mewn rhai amgylchiadau, fe allan nhw anfon beilïaid i’ch cartref i gymryd eich eiddo.
Os caiff eich landlord CCJ yn eich erbyn, fe fydd yn affeithio’ch cofnod credyd. Fe allech chi gael trafferth cael credyd neu fenthyg arian yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae CCJ yn affeithio’ch cofnod credyd a beth allwch chi wneud ynglŷn â hyn, gweler Sut mae Dyfarniadau Llys Sirol yn affeithio’ch cofnod credyd [
39 KB].
Cymryd eich eiddo oherwydd ôl-ddyledion rhent
Gall landlord weithiau gymryd eich eiddo os oes gennych ôl-ddyledion rhent. Adwaenir y weithdrefn hon fel gofid atafaelu neu atafaeliad. Gwerthir y nwyddau a defnyddir yr arian i dalu eich ôl-ddyledion rhent. Dibynnu ar bwy yw’ch landlord, efallai y bydd yn rhaid iddynt gael gorchymyn llys cyn y gallan nhw gymryd eich nwyddau. Fel arfer, defnyddir beilïaid i gymryd eich nwyddau ond mewn rhai achosion, gall y landlord ei hun gymryd eich nwyddau.
Mae’n anarferol iawn i landlord achosi trallod pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent oherwydd mae’n rhaid iddynt ddilyn rheolau cymhleth iawn. Er enghraifft, mae yna reolau cymhleth ynglŷn â sut y gallan nhw fynd i mewn i’ch eiddo i gymryd y nwyddau, a pha nwyddau y caniateir iddynt eu cymnryd a pha nwyddau y gwrthodir iddynt eu cymryd. Os nad ydynt yn dilyn y rheolau yn gywir, fe allech chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y landlord.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beilïaid, gweler Beilïaid.
Cymorth ychwanegol
- Talu eich ôl—ddyledion rhent
- Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent
- Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent
- Troi allan oherwydd ôl-ddyledion
- Help gyda dyled
- Beilïaid
- Sut mae Dyfarniadau Llys Sirol yn affeithio’ch cofnod credyd [
39 KB] - Rhentu gan landlord preifat
- Rhentu gan landlord tai cymdeithasol









