The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent
Gall bod ar ei hôl hi gyda’ch ôl-ddyledion rhent fod yn bryderus. Fodd bynnag, ni ddylech anwybyddu’r sefyllfa. Os nad ydych yn gweithredu i ddelio â’r ôl-ddyledion yn gyflym, gallech golli eich cartref.
Bydd angen i chi gysylltu â’ch landlord cyn gynted ag y gallwch a cheisio gwneud cytundebau i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych.
Fodd bynnag, cyn y gwnewch hyn, dylech wirio bod y swm sy’n ddyledus gennych yn gywir.
Mae’n bosib nad ydych yn gyfrifol am yr holl ôl-ddyledion os:
- nad chi yw’r tenant neu os mai rhywun arall sy’n byw yn yr un tŷ â chi sydd ag arian yn ddyledus
- nad yw eich landlord wedi cofnodi eich holl daliadau rhent yn gywir
- ydych chi wedi etifeddu’r denantiaeth a bod eich landlord yn ceisio codi tâl arnoch cyn yr etifeddoch y denantiaeth
- nad ydych yn derbyn yr holl Fudd-dal Tai y dylech ei gael.
Gwiriwch yr holl sefyllfaoedd sydd wedi’u rhestru ar y dudalen hon i wybod p’un ai bod un ohonynt yn berthnasol i chi. Os ydyw, mae’n bosib y bydd angen i chi gael help cyn cysylltu â’ch landlord i drefnu sut i ad-dalu’r ôl-ddyledion.
Gallwch gael help gyda’ch ôl-ddyledion rhent gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gysylltu â’ch landlord, ad-dalu’r ôl-ddyledion a’r hyn sy’n digwydd os yw eich landlord yn eich cymryd i’r llys, gweler Cymorth ychwanegol.
Ai chi sy’n gyfrifol am yr ôl-ddyledion?
Dylech wirio mai chi yw’r unig berson sy’n gyfrifol am ad-dalu’r ôl-ddyledion.
Chi yw’r unig berson ar y cytundeb tenantiaeth
Os oes yna gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig sydd â’ch enw chi arno, chi sy’n gyfrifol am y rhent ac unrhyw ôl-ddyledion.
Os mai chi yw’r unig berson sydd wedi’i enwi ar y cytundeb tenantiaeth, cewch eich adnabod fel unig denant. Fel unig denant, dim ond chi sy’n gyfrifol am yr ôl-ddyledion.
Os yw pobl eraill yn byw gyda chi ond nid ydynt wedi’u henwi ar y cytundeb tenantiaeth, nhw yw eich is-denantiaid. Mae hyn yn dal yn golygu mai chi sy’n gyfrifol am dalu’r holl rent a chasglu’r arian oddi wrth eich is-denantiaid. Os nad yw eich is-denantiaid yn eich talu’n llawn, gallwch ofyn iddynt adael. Os ydych mewn sefyllfa fel hyn, mynnwch gyngor.
Mae yna fwy nag un tenant yn byw yn yr eiddo
Os ydych yn byw gyda phobl eraill, dylech wybod pa fath o denantiaeth sydd gennych i gyd.
Os ydych chi wedi talu eich holl daliadau rhent a bod rhywun arall ar ei hôl hi, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu ar ei ran. Mae hyn yn dibynnu ar b’un ai ydych ar un cytundeb tenantiaeth neu ar gytundebau ar wahân gyda’ch landlord.
Os ydych i gyd ar yr un cytundeb tenantiaeth neu drwyddedu, cewch eich adnabod fel tenantiaid ar y cyd. Bydd pob un ohonoch yn gyfrifol am eich ôl-ddyledion i gyd. Gelwir hyn yn atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol. Mae’n golygu os nad yw un o’r bobl eraill sydd ar y cytundeb tenantiaeth yn talu eu rhan hwn o’r rhent neu’n gadael gydag arian yn ddyledus, bydd disgwyl i chi ei ad-dalu.
Mae’n bosib y gallwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y person arall er mwyn cael eich arian yn ôl. Os ydych mewn sefyllfa debyg, mynnwch gyngor.
Os oes gennych i gyd gytundebau tenantiaeth ar wahân, ni all y landlord eich gorfodi i dalu ôl-ddyledion sy’n ddyledus gan un o’r bobl eraill. Os yw eich landlord am i chi dalu’r rhent sy’n ddyledus gan rywun arall sydd ar gytundeb ar wahân, mynnwch gyngor.
Nid oes cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig
Mae’n bosib na fyddwch yn gallu gwirio pa enw sydd ar y cytundeb tenantiaeth oherwydd nid oes yna gytundeb ysgrifenedig. Fodd bynnag, os cytunoch i dalu rhent i’ch landlord, ystyrir hyn fel cytundeb tenantiaeth a bydd angen i chi ad-dalu unrhyw rent sy’n ddyledus gennych. Gallai profi faint yr ydych wedi cytuno i dalu eich landlord a faint sy’n ddyledus gennych fod yn anoddach. Gallai hefyd fod yn anodd ceisio profi mai rhywun arall sy’n byw yn yr un eiddo â chi sydd ag arian yn ddyledus.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat a bod gennych denantiaeth wythnosol, mae’n rhaid i’ch landlord ddarparu llyfr rhent neu ddogfen debyg. Mae eich landlord yn cyflawni trosedd os nad yw’n gwneud hyn. Fodd bynnag, os ydych yn rhentu gan landlord preifat a bod gennych unrhyw fath arall o denantiaeth megis cyfnod penodol neu fisol, nid oes gennych yr hawl i lyfr rhent.
Yn Lloegr a Chymru, os oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr a grëwyd ar neu ar ôl Chwefror 28 1997, gallwch ofyn i’ch landlord am gopi ysgrifenedig o delerau sylfaenol y cytundeb. Os ydych yn gofyn amdano, mae’n rhaid i’ch landlord ei ddarparu o fewn 28 diwrnod.
Os hoffech fwy o wybodaeth am denantiaethau byrddaliad sicr a mathau eraill o denantiaethau preifat, gweler Rhentu gan landlord preifat.
Os nad oes cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig rhyngoch chi a’ch landlord ac nid ydych yn siŵr faint o rent sy’n ddyledus gennych, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd tai profiadol. Gallai eich Canolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gallu. Os hoffech fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
A wnaethoch etifeddu’r denantiaeth?
Os ydych wedi etifeddu’r denantiaeth, dylech wirio nad ydych yn talu rhent ar gyfer y cyfnod cyn y dyddiad hwn.
Gelwir etifeddu tenantiaeth yn olyniaeth. Enghraifft o olyniaeth yw pan ydych o hyd wedi byw gyda’ch mam mewn fflat cyngor a’i henw hi oedd yr unig berson a enwyd ar y cytundeb tenantiaeth. Pan fu farw’ch mam, gwnaethoch etifeddu’r denantiaeth oddi wrthi. Mewn sefyllfa fel hyn, dim ond yr ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus ar ôl i chi etifeddu’r denantiaeth yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Nid ydych yn gyfrifol am rent a oedd yn ddyledus gan eich mam pan oedd yn denant.
A yw’r swm sy’n ddyledus gennych yn gywir?
Gwiriwch fod y swm a ddywed eich landlord sy’n ddyledus gennych yn gywir. Edrychwch ar eich cyfriflenni banc, derbynebau, llyfr rhent neu gerdyn rhent. Gwiriwch fod yr holl daliadau rhent wedi cael eu cofrestru a bod y symiau yn gywir.
Gofynnwch i’ch landlord am gyfriflen o’ch cyfrif rhent os:
- nad ydych wedi cadw cofnod o’ch taliadau rhent, neu
- os nad oes gennych lyfr rhent neu gerdyn rhent, neu
- os yw eich llyfr rhent neu gerdyn rhent yn aneglur.
Gwiriwch beth sydd wedi’i gynnwys yn eich rhent. Gall eich landlord gynnwys pethau fel costau dŵr neu wasanaethau, costau gwres a goleuadau yn y rhent. Os yw’r rhent sy’n ddyledus gennych yn cynnwys y costau hyn, bydd yn rhaid i chi eu talu.
Fodd bynnag, mae yna reolau ynglŷn â faint o dâl gall eich landlord godi arnoch am nwy a thrydan.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y rheolau hyn, gweler Problemau cyffredin gyda rhentu.
Budd-dal Tai
Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai
Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai, dylech geisio gwneud hawliad.
Mae’r budd-dal tai yn fudd-dal sy’n eich helpu i dalu eich rhent os ydych ar incwm isel. Mae’n bosib y gallwch gael Budd-dal Tai os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau megis Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn.
Gallwch hefyd dderbyn Budd-dal Tai os ydych yn gweithio, naill ai yn rhan amser neu’n llawn amser, a’ch bod ar incwm isel.
Gallwch ddarganfod p’un ai ydych yn gallu hawlio Budd-dal Tai a budd-daliadau eraill, gan ddefnyddio’r offeryn Budd-daliadau ar wefan Directgov. Ewch at: www.direct.gov.uk.
Os nad ydych yn derbyn y budd-daliadau y medrwch eu hawlio, mae’n bosib y gellir ôl-ddyddio eich taliadau a allai eich helpu gyda’ch ôl-ddyledion rhent.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu gymdeithas dai, gallai’r awdurdod lleol roi ychydig o Fudd-dal Tai i chi er mwyn eich helpu tra’u bod yn cyfrifo faint yn union y gallwch ei gael. Gelwir hyn yn daliad interim neu weithiau, taliad ar gyfrif.
Os hoffech fwy o wybodaeth am Fudd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dal Tai.
Os hoffech wybod mwy am daliadau interim y Budd-dal Tai, mynnwch gyngor arbenigol. Cewch gyngor gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. Os hoffech fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn cael Budd-dal Tai
Os ydych yn cael Budd-dal Tai, gwiriwch fod y swm a gewch yn gywir. Os nad ydyw, cysylltwch â Swyddfa’r Budd-dal Tai.
Dylech hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Tai os buodd unrhyw oedi cyn i chi dderbyn eich Budd-dal Tai a bod hyn wedi achosi’r ôl-ddyledion rhent.
Os ydych yn denant i landlord tai cymdeithasol megis yr awdurdod lleol neu gymdeithas dai, dylent eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau gyda’ch Budd-dal Tai.
Os hoffech fwy o wybodaeth am hyn, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.
Am fwy o wybodaeth am eich Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dal Tai.
Cymorth ariannol arall
Hyd yn oed os na allwch hawlio Budd-dal Tai, mae yna gymorth ariannol arall y gallwch ei gael ar gyfer eich rhent.
Er enghraifft, mae’n bosib y gallwch gael Credyd Treth Gwaith os ydych yn gweithio neu Gredyd Treth Plant os oes gennych blant. Mae’n bosib y gallwch wneud cais am grant.
Os hoffech fwy o wybodaeth am Gredyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant, gweler budd-daliadau a chredydau treth ar gyfer pobl sy’n gweithio.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y ffyrdd eraill o gynyddu eich incwm, gweler Sut i gynyddu eich incwm.
Cymorth ychwanegol
- Talu eich ôl-ddyledion rhent
- Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent
- Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent
- Troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent
- Help gyda dyled
- Rhentu gan landlord preifat
- Rhentu gan landlord tai cymdeithasol
- Problemau gyda llety sy’n cael ei rannu [
140 KB]









