Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Talu eich ôl-ddyledion rhent

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â thalu eich ôl-ddyledion rhent

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch taliadau rhent, fe ddylech chi weithredu’n gyflym er mwyn delio â’r sefyllfa.

Os nad ydych yn dod o hyd i ffordd i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus, gallai hyn arwain at lawer o broblemau. Fe allech chi golli’ch cartref a chael problemau dod o hyd i rywle arall i fyw.

Efallai na fyddwch chi’n gallu dibynnu ar yr awdurdod lleol i’ch ailgartrefu oherwydd fe allan nhw ystyried eich bod wedi gwneud eich hunan yn fwriadol ddigartref. Efallai y cewch hi’n anodd cael credyd neu fenthyg arian yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â bod yn ddigartref, gweler Dod o hyd i Lety.

Oherwydd yr holl resymau hyn, mae’n bwysig iawn eich bod yn ceisio ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent.

Bydd angen i chi gysylltu â’ch landlord cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn ceisio gwneud trefniadau i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut mae mynd ati i wneud hyn.

Cyn i chi gysylltu â’ch landlord, fe ddylech chi wirio fod y swm y gofynnir i chi ei had-dalu yn gywir. Am fwy ynglŷn â hyn, gweler Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent.

Fe ddylech chi hefyd wirio eich bod yn derbyn yr holl incwm y gallwch chi, yn cynnwys unrhyw help tuag at eich rhent neu fudd-daliadau eraill y mae gennych hawl iddynt.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn, gweler Sut i gynyddu’ch incwm a Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Efallai y bydd angen help arnoch i siarad â’ch landlord. Fe allwch gael help oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf. Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi hefyd ynglân â dyledion eraill sydd gennych yn ogystal ag ôl—ddyledion rhent.

Os ydyw’ch landlord yn mynd â chi i’r llys oherwydd eich ôl-ddyledion rhent, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Nôl i’r brig


Cael help i dalu eich ôl-ddyledion rhent

Os oes pobol yn byw gyda chi, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am eich problemau gyda’r rhent ac yn eich helpu os gallan nhw. Er enghraifft, os oes gennych blant mewn oed yn byw gyda chi, gofynnwch iddynt gyfrannu rhywbeth i’ch helpu i dalu’r ôl-ddyledion. Esboniwch y gallech chi i gyd golli’ch cartref os na allwch chi dalu’r hyn sy’n ddyledus.

Fe ddylech chi hefyd wirio eich bod yn derbyn yr holl incwm y gallwch chi, yn cynnwys unrhyw help tuag at eich rhent neu fudd-daliadau eraill y mae gennych hawl iddynt. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn, gweler Sut i gynyddu’ch incwm a Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Os ydych yn derbyn budd-daliadau

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau arbennig, efallai y gallech chi ofyn am i swm gael ei ddidynnu o’ch taliadau a’i dalu’n uniongyrchol i’ch landlord. Gelwir hyn yn ddidyniad trydydd parti.

Gellir gwneud didyniadau trydydd parti o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n perthyn i incwm (ESA).

Byddai cael didyniad trydydd parti yn golygu y byddai’ch ôl-ddyledion rhent yn cael eu talu’n awtomatig ac na fyddai’n rhaid i chi boeni ynglŷn â gwneud taliadau ychwanegol i’ch landlord eich hunan.

Sut bynnag, symiau bychain ydyw didyniadau trydydd parti gan amlaf. Nid oes rhaid i’ch landlord dderbyn didyniadau trydydd parti a gall ofyn am gyfradd uwch o daliad.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, JSA ac ESA, gweler ein Hadran Budd-daliadau.

Nôl i’r brig


Siarad â’ch landlord

Unwaith y byddwch chi wedi gwirio fod yr hyn y gofynnir i chi ei ad-dalu yn gywir, fe ddylech chi gysylltu â’ch landlord. Esboniwch pam eich bod ar ei hol hi gyda’ch taliadau rhent.

Os allwch chi dalu’ch ôl-ddyledion yn llawn, gwnewch hyn cyn gynted ag sy’n bosibl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb ysgrifenedig oddi wrth eich landlord.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wirio yr hyn y gofynnir i chi ei ad-dalu, gweler Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent.

Cytuno i gynllun ad-daliad

Os na allwch chi dalu’ch ôl-ddyledion yn llawn, fe ddylech chi ofyn am amser i’w had-dalu. Fe allwch chi awgrymu y byddwch chi’n talu’n ychwanegol ar ben eich rhent bob mis neu bob wythnos dros gyfnod arbennig o amser, hyd nes bydd yr ôl-ddyledion wedi’u talu. Gall landlord gytuno i hyn yn hytrach na dod â’ch tenantiaeth i ben oherwydd maen nhw am gael yr arian sy’n ddyledus yn ôl.

Os ydyw’ch landlord yn landlord tai cymdeithasol megis awdurdod lleol neu gymdeithas tai, fe ddylai fod ganddynt bolisi i ddelio ag ôl-ddyledion rhent. Mae yna reolau arbennig y mae'n rhaid iddynt eu dilyn cyn mynd â chi i’r llys. Mae’r rhain yn cynnwys cytuno i gynllun ad-daliad rhesymol y gallwch chi ei fforddio.

Er mwyn gwybod mwy am y rheolau y mae’n rhaid i landlord tai cymdeithasol eu dilyn cyn y gallan nhw fynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Gall landlordiaid preifat fod yn fwy caled gan ddisgwyl taliad ynghynt. Sut bynnag, rhaid iddynt beidio ag aflonyddu arnoch na chymryd unrhyw gamau eraill megis torri eich cyflenwad nwy neu drydan a’ch gorfodi i dalu’n gyflym. Os bydd eich landlord yn eich bygwth mewn unrhyw ffordd, mynnwch help oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol.

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol eich helpu neu eich roi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gallu. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Fe allwch chi geisio dod i ryw drefniant gyda’ch landlord ynglŷn â thalu’ch ôl-ddyledion rhent unrhyw bryd, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi derbyn papurau sy’n dweud fod eich landlord yn mynd â chi i’r llys.

Mae’n bwysig eich bod yn cytuno â chynllun ad-daliad y gallwch ei fforddio a chadw ato. Os na fyddwch chi’n cadw at y cynllun, mwy na thebyg fe fydd eich landlord yn mynd â chi i’r llys a cheisio eich troi chi allan.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cadw at eich taliadau rhent presennol ar bob adeg. Os na allwch chi fforddio'r rhent llawn, bydd eich ôl-ddyledion yn cynyddu. Efallai y byddwch yn gallu cael Budd-dal Tai neu fudd-daliadau eraill i’ch helpu i dalu’r rhent. Neu efallai y byddwch yn gallu cynyddu incwm y cartref mewn ffyrdd eraill neu dorri nôl ar eich gwario.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynyddu incwm eich cartref a thorri nôl ar eich gwario, gweler Sut i gynyddu eich incwm.

Nôl i’r brig


Gweithio allan faint allwch chi fforddio’i ad-dalu

Er mwyn gweithio allan faint y gallwch chi fforddio’i ad-dalu i’ch landlord, bydd angen i chi edrych yn ofalus ar gyllideb y cartref.

Bydd angen i chi wneud rhestr o’r holl arian sy’n dod i mewn a’r holl arian sy’n mynd allan o’ch cartref. Gallwch ddefnyddio'r daflen Cyllideb yn ein hadran Cyllidebu i’ch helpu i wneud hyn.

Dylai’r rhestr gynnwys unrhyw ddyledion eraill sydd gennych. Gwnewch yn siŵr fod y symiau yr ydych yn eu cofnodi yn realistig. Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, fe allwch ei dangos i’ch landlord er mwyn iddyn nhw weld faint y gallwch ei fforddio i’w ad-dalu bob mis

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i weithio allan eich cyllideb cartref, gweler Sut i gyfrifo eich cyllideb.

Os ydych chi’n gweithio allan nad oes digon o arian gennych i ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent, fe ddylech chi gael help oddi wrth ymgynghorydd dyledion arbenigol. Fe allwch chi gael help oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth os na fydd eich landlord yn cytuno â’ch cynllun ad-daliad

Os na fydd eich landlord yn cytuno â’r cynllun ad-daliad yr ydych yn ei gynnig, talwch yr hyn gynigioch chi beth bynnag. Gall hyn wneud gwahaniaeth os bydd y landlord yn mynd â chi i’r llys.

Dylid cofnodi unrhyw gytundeb gyda’ch landlord yn ysgrifenedig a’i lofnodi gan y ddau ohonoch.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd eich landlord yn mynd â chi i’r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Fe allwch chi gael help i ddelio â’ch landlord ac i weithio allan gynllun ad-daliad ar gyfer eich ôl-ddyledion rhent. Dylai eich swyddfa Cyngor ar Bopeth fod yn gallu helpu. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Beth os na fyddwch yn cadw at eich cynllun ad-daliad

Os ydych chi wedi cytuno i gynllun ad-daliad gyda’ch landlord ond heb gadw ato, mwy na thebyg fe fyddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol i’ch troi allan.

Gyda rhai mathau o denantiaeth, megis tenantiaethau byrddaliad sicr cyfnodol, efallai na chewch hyd yn oed y cyfle i fynd i’r llys i ddadlau’ch achos. Gall barnwr roi caniatâd i’ch landlord i’ch troi chi allan o dan weithdrefn gyflym sy’n golygu nad oes angen am wrandawiad llys.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl-ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.

Fe allech chi geisio mynd yn ôl at eich landlord a gofyn iddynt am roi ail gyfle i chi. Esboniwch y rhesymau pam na chadwoch chi at y cytundeb, ac os gallwch chi, dangoswch iddynt na fydd hyn yn digwydd eto. Er enghraifft, efallai eich bod newydd ddarganfod eich bod yn gallu derbyn Budd-dal Tai, neu fod swydd arall gennych ar ôl bod yn ddi-waith neu fod rhywun wedi ad-dalu arian oedd yn ddyledus i chi.

Sut bynnag, efallai y cewch hi’n anodd perswadio eich landlord i wrando arnoch. Os mai hyn ydyw’r achos, fe allwch gael help i ddelio â nhw.

Dylai eich swyddfa Cyngor ar Bopeth fod yn gallu helpu. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os oes gwrandawiad llys, efallai y byddwch yn gallu perswadio’r llys i’ch gadael i aros yn yr eiddo, cyhyd â’ch bod yn cadw at y cynllun ad-daliad yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd eich landlord yn mynd a chi i’r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Os ydych chi’n denant byrddaliad sicr, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.

Nôl i’r brig


A ellir eich troi allan hyd yn oed os ydych yn talu eich ôl-ddyledion?

Mewn rhai achosion, fe ellir eich troi allan hyd yn oed os ydych yn ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych. Gall hyn ddigwydd os oes gennych mathau arbennig o denantiaeth, er enghraifft tenantiaeth byrddaliad sicr.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr, yn cynnwys tenantiaethau cyfnodol, ac ôl—ddyledion rhent, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent, ac rydych yn credu eich bod yn denant byrddaliad sicr, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol. Dylai eich swyddfa Cyngor ar Bopeth allu eich helpu. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r camau cyfreithiol y gall eich landlord eu cymryd i’ch troi allan pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback