Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Troi allan oherwydd ôl ddyledion

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â throi allan oherwydd ôl-ddyledion

Os oes gennych ôl ddyledion rhent, mwy na thebyg fe fydd eich landlord yn ceisio’ch troi chi allan. Gelwir hyn yn gais i feddiannu.

Os ydyn nhw am wneud cais i feddiannu, rhaid i’r mwyafrif o landlordiaid ddilyn gweithdrefnau arbennig. Mae hyn yn cynnwys rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi.

Nid yw cael rhybudd yn golygu y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref bob tro. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i’ch landlord gael gorchymyn llys cyn y bydd yn medru eich troi chi allan ac nid yw’n medru ceisio am orchymyn llys hyd nes i’r cyfnod rhybudd ddod i ben, Gelwir y gorchymyn llys yn orchymyn meddiannu.

Os na fyddwch chi’n gadael erbyn y dyddiad sydd ar y gorchymyn meddiannu, bydd angen gwarant meddiannu arnynt, sy’n caniatáu i feilïaid i ddod a’ch troi chi allan.

Sut bynnag, mae yna rai mathau o denantiaeth lle nad oes angen gorchymyn llys ar y landlord i’ch troi allan. Mae’r rhain yn cynnwys tenantiaid sy’n byw yn yr un llety â’u landlord.

Os ydych chi’n rhannu llety gyda’ch landlord a hwythau’n eich troi allan, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy’n digwydd unwaith mae’ch landlord wedi cael gorchymyn llys i’ch troi allan ac os oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal y troi allan rhag digwydd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd cyn i’ch landlord gael gorchymyn meddiannu, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Os ydych chi’n denant preifat, fe fyddwch chi hefyd am edrych ar Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.

Nôl i’r brig


Eich landlord yn cael gorchymyn meddiannu

Os ydyw’ch landlord am eich troi allan am ôl ddyledion rhent, yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd angen iddynt gael gorchymyn llys a elwir yn orchymyn meddiannu, yn gyntaf.

Unwaith y bydd eich landlord wedi cael gorchymyn meddiannu, fe all hwnnw nodi dyddiad erbyn y bydd yn rhaid i chi adael.

Os ydych chi’n denant preifat gyda thenantiaeth byrddaliad sicr, efallai bydd eich landlord wedi derbyn gorchymyn meddiannu heb yr angen am wrandawiad llys. Dywedir wrthych am adael yr eiddo heb fod yn hwy na 14 diwrnod ar ôl derbyn y gorchymyn, er fe all fod yn bosibl gofyn am i’r dyddiad gael ei ohirio o dan rai amgylchiadau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â throi allan denantiaid byrddaliad sicr, gweler Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.

Mewn achosion eraill, mwy na thebyg bydd yn rhaid cael gwrandawiad llys. Os oes gwrandawiad llys, mae yna dri math posibl o orchymyn meddiannu y gellir eu caniatáu i’ch landlord:

  • gorchymyn meddiannu llawn
  • gorchymyn meddiannu ataliedig
  • gorchymyn meddiannu gohiriedig

Gorchmynion meddiannu llawn

Bydd gorchymyn meddiannu llawn wedi’i ganiatáu os oeddech chi wedi methu perswadio’r barnwr y byddech chi’n cadw i fyny â’r taliadau rhent ac yn ad-dalu’r rhent sy’n ddyledus. Bydd gorchymyn meddiannu llawn yn dweud fod yn rhaid i chi adael yr eiddo erbyn dyddiad arbennig. Os na fyddwch chi’n gadael erbyn y dyddiad hwn, bydd angen i’ch landlord wneud cais am warant meddiannu.

Efallai y bydd hi’n bosibl perswadio’ch landlord i beidio gwneud cais am warant meddiannu. Er enghraifft, gallai’ch amgylchiadau ariannol fod wedi newid neu fod eich hawliad am Fudd-dal Tai wedi dod trwodd fel y gallwch chi ad-dalu’r holl ôl-ddyledion.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent.

O dan rhai amgylchiadau, fe all fod yn bosibl gohirio neu roi’r warant meddiannu o’r neilltu.

Gorchmynion meddiannu ataliedig

Os caniatawyd gorchymyn meddiannu ataliedig i’ch landlord, mae hyn yn golygu fod caniatâd i chi aros yn eich cartref cyhyd â’ch bod yn cadw i fyny â’r taliadau rhent ac yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus. Os nad ydych chi wedi cadw at y cytundeb hwn, gall eich landlord wneud cais i’r llys am roi gwarant meddiannu. Nid oes rhaid i’ch landlord ddweud wrthych eu bod wedi gwneud cais am y warant.

Efallai y bydd hi’n bosibl perswadio’ch landlord i beidio gwneud cais am warant meddiannu. Er enghraifft, gallai’ch amgylchiadau ariannol fod wedi newid neu fod eich hawliad am Fudd-dal Tai wedi dod trwodd fel y gallwch chi ad-dalu’r holl ôl-ddyledion.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent.

O dan rhai amgylchiadau, fe all fod yn bosibl gohirio neu roi’r warant meddiannu o’r neilltu.

Gorchmynion meddiannu gohiriedig

Mae gorchymyn meddiannu gohiriedig yn debyg iawn i orchymyn meddiannu ataliedig. Mae’n golygu y caniateir i chi aros yn eich cartref cyhyd â’ch bod yn cadw i fyny â’r taliadau rhent ac yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus. Os nad ydych wedi cadw at y cytundeb hwn, gall eich landlord ofyn i’r llys am ganiatâd i’ch troi allan. Serch hynny, bydd yn rhaid iddynt fynd trwy weithdrefn arall yn gyntaf.

Mae hyn yn cynnwys gwneud cais i’r llys am ddyddiad meddiannu ac yna, unwaith y byddant wedi cael hwn, gwneud cais am warant meddiannu.

Rhaid i’r llys gytuno i roi dyddiad meddiannu i’ch landlord cyn y gallan nhw roi gwarant. Fe ellir eich gorfodi i adael y cartref dim ond os caiff eich landlord warant.

Cyn y byddan nhw’n gwneud cais am ddyddiad meddiannu, bydd yn rhaid i’ch landlord ysgrifennu atoch chi yn gyntaf, o leiaf 14 diwrnod cyn iddyn nhw wneud y cais. Rhaid iddynt roi manylion eich ôl-ddyledion, rhoi rhybudd i chi eu bod yn mynd i wneud cais i’r llys a dweud wrthych beth yw’ch hawliau. Os nad ydych yn credu fod swm yr ôl ddyledion y cyfeiria’r landlord atynt yn gywir neu os ydynt wedi cael gwybodaeth arall yn anghywir, fe ddylech chi ateb y landlord o fewn saith diwrnod.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gorchmynion meddiannu gohiriedig, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Efallai y bydd hi’n bosibl perswadio’ch landlord i beidio gwneud cais am warant meddiannu. Er enghraifft, gallai’ch amgylchiadau ariannol fod wedi newid neu fod eich hawliad am Fudd-dal Tai wedi dod trwodd fel y gallwch chi ad-dalu’r holl ôl-ddyledion.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent.

Os bydd y llys yn caniatáu gwarant meddiannu i’ch landlord, o dan rai amgylchiadau, fe all fod yn bosibl atal neu’r roi’r warant o’r neilltu.

Nôl i’r brig


Eich landlord yn cael gwarant meddiannu

Os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad sydd ar y gorchymyn meddiannu a’ch landlord yn dal am eich troi allan, rhaid iddynt wneud cais am warant meddiannu. Awdurdod a ganiateir gan y llys ydyw hwn i feilïaid eich troi chi allan.

Bydd y warant yn rhoi dyddiad ac amser ar gyfer y troi allan. Fe gewch chi rybudd o droi allan hefyd oddi wrth y beilïaid gyda dyddiad ac amser y troi allan.

Os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad ar y rhybudd troi allan, daw’r beilïaid i’ch cartref a’ch gorfodi i adael.

Mae yn erbyn y gyfraith i’ch landlord geisio’ch troi allan heb warant meddiannu. Os digwydd hyn, cysylltwch â’r heddlu.

Os na chewch chi rybudd troi allan, fe allwch chi wneud cais i’r llys am i’r warant meddiannu gael ei roi o’r neilltu.

Nôl i’r brig


Ddylech chi symud allan cyn dyddiad y troi allan

Bydd rhaid i chi feddwl yn ofalus os ydych chi’n mynd i symud allan cyn dyddiad y troi allan.

Efallai y byddwch am roi cymaint o amser ag sy’n bosibl i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw. Os mai hyn sy’n wir, efallai y gallwch chi berswadio’r llys i roi mwy o amser i chi yn yr eiddo cyn bod rhaid i chi adael. Cyfeirir at hyn fel gofyn am ohirio'r gorchymyn gwarant meddiannu.

Os ydych chi’n denant byrddaliad sicr, fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â gofyn i’r llys am ohirio eich troi allan o dan Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent.

Os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref ar ôl y troi allan, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu. Os ydych chi’n credu y bydd yn rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu, ddylech chi ddim symud allan hyd nes bydd y cyngor wedi cadarnhau’n ysgrifenedig eu bod yn mynd i’ch ailgartrefu. Gall hyn eu rhwystro rhag eich cael yn fwriadol ddigartref. Sut bynnag, fe ddylech chi ystyried mai dim ond nifer cyfyngedig o amgylchiadau sy’n bod lle mae’n rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu, hyd yn oed os ydych chi’n ddigartref.

Efallai y penderfynwch chi beidio symud cyn y dyddiad troi allan os ydych chi’n credu fod siawns dda gennych o berswadio'r landlord i’ch gadael i aros ymlaen, neu o berswadio’r llys i atal y troi allan.

Efallai y byddwch yn gallu perswadio’ch landlord i’ch gadael i aros ymlaen yn yr eiddo os ydyw’r amgylchiadau ariannol wedi newid neu os yw eich hawliad am Fudd-dal Tai wedi dod trwodd fel y gallwch chi ad-dalu’r holl ôl-ddyledion.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae delio â’ch landlord pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent.

Os na allwch chi berswadio’ch landlord i'ch gadael i aros, efallai y gallwch chi berswadio’r llys i atal y troi allan oherwydd eich bod bellach yn gallu talu’r rhent a’ch ôl-ddyledion, neu oherwydd nad yw’ch landlord wedi dilyn y gweithdrefnau’n gywir.

Sut bynnag, fe ddylech chi gofio po hiraf yr arhoswch chi yn yr eiddo, y mwyaf o arian fydd gennych yn ddyledus.

Os oes unrhyw weithdrefnau cyfreithiol pellach, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau’r llys, yn cynnwys costau’ch landlord. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhent i’ch landlord (a elwir yn elw mesne) i fyny hyd at y diwrnod y byddwch chi’n gadael, er nad yw hyn bob amser yn wir.

Os ydych chi’n ystyried aros yn eich cartref ar ôl i chi dderbyn rhybudd troi allan, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Oes rhywbeth y gallwch ei wneud unwaith y bydd y warant wedi’i rhoi?

Efallai y bydd hi’n bosibl gofyn am i’r warant meddiannu [link to heading Eich landlord yn cael gwarant meddiannu] gael ei hatal neu ei rhoi o’r neilltu. Os ydyw’r llys yn cytuno i hyn, mae’n golygu na allai’r troi allan fynd ymlaen.

Atal y warant

Os ydyw’r llys yn cytuno atal y warant, byddai hyn yn atal y troi allan rhag mynd ymlaen am gyfnod amhenodol o amser.

Os ydych chi am wneud cais am i’r warant gael ei hatal, bydd angen i chi wneud hyn cyn i’r troi allan ddigwydd.

Bydd yn rhaid i chi roi digon o wybodaeth i berswadio’r barnwr y dylid atal y warant. Er enghraifft, os rhoddwyd gorchymyn meddiannu gohiriedig neu orchymyn meddiannu ataliedig i’ch landlord, bydd angen i chi esbonio pam nad ydych wedi gallu cadw at y cytundeb y cytunoch arno a beth fyddwch chi’n ei wneud yn y dyfodol i wneud yn siŵr eich bod yn cadw ato.

Mae o hyd yn werth gwneud cais am atal y warant os allwch chi, hyd yn oed os ydyw ar yr un diwrnod y mae’n rhaid i chi adael.

Os ydych chi am wneud cais am atal y warant meddiannu, fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Rhoi'r warant meddiannu o’r neilltu

Os ydyw’r llys yn cytuno i roi y warant meddiannu o’r neilltu mae hynny’n union fel petai’r warant heb gael ei rhoi o gwbl yn y lle cyntaf. Fe allwch chi wneud cais am i’r warant meddiannu gael ei rhoi o’r neilltu naill ai cyn neu ar ôl i chi gael eich troi allan.

Dim ond ychydig iawn o amgylchiadau sydd ar gael lle bydd y llys yn rhoi gwarant meddiannu o’r neilltu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • lle rhoddwyd y warant meddiannu yn anghywir cyn dyddiad y gorchymyn meddiannu.
  • lle na roddwyd rhybudd troi allan
  • lle mae’r landlord wedi rhoi gwybodaeth anghywir i’r llys yn fwriadol neu heb roi gwybodaeth yr oedden nhw’n gwybod amdano, er enghraifft, ynglŷn â’ch Budd-dal Tai.

Os ydych chi am wneud cais i roi gwarant meddiannu o’r neilltu, fe dylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd ariannol arbenigol. Fe aallwch chi gael cyngor oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback