The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Tenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Loegr a Chymru
Ynglŷn â thenantiaethau byrddaliad sicr ac ôl ddyledion rhent
Os ydych chi’n denant i landlord preifat ac y mae gennych ôl ddyledion rhent, mwy na thebyg y bydd y landlord yn ceisio’ch troi chi allan o’r cartref.
I wneud hyn, mae angen iddynt ddilyn gweithdrefn sy’n cynnwys cael gorchymyn llys. Allan nhw ddim eich gorfodi i adael eich cartref heb gael gorchymyn llys yn gyntaf, er mewn rhai achosion efallai y byddwch chi am adael cyn iddynt wneud hyn.
Os bydd eich landlord yn ceisio’ch gorfodi chi i adael eich cartref heb gael gorchymyn llys yn gyntaf, mae hyn yn erbyn y gyfraith.
Mae’r mwyafrif o denantiaid landlordiaid preifat yn denantiaid byrddaliad sicr.
Os oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr, fe all fod yn rhwydd iawn i’ch landlord eich troi allan. Fel arfer fe allan nhw ddefnyddio gweithdrefn a elwir yn weithdrefn meddiannu cyflym.
Mae hyn yn golygu y gall eich landlord eich troi allan heb reswm, cyhyd â’u bod wedi rhoi deufis o rybudd i chi. Os na fyddwch chi’n gadael yr eiddo erbyn bydd y rhybudd yn dod i ben, bydd rhaid iddyn nhw gael gorchymyn llys, ond yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y llys yn rhoi gorchymyn heb fod angen gwrandawiad hyd yn oed. Dywedir wrthych am adael yr eiddo heb fod yn hwy na 14 diwrnod ar ôl rhoi’r rhybudd.
Os ydyw’ch landlord am eich troi allan gan ddefnyddio'r weithdrefn meddiannu cyflym, mae angen iddyn nhw roi rhybudd cywir i chi. Mae yna amgylchiadau cyfyngedig hefyd lle na chaniateir i’ch landlord i ddefnyddio'r weithdrefn meddiannu cyflym o gwbl.
O dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen i’ch landlord ddefnyddio gweithdrefn hirach i’ch troi chi allan. Bydd angen i’ch landlord roi rheswm i’r llys pam y maen nhw am eich troi allan. Mwy na thebyg fe fydd gwrandawiad llys lle bydd rhaid i’ch landlord brofi ei fod yn rhesymol i’ch troi allan ac fe gewch chi’r cyfle i roi eich achos ger bron y barnwr.
Enghraifft o pryd na chaniateir i’ch landlord ddefnyddio gweithdrefn meddiannu cyflym yw os ydyn nhw am eich troi allan cyn diwedd tenantiaeth byrddaliad sicr cyfnod-sefydlog.
Darllenwch y dudalen hon er mwyn darganfod os ydych chi’n denant byrddaliad sicr, pa weithdrefn y mae’n rhaid i’ch landlord ei defnyddio i’ch troi allan ac a allwch chi wneud rhywbeth i’w rhwystro.
Ydych chi’n denant byrddaliad sicr
Rydych chi’n debygol o fod yn denant byrddaliad sicr os ydych chi’n talu rhent i landlord preifat a:
- os nad ydych yn byw yn yr un llety â’ch landlord
- os ydych chi wedi symud i mewn i’ch llety ar neu ar ôl 28 Chwefror 1997
- os ydych wedi symud i mewn i’ch llety rhwng 15 Ionawr 1989 a 27 Chwefror 1997 ac fe roddodd eich landlord rybudd i chi yn dweud fod gennych denantiaeth byrddaliad sicr cyn i’ch tenantiaeth gychwyn.
Gyda’r rhan fwyaf o denantiaethau byrddaliad sicr, fe fyddwch yn arwyddo ar gyfer nifer penodol o fisoedd i gychwyn. Mae hyn yn aml am gyfnod o chwe mis ond fe allai fod yn hwy. Ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben, os ydych chi a’ch landlord am ymestyn y denantiaeth fe ellir:
- gofyn i chi am arwyddo ar gyfer nifer penodol arall o fisoedd
- ymestyn y denantiaeth ar sail treigl, o un wythnos neu un mis i’r llall, heb arwyddo tenantiaeth newydd.
Os ydych chi wedi arwyddo ar gyfer nifer penodol o fisoedd sydd heb ddod i ben eto, adwaenir hwn fel tenantiaeth byrddaliad sicr cyfnod sefydlog.
Os ydyw’r denantiaeth cyfnod sefydlog wedi dod i ben ond bod y denantiaeth wedi parhau ar sail treigl, adwaenir hwn fel tenantiaeth byrddaliad cyfnodol.
Pryd all eich landlord ddefnyddio'r weithdrefn meddiannu cyflym
Gall eich landlord ddefnyddio'r weithdrefn meddiannu cyflym dim ond os:
- yr ydych yn denant byrddaliad sicr
- yw eich tenantiaeth cyfnod sefydlog wedi dod i ben
- oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr cyfnodol, er nad o fewn chwe mis cyntaf y denantiaeth
- oes gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Os oes gennych yn wreiddiol gytundeb cyfnod sefydlog ysgrifenedig a dreiglodd i fod yn denantiaeth cyfnodol, mae hyn o hyd yn cael ei gyfri’n gytundeb ysgrifenedig
- ydyn nhw wedi rhoi’r rhybudd cywir i adael i chi
- os ydyn nhw wedi rhoi’ch blaendal tenantiaeth mewn cynllun diogelu blaendal cymeradwy ac wedi rhoi gwybodaeth i chi am hyn. Mae hyn yn berthnasol dim ond os ydych chi wedi talu blaendal ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007. Nid yw’n berthnasol os taloch chi flaendal cyn y dyddiad hwnnw
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau blaendal tenantiaid a phryd mae’n rhaid i’ch landlord ddefnyddio un, gweler Blaendaliadau Tenantiaeth.
Ni fydd eich landlord yn gallu defnyddio’r weithdrefn meddiannu cyflym os:
- nad ydych yn denant byrddaliad sicr
- ydynt am eich troi allan cyn diwedd tenantiaeth byrddaliad sicr cyfnod sefydlog
- nad ydynt yn rhoi rhybudd cywir i chi adael eich llety
- ydych chi’n byw mewn tŷ amlbreswyliaeth sydd yn galw am drwydded a’ch landlord heb gael un
- nad ydyn nhw wedi rhoi eich blaendal tenantiaeth mewn cynllun diogelu blaendal tenanatiaeth cymeradwy ac mae gofyn iddyn wneud hyn yn ôl y gyfraith.
Os ydych chi’n credu fod eich landlord yn ceisio defnyddio’r weithdrefn meddiannu cyflym pan na ddylent wneud hynny, fe allech chi atal y troi allan rhag digwydd. Sut bynnag, mwy na thebyg y bydd eich landlord yn gallu cymryd camau eraill i’ch troi allan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thai amlbreswyliaeth a phryd ddylai eich landlord gael trwydded, gweler Llety a rennir yn Rhentu gan landlord preifat.
Beth yw’r weithdrefn meddiannu cyflym
Gewch chi rybudd i adael
I ddefnyddio y weithdrefn gyflym, mae’n rhaid i’ch landlord roi rhybudd ysgrifenedig i chi i adael. Gelwir hwn yn rybudd adran 21. Rhaid i’r rhybudd fod yn ddau fis o hyd o leiaf, a rhaid iddo nodi fod cais am feddiant o dan adran 21 o’r Ddeddf Tai 1988.
Os ydyw’r cyfnod o amser rhwng eich taliadau rhent yn fwy na dau fis, rhaid i’r rhybudd a roddir gan eich landlord fod mor hir â’r cyfnod amser rhwng y taliadau rhent. Er enghraifft, os ydych chi’n talu rhent bob tri mis, rhaid i’r rhybudd fod yn dri mis o amser.
Unwaith mae’r cyfnod o rybudd wedi dod i ben gall eich landlord wneud cais i’r llys am orchymyn i’ch troi chi allan. Gelwir y gorchymyn hwn yn orchymyn meddiannu.
Bydd y llys yn anfon papurau atoch, yn eich hysbysu fod eich landlord wedi gwneud cais am orchymyn meddiannu. Weithiau, hwn fydd y rhybudd cyntaf gewch chi fod eich landlord am eich troi allan. Gall hyn fod yn wir lle rhoddwyd y rhybudd adran 21 i chi ar ddechrau eich tenantiaeth cyfnod sefydlog. Efallai fod eich landlord wedi gwneud hyn oherwydd y byddai’n haws iddynt hwy eich troi allan os ydynt yn dymuno gwneud hynny ar ddiwedd eich tenantiaeth. Mae’n gwbl gyfreithiol ac nid yw’n golygu na allan nhw ddefnyddio'r weithdrefn meddiannu cyflym i’ch troi allan.
Fyddwch chi’n cael cyfle i amddiffyn rhag yr hawliad?
Bydd papurau’r llys yn cynnwys ffurflen i chi i’w chwblhau a’i dychwelyd i’r llys. Gelwir hon yn ffurflen amddiffyn. Fe allwch chi ddefnyddio’r ffurflen i amddiffyn rhag hawliad eich landlord am feddiant os ydych yn dymuno.
Fe allwch chi amddiffyn rhag hawliad a gyflwynwyd yn enw’r weithdrefn gyflym dim ond os nad yw’ch landlord wedi rhoi rhybudd cywir i chi neu os ydyn nhw wedi defnyddio’r weithdrefn pan na ddylent fod wedi gwneud hynny.
Os ydych chi am ddychwelyd eich ffurflen amddiffyn, rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod o’i derbyn. Sut bynnag, nid oes gwerth mewn gwneud hyn oni bai eich bod yn siŵr fod gennych reswm cyfreithiol da dros amddiffyn rhag yr hawliad. Os ydych chi’n dychwelyd y ffurflen amddiffyn, fe allai’r achos fynd i’r llys. Os collwch chi, fe fydd yn rhaid i chi dalu costau’r llys ac fe allech chi gael eich troi allan hyd yn oed wedyn.
Os nad oes rheswm cyfreithiol da gennych dros amddiffyn rhag yr hawliad, fe ddylech ystyried yn ofalus ynglŷn â symud allan erbyn dyddiad diwedd y rhybudd. Sut bynnag, os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref, fe allai fod yn anodd iawn gwneud hyn.
Beth os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref?
Os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu. Os ydych yn credu y bydd yn rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu, ddylech chi ddim symud allan hyd nes bydd y cyngor wedi cadarnhau eu bod yn mynd i’ch ailgartrefu yn ysgrifenedig. Bydd hyn yn eu hatal rhag eich cael yn fwriadol ddigartref.
Nid oes rhaid i’r cyngor ailgartrefu pawb sy’n ddigartref. Os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref ond yn credu na fydd yn rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu, efallai y byddwch am ofyn i’r llys i ohirio eich troi allan ar sail caledi eithriadol. Fe allwch wneud hyn trwy lenwi’r ffurflen amddiffyn.
Efallai y bydd angen i chi gael cyngor tai arbenigol ynglŷn â’r cwestiwn os oes gennych amddiffyniad rhag cais eich landlord am feddiant. Efallai y bydd angen cyngor arnoch hefyd ynglŷn a oes rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu. Fe allwch chi gael cyngor oddi wrth eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
A fydd gwrandawiad llys?
Mae’n annhebygol y bydd gwrandawiad llys. Yr unig siawns o gael gwrandawiad llys yw os fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen amddiffyn.
Os fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen amddiffyn, bydd barnwr yn edrych ar yr hyn sydd gennych yn y ffurflen ac yn ystyried os oes angen gwrandawiad llys ai peidio. Byddan nhw’n penderfynu ar wrandawiad llys dim ond os nad yw’ch landlord wedi dilyn y weithdrefn gywir, neu os ydych chi’n dweud fod y landlord wedi rhoi’r wybodaeth anghywir ar y ffurflen gais. Os oes gwrandawiad, mae’n syniad da i gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol.
Os na fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen amddiffyn, bydd y barnwr yn penderfynu os ydych yn cael eich troi allan ar sail yr hyn mae’r landlord wedi’i ddweud wrth y llys yn unig.
Os bydd y barnwr yn penderfynu fod eich landlord wedi dilyn y weithdrefn gywir, fe fyddan nhw’n caniatáu gorchymyn meddiannu. Fel arfer bydd hwn yn nodi fod yn rhaid i chi adael yr eiddo o fewn 14 diwrnod. Sut bynnag, os nad oes gennych unman arall i fynd iddo ac nid oes rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu, fe allwch ofyn am i’r troi allan gael ei ohirio.
Fydd rhaid i chi ad-dalu’ch ôl ddyledion?
Os bydd eich landlord yn defnyddio’r weithdrefn meddiannu cyflym i’ch troi allan, yr unig beth y mae hyn yn ei olygu yw y bydd rhaid i chi adael yr eiddo, nid yw’n golygu fod yn rhaid i chi ad-dalu eich ôl ddyledion. Sut bynnag, fe allai’ch landlord wneud cais am orchymyn llys ar wahân sy’n eich gorfodi i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus. Gelwir y gorchymyn llys hwn yn Ddyfarniad Ariannol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dyfarniadau ariannol, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.
Beth os nad ydych yn gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn meddiannu
Nid oes rhaid i chi adael erbyn y dyddiad sydd ar y gorchymyn meddiannu, ond efallai y byddai’n fuddiol i chi wneud hynny.
Os nad ydych chi’n gadael yr eiddo erbyn y dyddiad sydd ar y gorchymyn, gall eich landlord wneud cais i’r llys am warant meddiannu ac fe gewch eich troi allan gan feilïaid.
Os nad oes gennych unman arall i fynd iddo, efallai yr hoffech chi ystyried gofyn i’r llys am roi mwy o amser i chi cyn bod yn rhaid i chi adael. Fe ddylech chi wneud hyn ar y ffurflen amddiffyn a anfonir atoch gan y llys cyn caniatáu'r gorchymyn meddiannu.
Mae gan y llys y pŵer i ohirio’r troi allan, ond dim ond am uchafswm o chwe wythnos (42 diwrnod) ar ôl dyddiad y gorchymyn meddiannu. Byddai’n rhaid i chi brofi y byddai gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn meddiannu yn achosi caledi eithriadol i chi. Mae i fyny i’r llys i benderfynu caniatáu amser ychwanegol cyn y bydd yn rhaid i chi adael ai peidio. Gellir penderfynu ar hyn gyda gwrandawiad llys neu hebddo, yn dibynnu ar sut y llanwodd eich landlord y cais gwreiddiol i’r llys (ffurflen gais) i’ch troi chi allan.
Mae eich landlord am eich troi allan cyn diwedd y denantiaeth cyfnod sefydlog
Gyda’r rhan fwyaf o denantiaethau byrddaliad sicr, rydych chi’n arwyddo ar gyfer cyfnod penodol o fisoedd i gychwyn. Yn aml mae hyn am gyfnod o chwe mis ond fe all fod yn hwy.
Mewn llawer o achosion, os bydd gennych ôl ddyledion rhent yn ystod y cyfnod hwn, bydd eich landlord yn aros hyd nes bydd y cyfnod sefydlog yn dod i ben ac yna’n defnyddio'r weithdrefn meddiannu cyflym i’ch troi chi allan. Gall eich landlord wneud hyn cyhyd â’u bod wedi rhoi o leiaf dau fis o rybudd yn ysgrifenedig ac wedi dilyn y weithdrefn yn gywir.
Sut bynnag, os ydyw’ch landlord am eich troi chi allan cyn diwedd y cyfnod sefydlog, allan nhw ddim defnyddio’r weithdrefn meddiannu cyflym. Mae eich landlord yn fwy tebygol o eisiau eich troi allan cyn diwedd y cyfnod sefydlog os oes gennych gyfnod sefydlog sy’n parhau yn fwy na chwe mis.
O dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen i’ch landlord ddefnyddio gweithdrefn hirach i’ch troi allan. Bydd angen iddynt roi rheswm i’r llys pam y maen nhw am eich troi allan. Mwy na thebyg fe fydd gwrandawiad llys lle bydd rhaid i’ch landlord brofi ei fod yn rhesymol i’ch troi allan am ôl ddyledion rhent ac fe gewch chi’r cyfle i roi’ch achos gerbron y barnwr. Mae’n bosibl y caniateir i chi aros yn yr eiddo os allwch chi brofi eich bod yn gallu cadw i fyny â'r taliadau rhent ac ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus.
Os yw’ch landlord yn ceisio’ch troi chi allan am ôl ddyledion rhent cyn diwedd eich tenantiaeth cyfnod sefydlog, fe gewch chi mwy o wybodaeth ynglŷn â beth mae angen i’ch landlord ei wneud a pha orchmynion y gall barnwr eu caniatau yn Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.
Beth allwch chi ei wneud i atal eich landlord rhag eich troi allan?
Siarad â’ch landlord
Os ydyw’ch landlord am eich troi allan oherwydd ôl ddyledion rhent, fe allech chi geisio cysylltu â hwy i weld a allwch chi eu cael i newid eu meddwl.
Fe allai fod yn werth rhoi cynnig ar hyn, yn enwedig os ydych chi mewn sefyllfa i ad-dalu’ch ôl ddyledion a chadw i fyny â’ch taliadau rhent.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â delio â’ch landlord pan fydd gennych ôl ddyledion rhent, gweler Ad-dalu’ch ôl ddyledion rhent.
Os ydych chi’n denant byrddaliad sicr gydag ôl ddyledion rhent, efallai y cewch chi hi’n anodd perswadio’ch landlord i beidio’ch troi chi allan. Fe allwch chi gael help i siarad â’ch landlord oddi wrth Cyngor ar Bopeth, neu asiantaeth cynghori arall. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gwiriwch fod eich landlord wedi defnyddio’r weithdrefn gywir
Os ydyw’ch landlord am eich troi allan, mae’n bwysig i wirio eu bod wedi rhoi’r rhybudd cywir i chi a’u bod wedi defnyddio’r weithdrefn gywir.
Os nad ydynt, efallai y gallwch berswadio’r llys i beidio caniatáu gorchymyn meddiannu iddynt sy’n eich gorfodi i adael yr eiddo.
Os bydd eich landlord yn ceisio defnyddio’r weithdrefn meddiannu cyflym i’ch troi chi allan, efallai na fydd y llys yn caniatáu meddiant os:
- nad ydych wedi derbyn y rhybudd cywir i adael
- nad ydych yn denant byrddaliad sicr
- ydych chi ynghanol tenantiaeth byrddaliad sicr cyfnod sefydlog
- ydych yn byw mewn tŷ amlbreswyliaeth y mae angen trwydded iddo a’ch landlord heb gael un
- nad yw’ch landlord wedi rhoi eich blaendal tenantiaeth mewn cynllun diogelu blaendal cymeradwy ac mae gofyn iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau blaendal tenant a phryd mae’n rhaid i’ch landlord ddefnyddio un, gweler Talu eich ôl-ddyledion rhent
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thai amlbreswyliaeth a phryd mae angen trwydded ar eich landlord, gweler Llety a rennir yn Rhentu gan landlord preifat.
Os ydych chi’n credu fod un o’r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, fe ddylech chi adael i’r llys wybod am hynny. Fe allwch chi wneud hyn trwy gwblhau'r ffurflen amddiffyn a’u hanfon yn ôl at y llys. Os yw’r llys yn cytuno nad yw’ch landlord wedi defnyddio’r weithdrefn gywir, fe allan nhw ddiddymu’r achos. Fe allai fod galw am wrandawiad llys i ddod i benderfyniad ynglŷn â hyn.
Hyd yn oed os diddymir yr achos, fe allai’ch landlord eich troi allan hyd yn oed wedyn. Sut bynnag, bydd angen iddyn nhw roi rhybudd arall a defnyddio gweithdrefn meddiannu wahanol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddynt roi rheswm i’r llys pam maen nhw am eich troi allan a’u perswadio ei fod yn rhesymol i wneud hynny.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithdrefnau meddiannu eraill y gall landlord eu defnyddio i’ch troi chi allan am ôl ddyledion rhent, gweler Mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.
Os ydych chi’n credu fod y landlord yn defnyddio y weithdrefn anghywir i geisio’ch troi chi allan, neu os nad ydych yn siwr, mynnwch help oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol. Fe allwch chi gael help oddi wrth Cyngor ar Bopeth.Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Herio’r gorchymyn meddiannu
O dan rai amgylchiadau, fe allai fod yn bosibl gofyn am i orchymyn meddiannu gael ei roi o’r naill ochr neu apelio yn ei erbyn.
Fe allwch ofyn am i orchymyn meddiannu gael ei roi o’r naill ochr os caniatawyd ef heb wrandawiad llys. Bydd y llys yn ystyried yr holl ffeithiau ac yn gallu rhoi’r gorchymyn meddiannu o’r naill ochr os ydyw’n rhesymol gwneud hynny.
Fe allwch apelio yn erbyn gorchymyn meddiannu os oedd gwrandawiad llys ond yr ydych yn credu fod yna resymau cyfreithiol pam na ddylid fod wedi gwneud y gorchymyn.
Fe allwch ofyn am gael newid gorchymyn meddiannu a wnaed o dan weithdrefn gyflym [link to heading Beth yw’r weithdrefn meddiannu cyflym] er mwyn rhoi mwy o amser i chi cyn bod rhaid i chi adael yr eiddo. Bydd yn rhaid i chi adael yr eiddo yn y pendraw. Fe allwch chi ofyn am ohiriad i fyny hyd at chwe wythnos o ddyddiad y gorchymyn meddiannu, eithr dim ond os:
- na ddychweloch chi’r ffurflen amddiffyniad pan anfonodd y llys un i chi ac roedd gennych reswm da dros beidio gwneud hynny, a
- byddai’n achosi caledi eithriadol i chi i adael erbyn y dyddiad gwreiddiol ar y gorchymyn. Enghraifft o galedi eithriadol yw os nad oes gennych unman arall i fynd iddo
Mae yna reolau caeth iawn ynglŷn â gofyn am gael rhoi gorchymyn meddiannu o’r naill ochr, ei newid neu apelio yn ei erbyn. Os ydych chi am wneud un o’r pethau hyn, mae’n well cael help oddi wrth ymgynghorydd tai arbenigol. Fe allwch chi gael help oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich Swyddfa CAB leol, yn cynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth ychwanegol
- Talu eich ôl-ddyledion rhent
- Pethau i’w gwirio pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent
- Mynd â chi i’r llys am ôl ddyledion rhent
- Troi allan oherwydd ôl ddyledion rhent
- Rhentu gan landlord preifat
- Rhentu gan landlord tai cymdeithasol
- Blaendaliadau tenantiaeth [
73 KB] - Help gyda dyled
- Beilïaid









