Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Pensiynau Gweithle

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban.

Ynglŷn â chynlluniau pensiwn gweithle

Pensiwn yw arian y byddwch chi’n ei ddefnyddio i fyw arno ar ôl ymddeol. Mae’r mwyafrif o bobol yn derbyn pensiwn y wladwriaeth oddi wrth y llywodraeth sy’n gwarchod eich anghenion sylfaenol. Ond mae hefyd yn syniad da i geisio arbed rhywfaint o arian ychwanegol mewn cronfa bensiwn, i roi safon weddus o fyw i chi.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr bellach yn cynnig mynediad i bensiwn yn y gweithle a gall ymuno ag ef fod yn un o’r ffyrdd hawsaf i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad.

Mae’n rhaid i gyflogwyr sydd â phump neu fwy o weithwyr gynnig mynediad i ryw fath o gynllun pensiwn er fe allai fod rhai cyfyngiadau arnoch i ymuno. Er enghraifft, efallai nad ydych yn ennill digon neu yr ydych yn rhy ifanc.

Nid oes rhaid i chi ymuno â’r cynllun gweithle ond mae’n syniad da i ddarganfod mwy amdano beth bynnag a gweld pa fuddion y mae’n ei gynnig. Bydd hyn yn caniatáu i chi gymharu beth sydd ar gael gydag opsiynau pensiwn eraill.

Fe ddylech chi gael gwybodaeth am unrhyw gynllun gweithle y mae gennych hawl i ymuno ag ef o fewn dau fis i ddechrau gweithio. Os na,cysylltwch â’ch personél neu adran adnoddau dynol (HR).

Mae yna wahanol fathau o gynlluniau pensiynau gweithle ar gael gyda buddion gwahanol. Mae’n bwysig deall y gwahaniaethau er mwyn i chi weithio allan os yw’r cynllun yn iawn i chi a pha opsiynau eraill sydd ar gael i chi.

Ar y dudalen hon fe allwch ddod o hyd i wybodaeth sylfaenol am:

Nôl i’r brig


Beth yw cynllun pensiwn gweithle

Ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad ydyw cynllun pensiwn gweithle trwy gyfraniadau a ddidynnir yn uniongyrchol o’ch cyflog. Gall eich cyflogwr hefyd wneud cyfraniadau tuag at eich pensiwn trwy’r cynllun ac fe all fod buddion eraill, er enghraifft cefnogaeth i’ch partner os byddwch chi farw.

Mae dau fath o gynlluniau pensiwn gweithle:

Nôl i’r brig


Pensiynau galwedigaethol

Trefnir cynlluniau pensiynau galwedigaethol gan gyflogwyr i ddarparu pensiynau i’w gweithwyr. Mae dau fath gwahanol o bensiynau galwedigaethol:

  • cynlluniau cyflog terfynol
  • cynlluniau prynu arian

Cynlluniau Cyflog terfynol

Gellir galw cynlluniau pensiwn cyflog terfynol hefyd yn gynlluniau buddion diffiniedig. Mewn cynllun cyflog terfynol, mae’ch pensiwn yn gysylltiedig â’ch cyflog tra rydych yn gweithio, ac felly fe fydd yn cynyddu’n awtomatig wrth i’ch cyflog gynyddu. Seilir eich pensiwn ar eich cyflog wrth ymddeol a’r nifer o flynyddoedd y buoch chi’n rhan o’r cynllun. Nid yw eich hawl pensiwn yn dibynnu ar berfformiad y farchnad stoc neu fuddsoddiadau eraill.

Yn y mwyafrif o gynlluniau cyflog terfynol, yr ydych yn talu canran set o’ch cyflog tuag at eich cronfa bensiwn ac mae’r cyflogwr yn talu’r gweddill. Mae hyn yn golygu ei fod fel arfer yn syniad da i ymuno â chynllun cyflog terfynol os yw’ch cyflogwr yn cynnig un. Sut bynnag, mae cynlluniau cyflog terfynol yn dod yn llai cyffredin.

Cynlluniau prynu arian

Gellir galw cynlluniau prynu arian hefyd yn gynlluniau cyfraniadau diffiniedig. Buddsoddir yr arian yr ydych yn ei dalu i mewn i’r cynllun gyda’r bwriad o roi swm uwch o arian i chi pan fyddwch chi’n ymddeol. Seilir eich pensiwn ar y swm o arian a dalwyd i mewn a sut mae’r buddsoddiadau wedi perfformio. Fel arfer fe fyddwch yn talu canran o’ch cyflog i mewn i’r cynllun a gall eich cyflogwr hefyd dalu swm rheolaidd i mewn ond nid yw hyn bob amser yn digwydd.

Os cynigir cynllun prynu arian i chi trwy’r gweithle, gall fod yn syniad da i ymuno os yw’ch cyflogwr yn gwneud cyfraniadau. Sut bynnag, os nad yw’ch cyflogwr yn mynd i wneud unrhyw gyfraniadau i’r pensiwn, efallai yr hoffech gymharu buddion y cynllun gyda chynlluniau pensiwn personol mewn man arall.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phensiynau personol a gynigir y tu allan i’r gweithle, gweler Pensiynau Personol.

Buddion eraill cynlluniau pensiwn galwedigaethol

Yn ogystal â phensiwn pan fyddwch yn ymddeol, mae cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn aml iawn yn cynnig buddion eraill megis:

  • yswiriant bywyd sy’n talu cyfandaliad neu bensiwn i’ch dibynyddion os byddwch chi farw tra’n dal i weithio
  • pensiwn os bydd rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd
  • pensiynau i’ch gwraig, gŵr, partner sifil a dibynyddion eraill pan fyddwch chi farw.

Nôl i’r brig


Pensiynau Personol Grŵp a phensiynau cyfranddeiliaid trwy’ch gweithle

Mae pensiynau personol (neu grŵp) gweithle a phensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio mewn ffordd debyg i’r rhai y gallwch eu trefnu eich hunan.

Mae eich cyflogwr yn dewis y darparwr pensiwn ond bydd gennych gytundeb unigol gyda’r darparwr pensiwn.

Yr ydych yn talu cyfraniadau i’ch pensiwn yn uniongyrchol o’ch cyflog. Buddsoddir yr arian i gynyddu’ch cronfa a ddefnyddir gennych i ddarparu pensiwn ar eich cyfer pan fyddwch chi’n ymddeol.

Y prif wahaniaeth rhwng trefnu pensiwn personol neu gyfranddeiliaid eich hunan ac ymuno ag un trwy’ch gweithle yw faint o reolaeth sydd gennych dros y ffordd y buddsoddir yr arian a delir gennych i’ch cronfa. Gyda chynllun gweithle, efallai mai’r darparwr fydd yn gwneud y dewisiadau buddsoddi ar eich rhan.

Y prif fudd o bensiwn gweithle neu bensiwn cyfranddeiliaid yw y gall eich cyflogwr hefyd gyfrannu tuag at eich cronfa bensiwn. Os nad yw’ch cyflogwr yn cyfrannu, cymharwch beth mae’r pensiwn gweithle yn ei gynnig gyda phensiynau tebyg eraill ar y farchnad er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae pensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio, gweler Pensiynau Personol.

Nôl i’r brig


Dod i wybod mwy am eich cynllun pensiwn gweithle

Mae’n syniad da i gael gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â beth mae’ch cyflogwr yn ei gynnig pan ddechreuwch chi weithio, i’ch helpu i benderfynu os oes gwerth i chi ymuno â’r cynllun pensiwn. Dyma rai pethau i’w darganfod:

  • a ydyw’n bensiwn galwedigaethol neu’n gynllun pensiwn personol
  • faint yw’ch cyfraniadau. Fel arfer bydd hyn yn ganran o’r hyn yr ydych yn ei ennill
  • fydd y cyflogwr hefyd yn gwneud cyfraniadau ac os bydd, faint
  • sut bydd yr arian a delir gennych yn cael ei fuddsoddi
  • sut y byddwch chi’n gwybod beth sydd yn eich cronfa
  • os penderfynwch chi beidio ymuno nawr, fyddwch chi’n gallu ymuno â’r cynllun yn ddiweddarach.

Dylai cyfanswm eich cyfraniadau ymddangos ar eich slip cyflog bob tro y cewch eich talu ac ar eich gwybodaeth treth P60 bob blwyddyn. Os ydych chi’n credu fod eich taliadau’n anghywir, siaradwch â’ch cyflogwr ar unwaith a gofynnwch iddynt ei ddatrys.

Os ydych chi mewn undeb, efallai y byddan nhw’n darparu cyngor a’ch helpu ynglŷn â’ch cynllun pensiwn.

Nôl i’r brig


Pryd ddylech chi ymuno â’r cynllun pensiwn gweithle

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu ymuno â’ch cynllun pensiwn gweithle, mae’n well ymuno cyn gynted ag sy’n bosibl i gael y budd gorau o’ch cyfraniadau. Mae rhai cynlluniau pensiwn yn gwrthod gadael i chi ymuno yn ddiweddarach, unwaith y byddwch chi wedi dweud nad ydych am ymuno, felly gwiriwch y rheolau cyn penderfynu.

Os nad ydych yn siŵr beth yw’r rheolau ar gyfer eich cynllun, gofynnwch i’ch Adnoddau Dynol (HR) neu’r adran personél neu’ch Undeb os ydych chi’n perthyn i un.

Nôl i’r brig


Beth os oes pensiwn gennych eisoes

Nid oes cyfyngiad ar y swm y gallwch ei gynilo yn eich cynlluniau pensiwn. Mae hyn yn golygu y gallwch ymuno â chynllun pensiwn gweithle os oes gennych arian wedi’i gynilo eisoes mewn cronfa bensiwn arall neu os ydych chi’n dal i dalu i mewn i gronfa arall, megis pensiwn personol.

Nid oes cyfyngiad ar faint o ryddhad treth y gallwch ei gael.

Os ydych chi’n mynd i dalu i mewn i fwy nag un gronfa bensiwn, fe ddylech chi weithio allan eich cyllideb i wneud yn siŵr y gallwch fforddio’r taliadau cyn i chi ymuno.

Am fwy ynglŷn â ryddhad treth ar bensiynau, gweler Pensiynau Personol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i weithio allan eich cyllideb, gweler Cyllidebu.

Nôl i’r brig


Beth sy’n digwydd os ydych chi’n newid eich swydd

Mae’r hyn y gwnewch chi ynglŷn â’ch pensiwn pan fyddwch chi’n newid eich swydd yn dibynnu ar y mathau o gynllun yr ydych wedi ymuno â hwy. Efallai y byddwch yn dewis:

  • gadael eich pensiwn ar ôl yng nghynllun eich hen gyflogwr i’w dalu allan pan fyddwch chi’n ymddeol
  • trosglwyddo’ch hawliau i gynllun galwedigaethol newydd
  • trosglwyddo’ch hawliau i bensiwn personol

Gall fod yn anodd iawn i wneud y penderfyniad cywir heb gyngor, hyd yn oed pan fydd gennych yr holl wybodaeth sydd ei angen. Felly os nad ydych chi’n gwbl sicr, fe ddylech chi gael cyngor ariannol proffesiynol annibynnol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol, gweler Cael cyngor ariannol.

Peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i’ch hen ddarparwr pensiwn lle rydych chi os fyddwch chi’n newid cyfeiriad yn ddiweddarach. Mae’n hawdd colli cysylltiad a gall hyn wneud pethau’n anoddach pan fyddwch chi’n ymddeol.

Mae gan wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian saith cwestiwn allweddol i’w hystyried cyn trosglwyddo’ch pensiwn i gynllun newydd. Ewch i: www.moneyadviceservice.org.uk.

Mae hefyd amrywiaeth o daflenni i helpu i ateb eich cwestiynau ynglŷn â phensiynau ac ymddeol. Ewch i: www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig


Tynnu allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Pan fyddwch chi’n ymuno â chynllun pensiwn gweithle efallai y byddwch chi’n dewis tynnu allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P). Gelwir hyn yn contractio allan. Mae’n golygu adeiladu pensiwn trwy gynllun y gweithle yn hytrach nag adeiladu pensiwn ychwanegol y wladwriaeth. Fe gewch chi ad-daliad ar eich yswiriant gwladol ond aiff hwn tuag at adeiladu'r cynllun pensiwn fel cyfanwaith yn hytrach nag i chi’n bersonol.

Os ydych chi wedi’ch contractio allan, fe fydd gennych hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig (yn ogystal â’ch pensiwn gweithle) pan fyddwch yn ymddeol.

Mae’r cwestiwn a fyddai’n well arnoch i gontractio allan yn un cymhleth. Dylech chi gael cyngor oddi wrth ymgynghorydd ariannol annibynnol ynglyn â beth i’w wneud, cyn penderfynu.

Bydd llawer o gynlluniau cyflog terfynol wedi’u contractio allan eisoes ar ran eu holl aelodau sy’n golygu na fydd dewis gennych. Ond, fel arfer, fydd hi ddim yn waeth arnoch wrth ymuno â chynllun cyflog terfynol.

Os yw’ch gweithle yn cynnig pensiwn galwedigaethol prynu arian i chi, [link to heading Pensiynau galwedigaethol] pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid, [link to heading Pensiynau Personol grŵp a chyfranddeiliaid] trwy’ch gweithle, bydd y cwestiwn o gontractio allan ai peidio yn fwy cymhleth.

Mae’n dibynnu ar bethau fel eich oed, pa mor dda y mae’ch cronfa bensiwn yn cynyddu a faint o incwm fyddwch chi’n medru ei gael pan fyddwch chi’n ymddeol. Dylech gael cyngor proffesiynol bob tro cyn penderfynu.

Am fwy o wybodaeth ar gontractio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, rhowch glic ar www.direct.gov.uk.

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau declyn cynllunio defnyddiol ar gyfer contractio allan. Am wybodaeth bellach, rhowch glic ar www.thepensionsadvisoryservice.org.uk.

Newidiadau i'r rheolau ar gontractio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Fe fydd y rheolau ar gontractio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn newid yn Ebrill 2012. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, ni fyddwch yn medru contractio allan trwy bensiwn galwedigaethol pryniant ariannol, pensiwn personol na phensiwn cyfranddeiliaid.

Os ydych wedi eich contractio allan trwy un o’r cynlluniau hyn ar 6 Ebrill 2012, fe fyddwch yn dod yn ôl at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn ychwanegol.

Os ydych yn perthyn i gynllun pensiwn buddion diffinedig, fel cynllun cyflog terfynol, efallai y byddwch yn parhau i fod wedi’ch contractio allan.

Dylai’ch darparwr pensiwn gysylltu â chi cyn i’r newidiadau ddigwydd i ddweud wrthych beth sy’n digwydd i’ch cynllun.

Am fwy o wybodaeth ar y newidiadau i gontractio allan, rhowch glic ar www.direct.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n rhoi cyngor ariannol ac i ddod o hyd i ymgynghorydd, gweler Cael cyngor ariannol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Ail Bensiwn y Wladwriaeth, gweler Pensiwn y Wladwriaeth.

A gawsoch chi eich cynghori ar gam i dynnu allan o SERPS?

Arferid galw Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion neu SERPS. Cynghorwyd nifer fechan iawn o bobl yn anghywir i dynnu allan o SERPS rhwng Ebrill 1988 ac Ebrill 1997.

Os ydych chi’n credu eich bod yn y grwp hwn o bobl, fe allai fod hawl gennych i iawndal. Yn gyntaf, dylech ysgrifennu at ddarparwr eich pensiwn, yn gofyn iddo esbonio pam y cawsoch eich cynghori i gontractio allan o SERPS ac i bwyso a mesur p’un ai mai dyma’r penderfyniad gorau i chi.

Os ydych yn anhapus â’r ymateb, neu’n teimlo i chi gael y cyngor anghywir, fe fyddwch yn medru cwyno gan ddefnyddio’r broses gwyno fewnol. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, fe fyddwch yn medru mynd â’ch cwyn at yr Ombwdsman Ariannol.

Os ydych chi eisiau mwy o help cyn i chi gysylltu â darparwr eich pensiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn www.pensionsadvisoryservice.org.uk.

Os ydych chi wedi cyfrannu at bensiwn dros y blynyddoedd hyn ond heb gadw eich llygaid arno, fe allwch gysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Beth os nad yw’ch cyflogwr yn cynnig pensiwn

Os nad yw’ch cyflogwr yn cynnig unrhyw fath o gynllun pensiwn, fe allwch chi o hyd gynilo ar gyfer pensiwn trwy gynllun pensiwn personol y byddwch chi’ch hunan yn ei drefnu.

Am fwy ynglŷn â threfnu eich pensiwn eich hun, gweler Pensiynau Personol.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wyboda eth ynglŷn â phensiynau personol ac i ddarganfod am fathau eraill o bensiynau, gweler Pensiynau.

Fe allwch chi gael y wybodaeth Adviceguide canlynol hefyd yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a chyfrifydd pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fydd ei angen arnoch. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i helpu ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.

Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)

Sefydliad annibynnol ydyw’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS) sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am ddim ynglŷn â phob math o bensiynau gan gynnwys pensiwn y wladwriaeth, y gweithle, personol a chynlluniau cyfranddeiliaid.

Nid yw TPAS yn darparu cyngor ariannol na buddsoddiad nac yn argymell cynhyrchion.

Llinell Gymorth: 0845 6012923 graddfa leol
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk

Directgov (yn Lloegr, Cymru a’r Alban)

Directgov yw gwefan y llywodraeth. Mae ar y wefan lawer iawn o wybodaeth ynglŷn â phensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau fydd yn digwydd o 2010 i 2012.

Ewch i: www.direct.gov.uk

nidirect (yng Ngogledd Iwerddon)

nidirect yw gwefan swyddogol y llywodraeth i drigolion Gogledd Iwerddon. Mae ar y wefan lawer iawn o wybodaeth ynglŷn â phensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau fydd yn digwydd o 2010 i 2012.

Ewch i: www.nidirect.gov.uk

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback