Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ynglŷn â Phensiwn y Wladwriaeth

Pensiwn yw’r arian a ddefnyddiwch i fyw arno pan ydych yn ymddeol. Gall y mwyafrif o bobl gael Pensiwn y Wladwriaeth, sef taliad rheolaidd a gaiff pobl pan gyrhaeddant oed pensiwn y wladwriaeth. Mae’r swm a gewch yn amrywio yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am:

Os hoffech fwy o wybodaeth am y budd-daliadau y gallech eu hawlio, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl dros chwedeg.

Nôl i’r brig


Sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio

Pan ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, fel arfer gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn rhoi incwm sylfaenol i chi yn ystod eich ymddeoliad.

Mae faint o bensiwn y wladwriaeth a gewch yn dibynnu ar faint o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u talu yn ystod eich bywyd gwaith.

Er mwyn cael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, bydd angen i chi dalu gwerth 30 blynedd o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn gweithio, mae’n bosib y gallwch gael credydau tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gael credydau, er enghraifft, os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gofalwyr neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar gyfraniadau).

Gallech hefyd hawlio credydau tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych wedi gofalu am blant neu wedi gofalu am rywun am dipyn o amser.

Gallwch gael rhagolwg sy’n esbonio faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei gael pan ydych yn cyrraedd oed pensiwn ar wefan Directgov. Gallwch hefyd ddarganfod pa wybodaeth sydd ei angen arnoch cyn i chi geisio amdano. Ewch at: www.direct.gov.uk.

Mae gan Directgov lawer o wybodaeth am newidiadau i bensiwn y wladwriaeth o Ebrill 2010. Ewch at: www.direct.gov.uk.

Mae gan nidirect hefyd lawer mwy o wybodaeth am newidiadau i bensiwn y wladwriaeth o Ebrill 2010. Ewch at: www.nidirect.gov.uk.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl dros chwedeg.

Nôl i’r brig


Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P)

Mae Ail Bensiwn y Wladwriaeth, a elwir weithiau yn bensiwn ychwanegol y wladwriaeth, yn ffordd o gynilo arian ychwanegol bob wythnos i hybu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Pan ydych yn gweithio, rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ychwanegol sy’n rhoi mwy o Bensiwn y Wladwriaeth i chi pan fyddwch yn ymddeol.

Ni fyddwch yn cael Ail Bensiwn y Wladwriaeth os ydych wedi tynnu yn ôl ohono. Mae’n bosib eich bod wedi tynnu yn ôl o Ail Bensiwn y Wladwriaeth os oes gennych gynllun pensiwn y gweithle. Gelwir hyn yn contractio allan.

Os hoffech fwy o wybodaeth am dynnu yn ôl o Ail Bensiwn y Wladwriaeth, gweler cynlluniau pensiwn y gweithle.

Pwy all gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth

O Ebrill 2011, gallwch gronni’ch hawl i Ail Bensiwn y Wladwriaeth os ydych yn:

  • gyflogedig ac yn ennill dros £5,304 (mewn un swydd)
  • gofalu am blant o dan 12 oed ac yn hawlio Budd-dal Plant
  • gofalu am berson sâl neu anabl am fwy na 20 awr yr wythnos ac yn derbyn Credyd Gofalwyr
  • ofalwr maeth ac yn derbyn Credyd Gofalwyr
  • derbyn rhai budd-daliadau eraill oherwydd salwch neu anabledd.

Mae yna fwy o wybodaeth am y newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth sy’n digwydd yn Ebrill 2010 ar wefan Directgov. Ewch at: www.direct.gov.uk.

Mae yna fwy o wybodaeth am y newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth sy’n digwydd yn Ebrill 2010 ar wefan nidirect. Ewch at www.nidirect.gov.uk.

Pryd na allwch gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Nid oes hawl gennych i Ail Bensiwn y Wladwriaeth tra’ch bod yn hunangyflogedig, yn ddi-waith neu mewn hyfforddiant llawn amser.

Gallwch gael credydau tuag at Bensiwn sylfaenol y wladwriaeth os nad ydych yn gweithio, ond ni fyddwch yn gallu cael Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Mewn rhai achosion, os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, ni fyddwch yn gallu cael Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Nôl i’r brig


Pryd allwch gael Pensiwn y Wladwriaeth

Roedd oed pensiwn y wladwriaeth yn arfer bod yn 60 i fenywod a 65 i ddynion. Newidiodd hyn ar 6 Ebrill 2010 ac mae oed pensiwn i ddynion a menywod yn cael ei wneud yr un peth yn raddol.

I wirio pryd fyddwch yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell pensiwn y wladwriaeth Directgov. Ewch at: www.pensions.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Beth os hoffech ymddeol yn hwyrach

Nid oes yn rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Gallwch ohirio eich hawliad ac ennill mwy o bensiwn.

Os ydych eisoes wedi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ganslo’r hawliad fel eich bod yn gallu derbyn pensiwn ychwanegol nes ymlaen, ond dim ond unwaith y gallwch wneud hyn.

Mae llog yn cynyddu ar swm gohiriedig eich pensiwn er mwyn rhoi mwy o arian i chi pan ydych yn hawlio nes ymlaen.

Gellir talu’r pensiwn ychwanegol i chi naill ai fel ychwanegiad at eich cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth, neu gallwch gael cyfandaliad ar ben eich pensiwn wythnosol arferol.

Cewch fwy o wybodaeth am ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan Directgov: www.direct.gov.uk.

Cewch fwy o wybodaeth am ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan nidirect: www.nidirect.gov.uk.

Gallwch gael cyngor am hawlio Pensiwn y Wladwriaeth gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


A allwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a pharhau i weithio

Gallwch barhau i weithio, p’un ai’n wirfoddol neu gyda thâl, pan ydych yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth. Gall unrhyw arian a enillwch effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gall unrhyw arian a dderbyniwch effeithio ar eich budd-daliadau eraill megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (cymorth gyda’ch treth yng Ngogledd Iwerddon).

Gallwch hefyd barhau i weithio a hawlio pensiwn gweithle. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ychydig o’r pensiwn yr ydych wedi’i gronni pan ydych yn parhau i weithio i’r un cyflogwr.

Gallwch hefyd barhau i weithio a hawlio eich pensiwn gweithle.

Am fwy o wybodaeth am fudd-daliadau eraill y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl dros chwedeg.

Nôl i’r brig


Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Ar Adviceguide

Os hoffech fwy o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill y gellwch eu cael pan ydych yn ymddeol, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg. Os hoffech fwy o wybodaeth am y mathau eraill y pensiynau a sut i ddechrau pensiwn, gweler Pensiynau.

Gall y wybodaeth ganlynol ar Adviceguide hefyd fod yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer dewis darparwr pensiwn personol, a chyfrifydd pensiwn i gyfrifo faint o bensiwn fydd ei angen arnoch. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd i helpu ateb eich cwestiynau ynglyn â phensiynau ac ymddeol.

Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk

Directgov (yn Lloegr, Cymru a’r Alban)

Directgov yw gwefan y llywodraeth. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd rhwng 2010 a 2012.

Ewch at: www.direct.gov.uk.

nidirect (yng Ngogledd Iwerddon)

nidirect yw gwefan swyddogol y llywodraeth ar gyfer dinasyddion Gogledd Iwerddon. Mae ganddo lawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’r newidiadau i bensiynau a fydd yn digwydd rhwng 2010 a 2012.

Ewch at: www.nidirect.gov.uk.

Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)

Llinell Gymorth: 0845 601 2923
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk

Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys cynlluniau’r wladwriaeth, cynlluniau personol, cynlluniau’r gweithle a chynlluniau cyfranddeiliaid.

Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddiad nac yn argymell cynnyrch.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cynhyrchu taflen ffeithiau ddefnyddiol o’r enw Introduction to your state pension. I lawrlwytho copi, rhowch glic ar to www.dwp.gov.uk.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback